| (1, 0) 51 | Ydyn nhw wedi mynd? | 
| (1, 0) 58 | Be. ydych chi'n ei deipio Miss Parry? | 
| (1, 0) 60 | Gadewch i mi weld. | 
| (1, 0) 62 | Gwyneth. | 
| (1, 0) 65 | Pam y byddwch chi'n tynnu eich sbectol bob tro y bydda' i'n cyrraedd? | 
| (1, 0) 68 | Wnâi hi mo'r tro i fod felly? | 
| (1, 0) 71 | Gwyneth bach, annwyl. | 
| (1, 0) 75 | Alwodd rhywun i ngweld i? | 
| (1, 0) 79 | O'r rheini. | 
| (1, 0) 80 | Rhaid iddyn nhw ddisgwyl. | 
| (1, 0) 81 | 'Dydw i ddim yn berffaith glir ynghylch y plania' eto. | 
| (1, 0) 84 | O, oedden reit siŵr; felly y maen nhw i gyd. | 
| (1, 0) 86 | Ydyn, ydyn. | 
| (1, 0) 87 | Rydyn ni'n gwybod hynny. | 
| (1, 0) 88 | Yn fodlon derbyn beth bynnag a gynigir iddyn nhw debyg. | 
| (1, 0) 89 | Cael to uwch eu penna', ac enw, ond dim y medrwch chi ei alw yn gartre'. | 
| (1, 0) 90 | Ddim diolch. | 
| (1, 0) 91 | Os felly mae hi gadewch iddyn nhw chwilio am rywun arall! | 
| (1, 0) 92 | Mi ellwch dd'eud hynny wrthyn nhw y tro nesa' y galwan nhw. | 
| (1, 0) 97 | B'aswn 'nenw'r Tad. | 
| (1, 0) 98 | A gwynt teg ar eu hola' nhw, os felly mae hi i fod. | 
| (1, 0) 99 | Mi fyddai hynny'n well na chodi tŷ heb wybod b'le rydw i'n sefyll. | 
| (1, 0) 100 | Heblaw hynny, 'chydig iawn a wn i am y bobol yma hyd yn hyn. | 
| (1, 0) 104 | Gonest, o ddigon gonest. | 
| (1, 0) 105 | Nid dyna ydw i'n 'i feddwl. | 
| (1, 0) 106 | Duw annwyl, ydych chitha' ddim yn fy neall i chwaith? | 
| (1, 0) 108 | 'Na i ddim byd â'r bobol ddiarth 'ma. | 
| (1, 0) 109 | Mi gân' nhw ofyn i bwy fynnon nhw o'm rhan i. | 
| (1, 0) 112 | Ydw ar ei phen, am unwaith. | 
| (1, 0) 114 | Wrth reswm. | 
| (1, 0) 124 | Ie, rydych chi wedi bod yn edrych yn wael yn ddiweddar yma. | 
| (1, 0) 127 | Steddwch chi ddim? | 
| (1, 0) 131 | Dyma chi. | 
| (1, 0) 132 | Cymerwch y gadair yma. | 
| (1, 0) 133 | A rŵan? | 
| (1, 0) 138 | Wel mi gaiff y mab aros yma efo mi, wrth gwrs, cyhyd ag y mynn o. | 
| (1, 0) 141 | Tewch. | 
| (1, 0) 142 | Mae hi'n eitha' arno yma 'ddyliwn i. | 
| (1, 0) 143 | Ond os eisio mwy o gyflog mae o, f'aswn i ddim yn gwrthod ystyried... | 
| (1, 0) 148 | Ydych chi'n meddwl y gwnâi Elwyn rywbeth ohoni hi ar ei ben ei hun? | 
| (1, 0) 153 | Wel 'dydy o ddim wedi dysgu dim byd yn drwyadl felly, ar wahân i dipyn ar bapur, wrth gwrs. | 
| (1, 0) 156 | Ie, roedd amgylchiada' o 'mhlaid i, welwch chi. | 
| (1, 0) 162 | Hi sy'n dymuno hynny? | 
| (1, 0) 169 | Fedrwch chi ddim disgwyl i mi dynnu gwaith o'r awyr. | 
| (1, 0) 172 | Oes? | 
| (1, 0) 174 | Sut fath o waith ydy o? | 
| (1, 0) 177 | Hwnnw. | 
| (1, 0) 178 | Rydw i'n mynd i godi hwnnw fy hun. | 
| (1, 0) 181 | Dim gwahaniaeth gen i. | 
| (1, 0) 182 | Nâc oes? | 
| (1, 0) 183 | Pwy sy'n meiddio d'eud hynny? | 
| (1, 0) 185 | Twt, twt. | 
| (1, 0) 186 | Peidiwch â chymryd sylw o be' fydda' i'n ei dd'eud. | 
| (1, 0) 187 | F'asen nhw yn rhoi'r gwaith yna i Elwyn? | 
| (1, 0) 191 | Ydyn nhw'n hoffi'r cynllunia'? | 
| (1, 0) 192 | Y bobol fydd yn mynd i fyw yno. | 
| (1, 0) 195 | Mi fasen nhw'n gadael i Elwyn adeiladu eu cartref iddyn nhw? | 
| (1, 0) 197 | Oho! gwreiddiol ai e? | 
| (1, 0) 198 | Ddim mor hen ffasiwn â'r petha' fydda' i'n eu g'neud debyg. | 
| (1, 0) 201 | Felly i weld Elwyn y daethon nhw yma pan oeddwn i allan? | 
| (1, 0) 204 | Rhoi'r gora' iddi. | 
| (1, 0) 206 | Fi. | 
| (1, 0) 207 | Rhoi'r gora' iddi hi, i 'neud lle i'ch mab chi! | 
| (1, 0) 209 | O, 'run peth yn union. | 
| (1, 0) 211 | A felly mae hi ai e? | 
| (1, 0) 212 | Ydy hi'n bryd i Ryan Morris feddwl am hel ei bac i neud lle i ddynion fengach, y fenga un o bosib? | 
| (1, 0) 213 | Mae'n rhaid iddo fynd o'r ffordd... i 'neud lle. | 
| (1, 0) 216 | O, does 'na ddim cymaint â hynny o le yn sbâr chwaith. | 
| (1, 0) 217 | Ond p'run bynnag, riteiria' i ddim byth. | 
