| (1, 0) 332 | Isaac. | 
| (1, 0) 336 | Rydw i'n dod ar eich traws chi mae arna' i ofn. | 
| (1, 0) 339 | Oes, felly rydw i'n gweld. | 
| (1, 0) 341 | Dim ond dod i ddeud bod Dr Hughes yma. | 
| (1, 0) 342 | Ydych chi ddim am ddod i'w weld o Isaac? | 
| (1, 0) 346 | Na ddim yn arbennig. | 
| (1, 0) 347 | I 'ngweld i y daeth o mewn gwirionedd ond na fasai 'fo ddim yn lecio mynd, heb gael gair efo chitha' hefyd. | 
| (1, 0) 351 | Mi ddowch chi drwodd yn y munud ynte'? | 
| (1, 0) 356 | Wel, cofiwch chi rŵan Isaac. | 
| (1, 0) 423 | Isaac, 'fedra' i gadw'r doctor ddim hwy. | 
| (1, 0) 426 | Ydych chi wedi gorffen y llythyr yn barod Miss Parry? | 
| (1, 0) 430 | Rhaid ei fod o'n fyr iawn. | 
| (1, 0) 436 | Mae'n rhaid ei bod hi'n gaffaeliad mawr i chi, Isaac, Miss Parry 'ma. | 
| (1, 0) 439 | Felly mae'n edrych. | 
| (1, 0) 443 | Ie. | 
| (1, 0) 444 | Rhaid bod hynny'n braf iawn. | 
| (1, 0) 448 | Fedrwch chi dd'eud hynny Isaac? | 
| (1, 0) 451 | Mae'n iawn. | 
| (1, 0) 452 | Wel mi ddowch yn ôl a chael swper efo ni ynte' Doctor? | 
| (1, 0) 455 | Diolch i chi. | 
| (1, 0) 800 | Pwy ydych chi'n dd'eud sy' 'na? | 
| (1, 0) 802 | O, chi sy' 'na Miss O'Reilly? | 
| (1, 0) 804 | Mi ddaethoch i'r dre wedi'r cwbwl. | 
| (1, 0) 807 | Yma, efo ni? | 
| (1, 0) 808 | Cewch â chroeso. | 
| (1, 0) 810 | Mi 'na' i fy ngora' i chi. | 
| (1, 0) 811 | 'Dydy o ddim ond fy nyletswydd i. | 
| (1, 0) 812 | Bydd eich cesus chi'n cyrraedd cyn bo hir, debyg? | 
| (1, 0) 814 | Wel, bydd popeth yn iawn mae'n siŵr. | 
| (1, 0) 815 | Esgusodwch fi yn eich gadael chi yma efo'r gŵr am dipyn, tra bydda' i'n paratoi stafell i chi. | 
| (1, 0) 818 | O ie. | 
| (1, 0) 819 | Mae yna ddigon o le yn y fan honno. | 
| (1, 0) 821 | Eisteddwch rŵan a gorffwys dipyn. | 
| (1, 0) 1270 | Dyna ni. | 
| (1, 0) 1271 | Miss O'Reilly, mae'r stafell yn barod i chi rŵan. | 
| (1, 0) 1275 | Ie, yr un ganol. | 
| (1, 0) 1276 | Gadewch i ni fynd am swper gynta'. | 
| (1, 0) 1280 | Helen? | 
| (1, 0) 1283 | Oeddech chi wir, Isaac? | 
| (1, 0) 1284 | Gawn ni fynd? | 
| (1, 0) 1285 | Mae swper yn barod. | 
| (2, 0) 1342 | Synnwn i ddim petai ynta' hefyd yn marw. | 
| (2, 0) 1346 | Ydy siŵr, mae'r hen Feredith yn mynd i farw, Isaac, gewch chi weld. | 
| (2, 0) 1348 | Ie, hwyrach y dylwn i. | 
| (2, 0) 1353 | Breuddwydio am Miss O'Reilly ydych chi'n ei neud yn eistedd yn fan 'na? | 
