| Stafell weithio wedi'i dodrefnu'n blaen yn nhŷ Isaac Ryan Morris.  Drysau dwbwl yn arwain i gyntedd yn y mur chwith.  Ar y dde, drws i stafelloedd mewnol y tŷ.  Yn y mur cefn drws agored i'r swyddfa gynllunio.  Ar y chwith, ym mlaen y llwyfan, desg gyda llyfrau, papurau ac offer sgrifennu a chyfrifiadur.  Yng nghefn y llwyfan, lle tân.  Yn y gornel dde, soffa gyda bwrdd a chadeiriau.  Blaen y llwyfan, i'r dde, bwrdd bach, cadair siglo a chadair freichiau. Y tu mewn i'r swyddfa, Owen Meredith a'i fab Elwyn yn brysur gyda chynlluniau a mesuriadau. Gwyneth Parry yn eistedd wrth ddesg yn y stafell weithio yn teipio ar brosesydd geiriau. Owen Meredith - hen ŵr tenau gyda gwallt gwyn a barf wen. Mae 'n gwisgo sbectol. Ei ddillad yn dwt ond wedi gwisgo. Elwyn Meredith, yn ei dri degau, yn drwsiadus; tuedda i wargrymu. Gwyneth Parry, merch ifanc yn ei hugeiniau. Mae'r tri yn gweithio'n ddistaw am ychydig. Yn nhŷ Isaac Ryan Morris y digwydd y ddrama. Mae hi'n hwyr brynhawn. Owen Meredith yn codi'n sydyn o'i waith a golwg bryderus arno. Daw at y drws yn anadlu'n drwm a chydag anhawster. | |
| Meredith | Fedra' i ddim diodde' yn hir iawn eto, na fedraf wir. | 
| Gwyneth | Teimlo'n sâl iawn heddiw, f'ewyrth? | 
| Meredith | Mae arna i ofn 'mod i'n mynd yn waeth bob dydd. | 
| Elwyn | Mi ddylech chi fynd adre nhad. Ceisiwch gysgu dipyn. | 
| Meredith | Mynd i 'ngwely? Wyt ti am i mi fygu'n lân? | 
| Gwyneth | Wel, ewch am dro bach ynte'. | 
| Elwyn | Ie, dowch. Mi ddo' i efo chi. | 
| Meredith | (Yn angerddol.) Dydw i ddim am fynd odd' 'ma nes y daw o. Rydw i'n benderfynol o setlo petha' heddiw (yn chwerw) efo fo,... efo'r mistar. | 
| Gwyneth | O na f'ewyrth! Arhoswch am dipyn cyn g'neud hynny wir. | 
| Elwyn | Ie, mi fasai'n well aros, 'nhad. | 
| Meredith | (Yn anadlu'n llafurus.) Yh. Yh. Does gen i fawr o amser ar ôl i aros. | 
| Gwyneth | (Yn gwrando.) Hsht. Mi clywa' i o ar y grisia'. | 
| Â'r tri yn ôl at eu gwaith.  Distawrwydd am ennyd.  Daw Isaac Ryan Morris i mewn drwy ddrws y cyntedd.  Mae'n ddyn yn ei anterth, yn iach ac egnïol gyda gwallt cyrliog cwta, mwstash tywyll ac aeliau trymion tywyll.  Het trilbi am ei ben a dau neu dri ffolder dan ei fraich. | |
| Morris | (Wrth y drws gan bwyntio at swyddfa'r cynllunwyr a gofyn mewn sibrydiad.) Ydyn nhw wedi mynd? | 
| Gwyneth | (Yn isel gan ysgwyd ei phen.) Naddo. | 
| Tyn hi ei sbectol.  Morris yn mynd ar draws y stafell, yn taflu ei het ar gadair, yn rhoi'r ffolderi ar y bwrdd ger y soffa a dod at y ddesg.  Gwyneth yn mynd ymlaen â'i theipio heb oedi ond mae'n edrych yn nerfus ac anniddig. | |
| Morris | (Yn uchel.) Be. ydych chi'n ei deipio Miss Parry? | 
| Gwyneth | O, dim ond rhywbeth a... | 
| Morris | Gadewch i mi weld. (Mae'n plygu drosti yn cymryd arno edrych ar y teipio a sibrwd.) Gwyneth. | 
| Gwyneth | (Y'n isel ac yn dal i deipio.) Wel? | 
| Morris | Pam y byddwch chi'n tynnu eich sbectol bob tro y bydda' i'n cyrraedd? | 
| Gwyneth | O, mae hi'n hyll i mi. | 
| Morris | (Yn gwenu.) Wnâi hi mo'r tro i fod felly? | 
| Gwyneth | Ddim am bris yn y byd, o'ch blaen chi. | 
| Morris | (Gan dynnu ei law drwy ei gwallt yn dyner.) Gwyneth bach, annwyl. | 
| Gwyneth | Hisht. Mi allan nhw'ch clywed chi. | 
| Morris | (Yn mynd yn hamddenol ar draws y stafell i'r chwith; yn troi, ac aros wrth ddrws swyddfa'r cynllunwyr.) Alwodd rhywun i ngweld i? | 
| Elwyn | (Yn codi.) Do y pâr ifanc sydd eisio cael codi tŷ draw ym Mrynfelin. | 
| Morris | (Yn sgyrnygu.) O'r rheini. Rhaid iddyn nhw ddisgwyl. 'Dydw i ddim yn berffaith glir ynghylch y plania' eto. | 
| Elwyn | (Yn dod ymlaen yn betrus.) Roedden nhw'n awyddus iawn i weld y cynllunia' ar unwaith. | 
| Morris | O, oedden reit siŵr; felly y maen nhw i gyd. | 
| Meredith | Maen nhw'n ysu am gael mynd i dŷ o'u heiddo'u hunain, medden nhw. | 
| Morris | Ydyn, ydyn. Rydyn ni'n gwybod hynny. Yn fodlon derbyn beth bynnag a gynigir iddyn nhw debyg. Cael to uwch eu penna', ac enw, ond dim y medrwch chi ei alw yn gartre'. Ddim diolch. Os felly mae hi gadewch iddyn nhw chwilio am rywun arall! Mi ellwch dd'eud hynny wrthyn nhw y tro nesa' y galwan nhw. | 
| Meredith | (Gwthia ei sbectol am ei dalcen ac edrych arno mewn syndod.) Rhywun arall? Fasech chi'n ystyried gollwng y job rŵan? | 
| Morris | (Yn ddiamynedd.) B'aswn 'nenw'r Tad. A gwynt teg ar eu hola' nhw, os felly mae hi i fod. Mi fyddai hynny'n well na chodi tŷ heb wybod b'le rydw i'n sefyll. Heblaw hynny, 'chydig iawn a wn i am y bobol yma hyd yn hyn. | 
| Meredith | Mae'r bobol yn iawn. Mae Elwyn yn eu nabod nhw. Mae o'n gyfaill i'r teulu; pobol berffaith onest. | 
| Morris | Gonest, o ddigon gonest. Nid dyna ydw i'n 'i feddwl. Duw annwyl, ydych chitha' ddim yn fy neall i chwaith? (Yn flin.) 'Na i ddim byd â'r bobol ddiarth 'ma. Mi gân' nhw ofyn i bwy fynnon nhw o'm rhan i. | 
| Meredith | Ydych chi o ddifri? | 
| Morris | (Yn sorllyd.) Ydw ar ei phen, am unwaith. | 
| Meredith | Ga' i air neu ddau efo chi? | 
| Morris | Wrth reswm. | 
| Meredith | (Wrth Gwyneth.) Dos di drwodd am funud Gwyneth. | 
| Gwyneth | (Yn anesmwyth.) Ond f'ewyrth... | 
| Meredith | Gwna fel rydw i'n d'eud wrthyt ti, 'ngeneth i. A chau'r drws ar d'ôl. | 
| Â Gwyneth yn anfoddog i swyddfa'r cynllunwyr gan daflu golwg bryderus a thaer ar Morris a chau'r drws. | |
| Meredith | (Gan ostwng ei lais ychydig.) Does arna' i ddim eisio i'r plant druain yma wybod pa mor sâl ydw i. | 
| Morris | Ie, rydych chi wedi bod yn edrych yn wael yn ddiweddar yma. | 
| Meredith | Mi fydd y cwbwl ar ben arna' i reit fuan. Rydw i'n gwanio bob dydd. | 
| Morris | Steddwch chi ddim? | 
| Meredith | Os ca' i. Diolch. | 
| Morris | (Yn gosod y gadair freichiau yn hwylusach.) Dyma chi. Cymerwch y gadair yma. A rŵan? | 
| Meredith | (Wedi eistedd gydag anhawster.) Wel, fel hyn y mae hi, ydych chi'n gweld. Ynghylch Elwyn, dyna sy'n fy mhoeni fi fwya'. Be' ddaw ohono fo? | 
| Morris | Wel mi gaiff y mab aros yma efo mi, wrth gwrs, cyhyd ag y mynn o. | 
| Meredith | Ond dyna'r union beth na fynn o. Mae o'n teimlo na fedr o aros ddim hwy. | 
| Morris | Tewch. Mae hi'n eitha' arno yma 'ddyliwn i. Ond os eisio mwy o gyflog mae o, f'aswn i ddim yn gwrthod ystyried... | 
| Meredith | Na, na. Nid dyna sy'n bod. Ond yn hwyr neu'n hwyrach mi fydd rhaid i'r hogyn gael cyfle i 'neud rhywbeth ar ei liwt ei hun. | 
| Morris | (Heb edrych arno.) Ydych chi'n meddwl y gwnâi Elwyn rywbeth ohoni hi ar ei ben ei hun? | 
| Meredith | Wel, nâc ydw. Dyna sy'n dorcalonnus. Rydw i'n dechra' ama' gallu'r hogyn, achos 'dydych chi ddim wedi rhoi'r un gair da iddo fo; ac eto fedra' i yn fy myw lai na theimlo bod yna allu ynddo fo. Dydy o ddim yn ddidalent, yn fy marn i. | 
| Morris | Wel 'dydy o ddim wedi dysgu dim byd yn drwyadl felly, ar wahân i dipyn ar bapur, wrth gwrs. | 
| Meredith | (Gan edrych arno â chasineb dirgel, dywaid yn gras.) Digon 'chydig wyddech chi o'r busnes pan oeddech chi'n gweithio i mi ond ddar'u hynny 'mo'ch rhwystro chi rhag dechra' arni (yn anadlu'n drwm) a'ch gwthio'ch hun i fyny, a dwyn y gwynt o'm hwylia' i a phobol eraill. | 
| Morris | Ie, roedd amgylchiada' o 'mhlaid i, welwch chi. | 