| (1, 0) 218 | 'Ro' i 'mo fy lle i neb os medra' i beidio. | 
| (1, 0) 219 | Byth dragywydd hedd, wna i 'mo hynny. | 
| (1, 0) 227 | Hm. | 
| (1, 0) 228 | Peidiwch â gofyn dim mwy rŵan. | 
| (1, 0) 232 | Rhaid i chi adael y byd 'ma ora' y gellwch chi. | 
| (1, 0) 236 | Fedrwch chi ddim deall nad oes gen i ddim help. | 
| (1, 0) 237 | Rydw i yr hyn ydw i, a fedra' i ddim newid fy natur. | 
| (1, 0) 241 | Wrth gwrs. | 
| (1, 0) 246 | Elwyn, gwell iti ddod i nôl dy dad a mynd â fo adre. | 
| (1, 0) 253 | Rhaid i Miss Parry aros, dim ond am funud. | 
| (1, 0) 254 | Mae na lythyr iddi i'w deipio. | 
| (1, 0) 258 | Pnawn da. | 
| (1, 0) 263 | Nâc oes wrth gwrs. | 
| (1, 0) 265 | Gwyneth. | 
| (1, 0) 269 | Dowch yma. | 
| (1, 0) 270 | Ar unwaith. | 
| (1, 0) 274 | Yn nes. | 
| (1, 0) 278 | I chi y mae'r diolch am hyn i gyd? | 
| (1, 0) 282 | Ond waeth i chi gyfaddef rŵan; mae arnoch chi eisio priodi. | 
| (1, 0) 285 | Felly rydych chi'n teimlo'i bod hi'n bryd i hynny ddod i ben. | 
| (1, 0) 286 | Onid fel 'na y mae hi? | 
| (1, 0) 290 | Gwyneth, mae gennych chi dipyn o feddwl o Elwyn hefyd on'd oes? | 
| (1, 0) 292 | Ond rŵan 'does gennych chi fawr i'w dd'eud wrtho o gwbwl? | 
| (1, 0) 297 | Ie, rydych chi'n d'eud hynny ac eto rydych chi am fynd i ffwrdd a ngadael i yma fy hun a'r cwbwl ar f'ysgwydda' i. | 
| (1, 0) 300 | O na. | 
| (1, 0) 301 | Mae hynny'n hollol amhosib. | 
| (1, 0) 302 | Os ydy Elwyn am fy ngadael i a dechra' gweithio ar ei ben ei hun, yna, wrth gwrs, mi fydd eich angen chi arno fo. | 
| (1, 0) 306 | Yna gofalwch gael y syniada' 'ma o ben Elwyn. | 
| (1, 0) 307 | Priodwch o ar bob cyfrif. | 
| (1, 0) 309 | Hynny ydy, peidiwch â gadael iddo roi'r gora' i'w swydd dda yma achos mi alla' i eich cadw chitha' wedyn, Gwyneth annwyl. | 
| (1, 0) 313 | Achos fedra' i ddim g'neud heboch chi ydych chi'n gweld. | 
| (1, 0) 314 | Mae'n rhaid i mi eich cael chi efo mi bob dydd. | 
| (1, 0) 318 | Gwyneth. | 
| (1, 0) 319 | Gwyneth. | 
| (1, 0) 324 | Codwch, bendith y Tad i chi. | 
| (1, 0) 325 | Rydw i'n meddwl i mi glywed rhywun! | 
| (1, 0) 334 | O chi sy' 'na 'nghariad i? | 
| (1, 0) 337 | Ddim o gwbwl. | 
| (1, 0) 338 | Mae gan Miss Parry lythyr byr i'w deipio, dyna'r cwbwl. | 
| (1, 0) 340 | Be' sy' Gladys? | 
| (1, 0) 344 | Hm. | 
| (1, 0) 345 | Ydy'r meddyg eisio 'ngweld i'n arw? | 
| (1, 0) 349 | Ie debyg. | 
| (1, 0) 350 | Wel gofynnwch iddo fo aros am funud. | 
| (1, 0) 352 | 'Ddo' i wedyn. | 
| (1, 0) 353 | Toc, fy nghariad i. | 
| (1, 0) 354 | Reit fuan. | 
| (1, 0) 360 | Nâc ydy, ddim o gwbwl. | 
| (1, 0) 361 | Ddim mwy nag arfer beth bynnag. | 
| (1, 0) 362 | Ond mynd fyddai ora' i chi rŵan, p'run bynnag Gwyneth. | 
| (1, 0) 366 | A mi 'newch chi ymorol bod y mater yna wedi'i setlo i mi? | 
| (1, 0) 367 | Glywsoch chi? | 
| (1, 0) 369 | Mae'n rhaid i mi gael setlo'r peth, cofiwch: yfory, ddim hwyrach. | 
| (1, 0) 373 | Ei thorri? | 
| (1, 0) 374 | Ydych chi o'ch co'? | 
| (1, 0) 375 | F'asech chi'n meddwl am y fath beth? | 
| (1, 0) 381 | Ond Duw a'm helpo i! | 
| (1, 0) 382 | Be' am Elwyn wedyn? | 
| (1, 0) 383 | Elwyn sydd gen i... | 
| (1, 0) 387 | Nâc e. | 
| (1, 0) 388 | Nâc e, wrth gwrs. | 
| (1, 0) 389 | Dydych chitha' ddim yn fy neall i chwaith? | 
| (1, 0) 390 | Wrth gwrs chi sydd arna' i eisio ei chadw yn fwy na dim, Gwyneth. | 
| (1, 0) 391 | Ond am yr union reswm hwnnw rhaid i chi rwystro Elwyn rhag rhoi'r gora' i'w swydd. | 
| (1, 0) 392 | Dyna ni rŵan, dyna ni. | 
| (1, 0) 393 | Ewch adre rŵan. | 
| (1, 0) 396 | Nos dawch. | 
| (1, 0) 398 | O 'rhoswch am eiliad. | 
| (1, 0) 399 | Ydy cynllunia' Elwyn yma? | 
| (1, 0) 401 | Wel ewch i chwilio amdanyn nhw i mi ynte'. | 
| (1, 0) 402 | Hwyrach y medra' i daro golwg arnyn nhw wedi'r cwbwl. | 
| (1, 0) 405 | Er eich mwyn chi Gwyneth f'anwylyd. | 