| (2, 0) 1356 | Mae Miss O'Reilly wedi codi ers meitin. | 
| (2, 0) 1358 | Pan ês i i mewn i'w gweld hi roedd hi'n brysur yn rhoi trefn ar ei phetha'. | 
| (2, 0) 1362 | Ie on'd e? | 
| (2, 0) 1364 | Mae'r gwacter yma'n ofnadwy. | 
| (2, 0) 1365 | Rydych chi'n iawn. | 
| (2, 0) 1369 | O hyn ymlaen? | 
| (2, 0) 1371 | Am ei bod |hi| wedi dod yma ydych chi'n ei feddwl? | 
| (2, 0) 1375 | Ydych chi'n meddwl hynny, Isaac? | 
| (2, 0) 1376 | Fydd hi'n well wedyn? | 
| (2, 0) 1379 | Fydda' i'n meddwl dim o gwbwl am y tŷ newydd. | 
| (2, 0) 1380 | Morris | 
| (2, 0) 1382 | Mae'n wirioneddol ddrwg gen i eich clywed yn d'eud hyn'na achos mi wyddoch mai er eich mwyn chi, yn bennaf, yr ydw i wedi'i 'neud o. | 
| (2, 0) 1385 | Y gwir ydy, rydych chi'n g'neud llawer gormod o betha' er fy mwyn i. | 
| (2, 0) 1389 | O'r gora' 'na' i ddim d'eud hynny ynte' Isaac. | 
| (2, 0) 1392 | Nefoedd annwyl, brafiach arna' i? | 
| (2, 0) 1396 | Hen gartre' 'nhad a mam a losgwyd i'r llawr? | 
| (2, 0) 1401 | Faint bynnag o dai godwch chi, Isaac, fedrwch chi byth 'neud lle fydd yn gartre' iawn i mi. | 
| (2, 0) 1404 | Fyddwn ni byth |yn| sôn amdano fo. | 
| (2, 0) 1405 | Mi fyddwch chi, bob amser, yn gwrthod meddwl am y peth. | 
| (2, 0) 1409 | O byddwch Isaac. | 
| (2, 0) 1410 | Rydw i'n eich darllen chi fel llyfr. | 
| (2, 0) 1411 | Rydych chi eisio f'arbed i a g'neud esgusion dros fy nhyflwr i gymaint ag a fedrwch chi. | 
| (2, 0) 1414 | Ie wrth gwrs, amdana' i fy hun. | 
| (2, 0) 1417 | Gyda golwg ar yr hen dŷ, roedd y tân i fod i ddigwydd. | 
| (2, 0) 1418 | Does dim fedrwch chi ei 'neud yn erbyn ffawd. | 
| (2, 0) 1421 | Ond, yr hyn a ddigwyddodd o achos y tân, y peth dychrynllyd a ddigwyddodd wedyn, dyna'r peth na alla' i byth, byth, byth... | 
| (2, 0) 1424 | Dyna'r union beth na fedra' i ddim peidio â meddwl amdano. | 
| (2, 0) 1425 | A rŵan, rhaid i mi siarad amdano fo beth bynnag, achos 'dydw i ddim yn teimlo y medra' i ei ddal o'n llawer hwy; a finna' 'n gwybod na fedra' i byth fadda' i mi fy hun... | 
| (2, 0) 1428 | Ie, achos roedd gen i ddyletswydd at y ddwy ochor, atoch chi ac at y rhai bychain. | 
| (2, 0) 1429 | Mi ddylwn i fod wedi bod yn galed. | 
| (2, 0) 1430 | Peidio â gadael i'r arswyd fy llethu; na'r loes o golli 'nghartre efo'r tân chwaith. | 