| Meredith | Rydych chi'n iawn. Roedd popeth o'ch tu chi. Ond eto, sut yn eich byw y medrwch chi adael i mi fynd i 'medd heb weld be' fedr Elwyn ei 'neud. Ac wrth gwrs mi fyddai'n dda iawn gen i eu gweld nhw wedi priodi cyn imi fynd. | 
| Morris | (Yn siarp.) Hi sy'n dymuno hynny? | 
| Meredith | Nid Gwyneth yn gymaint ag Elwyn. Mae o'n siarad am y peth bob dydd. Mae'n rhaid, ydy mae'n rhaid i chi helpu i gael rhyw waith ar ei ben ei hun iddo rŵan. Mae'n rhaid imi gael gweld rhywbeth y bydd yr hogyn wedi'i 'neud. Ydych chi'n clywed? | 
| Morris | (Yn biwis.) Fedrwch chi ddim disgwyl i mi dynnu gwaith o'r awyr. | 
| Meredith | Mae ganddo fo gyfle am waith ardderchog y funud yma; job reit fawr. | 
| Morris | (Yn anesmwytho 'n gynhyrfus braidd.) Oes? | 
| Meredith | Pe rhoech chi'ch caniatâd. | 
| Morris | Sut fath o waith ydy o? | 
| Meredith | (Yn betrus braidd.) Mi gaiff 'neud y tŷ yna draw ym Mrynfelin. | 
| Morris | Hwnnw. Rydw i'n mynd i godi hwnnw fy hun. | 
| Meredith | Ond 'does dim llawer o wahaniaeth gennych chi. | 
| Morris | (Yn tanio.) Dim gwahaniaeth gen i. Nâc oes? Pwy sy'n meiddio d'eud hynny? | 
| Meredith | Mi dd'wed'soch chi hynny eich hun gynna'. | 
| Morris | Twt, twt. Peidiwch â chymryd sylw o be' fydda' i'n ei dd'eud. F'asen nhw yn rhoi'r gwaith yna i Elwyn? | 
| Meredith | B'asen. Mae o'n nabod y teulu ydych chi'n gweld. A pheth arall, mae o wedi g'neud plania', ─ o ran 'myrraeth felly, a rhoi amcan o'r gost ac ati... | 
| Morris | Ydyn nhw'n hoffi'r cynllunia'? Y bobol fydd yn mynd i fyw yno. | 
| Meredith | Ydyn. Dim ond i chi edrych arnyn nhw a rhoi eich caniatâd. | 
| Morris | Mi fasen nhw'n gadael i Elwyn adeiladu eu cartref iddyn nhw? | 
| Meredith | Roedden nhw wrth eu bodd efo'i syniada' fo; gwreiddiol iawn, medden nhw. | 
| Morris | Oho! gwreiddiol ai e? Ddim mor hen ffasiwn â'r petha' fydda' i'n eu g'neud debyg. | 
| Meredith | Eu gweld nhw'n wahanol rywsut yr oedden nhw. | 
| Morris | (Yn atal ei lid.) Felly i weld Elwyn y daethon nhw yma pan oeddwn i allan? | 
| Meredith | Galw i'ch gweld chi ddar'u nhw ac ar yr un pryd gofyn a fyddai wahaniaeth gennych chi roi'r gora' i'r gwaith. | 
| Morris | (Yn flin.) Rhoi'r gora' iddi. | 
| Meredith | A chaniatâu eich bod chi'n meddwl bod plania' Elwyn... | 
| Morris | Fi. Rhoi'r gora' iddi hi, i 'neud lle i'ch mab chi! | 
| Meredith | Tynnu'n ôl o'r cytundeb oedden nhw'n ei feddwl. | 
| Morris | O, 'run peth yn union. (Chwerthin yn gas.) A felly mae hi ai e? Ydy hi'n bryd i Ryan Morris feddwl am hel ei bac i neud lle i ddynion fengach, y fenga un o bosib? Mae'n rhaid iddo fynd o'r ffordd... i 'neud lle. | 
| Meredith | Pam 'nenw'r Tad? Mae 'na le i fwy nag un, debyg. | 
| Morris | O, does 'na ddim cymaint â hynny o le yn sbâr chwaith. Ond p'run bynnag, riteiria' i ddim byth. 'Ro' i 'mo fy lle i neb os medra' i beidio. Byth dragywydd hedd, wna i 'mo hynny. | 
| Meredith | (Cyfyd gyda thrafferth.) Felly mi fydd rhaid i mi adael y byd 'ma heb ddim sicrwydd. Heb lygedyn o lawenydd? Heb hyder na ffydd yn Elwyn? Heb weld dim o'i waith o. Felly mae hi i fod? | 
| Morris | (Yn lled-droi a mwmian.) Hm. Peidiwch â gofyn dim mwy rŵan. | 
| Meredith | Ond atebwch yr un cwestiwn yna. Fydd raid i mi farw mor druenus o dlawd â hynny? | 
| Morris | (Yn edrych fel pe mewn ymdrech. O'r diwedd dywaid mewn llais isel ond cadarn.) Rhaid i chi adael y byd 'ma ora' y gellwch chi. | 
| Meredith | Felly y bo hi ynte'. (Yn mynd tua phen draw'r stafell.) | 
| Morris | (Yn ei ddilyn: mae'n ei chael hi'n anodd.) Fedrwch chi ddim deall nad oes gen i ddim help. Rydw i yr hyn ydw i, a fedra' i ddim newid fy natur. | 
| Meredith | Na fedrwch debyg. (Mae'n troi a hanner disgyn ond yn ei gynnal ei hun yn erbyn y bwrdd wrth y soffa.) Ga'i lasiad o ddŵr, os gwelwch chi'n dda? | 
| Morris | Wrth gwrs. (Yn llenwi gwydr o ddŵr a'i estyn iddo.) | 
| Meredith | Diolch. (Yfed a rhoi'r gwydr i lawr.) | 
| Morris | (Yn mynd draw ac agor drws swyddfa'r cynllunwyr.) Elwyn, gwell iti ddod i nôl dy dad a mynd â fo adre. | 
| Elwyn | (Yn codi'n sydyn. Daw ef a Gwyneth i'r stafell.) Be' sy' 'nhad? | 
| Meredith | Rho dy fraich i mi. Gad i ni fynd rŵan. | 
| Elwyn | O'r gora'. Mi fyddai'n well i titha' wisgo amdanat hefyd Gwyneth. | 
| Morris | Rhaid i Miss Parry aros, dim ond am funud. Mae na lythyr iddi i'w deipio. | 
| Meredith | (Yn edrych ar Morris.) Pnawn da. Cysgwch yn iawn,... os medrwch chi. | 
| Morris | Pnawn da. | 
| Meredith ac Elwyn yn mynd allan drwy ddrws y cyntedd a Gwyneth at y ddesg.  Saif Morris a'i ben i lawr i'r dde wrth y gadair freichiau. | |
| Gwyneth | (Yn amheus.) Oes 'na lythyr? | 
| Morris | Nâc oes wrth gwrs. (Edrych yn flin arni.) Gwyneth. | 
| Gwyneth | (Yn bryderus mewn llais isel.) Ie. | 
| Morris | (Pwyntia'n awdurdodol at lecyn ar y llawr.) Dowch yma. Ar unwaith. | 
| Gwyneth | (Yn betrusgar.) le? | 
| Morris | (Fel o'r blaen.) Yn nes. | 
| Gwyneth | (Yn ufuddhau.) Be' sy' amoch chi ei eisio gen i? | 
| Morris | (Edrych arni ennyd.) I chi y mae'r diolch am hyn i gyd? | 
| Gwyneth | Nâc e. Nâc e. Peidiwch â meddwl hynny. | 
| Morris | Ond waeth i chi gyfaddef rŵan; mae arnoch chi eisio priodi. | 
| Gwyneth | (Yn isel.) Mae Elwyn a finna' wedi dyweddïo ers pedair neu bum mlynedd ac felly... | 
| Morris | Felly rydych chi'n teimlo'i bod hi'n bryd i hynny ddod i ben. Onid fel 'na y mae hi? | 
| Gwyneth | Mae Elwyn a f'ewyrth yn d'eud bod rhaid i mi. Felly 'fedra i 'neud dim ond bodloni debyg. | 
| Morris | (Yn dynerach.) Gwyneth, mae gennych chi dipyn o feddwl o Elwyn hefyd on'd oes? | 
| Gwyneth | Roeddwn i'n meddwl y byd o Elwyn unwaith, cyn i mi ddod yma atoch chi. | 
| Morris | Ond rŵan 'does gennych chi fawr i'w dd'eud wrtho o gwbwl? | 
| Gwyneth | (Yn llawn teimlad gan wasgu ei dwylo a'u hestyn allan tuag ato.) O! rydych chi'n gwybod yn iawn nad oes ond un yr ydw i'n ei garu rŵan. Un a dim ond un yn y byd i gyd. 'Na' i byth garu neb arall heblaw hwnnw eto. | 
| Morris | Ie, rydych chi'n d'eud hynny ac eto rydych chi am fynd i ffwrdd a ngadael i yma fy hun a'r cwbwl ar f'ysgwydda' i. | 
| Gwyneth | Ond, allwn i ddim aros yma efo chi, hyd yn oed petai Elwyn...? | 
| Morris | (Yn ffieiddio'r syniad.) O na. Mae hynny'n hollol amhosib. Os ydy Elwyn am fy ngadael i a dechra' gweithio ar ei ben ei hun, yna, wrth gwrs, mi fydd eich angen chi arno fo. | 
| Gwyneth | (Yn dirwasgu ei dwylo.) O, fedrwn i byth ddiodde' gwahanu. Mae'n gwbwl amhosib. | 
| Morris | Yna gofalwch gael y syniada' 'ma o ben Elwyn. Priodwch o ar bob cyfrif. (Newid ei dôn.) Hynny ydy, peidiwch â gadael iddo roi'r gora' i'w swydd dda yma achos mi alla' i eich cadw chitha' wedyn, Gwyneth annwyl. | 
| Gwyneth | O, ie. Mor braf fyddai hi pe gellid g'neud hynny. | 
| Morris | (Gan afael yn ei phen â'i ddwy law a sibrwd.) Achos fedra' i ddim g'neud heboch chi ydych chi'n gweld. Mae'n rhaid i mi eich cael chi efo mi bob dydd. | 
| Gwyneth | (Yn nerfus, orawenus.) O nefoedd ar y ddaear! | 
| Morris | (Cusanna ei gwallt.) Gwyneth. Gwyneth. | 
| Gwyneth | (Yn ymollwng i lawr o'i flaen.) O, rydych chi mor ffeind. Y tu hwnt o ffeind. | 
| Morris | (Yn daer.) Codwch, bendith y Tad i chi. Rydw i'n meddwl i mi glywed rhywun! | 