| (1, 0) 406 | Rŵan, gadewch i mi eu cael nhw ar unwaith os gwelwch chi'n dda. | 
| (1, 0) 410 | Da iawn. | 
| (1, 0) 411 | Rhowch nhw ar y bwrdd yn fan 'na. | 
| (1, 0) 416 | O mi fydda' i'n g'neud hynny bob amser. | 
| (1, 0) 417 | P'nawn da, Gwyneth bach annwyl. | 
| (1, 0) 419 | Ewch, ewch rŵan. | 
| (1, 0) 424 | Wel, ynte'; dowch i mewn yma. | 
| (1, 0) 429 | Do, un byr oedd o. | 
| (1, 0) 431 | 'Gewch chi fynd rŵan Miss Parry. | 
| (1, 0) 432 | Dowch yn gynnar yfory os gwelwch chi'n dda. | 
| (1, 0) 437 | Ydy wir. | 
| (1, 0) 438 | Mae hi'n ddefnyddiol iawn mewn llawer modd. | 
| (1, 0) 441 | Mae hi wedi cael digon o brofiad yn ystod y ddwy flynedd ddwaetha' 'ma. | 
| (1, 0) 442 | A mae hi mor ddymunol a chymwynasgar ym mhob modd. | 
| (1, 0) 445 | Ydy, mae o. | 
| (1, 0) 446 | Yn enwedig os nad ydy dyn yn arfer cael rhyw lawer o hynny. | 
| (1, 0) 449 | Na fedraf, wrth gwrs, Gladys annwyl. | 
| (1, 0) 450 | Maddeuwch i mi. | 
| (1, 0) 457 | Ydych chi ar frys Doctor? | 
| (1, 0) 459 | Ga' i sgwrs bach efo chi? | 
| (1, 0) 461 | Gadewch i ni eistedd i lawr ynte'. | 
| (1, 0) 464 | D'wedwch i mi, ddar'u chi sylwi bod yna rywbeth yn rhyfedd yn Gladys? | 
| (1, 0) 466 | Ie, yn ei hymddygiad ata' i. | 
| (1, 0) 467 | Ddar'u rhywbeth eich taro chi? | 
| (1, 0) 470 | Wel? | 
| (1, 0) 472 | Ai dyna'r cwbwl? | 
| (1, 0) 473 | Rydw i wedi sylwi ar hynny fy hun. | 
| (1, 0) 475 | Be'? | 
| (1, 0) 477 | Nâc ydy siŵr. | 
| (1, 0) 478 | Rydych chi'n iawn ynglŷn â hynny ddyliwn, a Gladys hefyd. | 
| (1, 0) 479 | Ond mae unrhyw newid yn amhosib. | 
| (1, 0) 482 | Rhywun rywun, fasai'n ei gynnig ei hun. | 
| (1, 0) 483 | Ddim diolch; wnâi hynny byth 'mo'r tro i mi. | 
| (1, 0) 487 | Wel, bron na dd'wedwn i, 'does 'mo'r help. | 
| (1, 0) 488 | Rhaid i mi gadw Gwyneth Parry. | 
| (1, 0) 489 | Fedrai neb arall gymryd ei lle hi. | 
| (1, 0) 492 | Na fedrai; neb. | 
| (1, 0) 496 | Ar bob cyfri'. | 
| (1, 0) 498 | Oes wir. | 
| (1, 0) 499 | Does dim gronyn o amheuaeth ynghylch hynny... ond... | 
| (1, 0) 501 | Ie. | 
| (1, 0) 502 | Be' wedyn? | 
| (1, 0) 505 | Oho! | 
| (1, 0) 508 | Nâc oes. | 
| (1, 0) 510 | Dim byd ond ei natur ddrwgdybus hi ei hun. | 
| (1, 0) 512 | Do mi fûm i. | 
| (1, 0) 514 | O do, 'nâ' i ddim gwadu. | 
| (1, 0) 517 | Na, dim o gwbwl o'm hochor i. | 
| (1, 0) 519 | Dydw i ddim yn meddwl bod gennych chi hawl i ofyn y cwestiwn yna, Doctor. | 
| (1, 0) 521 | Digon gwir. | 
| (1, 0) 522 | A chyn belled â hynny... {gostwng ei lais} mewn ffordd... dydy Gladys ddim ymhell iawn o'i lle efo'i greddf fel rydych chi'n galw'r peth. | 
| (1, 0) 526 | Dr Hughes rydw i am dd'eud stori ryfedd wrthych chi os leciwch chi wrando ami hi. | 
| (1, 0) 528 | O'r gora' ynte'. | 
| (1, 0) 529 | Rydych chi'n cofio, mae'n siŵr, i mi gymryd Owen Meredith a'i fab i weithio i mi wedi i fusnes yr hen frawd fynd i'r gwellt. | 
| (1, 0) 531 | Mae'r ddau yma, mewn gwirionedd, yn ddynion clyfar. | 
| (1, 0) 532 | Mae gan bob un ohonyn nhw, allu, yn ei ffordd ei hun. | 
| (1, 0) 533 | Ond mi gymerodd y mab yn ei ben i addo priodi, a'r peth nesa', wrth gwrs, oedd ei fod o eisio priodi, a dechra' adeiladu ar ei ben ei hun. | 
| (1, 0) 534 | Fel 'na mae'r bobol ifainc yma i gyd. | 
| (1, 0) 537 | Yn hollol. | 
| (1, 0) 538 | Ond, wrth gwrs, roedd hynny yn d'rysu fy nghynllunia' i. | 
| (1, 0) 539 | Achos roedd arna' i eisio Elwyn fy hun a'r hen ŵr hefyd. | 
| (1, 0) 540 | Mae o'n dda ofnadwy efo mathemateg, clandro straen pwysa' ac ati. | 
| (1, 0) 542 | Yn bendant. | 
| (1, 0) 543 | Ond roedd Elwyn yn benderfynol o ddechra' gweithio iddo'i hun. | 
| (1, 0) 544 | 'Doedd wiw sôn am ddim arall. | 
| (1, 0) 546 | Ydy. | 
| (1, 0) 547 | Mi dd'weda' i wrthych chi sut y digwyddodd hynny. | 