| (2, 0) 1431 | O Isaac, gresyn na faswn i wedi bod yn ddigon cryf. | 
| (2, 0) 1435 | O'r nefoedd. | 
| (2, 0) 1436 | Addo, addo. | 
| (2, 0) 1437 | Mi all rhywun addo unrhyw beth. | 
| (2, 0) 1441 | |'Dydy| hwn ddim yn gartre', Isaac. | 
| (2, 0) 1446 | Fydd hi byth yn well. | 
| (2, 0) 1447 | Yr un mor wag, yr un mor oeraidd ag ydy hi yma. | 
| (2, 0) 1451 | Na fedraf. | 
| (2, 0) 1452 | Mae'n rhaid i chi ateb hynny drosoch eich hun. | 
| (2, 0) 1455 | Be' ydw i'n ei feddwl? | 
| (2, 0) 1459 | Nâc oedd, yn enw'r Tad, ar fy ngwir. | 
| (2, 0) 1464 | Bobol annwyl; am be' ar y ddaear ydych chi'n siarad? | 
| (2, 0) 1465 | Be' sy'? | 
| (2, 0) 1468 | Fi? | 
| (2, 0) 1469 | Ydych chi'n d'eud 'mod i'n g'neud hynny? | 
| (2, 0) 1473 | Sâl; ydych chi'n sâl Isaac? | 
| (2, 0) 1478 | Isaac, yn enw'r nefoedd...! | 
| (2, 0) 1485 | Nâc oes, wrth gwrs. | 
| (2, 0) 1486 | Ond eto, be' sy'n eich poeni chi gymaint? | 
| (2, 0) 1488 | Dyled? | 
| (2, 0) 1489 | Ond 'does arnoch chi ddim i neb. | 
| (2, 0) 1493 | Be' sy' y tu ôl i hyn i gyd? | 
| (2, 0) 1494 | Waeth i chi ddeud wrtha i ar unwaith. | 
| (2, 0) 1498 | Euogrwydd o'm plegid i? | 
| (2, 0) 1500 | Felly mae'n rhaid eich bod chi'n sâl wedi'r cwbwl Isaac. | 
| (2, 0) 1528 | Rhaid i mi fynd i'r dre' rŵan, Isaac. | 
| (2, 0) 1530 | Ac mi chwilia i am un neu ddau o betha' fydd yn ddefnyddiol i chi, Miss O'Reilly. | 
| (2, 0) 1535 | O, dim o gwbwl, dim ond fy nyletswydd i. | 
| (2, 0) 1536 | Rydw i'n falch o gael g'neud. | 
| (2, 0) 1538 | Mi edrycha' i am drowsus cynnes i'ch siwtio chi. | 
| (2, 0) 1539 | Mae hi'n gallu mynd yn oer iawn yma yr adeg yma o'r flwyddyn. | 
| (2, 0) 1548 | O peidiwch â siarad fel 'na Isaac annwyl. | 
| (2, 0) 1554 | A be' ydy'r un peth hwnnw, Miss O'Reilly? | 
| (2, 0) 1555 | Helen | 
| (2, 0) 1556 | O, 'dydw i ddim am dd'eud. | 
| (2, 0) 1560 | Pan fyddwch chi a Miss O'Reilly ar eich penna' eich hunain mi dd'wedith wrthych chi, Isaac, fwy na thebyg. | 
| (2, 0) 1562 | Ydw, siŵr. | 
| (2, 0) 1563 | Achos roeddech chi'n ei nabod hi mor dda ers talwm; ers pan oedd hi'n blentyn, meddech chi. | 
| (2, 0) 2306 | Dyma ychydig o betha' ydw i wedi gael i chi, Miss O'Reilly. | 
| (2, 0) 2308 | Twt, dim ond fy nyletswydd i. | 
| (2, 0) 2309 | Dim mwy na hynny. | 
| (2, 0) 2312 | Ie? | 
| (2, 0) 2314 | Oedd, wrth gwrs ei bod hi yna. | 