| Cynorthwya hi i godi; cerdda hi'n sigledig at y ddesg.  Daw Mrs Gladys Morris i mewn drwy'r drws ar y chwith.  Y mae'n edrych yn denau a chystuddiol gan ofìd, ond yn dangos atgof ô brydferthwch; mân gyrls modrwyog, melyn golau.  Mae hi'n gwisgo dillad i awgrymu ei chyflwr digalon... yn chwaethus.  Mae hi'n siarad braidd yn araf ac mewn llais dwys. | |
| Mrs Morris | (O'r drws.) Isaac. | 
| Morris | (Yn troi.) O chi sy' 'na 'nghariad i? | 
| Mrs Morris | (Yn taflu ei golwg at Gwyneth.) Rydw i'n dod ar eich traws chi mae arna' i ofn. | 
| Morris | Ddim o gwbwl. Mae gan Miss Parry lythyr byr i'w deipio, dyna'r cwbwl. | 
| Mrs Morris | Oes, felly rydw i'n gweld. | 
| Morris | Be' sy' Gladys? | 
| Mrs Morris | Dim ond dod i ddeud bod Dr Hughes yma. Ydych chi ddim am ddod i'w weld o Isaac? | 
| Morris | (Yn edrych yn amheus arni.) Hm. Ydy'r meddyg eisio 'ngweld i'n arw? | 
| Mrs Morris | Na ddim yn arbennig. I 'ngweld i y daeth o mewn gwirionedd ond na fasai 'fo ddim yn lecio mynd, heb gael gair efo chitha' hefyd. | 
| Morris | (Yn chwerthin ynddo'i hun.) Ie debyg. Wel gofynnwch iddo fo aros am funud. | 
| Mrs Morris | Mi ddowch chi drwodd yn y munud ynte'? | 
| Morris | 'Ddo' i wedyn. Toc, fy nghariad i. Reit fuan. | 
| Mrs Morris | (Yn taflu cipolwg arall ar Gwyneth.) Wel, cofiwch chi rŵan Isaac. (Yn mynd allan a chau'r drws ar ei hôl.) | 
| Gwyneth | O'r argen annwyl. Rydw i'n siŵr bod Mrs Morris yn meddwl drwg rywsut. | 
| Morris | Nâc ydy, ddim o gwbwl. Ddim mwy nag arfer beth bynnag. Ond mynd fyddai ora' i chi rŵan, p'run bynnag Gwyneth. | 
| Gwyneth | Ie, ie. Rhaid i mi fynd rŵan. | 
| Morris | (Yn ffyrnig bron.) A mi 'newch chi ymorol bod y mater yna wedi'i setlo i mi? Glywsoch chi? | 
| Gwyneth | O, petai o'n dibynnu arna' i fy hun... | 
| Morris | Mae'n rhaid i mi gael setlo'r peth, cofiwch: yfory, ddim hwyrach. | 
| Gwyneth | (Wedi dychryn.) Os nad oes 'na ddim arall amdani hi rydw i'n berffaith fodlon i dorri f'amod i'w briodi o. | 
| Morris | (Yn flin.) Ei thorri? Ydych chi o'ch co'? F'asech chi'n meddwl am y fath beth? | 
| Gwyneth | (Yn ddryslyd.) Baswn petai angen hynny. Achos, rhaid i mi aros yma efo chi. Fedra' i 'mo'ch gadael chi; mae hynny'n gwbwl amhosib, | 
| Morris | (Yn ffrwydro'n sydyn.) Ond Duw a'm helpo i! Be' am Elwyn wedyn? Elwyn sydd gen i... | 
| Gwyneth | (Yn edrych arno a'i llygaid yn llawn arswyd.) Am Elwyn rydych chi'n... | 
| Morris | (Yn dod ato'i hun ac ymatal.) Nâc e. Nâc e, wrth gwrs. Dydych chitha' ddim yn fy neall i chwaith? Wrth gwrs chi sydd arna' i eisio ei chadw yn fwy na dim, Gwyneth. Ond am yr union reswm hwnnw rhaid i chi rwystro Elwyn rhag rhoi'r gora' i'w swydd. Dyna ni rŵan, dyna ni. Ewch adre rŵan. | 
| Gwyneth | Ie mi a' i. Nos dawch. | 
| Morris | Nos dawch. (Wrth iddi fynd.) O 'rhoswch am eiliad. Ydy cynllunia' Elwyn yma? | 
| Gwyneth | Welais i mohono fo'n mynd â nhw efo fo. | 
| Morris | Wel ewch i chwilio amdanyn nhw i mi ynte'. Hwyrach y medra' i daro golwg arnyn nhw wedi'r cwbwl. | 
| Gwyneth | (Yn llawen.) O ie, os gwelwch chi'n dda. | 
| Morris | Er eich mwyn chi Gwyneth f'anwylyd. Rŵan, gadewch i mi eu cael nhw ar unwaith os gwelwch chi'n dda. | 
| Brysia Gwyneth i swyddfa'r cynllunwyr a chwilio'n bryderus mewn drôr.  Caiff hyd i ffolder a daw ag ef allan. | |
| Gwyneth | Dyma nhw'r plania' i gyd. | 
| Morris | Da iawn. Rhowch nhw ar y bwrdd yn fan 'na. | 
| Gwyneth | (Yn ei roi i lawr.) P'nawn da ynte'. (Yn daer.) A meddyliwch amdana' i, yn annwyl, os gwelwch chi'n dda. | 
| Morris | O mi fydda' i'n g'neud hynny bob amser. P'nawn da, Gwyneth bach annwyl. (Teifl olwg i'r dde.) Ewch, ewch rŵan. | 
| Daw Mrs Morris a Dr Hughes i mewn drwy'r drws ar y dde.  Hen fachgen tew mewn tipyn o oed ac wyneb crwn rhadlon ganddo, wedi'i eillio'n lân; gwallt golau tenau ganddo ac y mae'n gwisgo sbectol. | |
| Mrs Morris | (Yn y drws o hyd.) Isaac, 'fedra' i gadw'r doctor ddim hwy. | 
| Morris | Wel, ynte'; dowch i mewn yma. | 
| Mrs Morris | (Wrth Gwyneth sy'n diffodd y lamp ar y ddesg.) Ydych chi wedi gorffen y llythyr yn barod Miss Parry? | 
| Gwyneth | (Yn ffwdanus.) Y llythyr...? | 
| Morris | Do, un byr oedd o. | 
| Mrs Morris | Rhaid ei fod o'n fyr iawn. | 
| Morris | 'Gewch chi fynd rŵan Miss Parry. Dowch yn gynnar yfory os gwelwch chi'n dda. | 
| Gwyneth | Mi fydda' i'n siŵr o 'neud. P'nawn da Mrs Morris. (Yn mynd allan drwy ddrws y cyntedd.) | 
| Mrs Morris | Mae'n rhaid ei bod hi'n gaffaeliad mawr i chi, Isaac, Miss Parry 'ma. | 
| Morris | Ydy wir. Mae hi'n ddefnyddiol iawn mewn llawer modd. | 
| Mrs Morris | Felly mae'n edrych. | 
| Dr Hughes | Ydy hi'n dda am gadw cyfrifon hefyd? | 
| Morris | Mae hi wedi cael digon o brofiad yn ystod y ddwy flynedd ddwaetha' 'ma. A mae hi mor ddymunol a chymwynasgar ym mhob modd. | 
| Mrs Morris | Ie. Rhaid bod hynny'n braf iawn. | 
| Morris | Ydy, mae o. Yn enwedig os nad ydy dyn yn arfer cael rhyw lawer o hynny. | 
| Mrs Morris | (Â sŵn cerydd ysgafn yn ei llais.) Fedrwch chi dd'eud hynny Isaac? | 
| Morris | Na fedraf, wrth gwrs, Gladys annwyl. Maddeuwch i mi. | 
| Mrs Morris | Mae'n iawn. Wel mi ddowch yn ôl a chael swper efo ni ynte' Doctor? | 
| Dr Hughes | Does gen i ond eisio galw mewn un lle. Mi ddo i yn ôl wedyn. | 
| Mrs Morris | Diolch i chi. (Mae'n mynd allan drwy'r drws ar y dde.) | 
| Morris | Ydych chi ar frys Doctor? | 
| Dr Hughes | Ddim o gwbwl. | 
| Morris | Ga' i sgwrs bach efo chi? | 
| Dr Hughes | Can croeso. | 
| Morris | Gadewch i ni eistedd i lawr ynte'. | 
| Dengys y gadair siglo i'r meddyg ac eistedd yn y gadair freichiau ei hun.  Mae'n edrych yn dreiddgar arno. | |
| Morris | D'wedwch i mi, ddar'u chi sylwi bod yna rywbeth yn rhyfedd yn Gladys? | 
| Dr Hughes | Gynna', pan oedd hi yma, ydych chi'n ei feddwl? | 
| Morris | Ie, yn ei hymddygiad ata' i. Ddar'u rhywbeth eich taro chi? | 
| Dr Hughes | (Yn gwenu.) Wel, rhaid cyfadde', fedrai dyn ddim llai na sylwi bod eich gwraig... hm... | 
| Morris | Wel? | 
| Dr Hughes | Nad ydy'r wraig ddim yn rhyw hoff iawn o Miss Parry. | 
| Morris | Ai dyna'r cwbwl? Rydw i wedi sylwi ar hynny fy hun. | 
| Dr Hughes | A rhaid i mi dd'eud, 'dydy hynny'n synnu dim arna' i. | 
| Morris | Be'? | 
| Dr Hughes | Nad ydy hi'n hollol fodlon eich bod chi'n gweld cymaint ar ddynes arall drwy'r dydd a phob dydd. | 
| Morris | Nâc ydy siŵr. Rydych chi'n iawn ynglŷn â hynny ddyliwn, a Gladys hefyd. Ond mae unrhyw newid yn amhosib. | 
| Dr Hughes | Allech chi ddim cyflogi clarc? Dyn felly? | 
| Morris | Rhywun rywun, fasai'n ei gynnig ei hun. Ddim diolch; wnâi hynny byth 'mo'r tro i mi. | 
| Dr Hughes | Ond os ydy'ch gwraig...? Meddyliwch am funud am y gwendid mae hi ynddo fo. Beth pe byddai hyn oll yn ormod iddi hi? | 
| Morris | Wel, bron na dd'wedwn i, 'does 'mo'r help. Rhaid i mi gadw Gwyneth Parry. Fedrai neb arall gymryd ei lle hi. | 
| Dr Hughes | Neb arall? | 
| Morris | (Yn gwta.) Na fedrai; neb. | 
| Dr Hughes | (Yn tynnu ei gadair yn nes.) Yn awr, gwrandewch arna' i Mr Morris annwyl. Ga' i ofyn cwestiwn i chi, rhyngon ni'n dau yn unig? | 
| Morris | Ar bob cyfri'. | 
| Dr Hughes | Mae gan ferched, ydych chi'n gweld, ryw reddfa' sensitif eithriadol ynglŷn â rhai petha'. | 
| Morris | Oes wir. Does dim gronyn o amheuaeth ynghylch hynny... ond... | 