| (1, 0) 548 | Ryw ddiwrnod, mi ddaeth yr hogan ma, Gwyneth Parry, i'w gweld nhw ar ryw neges neu'i gilydd. | 
| (1, 0) 549 | 'Doedd hi erioed wedi bod yma cyn hynny. | 
| (1, 0) 550 | A phan welais i gymaint yr oedd y ddau wedi gwirioni am ei gilydd, mi drawodd arna' i; petawn i ddim ond yn medru ei chael hi i'r swyddfa yma, yna efallai y b'asai Elwyn yn aros hefyd. | 
| (1, 0) 552 | Ie, ond ar y pryd, ddwedais i ddim gair o'r hyn oedd ar fy meddwl i. | 
| (1, 0) 553 | Wnes i ddim byd ond aros ac edrych arni hi a dal i feddwl yn galed mor braf fyddai ei chael hi yma. | 
| (1, 0) 554 | Yna siarad dipyn efo hi yn gyfeillgar... ynghylch hyn a'r llall. | 
| (1, 0) 555 | Wedyn mi aeth. | 
| (1, 0) 557 | Wel, ynte', y diwrnod wedyn, yn hwyr gyda'r nos wedi i'r hen Feredith ac Elwyn fynd adre dyma hi yma'r eilwaith gan ymddwyn fel petawn i wedi g'neud rhyw drefniant efo hi. | 
| (1, 0) 559 | Ynghylch yr union beth yr oeddwn i wedi bod yn meddwl amdano fo. | 
| (1, 0) 560 | Ond 'doeddwn i ddim wedi sôn gair am y peth. | 
| (1, 0) 562 | Oedd. | 
| (1, 0) 563 | On'd oedd o? | 
| (1, 0) 564 | A wedyn roedd hi eisio gwybod beth oedd hi i'w 'neud yma, a fyddai hi'n iawn iddi hi ddechra'r bore wedyn ac ati. | 
| (1, 0) 566 | Dyna ddaeth i'm meddwl inna' i gychwyn. | 
| (1, 0) 567 | Ond nid dyna oedd. | 
| (1, 0) 568 | Roedd hi i'w gweld yn llithro i ffwrdd yn llwyr oddi wrtho fo unwaith y daeth hi yma ata' i. | 
| (1, 0) 570 | Do'n gyfangwbwl. | 
| (1, 0) 571 | Os digwydd imi edrych ami hi pan fydd hi a'i chefn ata' i mi fedra' i dd'eud ei bod hi'n synhwyro hynny. | 
| (1, 0) 572 | Mi fydd yn crynu ac yn cynhyrfu y munud y bydda' i'n mynd yn agos ati hi. | 
| (1, 0) 573 | Be' 'ddyliech chi o hyn 'na? | 
| (1, 0) 576 | Ond be' am y peth arall? | 
| (1, 0) 577 | Ei bod hi'n credu 'mod i wedi d'eud wrthi yr hyn na wnes i ddim ond ei ddymuno a'i ewyllysio ynof fi fy hun; yn ddistaw oddi fewn. | 
| (1, 0) 578 | Fedrwch chi egluro hyn 'na Doctor Hughes? | 
| (1, 0) 580 | Roeddwn i'n siŵr na 'naech chi ddim; dyna pam yr ydw i wedi bod yn anfodlon siarad am y peth o'r blaen. | 
| (1, 0) 581 | Ond yn y pen draw, mae o'r teimlad annifyrra dan haul i mi. | 
| (1, 0) 582 | Dyma fi'n gorfod dal ati i gymryd arnaf bob dydd... | 
| (1, 0) 583 | A mae o'n bechod trin yr hogan fel 'na, druan ohoni. | 
| (1, 0) 585 | Ond fedra' i 'neud dim arall. | 
| (1, 0) 586 | Achos os rhed hi i ffwrdd yna bydd Elwyn yn mynd hefyd. | 
| (1, 0) 588 | Naddo. | 
| (1, 0) 590 | Oherwydd 'mod i fel petawn i'n cael rhyw bleser wrth adael i Gladys 'neud cam efo mi. | 
| (1, 0) 592 | Mae o fel talu'n ôl rhyw gyfran fach, g'neud iawn am ryw ddyled ofnadwy o fawr. | 
| (1, 0) 594 | Ie. | 
| (1, 0) 595 | A mae hynny bob amser yn help i dawelu dipyn ar feddwl dyn. | 
| (1, 0) 596 | Mae rhywun yn cael ei wynt ato am ysbaid, ydych chi'n gweld? | 
| (1, 0) 601 | Wel, wel, wel. | 
| (1, 0) 602 | Soniwn ni ddim mwy am y peth ynte'. | 
| (1, 0) 605 | Rydych chi'n meddwl eich bod chi wedi fy nhynnu i allan reit ddel, debyg gen i Doctor? | 
| (1, 0) 609 | Dowch. | 
| (1, 0) 610 | Allan â hi, achos rydw i'n ei gweld hi fel haul, wyddoch chi. | 
| (1, 0) 613 | Eich bod chi wedi bod yn cadw llygad arna' i'n slei. | 
| (1, 0) 616 | Am eich bod chi'n meddwl 'mod i... | 
| (1, 0) 618 | Wel twt, dam, rydych chi'n meddwl yr un peth â Gladys amdana' i. | 
| (1, 0) 621 | Mae hi wedi dechra' meddwl 'mod i'n, 'mod i'n... sâl. | 
| (1, 0) 627 | Mae Gladys wedi dod i'r penderfyniad 'mod i wedi d'rysu. | 
| (1, 0) 628 | Dyna be' mae hi'n ei feddwl. | 
| (1, 0) 631 | Ydy ar fy ngwir. | 
| (1, 0) 632 | Fel 'na mae petha', coeliwch chi fí. | 
| (1, 0) 633 | A mae hi wedi medru'ch perswadio chitha' i gredu'r un peth; yn bendifadda' Doctor. | 
| (1, 0) 634 | Rydw i'n ei weld o ar eich gwyneb chi mor glir â dim. | 