| (2, 0) 2317 | Roedd hi wrth y ddesg fel y mae hi bob amser y bydda i'n mynd trwodd. | 
| (2, 0) 2358 | Mewn difri', on'd oes ganddi hi lygaid t'wyllodrus? | 
| (2, 0) 2361 | O, 'dydw i ddim yn ddall Isaac... | 
| (2, 0) 2362 | Ydych chi'n eu diswyddo nhw o ddifri? | 
| (2, 0) 2364 | Y ferch hefyd? | 
| (2, 0) 2367 | Ond sut y medrwch chi 'neud hebddi |hi|? | 
| (2, 0) 2368 | O, ie. | 
| (2, 0) 2369 | Os ydw i'n eich nabod chi, mae gennych chi rywun arall mewn golwg. | 
| (2, 0) 2382 | Yn enw'r nefoedd, Miss O'Reilly, peidiwch â meddwl am y fath beth. | 
| (2, 0) 2383 | Fy ngŵr i! | 
| (2, 0) 2384 | Ac ynta'n cael pendro mor ofnadwy! | 
| (2, 0) 2387 | O ydy wir, mae o. | 
| (2, 0) 2389 | Ie, mi glywais i bobol yn sôn am hynny ond mae'n amhosib. | 
| (2, 0) 2393 | Sut y medrwch chi dd'eud hyn 'na Isaac? | 
| (2, 0) 2394 | Gwarchod, fedrwch chi ddim diodde rhoi eich pen allan o ffenest y llofft ucha. | 
| (2, 0) 2395 | Fel na y buoch chi erioed. | 
| (2, 0) 2398 | Nâc e, nâc e, nâc e! | 
| (2, 0) 2399 | O Dduw mawr, gobeithio na cha' i byth weld hynny. | 
| (2, 0) 2400 | Rydw i'n gyrru am y doctor y munud 'ma. | 
| (2, 0) 2401 | Wnaiff o byth ganiatâu'r fath beth. | 
| (2, 0) 2403 | Rhaid i mi 'neud. | 
| (2, 0) 2404 | Oherwydd rydych chi'n sâl, Isaac. | 
| (2, 0) 2405 | Mae hyn yn profi hynny. | 
| (2, 0) 2406 | O Dduw, O Dduw! | 
| (3, 0) 2472 | Fuoch chi o gwmpas yr ardd, Miss O'Reilly? | 
| (3, 0) 2474 | A dod o hyd i ychydig o floda' rydw i'n gweld. | 
| (3, 0) 2477 | Oes 'na wir? | 
| (3, 0) 2478 | O hyd? | 
| (3, 0) 2479 | Anaml iawn y bydda' i'n mynd yna, ydych chi'n gweld. | 
| (3, 0) 2484 | Fydda i ddim yn |picio| i unlle rŵan. | 
| (3, 0) 2486 | Mae'r cwbwl wedi mynd mor ddiarth i mi, bron nad oes arna i ofn mynd i weld erbyn hyn. | 
| (3, 0) 2488 | Dydw i ddim yn teimlo mai fi piau hi bellach. | 
| (3, 0) 2490 | Dydy hi ddim fel roedd hi yn amser nhad a mam. | 
| (3, 0) 2491 | O, nâc ydy. | 
| (3, 0) 2492 | Maen nhw wedi dwyn cymaint o'r ardd, Miss O'Reilly. | 
| (3, 0) 2493 | Be 'ddyliech chi? | 
| (3, 0) 2494 | Maen nhw wedi'i rhannu hi'n glytia' a chodi tai i bobol ddiarth yno, pobol nad ydw i ddim yn eu nabod nhw. | 
| (3, 0) 2495 | Ac mi fedran |nhw| eistedd ac edrych i mewn i'r tŷ arna' i o'u ffenestri. | 
| (3, 0) 2498 | Ie? | 
| (3, 0) 2500 | Cewch ar bob cyfri, os ydych chi eisio. | 