| Dr Hughes | D'wedwch wrtha i rŵan, os na all eich gwraig ddiodde'r Gwyneth Parry 'ma. | 
| Morris | Ie. Be' wedyn? | 
| Dr Hughes | Oes ganddi hi ddim, oes ganddi hi ddim,... wel... y mymryn lleia' o reswm dros y drwglecio greddfol yma? | 
| Morris | (Yn edrych arno a chodi.) Oho! | 
| Dr Hughes | Rŵan peidiwch â digio... ond oes 'na ddim? | 
| Morris | (Yn gwta a phendant.) Nâc oes. | 
| Dr Hughes | Dim math o reswm? | 
| Morris | Dim byd ond ei natur ddrwgdybus hi ei hun. | 
| Dr Hughes | Rydw i'n gwybod i chi fod efo llawer o ferched yn eich oes. | 
| Morris | Do mi fûm i. | 
| Dr Hughes | A rhai ohonyn nhw wedi mynd â'ch bryd, hefyd? | 
| Morris | O do, 'nâ' i ddim gwadu. | 
| Dr Hughes | Ond ynglŷn â Miss Parry. Does dim byd felly yn ei hachos hi? | 
| Morris | Na, dim o gwbwl o'm hochor i. | 
| Dr Hughes | Ond o'i hochor hi? | 
| Morris | Dydw i ddim yn meddwl bod gennych chi hawl i ofyn y cwestiwn yna, Doctor. | 
| Dr Hughes | Am yr hyn a elwir yn sythwelediad neu reddf eich gwraig yr oedden ni'n sôn, mi gofiwch chi. | 
| Morris | Digon gwir. A chyn belled â hynny... (gostwng ei lais) mewn ffordd... dydy Gladys ddim ymhell iawn o'i lle efo'i greddf fel rydych chi'n galw'r peth. | 
| Dr Hughes | Aha. Dyna ni! | 
| Morris | (Eistedd i lawr.) Dr Hughes rydw i am dd'eud stori ryfedd wrthych chi os leciwch chi wrando ami hi. | 
| Dr Hughes | Mi fydda' i'n hoffi gwrando ar straeon rhyfedd. | 
| Morris | O'r gora' ynte'. Rydych chi'n cofio, mae'n siŵr, i mi gymryd Owen Meredith a'i fab i weithio i mi wedi i fusnes yr hen frawd fynd i'r gwellt. | 
| Dr Hughes | Ydw rydw i'n cofio rhywbeth am hynny. | 
| Morris | Mae'r ddau yma, mewn gwirionedd, yn ddynion clyfar. Mae gan bob un ohonyn nhw, allu, yn ei ffordd ei hun. Ond mi gymerodd y mab yn ei ben i addo priodi, a'r peth nesa', wrth gwrs, oedd ei fod o eisio priodi, a dechra' adeiladu ar ei ben ei hun. Fel 'na mae'r bobol ifainc yma i gyd. | 
| Dr Hughes | (Dan chwerthin.) Ie, on'd ydy o'n hen arferiad cas, yr hen awydd priodi 'ma? | 
| Morris | Yn hollol. Ond, wrth gwrs, roedd hynny yn d'rysu fy nghynllunia' i. Achos roedd arna' i eisio Elwyn fy hun a'r hen ŵr hefyd. Mae o'n dda ofnadwy efo mathemateg, clandro straen pwysa' ac ati. | 
| Dr Hughes | Ie, mae hynny'n bwysig iawn, mae'n sicir. | 
| Morris | Yn bendant. Ond roedd Elwyn yn benderfynol o ddechra' gweithio iddo'i hun. 'Doedd wiw sôn am ddim arall. | 
| Dr Hughes | Ond mae o wedi aros efo chi er hynny. | 
| Morris | Ydy. Mi dd'weda' i wrthych chi sut y digwyddodd hynny. Ryw ddiwrnod, mi ddaeth yr hogan ma, Gwyneth Parry, i'w gweld nhw ar ryw neges neu'i gilydd. 'Doedd hi erioed wedi bod yma cyn hynny. A phan welais i gymaint yr oedd y ddau wedi gwirioni am ei gilydd, mi drawodd arna' i; petawn i ddim ond yn medru ei chael hi i'r swyddfa yma, yna efallai y b'asai Elwyn yn aros hefyd. | 
| Dr Hughes | Syniad campus. | 
| Morris | Ie, ond ar y pryd, ddwedais i ddim gair o'r hyn oedd ar fy meddwl i. Wnes i ddim byd ond aros ac edrych arni hi a dal i feddwl yn galed mor braf fyddai ei chael hi yma. Yna siarad dipyn efo hi yn gyfeillgar... ynghylch hyn a'r llall. Wedyn mi aeth. | 
| Dr Hughes | O, ac wedi hynny? | 
| Morris | Wel, ynte', y diwrnod wedyn, yn hwyr gyda'r nos wedi i'r hen Feredith ac Elwyn fynd adre dyma hi yma'r eilwaith gan ymddwyn fel petawn i wedi g'neud rhyw drefniant efo hi. | 
| Dr Hughes | Trefniant, ynghylch be'? | 
| Morris | Ynghylch yr union beth yr oeddwn i wedi bod yn meddwl amdano fo. Ond 'doeddwn i ddim wedi sôn gair am y peth. | 
| Dr Hughes | Roedd hynny'n od iawn. | 
| Morris | Oedd. On'd oedd o? A wedyn roedd hi eisio gwybod beth oedd hi i'w 'neud yma, a fyddai hi'n iawn iddi hi ddechra'r bore wedyn ac ati. | 
| Dr Hughes | Ydych chi ddim yn meddwl mai er mwyn bod efo'i chariad y gwnaeth hi hynny? | 
| Morris | Dyna ddaeth i'm meddwl inna' i gychwyn. Ond nid dyna oedd. Roedd hi i'w gweld yn llithro i ffwrdd yn llwyr oddi wrtho fo unwaith y daeth hi yma ata' i. | 
| Dr Hughes | Mi lithrodd hi tuag atoch chi ynte'. | 
| Morris | Do'n gyfangwbwl. Os digwydd imi edrych ami hi pan fydd hi a'i chefn ata' i mi fedra' i dd'eud ei bod hi'n synhwyro hynny. Mi fydd yn crynu ac yn cynhyrfu y munud y bydda' i'n mynd yn agos ati hi. Be' 'ddyliech chi o hyn 'na? | 
| Dr Hughes | Hm. 'Dydy hynny ddim yn anodd iawn ei egluro. | 
| Morris | Ond be' am y peth arall? Ei bod hi'n credu 'mod i wedi d'eud wrthi yr hyn na wnes i ddim ond ei ddymuno a'i ewyllysio ynof fi fy hun; yn ddistaw oddi fewn. Fedrwch chi egluro hyn 'na Doctor Hughes? | 
| Dr Hughes | Na, cheisia' i ddim g'neud hynny. | 
| Morris | Roeddwn i'n siŵr na 'naech chi ddim; dyna pam yr ydw i wedi bod yn anfodlon siarad am y peth o'r blaen. Ond yn y pen draw, mae o'r teimlad annifyrra dan haul i mi. Dyma fi'n gorfod dal ati i gymryd arnaf bob dydd... A mae o'n bechod trin yr hogan fel 'na, druan ohoni. (Gydag angerdd.) Ond fedra' i 'neud dim arall. Achos os rhed hi i ffwrdd yna bydd Elwyn yn mynd hefyd. | 
| Dr Hughes | Dydych chi ddim wedi d'eud y stori'n iawn wrth eich gwraig? | 
| Morris | Naddo. | 
| Dr Hughes | Pam ar y ddaear na newch chi ynte'? | 
| Morris | Oherwydd 'mod i fel petawn i'n cael rhyw bleser wrth adael i Gladys 'neud cam efo mi. | 
| Dr Hughes | 'Wn i yn y byd be' ydych chi'n ei feddwl. | 
| Morris | Mae o fel talu'n ôl rhyw gyfran fach, g'neud iawn am ryw ddyled ofnadwy o fawr. | 
| Dr Hughes | I'ch gwraig? | 
| Morris | Ie. A mae hynny bob amser yn help i dawelu dipyn ar feddwl dyn. Mae rhywun yn cael ei wynt ato am ysbaid, ydych chi'n gweld? | 
| Dr Hughes | Nâc ydw. Y nefoedd a ŵyr. Dydw i ddim yn gweld o gwbwl... | 
| Morris | (Yn rhoi'r gorau i'r testun a chodi eto.) Wel, wel, wel. Soniwn ni ddim mwy am y peth ynte'. | 
| Cerdda'n hamddenol ar draws y stafell; daw yn ôl, ac aros wrth y bwrdd.  Mae'n edrych ar y meddyg gyda gwên slei. | |
| Morris | Rydych chi'n meddwl eich bod chi wedi fy nhynnu i allan reit ddel, debyg gen i Doctor? | 
| Dr Hughes | (Yn dechrau mynd yn bigog.) Eich tynnu chi allan? Unwaith eto rydw i yn y niwl Mr Morris. | 
| Morris | Dowch. Allan â hi, achos rydw i'n ei gweld hi fel haul, wyddoch chi. | 
| Dr Hughes | Be' ydych chi'n ei weld? | 
| Morris | (Yn araf mewn llais isel.) Eich bod chi wedi bod yn cadw llygad arna' i'n slei. | 
| Dr Hughes | Fy mod i? A pham ar y ddaear y g'nawn i hynny? | 
| Morris | Am eich bod chi'n meddwl 'mod i... (Gydag angerdd.) Wel twt, dam, rydych chi'n meddwl yr un peth â Gladys amdana' i. | 
| Dr Hughes | A be' mae hi'n ei feddwl amdanoch chi? | 
| Morris | (Wedi ei adfeddiannu ei hun.) Mae hi wedi dechra' meddwl 'mod i'n, 'mod i'n... sâl. | 
| Dr Hughes | Yn sâl? Chi? Ddar'u hi erioed gymaint ag awgrymu'r fath beth wrtha i. Be' all fod o'i le arnoch chi, gyfaill annwyl? | 
| Morris | (Gan blygu dros gefn y gadair a sibrwd.) Mae Gladys wedi dod i'r penderfyniad 'mod i wedi d'rysu. Dyna be' mae hi'n ei feddwl. | 
| Dr Hughes | (Yn codi.) O, chwarae teg Isaac Morris annwyl... | 
| Morris | Ydy ar fy ngwir. Fel 'na mae petha', coeliwch chi fí. A mae hi wedi medru'ch perswadio chitha' i gredu'r un peth; yn bendifadda' Doctor. Rydw i'n ei weld o ar eich gwyneb chi mor glir â dim. Fedrwch chi 'mo 'nhwyllo i mor hawdd, cofiwch. | 