| (1, 0) 635 | Fedrwch chi 'mo 'nhwyllo i mor hawdd, cofiwch. | 
| (1, 0) 639 | Ddar'u chi ddim? | 
| (1, 0) 640 | O ddifri? | 
| (1, 0) 644 | Chynghorwn i mohonoch chi i 'neud hynny. | 
| (1, 0) 645 | Ydych chi'n gweld, efallai nad ydy hi ymhell iawn o'i lle yn meddwl peth felly. | 
| (1, 0) 649 | Wel, wel Doctor annwyl, rhaid i ni roi'r gora' i siarad am y peth. | 
| (1, 0) 650 | Waeth i ni gytuno i anghytuno. | 
| (1, 0) 652 | Ond edrychwch yma rŵan Doctor; hm... | 
| (1, 0) 654 | Gan nad ydych chi'n meddwl 'mod i'n sâl nâc o 'ngho nâc wedi d'rysu ac yn y blaen... | 
| (1, 0) 656 | Rydych chi'n cario'r syniad 'mod i'n ddyn hapus ryfeddol debyg geni? | 
| (1, 0) 659 | Nâc e, wrth gwrs. | 
| (1, 0) 660 | Gwared y gwirion, meddyliwch am funud. | 
| (1, 0) 661 | Isaac Ryan Morris, adeiladwr a datblygwr pwysica'r ardaloedd yma. | 
| (1, 0) 662 | Mae gen i le mawr i fod yn ddiolchgar. | 
| (1, 0) 666 | Ffodus, o do. | 
| (1, 0) 667 | 'Does gen i ddim lle i gwyno am hynny. | 
| (1, 0) 670 | Cartre' teulu Gladys oedd o er hynny, cofiwch. | 
| (1, 0) 672 | 'Dydy hi byth wedi dod drosto fo, ers deuddeng mlynedd neu dair ar ddeg. | 
| (1, 0) 674 | Y ddau beth efo'i gilydd. | 
| (1, 0) 679 | Ydy, ond dyna'r union beth sy'n peri cymaint o ofn i mi. | 
| (1, 0) 682 | Mae'n ddychryn i mi, yn ddychryn i mi bob awr o'r dydd. | 
| (1, 0) 683 | Achos, yn hwyr neu'n hwyrach mi fydd fy lwc i'n troi, welwch chi. | 
| (1, 0) 687 | Y genhedlaeth newydd! | 
| (1, 0) 691 | Bydd fy lwc yn troi. | 
| (1, 0) 692 | Rydw i'n gwybod hynny. | 
| (1, 0) 693 | Mi glywa' i'r diwrnod yn dod yn nes. | 
| (1, 0) 694 | Mi ddaw i feddwl rhywun neu'i gilydd i dd'eud: "Rhowch gyfle i |mi|," a wedyn bydd y lleill i gyd yn rhuthro ar ei ôl, yn crochlefain ac yn ysgwyd eu dyrna' a gweiddi arna' i "G'newch le, g'newch le, gnewch le!" | 
| (1, 0) 695 | Bydd, gewch chi weld Doctor. | 
| (1, 0) 696 | Yn fuan mi fydd y to ifanc yn dod i gnocio ar fy nrws i... | 
| (1, 0) 699 | Pan ddôn nhw, dyna ddiwedd Isaac Ryan Morris, yr adeiladwr wedyn. | 
| (1, 0) 701 | Be' oedd na? | 
| (1, 0) 702 | Glywsoch chi ddim byd? | 
| (1, 0) 705 | Dowch i mewn. | 
| (1, 0) 715 | Sut ydych chi? | 
| (1, 0) 718 | Ydw, rhaid i mi gyfadde'... am funud... | 
| (1, 0) 735 | Heno y daethoch chi i'r dre 'ma? | 
| (1, 0) 739 | O'Reilly, O'Reilly ydy'ch enw chi? | 
| (1, 0) 742 | Rhaid mai merch y doctor draw ym Mryn Padarn ydych chi felly? | 
| (1, 0) 745 | O wel. | 
| (1, 0) 746 | Rhaid ein bod ni wedi cyfarfod pan oeddwn i yno yn codi tŵr ar yr hen eglwys. | 
| (1, 0) 749 | Wel, mae dipyn go lew o amser ers hynny. | 
| (1, 0) 752 | Rhaid nad oeddech chi ond plentyn bach yr adeg honno f'aswn i'n meddwil. | 
| (1, 0) 758 | Dydych chi'n nabod neb yma chwaith? | 
| (1, 0) 761 | O, rydych chi'n ei nabod hitha' felly? | 
| (1, 0) 764 | O, i fyny yno. | 
| (1, 0) 768 | Rhyfedd na f'asai hi wedi sôn. | 
| (1, 0) 775 | Mi fedrwn ni drefnu hynny rydw i'n siŵr. | 
| (1, 0) 779 | O mi ofalwn ni am hynny. | 
| (1, 0) 780 | Rŵan mi a' i i dd'eud wrth fy ngwraig. | 
| (1, 0) 782 | le, dyna chi. | 
| (1, 0) 783 | A dowch yn eich ôl wedyn. | 
| (1, 0) 788 | Sut felly? | 
| (1, 0) 791 | Do. | 
| (1, 0) 792 | Ond mewn ffordd wahanol iawn i'r un oedd gen i mewn golwg. | 
| (1, 0) 797 | Gladys, dowch yma os gwelwch chi'n dda. | 
| (1, 0) 798 | Dyma ffrind i chi, Miss O'Reilly. | 
| (1, 0) 805 | Newydd gyrraedd mae Miss O'Reilly. | 
| (1, 0) 806 | Mi f'asai hi'n hoffi aros noson yma. | 
| (1, 0) 809 | Iddi gael dipyn o drefn ar ei phetha', ydych chi'n gweld. | 
| (1, 0) 816 | Fedrwn ni ddim rhoi un o stafelloedd y plant iddi hi? | 
| (1, 0) 817 | Mae'r rheini yn barod eisoes. | 
| (1, 0) 827 | Mae yma dair yn y tŷ yma. | 
| (1, 0) 830 | Na 'does yma'r un plentyn. | 