| (3, 0) 2504 | Chwarae teg i chi am fod eisio eistedd efo |mi|. | 
| (3, 0) 2505 | Roeddwn i'n meddwl mai i'r tŷ at y gŵr yr oeddech chi am fynd. | 
| (3, 0) 2507 | I'w helpu o, dyna oeddwn i'n feddwl. | 
| (3, 0) 2512 | Ond un ffeind a thyner ydy o mewn gwirionedd, wyddoch chi. | 
| (3, 0) 2514 | Dydych chi ddim yn ei nabod o eto, Miss O'Reilly. | 
| (3, 0) 2517 | Mi ddylwn i fod yn falch gan mai dyna ddymuniad Mr Morris. | 
| (3, 0) 2519 | Wir, Miss OReilly. | 
| (3, 0) 2520 | Oherwydd dyna 'nyletswydd i, cyd-dynnu efo fo. | 
| (3, 0) 2521 | Ond yn amal mae'n anodd iawn eich gorfodi eich hun i ufuddhau. | 
| (3, 0) 2523 | Ydy. | 
| (3, 0) 2524 | Coeliwch fi. | 
| (3, 0) 2525 | I rywun â chymaint o wendida' ag sy' gen i... | 
| (3, 0) 2527 | Sut y gwyddoch chi am hynny? | 
| (3, 0) 2529 | Prin iawn y bydd o'n sôn am y petha' yna efo mi. | 
| (3, 0) 2530 | Ydw, o ydw, rydw i wedi bod drwy fwy na digon o drwbwl yn fy mywyd, Miss OReilly. | 
| (3, 0) 2535 | Do. | 
| (3, 0) 2536 | Popeth oedd yn perthyn i mi wedi'i losgi. | 
| (3, 0) 2539 | Gwaeth? | 
| (3, 0) 2541 | Be' ydych chi'n 'i feddwl? | 
| (3, 0) 2544 | O, ie. | 
| (3, 0) 2545 | Nhw. | 
| (3, 0) 2546 | Ond roedd hynny'n beth gwahanol, wyddoch chi. | 
| (3, 0) 2547 | Trefn rhagluniaeth oedd hynny ac felly fedar rhywun neud dim ond ymostwng a bodloni... | 
| (3, 0) 2548 | Ie, a bod yn ddiolchgar hefyd. | 
| (3, 0) 2550 | Nid bob amser, mae'n ddrwg gen i dd'eud. | 
| (3, 0) 2551 | Mi wn i o'r gora' mai dyna ydy 'nyletswydd i. | 
| (3, 0) 2552 | Ond er hynny fedra' i ddim. | 
| (3, 0) 2555 | Ac yn amal rhaid i mi f'atgoffa fy hun mai cosb gyfiawn arna' i oedd hi. | 
| (3, 0) 2557 | Am nad oedd gen i ddigon o ddewrder yn wyneb anffawd. | 
| (3, 0) 2559 | O, peidiwch wir, Miss OReilly. | 
| (3, 0) 2560 | Peidiwch â siarad dim mwy am y ddau fachgen bach. | 
| (3, 0) 2561 | Dim rhaid bod yn drist yn eu cylch nhw. | 
| (3, 0) 2562 | Mae nhw'n hapus rŵan, y plant bach,... hapus rŵan. | 
| (3, 0) 2563 | Na, y mân golledion mewn bywyd sy'n torri calon rhywun. | 
| (3, 0) 2564 | Colli'r cwbwl o'r petha' nad ydy pobol yn meddwl dim ohonyn nhw. | 
| (3, 0) 2569 | Dim ond petha' bychain. | 
| (3, 0) 2570 | Fel roeddwn i'n d'eud. | 
| (3, 0) 2571 | Mi losgwyd yr hen lunia' i gyd ar y walia', a'r holl wisgoedd sidan oedd wedi bod yn y teulu ers cenedlaetha'. | 