| Dr Hughes | (Yn edrych arno mewn syndod.) Isaac Morris, wnes i erioed ddychmygu'r fath beth. | 
| Morris | (Gyda gwên i ddangos nad yw'n coelio.) Ddar'u chi ddim? O ddifri? | 
| Dr Hughes | Naddo erioed. A 'naeth eich gwraig ddim chwaith rydw i'n berffaith siŵr. Mi awn ar fy llw. | 
| Morris | Chynghorwn i mohonoch chi i 'neud hynny. Ydych chi'n gweld, efallai nad ydy hi ymhell iawn o'i lle yn meddwl peth felly. | 
| Dr Hughes | Dowch rŵan. Mae'n rhaid i mi dd'eud... | 
| Morris | (Ar ei draws gan chwifìo'i law.) Wel, wel Doctor annwyl, rhaid i ni roi'r gora' i siarad am y peth. Waeth i ni gytuno i anghytuno. (Newidia ei dôn i un Ion ond tawel.) Ond edrychwch yma rŵan Doctor; hm... | 
| Dr Hughes | Wel? | 
| Morris | Gan nad ydych chi'n meddwl 'mod i'n sâl nâc o 'ngho nâc wedi d'rysu ac yn y blaen... | 
| Dr Hughes | Be' wedyn? | 
| Morris | Rydych chi'n cario'r syniad 'mod i'n ddyn hapus ryfeddol debyg geni? | 
| Dr Hughes | Nid camsyniad ydy hynny siŵr? | 
| Morris | (Yn chwerthin.) Nâc e, wrth gwrs. Gwared y gwirion, meddyliwch am funud. Isaac Ryan Morris, adeiladwr a datblygwr pwysica'r ardaloedd yma. Mae gen i le mawr i fod yn ddiolchgar. | 
| Dr Hughes | Yn hollol. I bob golwg rydych chi wedi bod yn ffodus tu hwnt, rhaid i mi dd'eud. | 
| Morris | (Gan guddio gwên brudd.) Ffodus, o do. 'Does gen i ddim lle i gwyno am hynny. | 
| Dr Hughes | Yn y lle cynta' mi losgwyd yr hen hongo o dŷ mawr yna oedd gennych chi. Roedd hynny'n siŵr o fod yn ddigwyddiad lwcus iawn i chi. | 
| Morris | Cartre' teulu Gladys oedd o er hynny, cofiwch. | 
| Dr Hughes | Roedd o'n loes mawr iddi hi, siŵr o fod. | 
| Morris | 'Dydy hi byth wedi dod drosto fo, ers deuddeng mlynedd neu dair ar ddeg. | 
| Dr Hughes | Ie ond mae'n rhaid mai'r hyn a ddigwyddodd wedyn roddodd yr ergyd fwya' iddi hi. | 
| Morris | Y ddau beth efo'i gilydd. | 
| Dr Hughes | Ond o'r adfeilion hynny y dar'u chi godi. Mi ddechreusoch chi yn hogyn tlawd mewn pentref gwledig ond erbyn heddiw chi ydy prif adeiladwr y lle yma. Ydy wir, mae ffawd wedi bod o'ch plaid chi, yn ddi-os. | 
| Morris | (Yn edrych yn amheus arno.) Ydy, ond dyna'r union beth sy'n peri cymaint o ofn i mi. | 
| Dr Hughes | Ofn? Am fod ffawd o'ch plaid chi? | 
| Morris | Mae'n ddychryn i mi, yn ddychryn i mi bob awr o'r dydd. Achos, yn hwyr neu'n hwyrach mi fydd fy lwc i'n troi, welwch chi. | 
| Dr Hughes | Twt lol. Be' allai beri i'ch lwc chi droi? | 
| Morris | (Yn gryf a sicr.) Y genhedlaeth newydd! | 
| Dr Hughes | Y genhedlaeth newydd, twt. 'Dydych chi ddim yn mynd i lawr yr allt eisoes gobeithio. Na, mae eich safle chi yma yn gadarnach nag y bu hi erioed, siŵr o fod. | 
| Morris | Bydd fy lwc yn troi. Rydw i'n gwybod hynny. Mi glywa' i'r diwrnod yn dod yn nes. Mi ddaw i feddwl rhywun neu'i gilydd i dd'eud: "Rhowch gyfle i mi," a wedyn bydd y lleill i gyd yn rhuthro ar ei ôl, yn crochlefain ac yn ysgwyd eu dyrna' a gweiddi arna' i "G'newch le, g'newch le, gnewch le!" Bydd, gewch chi weld Doctor. Yn fuan mi fydd y to ifanc yn dod i gnocio ar fy nrws i... | 
| Dr Hughes | (Yn chwerthin.) Wel diar annwyl, os dôn nhw? | 
| Morris | Pan ddôn nhw, dyna ddiwedd Isaac Ryan Morris, yr adeiladwr wedyn. (Clywir cnoc ar y drws chwith; mae'n cynhyrfu.) Be' oedd na? Glywsoch chi ddim byd? | 
| Dr Hughes | Mae rhywun yn curo. | 
| Morris | (Yn uchel.) Dowch i mewn. | 
| Daw Helen O 'Reilly i mewn drwy ddrws y cyntedd.  Geneth o daldra canolig, yn denau ac ystwyth a lliw haul arni.  Mae'n gwisgo dillad dringo yn cynnwys trowsus bach neu jeans.  Hwyrach y byddai gwisg uchaf o liw coch yn taro'n dda ac y mae ganddi ffon ddringo a rucksack.  Mae hi'n mynd ar ei hunion at Morris a'i llygaid yn ddisglair gan lawenydd. | |
| Helen | Hiya. Long time no see. Sut ydych chi? | 
| Morris | (Yn edrych yn amheus arni.) Sut ydych chi? | 
| Helen | (Gan chwerthin.) 'Dydych chi erioed wedi colli nabod arna' i? | 
| Morris | Ydw, rhaid i mi gyfadde'... am funud... | 
| Dr Hughes | (Yn dod yn nes.) Ond rydw i'n eich cofio chi, 'ngeneth annwyl i. | 
| Helen | (Yn falch.) O, chi oedd yn... | 
| Dr Hughes | Ie, wrth gwrs. (Wrth Morris.) Mi ddar'u ni gyfarfod mewn gwesty yn y mynyddoedd yr ha' d'waetha'. Be' ddaeth o'r merched eraill? | 
| Helen | O, mi aethon nhw draw tua'r gorllewin. | 
| Dr Hughes | Roedden nhw'n ddig braidd ein bod ni'n cael cymaint o hwyl gyda'r nosa'... | 
| Helen | Oedden, 'dw i'n meddwl. | 
| Dr Hughes | (Gan godi ac ysgwyd ei fys.) A 'does dim gwadu na ddar'u chi fflyrtio dipyn bach efo ni. | 
| Helen | Wel, roedd hynny'n fwy o hwyl nag eiste' yno'n yfed te efo'r hen wragedd rheini. | 
| Dr Hughes | (Yn chwerthin.) Cytuno'n hollol. | 
| Morris | Heno y daethoch chi i'r dre 'ma? | 
| Helen | Ie, newydd gyrraedd. | 
| Dr Hughes | Ar eich pen eich hun bach, Miss O'Reilly? | 
| Helen | Siwr iawn. | 
| Morris | O'Reilly, O'Reilly ydy'ch enw chi? | 
| Helen | (Yn edrych arno gyda syndod direidus.) le, wrth gwrs. | 
| Morris | Rhaid mai merch y doctor draw ym Mryn Padarn ydych chi felly? | 
| Helen | (Fel o'r blaen.) le, merch pwy arall allwn i fod? | 
| Morris | O wel. Rhaid ein bod ni wedi cyfarfod pan oeddwn i yno yn codi tŵr ar yr hen eglwys. | 
| Helen | (Yn fwy o ddifri.) le wrth gwrs, yr adeg honno oedd hi. | 
| Morris | Wel, mae dipyn go lew o amser ers hynny. | 
| Helen | (Yn edrych arno'n galed.) Deng mlynedd union yn ôl oedd hi. | 
| Morris | Rhaid nad oeddech chi ond plentyn bach yr adeg honno f'aswn i'n meddwil. | 
| Helen | (Ffwrdd â hi.) Dim mor fach. Roeddwn i'n un deg tair. | 
| Dr Hughes | Dyma'r tro cynta' i chi ddod i'r dre', Miss O'Reilly? | 
| Helen | Yep. | 
| Morris | Dydych chi'n nabod neb yma chwaith? | 
| Helen | Neb ond chi. A'ch gwraig wrth gwrs. | 
| Morris | O, rydych chi'n ei nabod hitha' felly? | 
| Helen | Ddim yn dda iawn. Ddar'u ni dreulio 'chydig ddiwrnodia' efo'n gilydd pan oedd hi yn y mynyddoedd er mwyn ei hiechyd. | 
| Morris | O, i fyny yno. | 
| Helen | Mi ddwedodd hi wrtha i am alw os byth y down i i'r dre. (Yn gwenu.) Nid na f'aswn i wedi dod 'run fath, cofiwch. | 
| Morris | Rhyfedd na f'asai hi wedi sôn. | 
| Helen yn rhoi ei ffon wrth y Ile tan, yn tynnu ei rucksack a'i roi ar y soffa.  Cynigia Dr Hughes ei helpu.  Saif Morris a syllu arni.  Mae hi'n mynd ato. | |
| Helen | Wel rŵan rhaid i mi ofyn i chi. Ga' i aros yma dros nos, os gwelwch chi'n dda? | 
| Morris | Mi fedrwn ni drefnu hynny rydw i'n siŵr. | 
| Helen | Diolch yn fawr. Does gen i ddim Ilawer o ddillad eraill heblaw'r rhai sy' amdana i, ar wahan i ddillad isa sbar a mae'r rheini eisio'u golchi. Mae nhw'n fudron iawn. | 
| Morris | O mi ofalwn ni am hynny. Rŵan mi a' i i dd'eud wrth fy ngwraig. | 
| Dr Hughes | Yn y cyfamser mi a' 'inna' i weld un o'r cleifion. | 
| Morris | le, dyna chi. A dowch yn eich ôl wedyn. | 
| Dr Hughes | (Yn chwareus, gyda chipolwg ar Helen.) O mi 'na' i hynny gellwch fod yn berffaith siŵr. (Yn chwerthin.) Mae'r hyn oeddech chi'n ei broffwydo wedi dod yn wir Mr Morris. | 
| Morris | Sut felly? | 
| Dr Hughes | Mae'r to ifanc wedi dod i guro ar eich drws chi. | 
| Morris | (Yn siriol.) Do. Ond mewn ffordd wahanol iawn i'r un oedd gen i mewn golwg. | 