| (1, 0) 831 | Ond rŵan mi gewch chi fod yn blentyn yma am dipyn. | 
| (1, 0) 836 | Ie, rydych chi wedi blino'n arw reit siŵr. | 
| (1, 0) 839 | Fyddwch chi'n breuddwydio'n aml yn y nos? | 
| (1, 0) 841 | Am be' y byddwch chi'n breuddwydio amla'? | 
| (1, 0) 846 | Ydych chi'n chwilio am rywbeth? | 
| (1, 0) 850 | Twt, twt. | 
| (1, 0) 851 | G'newch ar bob cyfri. | 
| (1, 0) 853 | Nac e. | 
| (1, 0) 854 | F'ysgrifenyddes i. | 
| (1, 0) 857 | Wrth gwrs. | 
| (1, 0) 859 | Ie. | 
| (1, 0) 861 | Na, sengal ydy hi. | 
| (1, 0) 863 | Ond mae hi'n mynd i briodi reit fuan, rydw i'n meddwl. | 
| (1, 0) 865 | Ond fydd hynny ddim yn braf i mi achos fydd gen i neb i f'helpu i wedyn. | 
| (1, 0) 867 | Hwyrach y b'asech chi yn aros yma fel ysgrifenyddes? | 
| (1, 0) 875 | Siŵr iawn. | 
| (1, 0) 876 | Yn gynta' peth mi fyddwch eisio mynd rownd y siopa' i brynu dillad newydd debyg? | 
| (1, 0) 879 | O, felly wir. | 
| (1, 0) 882 | Na chesus na phres felly! | 
| (1, 0) 884 | Wel dyna hogan. | 
| (1, 0) 885 | Rydw i'n hoffi hyn'na ynoch chi. | 
| (1, 0) 887 | Hyn 'na ymhlith petha' eraill. | 
| (1, 0) 889 | Ydy'ch tad yn dal yn fyw? | 
| (1, 0) 891 | Rydych chi'n meddwl astudio yma hwyrach? | 
| (1, 0) 893 | Ond mi fyddwch yn aros am dipyn? | 
| (1, 0) 897 | Wel? | 
| (1, 0) 899 | Fy ngho' i'n ddrwg. | 
| (1, 0) 900 | Ddim hyd y gwn i. | 
| (1, 0) 903 | I fyny ym Mryn Padarn yna? | 
| (1, 0) 905 | 'Doedd yno ddim byd o bwys hyd y gwn i. | 
| (1, 0) 911 | O do. | 
| (1, 0) 912 | Anghofia' i 'mo'r diwrnod hwnnw'n hawdd. | 
| (1, 0) 916 | Drwg? | 
| (1, 0) 919 | A! Ie, y baneri rheini. | 
| (1, 0) 920 | Rydw i'n cofio'r rheini, mi ellwch fentro. | 
| (1, 0) 924 | Roeddwn i'n g'neud hynny bob amser ers talwm; mae o'n hen arferiad. | 
| (1, 0) 928 | Ie, ie, ie. | 
| (1, 0) 929 | Mi allai hynny fod wedi digwydd yn hawdd achos roedd yno un g'nawes bach, yn ei ffrog wen, yn mynd trwy'i phetha'n ofnadwy, ac yn sgrechian cymaint ama' i... | 
| (1, 0) 934 | A roedd hi'n codi'i law a chwifio'i baner gymaint nes yr oeddwn i'n teimlo dipyn o bendro wrth edrych arni hi. | 
| (1, 0) 938 | Rydw i'n siŵr o hynny rŵan. | 
| (1, 0) 939 | Mae'n rhaid mai chi oedd hi. | 
| (1, 0) 946 | Sut roeddech chi'n medru bod mor siŵr nad oedd arna i...? | 
| (1, 0) 952 | Canu? | 
| (1, 0) 953 | Wnes i ganu? | 
| (1, 0) 956 | Chanais i erioed nodyn yn fy mywyd. | 
| (1, 0) 965 | Y peth mawr? | 
| (1, 0) 968 | Oes wir. | 
| (1, 0) 969 | D'wedwch ychydig bach i'm hatgoffa i o hynny hefyd. | 
| (1, 0) 971 | Ydw. | 
| (1, 0) 972 | Rhaid mai'r un pnawn oedd hi, achos mi es i odd'no'r bore wedyn. | 
| (1, 0) 974 | Rydych chi'n iawn Miss O'Reilly. | 
| (1, 0) 975 | Mae'n syndod gymaint o argraff y mae'r manion yma wedi'i 'neud arnoch chi. | 
| (1, 0) 979 | Oeddech chi ar eich pen eich hun? | 
| (1, 0) 982 | Nac e debyg. | 
| (1, 0) 984 | 'Dydw i ddim yn ama' nad oeddech chi, Miss O'Reilly. | 
| (1, 0) 985 | A pheth arall, roeddwn i'n teimlo mor rhydd a llon y diwrnod hwnnw. | 
| (1, 0) 988 | Bobol annwyl. | 
| (1, 0) 989 | Dd'wedais i hynny hefyd? | 
| (1, 0) 994 | le, wel. | 
| (1, 0) 995 | Ar ôl cinio da, fydd dyn ddim yn dadla' ynghylch rhyw geiniog neu ddwy. | 
| (1, 0) 996 | Ond, ddar'u i mi dd'eud hyn 'na i gyd, o ddifri'? | 
| (1, 0) 999 | Wel, be' oedd o? | 
| (1, 0) 1001 | Enw hyfryd iawn wir. | 
| (1, 0) 1003 | Rydw i'n siwr nad hynny oedd fy mwriad i. | 
| (1, 0) 1005 | Be' ar y ddaear wnes i wedyn? | 
| (1, 0) 1009 | Ol reit. | 
| (1, 0) 1010 | Rhowch ryw awgrym bach i mi, a wedyn, efallai.... | 
| (1, 0) 1011 | Wel? | 
| (1, 0) 1015 | Wnes i? | 
| (1, 0) 1018 | Rŵan, mewn difri', Miss O'Reilly... | 
| (1, 0) 1021 | Ydw. | 
| (1, 0) 1022 | Rydw i'n gwadu'r cwbwl. | 
| (1, 0) 1028 | Miss O'Reilly... | 