| (3, 0) 2572 | A lês mam a nain, y cwbwl wedi'u llosgi. | 
| (3, 0) 2573 | A'r gema'. | 
| (3, 0) 2575 | A'r dolia' i gyd. | 
| (3, 0) 2578 | Roedd gen i naw o ddolia'; ddigon o ryfeddod. | 
| (3, 0) 2580 | Bob un. | 
| (3, 0) 2581 | Roedd hynny'n galed. | 
| (3, 0) 2582 | O mi deimlais i'n arw. | 
| (3, 0) 2584 | Wedi'u cadw, oeddwn. | 
| (3, 0) 2585 | Ond nid eu rhoi o'r neilltu. | 
| (3, 0) 2586 | Roedd y dolia' a finna' wedi dal i fyw efo'n gilydd. | 
| (3, 0) 2588 | Ie, ymhell ar ôl hynny. | 
| (3, 0) 2590 | O, ie. | 
| (3, 0) 2591 | Cyn belled na welai o mohonyn nhw. | 
| (3, 0) 2592 | Ond mi llosgwyd nhw i gyd, y petha' bach. | 
| (3, 0) 2593 | Feddyliodd neb am eu hachub nhw. | 
| (3, 0) 2594 | Rydw i mor ddigalon yn meddwl am y peth. | 
| (3, 0) 2595 | Wnewch chi ddim chwerthin am fy mhen i, na wnewch, Miss OReilly? | 
| (3, 0) 2597 | Oherwydd, roedd 'na fywyd ynddyn hwytha', ydych chi'n gweld? | 
| (3, 0) 2598 | Roeddwn i'n eu cario o dan fy nghalon, fel plant bach heb eu geni. | 
| (3, 0) 2601 | Mae hi reit braf a chynnes yma heddiw. | 
| (3, 0) 2606 | Mae na rywbeth mae'n rhaid i mi siarad amdano efo chi. | 
| (3, 0) 2618 | Hsht, hsht. | 
| (3, 0) 2619 | Yn enw'r nefoedd. | 
| (3, 0) 2620 | Mae o'n dod. | 
| (3, 0) 2621 | Ceisiwch gael y syniad 'na o'i ben o. | 
| (3, 0) 2622 | A Helen, fedrwn ni ddim bod yn ffrindia', dwedwch? | 
| (3, 0) 2626 | Dyna ni. | 
| (3, 0) 2627 | Dyna ni. | 
| (3, 0) 2628 | Dyma fo'n dod Doctor. | 
| (3, 0) 2629 | Ga' i air efo chi? | 
| (3, 0) 2631 | Ie wir. | 
| (3, 0) 2632 | Dowch i mewn. | 
| (3, 0) 2996 | Ydy o ddim yma? | 
| (3, 0) 2997 | B'le mae o wedi mynd? | 
| (3, 0) 3001 | Mi aeth â'r |wreath| efo fo? | 
| (3, 0) 3002 | O'r nefoedd! | 
| (3, 0) 3003 | Duw a'n helpo ni. | 
| (3, 0) 3004 | Meredith, ewch i lawr ato fo wir. | 
| (3, 0) 3005 | Perswadiwch o i ddod yn ôl i fan 'ma. | 
| (3, 0) 3007 | Ie. | 
| (3, 0) 3008 | Nâc e. | 
| (3, 0) 3009 | Na, peidiwch â d'eud bod arna' i eisio fo. | 
| (3, 0) 3010 | D'wedwch fod 'na rywun yma ac iddo ddod ar unwaith. | 
| (3, 0) 3013 | O, Miss O'Reilly fedrwch chi ddim dychmygu mor bryderus ydw i yn ei gylch o. | 
| (3, 0) 3015 | Ydych hi ddim yn sylweddoli ngeneth i? | 
| (3, 0) 3016 | Y peryg petai o'n g'neud hyn? | 
| (3, 0) 3017 | Petai o'n cymryd yn ei ben i ddringo'r sgaffald? | 