| Dr Hughes | Ie, gwahanol iawn. Does dim gwadu hynny. | 
| Mae 'n mynd allan drwy ddrws y cyntedd.  Morris yn agor y drws ar y dde a siarad i mewn i'r stafell nesaf. | |
| Morris | Gladys, dowch yma os gwelwch chi'n dda. Dyma ffrind i chi, Miss O'Reilly. | 
| Mrs Morris | (Yn ymddangos yn y drws.) Pwy ydych chi'n dd'eud sy' 'na? (Yn gweld Helen.) O, chi sy' 'na Miss O'Reilly? (Yn mynd ati a chynnig ei llaw.) Mi ddaethoch i'r dre wedi'r cwbwl. | 
| Morris | Newydd gyrraedd mae Miss O'Reilly. Mi f'asai hi'n hoffi aros noson yma. | 
| Mrs Morris | Yma, efo ni? Cewch â chroeso. | 
| Morris | Iddi gael dipyn o drefn ar ei phetha', ydych chi'n gweld. | 
| Mrs Morris | Mi 'na' i fy ngora' i chi. 'Dydy o ddim ond fy nyletswydd i. Bydd eich cesus chi'n cyrraedd cyn bo hir, debyg? | 
| Helen | Does gen i ddim luggage. | 
| Mrs Morris | Wel, bydd popeth yn iawn mae'n siŵr. Esgusodwch fi yn eich gadael chi yma efo'r gŵr am dipyn, tra bydda' i'n paratoi stafell i chi. | 
| Morris | Fedrwn ni ddim rhoi un o stafelloedd y plant iddi hi? Mae'r rheini yn barod eisoes. | 
| Mrs Morris | O ie. Mae yna ddigon o le yn y fan honno. (Wrth Helen.) Eisteddwch rŵan a gorffwys dipyn. (Yn mynd allan i'r dde.) | 
| Helen yn mynd o gwmpas y stafell yn hamddenol a'i dwylo tu ôl gan edrych ar wahanol bethau.  Saif Morris wrth y bwrdd, yntau â'i ddwylo tu ôl, yn ei dilyn a'i lygaid.) | |
| Helen | (Yn aros ac edrych ar Morris.) Oes gennych chi lawer o stafelloedd plant? | 
| Morris | Mae yma dair yn y tŷ yma. | 
| Helen | Ew! mae hynny'n Ilawer. Mae gennych chi lawer iawn o blant felly, debyg. | 
| Morris | Na 'does yma'r un plentyn. Ond rŵan mi gewch chi fod yn blentyn yma am dipyn. | 
| Helen | Am heno. OK. Wna i ddim crio. Mi gysga' i fel top. | 
| Morris | Ie, rydych chi wedi blino'n arw reit siŵr. | 
| Helen | O naddo. Ond p'run bynnag mae hi'n braf ofnadwy; gorwedd a breuddwydio. | 
| Morris | Fyddwch chi'n breuddwydio'n aml yn y nos? | 
| Helen | O byddaf, bron bob amser. | 
| Morris | Am be' y byddwch chi'n breuddwydio amla'? | 
| Helen | 'Dydw i ddim yn mynd i dd'eud heno. Rywdro eto hwyrach. (Yn mynd o gwmpas y stafell eto, yn aros wrth y ddesg, troi papurau drosodd a chyffwrdd y cyfrifiadur.) | 
| Morris | (Yn dynesu.) Ydych chi'n chwilio am rywbeth? | 
| Helen | Na, dim ond sbio ar yr holl betha' 'ma. (Yn troi.) Hwyrach na ddylwn i ddim? | 
| Morris | Twt, twt. G'newch ar bob cyfri. | 
| Helen | Chi fydd yn gweithio ar y cyfrifiadur 'ma? | 
| Morris | Nac e. F'ysgrifenyddes i. | 
| Helen | Merch felly? | 
| Morris | (Yn gwenu.) Wrth gwrs. | 
| Helen | Un o staff yr offis 'ma, ie? | 
| Morris | Ie. | 
| Helen | Ydy hi wedi priodi? | 
| Morris | Na, sengal ydy hi. | 
| Helen | Wela i. | 
| Morris | Ond mae hi'n mynd i briodi reit fuan, rydw i'n meddwl. | 
| Helen | Neis iawn iddi hi. | 
| Morris | Ond fydd hynny ddim yn braf i mi achos fydd gen i neb i f'helpu i wedyn. | 
| Helen | Fedrwch chi ddim cael rhywun arall cystal â hi? | 
| Morris | Hwyrach y b'asech chi yn aros yma fel ysgrifenyddes? | 
| Helen | (Yn edrych yn ddirmygus arno.) No way. Dim byd fel 'na i mi, (Yn mynd eto ar draws y stafell ac yn eistedd yn y gadair siglo. Morris hefyd yn symud at y bwrdd.) achos mae'n rhaid bod 'na ddigon o betha' heblaw hynny i'w g'neud yma. Cytuno? (Gan wenu.) | 
| Morris | Siŵr iawn. Yn gynta' peth mi fyddwch eisio mynd rownd y siopa' i brynu dillad newydd debyg? | 
| Helen | (Yn llon.) Na, mi gaiff hynny ddisgwyl, 'dw i'n meddwl. | 
| Morris | O, felly wir. | 
| Helen | 'Does gen i 'run geiniog ar ôl, ydych chi'n gweld. | 
| Morris | (Yn chwerthin.) Na chesus na phres felly! | 
| Helen | 'Run o'r ddau ond hidiwch befo; dim dam ots am hynny rŵan. | 
| Morris | Wel dyna hogan. Rydw i'n hoffi hyn'na ynoch chi. | 
| Helen | Hyn 'na'n unig? | 
| Morris | Hyn 'na ymhlith petha' eraill. (Mae'n eistedd yn y gadair freichiau.) Ydy'ch tad yn dal yn fyw? | 
| Helen | Ydy, mae o'n fyw. | 
| Morris | Rydych chi'n meddwl astudio yma hwyrach? | 
| Helen | Na, feddyliais i ddim am hynny. | 
| Morris | Ond mi fyddwch yn aros am dipyn? | 
| Helen | Dibynnu. (Mae'n eistedd a'i siglo ei hun gan edrych arno yn hanner difrif ond gyda hanner gwén; yn tynnu ei chap a'i roi ar y bwrdd o'i blaen.) Mr Morris? | 
| Morris | Wel? | 
| Helen | Ydy'ch co' chi'n ddrwg iawn? | 
| Morris | Fy ngho' i'n ddrwg. Ddim hyd y gwn i. | 
| Helen | Does gennych chi ddim byd i'w dd'eud wrtha i am yr hyna ddigwyddodd i fyny yna? | 
| Morris | (Wedi'i synnu am eiliad.) I fyny ym Mryn Padarn yna? (Yn ddidaro.) 'Doedd yno ddim byd o bwys hyd y gwn i. | 
| Helen | (Yn edrych yn flin.) Sut y medrwch chi eistedd i lawr a d'eud y fath beth? Mormis Wel, d'wedwch chi wrtha i am y Ile ynte'. Pan orffennwyd y tŵr mi gawson ni lawer o hwyl yn dathlu yn y dre. | 
| Morris | O do. Anghofia' i 'mo'r diwrnod hwnnw'n hawdd. | 
| Helen | (Yn gwenu.) Na 'newch? 'Dydych chi ddim mor ddrwg felly, yr hen gariad. | 
| Morris | Drwg? | 
| Helen | Roedd 'na ganu yn y fynwent, a channoedd lawer o bobol. Roedden ni'r genod ysgol mewn gwyn a roedden ni i gyd yn cario fflagia'. | 
| Morris | A! Ie, y baneri rheini. Rydw i'n cofio'r rheini, mi ellwch fentro. | 
| Helen | Wedyn mi ddar'u chi ddringo i fyny'r scaffold yn syth i ben ucha'r tŵr. Roedd gennych chi wreath fawr o floda' a mi rhoisoch chi hi i hongian reit ar ben y ceiliog gwynt. | 
| Morris | (Yn torri ar ei thraws yn gwta.) Roeddwn i'n g'neud hynny bob amser ers talwm; mae o'n hen arferiad. | 
| Helen | Roedd o'n exciting iawn i fod yn y gwaelod yn edrych i fyny arnoch chi. Dim ond meddwl... beth 'tai o'n disgyn, fo, y prif adeiladwr ei hun! | 
| Morris | (I'w harwain oddi wrth y testun.) Ie, ie, ie. Mi allai hynny fod wedi digwydd yn hawdd achos roedd yno un g'nawes bach, yn ei ffrog wen, yn mynd trwy'i phetha'n ofnadwy, ac yn sgrechian cymaint ama' i... | 
| Helen | (Ei llygaid disglair yn dangos ei llawenydd.) Hwre i Mr Isaac Ryan Morris. Hwre i'r adeiladwr dewr! Ie? | 
| Morris | A roedd hi'n codi'i law a chwifio'i baner gymaint nes yr oeddwn i'n teimlo dipyn o bendro wrth edrych arni hi. | 
| Helen | (Yn isel ac o ddifrif.) Y g'nawes bach,... fi oedd honno. | 
| Morris | (Yn sefydlu ei olwg arni.) Rydw i'n siŵr o hynny rŵan. Mae'n rhaid mai chi oedd hi. | 
| Helen | (Yn llawn bywyd eto.) O, roedd hi mor wefreiddiol o braf. F'aswn i ddim wedi coelio bod yna adeiladwr yn y byd i gyd f'asai wedi gallu codi twr mor ofnadwy o uchel. A wedyn, i feddwl y b'asech chi'ch hun yn sefyll ar ben y tŵr yn gadarn. A dim arwydd o bendro arnoch chi. Roeddwn i'n teimlo'n reit wan wrth sbio. | 
| Morris | Sut roeddech chi'n medru bod mor siŵr nad oedd arna i...? | 
| Helen | (Yn wfftio'r syniad.) Nâc oedd wir. O, nâc oedd. Roedd rhywbeth yn d'eud wrtha i; petai arnoch chi bendro, f'asech chi byth wedi gallu sefyll yno a chanu. | 
| Morris | (Mewn syndod.) Canu? Wnes i ganu? | 
| Helen | Do, mi f'aswn i'n meddwl wir. | 
| Morris | (Yn ysgwyd ei ben.) Chanais i erioed nodyn yn fy mywyd. | 
| Helen | Do wir. Mi ddar'u chi ganu'r adeg honno. Roedd o'n swnio fel telyna' yn yr awyr. Mortis (Yn feddylgar.) Mae hyn i gyd yn rhyfedd iawn. (Yn ddistaw am funud, yn edrych arno a dweud mewn Ilais isel.) Ond wedyn, wedyn y digwyddodd y peth mawr. | 