| (1, 0) 1030 | Peidiwch â sefyll fel delw yn fan 'na. | 
| (1, 0) 1031 | Rhaid eich bod chi wedi breuddwydio'r cwbwl. | 
| (1, 0) 1033 | Rŵan, gwrandewch. | 
| (1, 0) 1036 | Neu...! | 
| (1, 0) 1037 | 'Rhoswch am funud. | 
| (1, 0) 1038 | Ma 'na rywbeth wrth wraidd hyn i gyd, mi ellwch fentro. | 
| (1, 0) 1041 | Mae'n rhaid fy mod i wedi |meddwl| hyn 'na i gyd. | 
| (1, 0) 1042 | Rhaid fy mod i wedi'i |ddymuno| fo, ei ewyllysio, wedi ysu am gael g'neud y petha' yma. | 
| (1, 0) 1043 | Ac yna... | 
| (1, 0) 1044 | Ai dyna ydy'r eglurhad, o bosib? | 
| (1, 0) 1052 | Ydw, unrhyw beth leciwch chi. | 
| (1, 0) 1054 | Do. | 
| (1, 0) 1056 | O, reit yn ôl. | 
| (1, 0) 1058 | Do, mi wnes i. | 
| (1, 0) 1060 | Gymaint o weithia' ag a fynnoch chi. | 
| (1, 0) 1069 | Na, rhaid i chi beidio meddwl hynny amdana i. | 
| (1, 0) 1072 | Miss O'Reilly? | 
| (1, 0) 1074 | Be' ddigwyddodd? | 
| (1, 0) 1075 | Be' ddaeth o hyn i gyd... rhyngon ni'n dau? | 
| (1, 0) 1079 | Do wrth gwrs, mi ddaeth y Ileill i mewn. | 
| (1, 0) 1080 | Pwy f'asai'n meddwl y b'aswn i'n anghofio hynny hefyd. | 
| (1, 0) 1083 | Na, dyna fasai rhywun yn ei feddwl. | 
| (1, 0) 1086 | Pa ddiwrnod? | 
| (1, 0) 1090 | Hm. | 
| (1, 0) 1091 | Rhaid i mi gyfaddef 'mod i wedi anghofio yr union ddiwrnod. | 
| (1, 0) 1092 | Mi wn i mai deng mlynedd yn ôl oedd hi. | 
| (1, 0) 1093 | Rywdro yn yr Hydref. | 
| (1, 0) 1097 | Ie, mae'n rhaid mai tua'r adeg honno oedd hi. | 
| (1, 0) 1098 | Pwy fuasai'n meddwl y b'asech chi'n cofio hynny hefyd. | 
| (1, 0) 1099 | O!... | 
| (1, 0) 1101 | Ond 'rhoswch am funud... | 
| (1, 0) 1102 | Ie, y pedwerydd ar bymtheg o Fedi ydy hi heddiw. | 
| (1, 0) 1105 | Addo i chi? | 
| (1, 0) 1106 | Bygwth ydych chi'n feddwl, debyg. | 
| (1, 0) 1108 | Wel, dipyn o dynnu coes hwyrach? | 
| (1, 0) 1111 | Neu gael jôc bach. | 
| (1, 0) 1112 | 'Does gen i ddim co' ond, mewn difri, rhaid mai felly roedd hi i radda'. | 
| (1, 0) 1113 | Wedi'r cwbwl, dim ond plentyn oeddech chi'r adeg honno. | 
| (1, 0) 1117 | Oeddech chi o ddifri calon yn disgwyl y down i'n ôl? | 
| (1, 0) 1120 | Dod yn ôl i'ch tŷ chi a mynd â chi i ffwrdd efo mi? | 
| (1, 0) 1122 | A'ch g'neud chi'n dywysoges? | 
| (1, 0) 1124 | A rhoi teyrnas i chi hefyd? | 
| (1, 0) 1128 | Ond rhywbeth lawn cystal? | 
| (1, 0) 1132 | Wn i ddim yn iawn b'le rydw i'n sefyll efo chi, Miss O'Reilly. | 
| (1, 0) 1135 | Na, fedra' i ddim penderfynu ydych chi'n golygu popeth ydych chi'n ei dd'eud ynte' dim ond gyboli ydych chi. | 
| (1, 0) 1139 | le, yn hollol. | 
| (1, 0) 1140 | Yn chwara' castia'... ein dau. | 
| (1, 0) 1142 | Oeddech chi'n gwybod 'mod i'n briod? | 
| (1, 0) 1145 | O wel. | 
| (1, 0) 1146 | Rŵan y trawodd o arna i. | 
| (1, 0) 1148 | Pam y daethoch chi? | 
| (1, 0) 1152 | Wel, rydych chi'n goblyn o hogan! | 
| (1, 0) 1161 | Rŵan, a siarad o ddifri'; pam y daethoch chi? | 
| (1, 0) 1162 | Be' sy' arnoch chi ei eisio yma mewn gwirionedd? | 
| (1, 0) 1164 | Dipyn o waith cerdded o'ch blaen chi felly. | 
| (1, 0) 1167 | Ydw wir, yn enwedig y blynyddoedd d'waetha yma. | 
| (1, 0) 1170 | Na. | 
| (1, 0) 1171 | Fydda' i ddim yn codi tyra' eglwysi erbyn hyn, nac eglwysi chwaith. | 
| (1, 0) 1173 | Cartrefi i bobol. | 
| (1, 0) 1187 | Na. | 
| (1, 0) 1188 | 'Does dim gofyn am betha' felly. | 
| (1, 0) 1192 | Ond rydw i'n g'neud tŷ newydd i mi fy hun, rŵan, dros y ffordd. | 
| (1, 0) 1194 | Ie, mae o bron wedi'i orffen. | 
| (1, 0) 1195 | Ac y mae yna dŵr arno fo. | 
| (1, 0) 1197 | Ie. | 
| (1, 0) 1199 | 'Does dim dwywaith na ddyfyd pobol ei fod o'n rhy uchel i dŷ. | 
| (1, 0) 1202 | D'wedwch i mi, Miss O'Reilly, be' ydy eich enw chi, eich enw cynta' chi ydw i'n el feddwl? | 
| (1, 0) 1205 | Helen? | 
| (1, 0) 1206 | Ie wir? | 
| (1, 0) 1209 | O, felly? | 
| (1, 0) 1211 | O, oeddech chi ddim yn hoffi hynny, Miss Helen? | 