| (3, 0) 3020 | Does dim dal be' all o gymryd yn ei ben. | 
| (3, 0) 3021 | Mi all o 'neud unrhyw beth dan haul. | 
| (3, 0) 3024 | Wn i ddim be' i'w feddwl ohono fo, wir. | 
| (3, 0) 3025 | Mae'r doctor wedi bod yn d'eud pob math o betha' wrtha' i. | 
| (3, 0) 3026 | Ac wrth gysylltu hynny ag ambell i beth a glywais i o'i hun yn ei dd'eud... | 
| (3, 0) 3029 | Ydy, rydw i'n meddwl, rydw i wedi gyrru amdano fo beth bynnag. | 
| (3, 0) 3032 | Na, na. | 
| (3, 0) 3033 | Mi arhosa' i allan yma i ddisgwyl Isaac. | 
| (3, 0) 3035 | O'r annwyl, rhywbeth arall, a'r funud yma o bob adeg. | 
| (3, 0) 3037 | O! wel, rhaid imi fynd atyn' nhw wedi'r cwbwl debyg. | 
| (3, 0) 3038 | Mae'n ddyletswydd arna' i. | 
| (3, 0) 3040 | Na. | 
| (3, 0) 3041 | Wnâi hynny 'mo'r tro o gwbwl. | 
| (3, 0) 3042 | Gan eu bod nhw yma, fy nyletswydd i ydy eu gweld nhw. | 
| (3, 0) 3043 | Ond da chi, arhoswch chi allan yma i'w dderbyn o pan ddaw o. | 
| (3, 0) 3045 | Ia, os gwelwch chi'n dda. | 
| (3, 0) 3046 | Miss O'Reilly, daliwch eich gafael yn dynn ynddo fo. | 
| (3, 0) 3048 | Byddai, mae o'n ddyletswydd arna' i. | 
| (3, 0) 3049 | Ond pan fo gan rywun ddyletswydda' mewn cymaint o gyfeiriada'... | 
| (3, 0) 3052 | A minna'n gorfod mynd i'r tŷ. | 
| (3, 0) 3057 | A plis, gofalwch gadw'ch gafael yn dynn ynddo fo. | 
| (3, 0) 3058 | Chi fedar 'neud hynny ora'. | 
| (3, 0) 3235 | Oes 'na fand hefyd? | 
| (3, 0) 3244 | Pam mae eisio i chi fynd i lawr, Isaac? | 
| (3, 0) 3247 | Ie, i |lawr| cofiwch. | 
| (3, 0) 3248 | Dim ond ar lawr. | 
| (3, 0) 3253 | Da chi, perwch i'r dyn fod yn ofalus wrth fynd i fyny. | 
| (3, 0) 3254 | Cofiwch, Isaac. | 
| (3, 0) 3258 | O'r fath ryddhad. | 
| (3, 0) 3259 | Ddwy waith mae 'na ddynion wedi disgyn a chael eu lladd yn y fan. | 
| (3, 0) 3261 | Diolch i chi, Miss O'Reilly, am ddal gafael yn dynn ynddo fo. | 
| (3, 0) 3262 | Faswn i byth wedi medru g'neud hynny fy hun. | 
| (3, 0) 3300 | A mae o'n cario'r |wreath| hefyd. | 
| (3, 0) 3301 | O, gobeithio'r annwyl y bydd o'n ofalus. | 
| (3, 0) 3308 | Ie, Isaac ydy o! | 
| (3, 0) 3309 | O Dduw mawr! | 
| (3, 0) 3310 | Isaac! | 
| (3, 0) 3311 | Isaac! | 
| (3, 0) 3315 | Rhaid i mi fynd ato fo. | 
| (3, 0) 3316 | Rhaid i mi ei gael o i lawr! | 
| (3, 0) 3331 | Mae'r ofn yn ddigon amdana' i. | 
| (3, 0) 3332 | Fedra' i ddim diodde' edrych! |