| Morris | Y peth mawr? | 
| Helen | (Yn llawn asbri a'i llygaid yn ddisglair.) Ie, 'does dim rhaid i mi'ch atgoffa chi o hynny, siawns. | 
| Morris | Oes wir. D'wedwch ychydig bach i'm hatgoffa i o hynny hefyd. | 
| Helen | Ydych chi ddim yn cofio bod cinio mawr yn y neuadd i'ch anrhydeddu chi? | 
| Morris | Ydw. Rhaid mai'r un pnawn oedd hi, achos mi es i odd'no'r bore wedyn. | 
| Helen | Ac ar ôl hynny mi gawsoch chi wadd i'n tŷ ni i swper. | 
| Morris | Rydych chi'n iawn Miss O'Reilly. Mae'n syndod gymaint o argraff y mae'r manion yma wedi'i 'neud arnoch chi. | 
| Helen | Manion! Wel dyna i ni. Peth bychan hefyd oedd fy mod i ar fy mhen fy hun pan ddaethoch chi i mewn debyg? | 
| Morris | Oeddech chi ar eich pen eich hun? | 
| Helen | (Heb ateb.) Nid hen g'nawes bach ddar'u chi 'ngalw i yr adeg honno. | 
| Morris | Nac e debyg. | 
| Helen | Mi dd'wedsoch 'mod i'n ddel iawn yn fy ffrog wen a 'mod i'n edrych fel tywysoges fach. | 
| Morris | 'Dydw i ddim yn ama' nad oeddech chi, Miss O'Reilly. A pheth arall, roeddwn i'n teimlo mor rhydd a llon y diwrnod hwnnw. | 
| Helen | Wedyn dyma chi'n d'eud y cawn i fod yn dywysoges i chi wedi i mi dyfu. | 
| Morris | (Yn chwerthin.) Bobol annwyl. Dd'wedais i hynny hefyd? | 
| Helen | Do, mi ddar'u chi. A phan ofynnais i pa mor hir y byddai raid i mi ddisgwyl, dyma chi'n d'eud y b'asech chi'n dod eto ymhen deng mlynedd,... fel dewin, a mynd â fi dros y môr i rywle. A mi ddar'u chi addo prynu teyrnas i mi yno. | 
| Morris | (Fel o'r blaen.) le, wel. Ar ôl cinio da, fydd dyn ddim yn dadla' ynghylch rhyw geiniog neu ddwy. Ond, ddar'u i mi dd'eud hyn 'na i gyd, o ddifri'? | 
| Helen | (Yn chwerthin ynddi'i hun.) Do, a mi ddar'u chi dd'eud hefyd be' fyddai enw'r deyrnas. | 
| Morris | Wel, be' oedd o? | 
| Helen | Teyrnas y Cymyla' fyddai ei henw hi, meddech chi. | 
| Morris | Enw hyfryd iawn wir. | 
| Helen | Na 'doeddwn i'n lecio dim arno fo; roedd o fel 'tâech chi'n g'neud sbort am fy mhen i. | 
| Morris | Rydw i'n siwr nad hynny oedd fy mwriad i. | 
| Helen | Nac e gobeithio, a chofio be' ddar'u chi wedyn... | 
| Morris | Be' ar y ddaear wnes i wedyn? | 
| Helen | Wel, dyna'r ora' eto. Os ydych chi wedi anghofio hynny hefyd. Mi f'aswn i'n disgwyl na allai neb lai na chofio peth felly. | 
| Morris | Ol reit. Rhowch ryw awgrym bach i mi, a wedyn, efallai.... Wel? | 
| Helen | (Yn dal i edrych arno.) Mi ddar'u chi 'nghusanu fi Mr Morris. | 
| Morris | (A i geg yn agored; yn codi o'i gadair.) Wnes i? | 
| Helen | Do wir, mi ddar'u chi. Mi roesoch chi'ch breichia' amdana i a phlygu 'mhen i'n ôl a 'nghusanu fi,... lawer gwaith. | 
| Morris | Rŵan, mewn difri', Miss O'Reilly... | 
| Helen | (Yn codi.) 'Dydych chi erioed yn mynd i wadu? | 
| Morris | Ydw. Rydw i'n gwadu'r cwbwl. | 
| Helen | (Yn edrych yn ddirmygus arno.) O felly wir. | 
| Yn troi a mynd yn araf at y lle tan b'le mae hi'n sefyll yn llonydd hollol, ei hwyneb wedi'i droi oddi wrtho, ei dwylo'r tu ôl.  Saib fer. | |
| Morris | (Yn mynd ati hi o'r tu ôl yn ofalus.) Miss O'Reilly... | 
| Helen yn ddistaw heb symud. | |
| Morris | Peidiwch â sefyll fel delw yn fan 'na. Rhaid eich bod chi wedi breuddwydio'r cwbwl. (Rhoi ei law ar ei braich.) Rŵan, gwrandewch. | 
| (Helen yn gwneud symudiad diamynedd efo'i braich.) | |
| Morris | (Mae rhywbeth yn gwawrio arno.) Neu...! 'Rhoswch am funud. Ma 'na rywbeth wrth wraidd hyn i gyd, mi ellwch fentro. | 
| Helen yn aros yn llonydd. | |
| Morris | (Mewn Ilais isel ond â phwyslais.) Mae'n rhaid fy mod i wedi meddwl hyn 'na i gyd. Rhaid fy mod i wedi'i ddymuno fo, ei ewyllysio, wedi ysu am gael g'neud y petha' yma. Ac yna... Ai dyna ydy'r eglurhad, o bosib? | 
| Helen yn ddistaw o hyd.  Moris  (Yn ddiamynedd.)  O, o'r gora', yn enw'r annwyl.  Mi ddar'u mi ynte', mae'n siŵr. | |
| Helen | (Yn troi ei phen ychydig ond heb edrych arno.) Rydych chi'n cyfadde' rŵan ynte? | 
| Morris | Ydw, unrhyw beth leciwch chi. | 
| Helen | Roesoch chi'ch breichia' amdana' i? | 
| Morris | Do. | 
| Helen | A phlygu 'mhen i'n ôl? | 
| Morris | O, reit yn ôl. | 
| Helen | A nghusanu fi? | 
| Morris | Do, mi wnes i. | 
| Helen | Lawer gwaith? | 
| Morris | Gymaint o weithia' ag a fynnoch chi. | 
| Helen | (Yn troi ato'n sydyn a'r llawenydd yn disgleirio ar ei hwyneb eto.) Wel, mi lwyddais i i'ch cael chi i gyfadde' o'r diwedd, on'd do? Mornis (Gydag addewid o wên.) Do. I feddwl 'mod i wedi anghofio peth fel'na. (Yn Ilyncu mul eto braidd; yn mynd yn ôl oddi wrtho.) O rydych chi wedi cusanu cymaint o ferched yn eich dydd, debyg. | 
| Morris | Na, rhaid i chi beidio meddwl hynny amdana i. | 
| Helen yn eistedd yn y gdair freichiau.  Morris yn sefyll a phwyso yn erbyn y gadair siglo ac yn edrych arni'n daer. | |
| Morris | Miss O'Reilly? | 
| Helen | Ie? | 
| Morris | Be' ddigwyddodd? Be' ddaeth o hyn i gyd... rhyngon ni'n dau? | 
| Helen | Ddaeth yna ddim byd ohono fo. Mi wyddoch hynny'n iawn. Achos mi ddaeth y bobol eraill i mewn a wedyn,... bah. | 
| Morris | Do wrth gwrs, mi ddaeth y Ileill i mewn. Pwy f'asai'n meddwl y b'aswn i'n anghofio hynny hefyd. | 
| Helen | O, 'dydych chi ddim wedi anghofio dim byd mewn gwirionedd; dipyn o g'wilydd sydd arnoch chi, dyna'r cwbwl. Rydw i'n sicr nad ydy pobol ddim yn anghofio petha' fel'na. | 
| Morris | Na, dyna fasai rhywun yn ei feddwl. | 
| Helen | (Yn lawn asbri eto.) Hwyrach eich bod chi wedi anghofio pa ddiwrnod oedd hi, hyd yn oed? | 
| Morris | Pa ddiwrnod? | 
| Helen | Ie, pa ddiwrnod ddar'u chi osod y bloda' ar ben y tŵr... Pa ddiwmod? Come on. | 
| Morris | Hm. Rhaid i mi gyfaddef 'mod i wedi anghofio yr union ddiwrnod. Mi wn i mai deng mlynedd yn ôl oedd hi. Rywdro yn yr Hydref. | 
| Helen | (Yn nodio ei phen yn araf lawer gwaith.) le, deng mlynedd yn ôl oedd hi. A'r dyddiad, Medi un deg naw. | 
| Morris | Ie, mae'n rhaid mai tua'r adeg honno oedd hi. Pwy fuasai'n meddwl y b'asech chi'n cofio hynny hefyd. O!... (Yn aros.) Ond 'rhoswch am funud... Ie, y pedwerydd ar bymtheg o Fedi ydy hi heddiw. | 
| Helen | Ie, mae'r deng mlynedd ar ben. A ddaethoch chi ddim fel y dar'u chi addo i mi. | 
| Morris | Addo i chi? Bygwth ydych chi'n feddwl, debyg. | 
| Helen | 'Dydw i ddim yn meddwl bod 'na fygythiad o gwbwl yn hynny. | 
| Morris | Wel, dipyn o dynnu coes hwyrach? | 
| Helen | Dyna'r cwbwl oeddech chi eisio'i 'neud? Cael hwyl am fy mhen i? | 
| Morris | Neu gael jôc bach. 'Does gen i ddim co' ond, mewn difri, rhaid mai felly roedd hi i radda'. Wedi'r cwbwl, dim ond plentyn oeddech chi'r adeg honno. | 
| Helen | Ddim cweit. 'Doeddwn i ddim cymaint o blentyn ag yr ydych chi'n ei ddychmygu. | 
| Morris | (Yn edrych yn dreiddgar arni hi.) Oeddech chi o ddifri calon yn disgwyl y down i'n ôl? | 
| Helen | (Yn cuddio gwên led ddireidus.) Oeddwn wir; hynny o leia'. | 
| Morris | Dod yn ôl i'ch tŷ chi a mynd â chi i ffwrdd efo mi? | 
| Helen | Ie, 'run fath â stori dylwyth teg. | 
| Morris | A'ch g'neud chi'n dywysoges? | 
| Helen | Dyna ddar'u chi addo. | 
| Morris | A rhoi teyrnas i chi hefyd? | 
| Helen | (Yn edrych i fyny ar y nenfwd.) Pam lai? Wrth gwrs 'doedd dim thaid iddi hi fod yn deyrnas go iawn, un gyffredin fel rhyw deyrnas arall. | 
| Morris | Ond rhywbeth lawn cystal? | 
| Helen | O, gystal o leia'. (Yn edrych arno am eiliad.) Roeddwn i'n meddwil, os oeddech chi'n gallu codi'r tŵr ucha'n y byd, y byddech chi'n siŵr o allu g'neud teyrnas o ryw fath neu'i gilydd hefyd. | 
| Morris | Wn i ddim yn iawn b'le rydw i'n sefyll efo chi, Miss O'Reilly. | 
| Helen | Na wyddoch? Mae'r cyfan yn edrych reit hawdd i mi. | 
| Morris | Na, fedra' i ddim penderfynu ydych chi'n golygu popeth ydych chi'n ei dd'eud ynte' dim ond gyboli ydych chi. | 
| Helen | (Yn gwenu.) Tynnu coes hwyrach? Finna' hefyd? | 
| Morris | le, yn hollol. Yn chwara' castia'... ein dau. (Yn edrych arni.) Oeddech chi'n gwybod 'mod i'n briod? | 
| Helen | Roeddwn i'n gwybod hynny o'r dechra'. Pam rydych chi'n gofyn? | 
| Morris | O wel. Rŵan y trawodd o arna i. (Yn edrych yn ddifrifol arni a gofyn, mewn Ilais isel.) Pam y daethoch chi? | 
| Helen | Mae arna i eisio fy nheyrnas. Mae'r amser ar ben. | 
| Morris | (Yn chwerthin heb feddwl.) Wel, rydych chi'n goblyn o hogan! | 
| Helen | (Yn llon.) B'le mae 'nheynas i Mr Morris? (Yn tapio'i bysedd ar y bwrdd.) Y deyrnas ar y bwrdd. Come on. (Gwneud siap pistol gyda'i bys.) Deliver. | 
| Morris | (Yn gwthio'r gadair siglo'n nes ac yn eistedd.) Rŵan, a siarad o ddifri'; pam y daethoch chi? Be' sy' arnoch chi ei eisio yma mewn gwirionedd? | 
| Helen | Wel, i ddechra' mae gen i eisio mynd am dro i weld pob peth ydych chi wedi'i adeiladu. | 
| Morris | Dipyn o waith cerdded o'ch blaen chi felly. | 
| Helen | Oes. Mi wn i'ch bod chi wedi adeiladu peth wmbreth. | 
| Morris | Ydw wir, yn enwedig y blynyddoedd d'waetha yma. | 
| Helen | Llawer tŵr eglwys ymhlith petha' eraill? Rhai uchel, uchel? | 
| Morris | Na. Fydda' i ddim yn codi tyra' eglwysi erbyn hyn, nac eglwysi chwaith. | 
| Helen | Be' fyddwch chi'n ei adeiladu rŵan? | 
| Morris | Cartrefi i bobol. | 
| Helen | (Yn ystyried.) F'asech chi ddim yn gallu codi rhyw fymryn bach o dŵr ar rai o'r cartrefi hynny hefyd? Moris (Yn taflu golwg sydyn arni hi.) Am be' ydych chi'n meddwl rŵan? Rhywbeth yn pwyntio i fyny, i fyny i'r awyr agored, a cheiliog gwynt reit ar y copa. Moms (Yn pendronni.) Rhyfedd i chi dd'eud hyn 'na. Achos dyna'r union beth sydd arna' i eisio'i 'neud fwyaf. (Yn ddiamynedd.) Pam na 'newch chi un ynte'. | 
| Morris | (Yn ysgwyd ei ben.) Na. 'Does dim gofyn am betha' felly. | 
| Helen | Neb eisio un? Pwy f'asai'n meddwl? | 
| Morris | (Yn ysgafnach.) Ond rydw i'n g'neud tŷ newydd i mi fy hun, rŵan, dros y ffordd. | 
| Helen | Ar eich cyfer chi'ch hun? | 
| Morris | Ie, mae o bron wedi'i orffen. Ac y mae yna dŵr arno fo. | 
| Helen | Tŵr uchel? | 
| Morris | Ie. | 
| Helen | Uchel iawn? | 
| Morris | 'Does dim dwywaith na ddyfyd pobol ei fod o'n rhy uchel i dŷ. | 
| Helen | Mi a' i allan y peth cynta' bore 'fory i'w weld o. | 
| Morris | (Yn eistedd a'i law dan ei foch a syllu arni hi.) D'wedwch i mi, Miss O'Reilly, be' ydy eich enw chi, eich enw cynta' chi ydw i'n el feddwl? | 
| Helen | Ond Helen wrth gwrs. | 
| Morris | (Fel o'r blaen.) Helen? Ie wir? | 
| Helen | Ydych chi ddim yn cofio hynny? Helen ddar'u chi 'ngalw i y diwrnod hwnnw y buoch chi'n hogyn drwg. | 
| Morris | O, felly? | 
| Helen | Ond yr adeg honno, Helen bach ddar'u chi dd'eud a 'doedd hynny ddim yn plesio. | 
| Morris | O, oeddech chi ddim yn hoffi hynny, Miss Helen? | 
| Helen | Na. Nid ar adeg arbennig felly. Ond 'Y Dywysoges Helen'. Byddai hynny'n swnio'n dda iawn. | 
| Morris | Yn dda iawn wir, 'Y Dywysoges Helen'. O, ie, be' oedd enw'r deymas i fod? | 
| Helen | Twt lol, 'na i ddim byd a'r deyrnas wirion honno. Rydw i wedi rhoi 'mryd ar un wahanol iawn! | 
| Morris | (Wedi eistedd yn ôl yn y gadair; yn dal i syllu ar Helen.) On'd ydy o'n rhyfedd? Po fwya' y meddylia' i am y peth, tebyca'n y byd mae o'n edrych fel petawn i wedi bod yn poeni 'mhen ar hyd y blynyddoedd efo... hm... | 
| Helen | Efo be'? | 
| Morris | Efo rhyw ymdrech i adennill rhywbeth, rhyw brofiad yr oeddwn i'n meddwl ei fod 0owedi mynd yn ango'. Ond fu gen i erioed syniad be' fyddai o. | 
| Helen | Mi ddylech chi fod wedi rhoi cwlwm ar eich cadach poced Mr Morris, bach. | 
| Morris | A phendronni wedyn pam roedd o yna, mae'n debyg. | 
| Helen | Hm. Mae'n siwr bod 'na bobol bach neu dylwyth teg yn chwarae castia' felly yn y byd yma hefyd. | 
| Morris | (Yn codi'n araf.) Dyna beth da eich bod chi wedi dod ata' i rŵan. | 
| Helen | (Yn edrych i ddyfnder ei lygaid.) Ydy o'n beth da? | 
| Morris | Achos rydw i wedi bod mor unig yma. Rydw i wedi bod yn syllu mor ddiymadferth ar y cwbwl. (Mewn Ilais is.) Mi dd'weda' i wrthych chi. Ers sbel rydw i wedi dechra' ofni, ie, ofni'n arw lawn, y to ifanc. | 
| Helen | (Chwerthiniad bach gwawdlyd.) Pyh. Ydy'r bobol ifainc yn peri dychryn i chi? | 
| Morris | O, ydyn. Dyna pam yr ydw i wedi fy nghloi a'm bario fy hun i mewn. (Awgrym o ddirgelwch.) Ryw ddiwmod mi ddaw'r genhedlaeth ifanc a tharanu ar fy nrws i. Mi ruthran amdana' i. | 
| Helen | Eisio i chi fynd allan ac agor y drws i'r ifainc sydd, yn fy meddwl i. | 
| Morris | Agor y drws? | 
| Helen | Ie siŵr, gadael iddyn nhw ddod i mewn atoch chi, yn gyfeillgar. Moris Bobol bach, nac e. Wyddoch chi be' mae'r genhedlaeth ifanc yn ei gynrychioli? Cosb, talu'n ôl. Mae nhw'n dod o dan faner newydd, yn argoel bod fy Iwc i'n dod i ben. (Yn codi, edrych arno a dweud, gyda chryndod nerfus ar ei gwefus.) Alla' i fod o unrhyw help ichi Mr Morris? | 
| Morris | Medrwch wir. Achos rydych chitha'n martsio dan faner newydd. Yr ifanc yn amddiffynfa yn erbyn yr ifanc... | 
| Daw Dr Hughes i mewn drwy ddrws y cyntedd. | |
| Dr Hughes | Helo. Ydych chi a Miss O'Reilly yma o hyd? | 
| Morris | Rydyn ni wedi bod yn siarad am bob math o betha'. | 
| Helen | Hen a newydd. | 
| Dr Hughes | Ydych chi wir? | 
| Helen | Sôn am hwyl. Mae gan Mr Morris 'ma gof mor wyrthiol. Mae o'n cofio'r manion lleia' ar unwaith. | 
| Daw Mrs Morris i mewn o'r dde. | |
| Mrs Morris | Dyna ni. Miss O'Reilly, mae'r stafell yn barod i chi rŵan. | 
| Helen | Ew, rydych chi'n ffeind. | 
| Morris | (Wrth Mrs Morris.) Un o stafelloedd y plant? | 
| Mrs Morris | Ie, yr un ganol. Gadewch i ni fynd am swper gynta'. | 
| Morris | (Yn nodio at Helen.) Mi gaiff Helen gysgu yn un o stafelloedd y plant. | 
| Mrs Morris | (Yn edrych arno.) Helen? | 
| Morris | Ie, Helen ydy enw Miss O'Reilly. Roeddwn i'n ei nabod hi'n blentyn. | 
| Mrs Morris | Oeddech chi wir, Isaac? Gawn ni fynd? Mae swper yn barod. | 
| Mrs Morris yn gafael ym mraich Dr Hughes a mynd allan gydag ef i'r dde.  Yn y cyfamser mae Helen wedi bod yn casglu ei hoffer dringo. | |
| Helen | (Yn ysgafn a chflym wrth Morris.) Ydy o'n wir be' ddar'u chi dd'eud? Alla' i 'neud rhywbeth i chi, o ddifri'? | 
| Morris | (Yn cymryd y pethau oddi arni.) Chi ydy'r union eneth yr ydw i wedi bod ei hangen hi fwyaf. | 
| Helen | (Yn edrych arno gyda llygaid llawn syndod a hapusrwydd.) O bendigedig! | 
| Morris | (Yn nerfus.) Sut? | 
| Helen | Os felly rydw i wedi cael fy nheyrnas! | 
| Morris | (Heb feddwl.) Helen. | 
| Helen | (Ei gwefusau'n crynu eto.) Bron... oeddwn i am dd'eud. (Yn mynd allan i'r dde a Morris ar ei hôl.) |