| (1, 0) 1216 | Yn dda iawn wir, 'Y Dywysoges Helen'. | 
| (1, 0) 1217 | O, ie, be' oedd enw'r deymas i fod? | 
| (1, 0) 1221 | On'd ydy o'n rhyfedd? | 
| (1, 0) 1222 | Po fwya' y meddylia' i am y peth, tebyca'n y byd mae o'n edrych fel petawn i wedi bod yn poeni 'mhen ar hyd y blynyddoedd efo... hm... | 
| (1, 0) 1224 | Efo rhyw ymdrech i adennill rhywbeth, rhyw brofiad yr oeddwn i'n meddwl ei fod 0owedi mynd yn ango'. | 
| (1, 0) 1225 | Ond fu gen i erioed syniad be' fyddai o. | 
| (1, 0) 1227 | A phendronni wedyn pam roedd o yna, mae'n debyg. | 
| (1, 0) 1231 | Dyna beth da eich bod chi wedi dod ata' i rŵan. | 
| (1, 0) 1234 | Achos rydw i wedi bod mor unig yma. | 
| (1, 0) 1235 | Rydw i wedi bod yn syllu mor ddiymadferth ar y cwbwl. | 
| (1, 0) 1237 | Mi dd'weda' i wrthych chi. | 
| (1, 0) 1238 | Ers sbel rydw i wedi dechra' ofni, ie, ofni'n arw lawn, y to ifanc. | 
| (1, 0) 1242 | O, ydyn. | 
| (1, 0) 1243 | Dyna pam yr ydw i wedi fy nghloi a'm bario fy hun i mewn. | 
| (1, 0) 1245 | Ryw ddiwmod mi ddaw'r genhedlaeth ifanc a tharanu ar fy nrws i. | 
| (1, 0) 1246 | Mi ruthran amdana' i. | 
| (1, 0) 1248 | Agor y drws? | 
| (1, 0) 1257 | Medrwch wir. | 
| (1, 0) 1258 | Achos rydych chitha'n martsio dan faner newydd. | 
| (1, 0) 1259 | Yr ifanc yn amddiffynfa yn erbyn yr ifanc... | 
| (1, 0) 1263 | Rydyn ni wedi bod yn siarad am bob math o betha'. | 
| (1, 0) 1274 | Un o stafelloedd y plant? | 
| (1, 0) 1278 | Mi gaiff Helen gysgu yn un o stafelloedd y plant. | 
| (1, 0) 1281 | Ie, Helen ydy enw Miss O'Reilly. | 
| (1, 0) 1282 | Roeddwn i'n ei nabod hi'n blentyn. | 
| (1, 0) 1292 | Chi ydy'r union eneth yr ydw i wedi bod ei hangen hi fwyaf. | 
| (1, 0) 1296 | Sut? | 
| (1, 0) 1299 | Helen. | 
| (2, 0) 1325 | O, chi sy' na? | 
| (2, 0) 1327 | Ie, ie, popeth yn iawn. | 
| (2, 0) 1328 | Ddaeth Elwyn ddim? | 
| (2, 0) 1332 | Sut mae'r hen ŵr heddiw? | 
| (2, 0) 1334 | Yn hollol; mi fydd yn lles iddo fo gael gorffwys, ar bob cyfri'. | 
| (2, 0) 1335 | Well i chi fynd ymlaen efo'ch gwaith. | 
| (2, 0) 1338 | Na, wela' i ddim bod gen i ddim byd arbennig i'w dd'eud wrtho fo. | 
| (2, 0) 1344 | Ynta' hefyd? | 
| (2, 0) 1345 | Pwy arall ydych chi'n ei feddwl? | 
| (2, 0) 1347 | Gladys annwyl, fasai hi ddim gwell i chi fynd am dro bach? | 
| (2, 0) 1351 | Dal i gysgu mae hi? | 
| (2, 0) 1355 | Cofio amdani hi yn sydyn 'nes i. | 
| (2, 0) 1357 | O, ydy hi? | 
| (2, 0) 1361 | Dyna un o'r stafelloedd plant wedi dod i mewn reit handi wedi'r cwbwl, Gladys. | 
| (2, 0) 1363 | Gwell na'u bod nhw i gyd yn wag 'ddyliwn. | 
| (2, 0) 1367 | O hyn ymlaen Gladys mi fydd petha'n well, gewch chi weld. | 
| (2, 0) 1368 | Mi fydd yn brafiach, mi fydd bywyd yn haws, yn arbennig i chi. | 
| (2, 0) 1370 | Ie'n sicir i chi Gladys. | 
| (2, 0) 1373 | Be' oeddwn i'n ei feddwl, wrth gwrs, oedd... wedi i ni symud i'r tŷ newydd. | 
| (2, 0) 1377 | Mae'n rhaid iddi fod. | 
| (2, 0) 1378 | Rydych chitha' 'n credu hynny debyg? | 
| (2, 0) 1387 | Peidiwch, peidiwch â d'eud hyn'na er mwyn popeth, Gladys. | 
| (2, 0) 1388 | Fedra' i ddim diodde' eich clywed chi'n d'eud y fath beth. | 
| (2, 0) 1390 | Rydw i'n dal at be' dd'wedais i. | 
| (2, 0) 1391 | Gewch chi weld y bydd hi'n brafiach o lawer arnoch chi yn y tŷ newydd. | 
| (2, 0) 1394 | Bydd wir, mi fydd hi. | 
| (2, 0) 1395 | Mi ellwch fod yn berffaith siŵr achos mi fydd y lle'n llawn o betha' fydd yn eich atgoffa chi o'ch hen gartre'. | 
| (2, 0) 1398 | Ie, ie. | 
| (2, 0) 1399 | Gladys druan, roedd honno'n ergyd drom iawn i chi. | 
| (2, 0) 1403 | Wel yn enw'r nefoedd gadewch i ni beidio sôn dim mwy am y peth ynte'. | 
| (2, 0) 1407 | Fydda' i? | 
| (2, 0) 1408 | A pham y b'aswn i'n g'neud hynny, gwrthod meddwl am y peth? | 
| (2, 0) 1413 | Amdanoch chi, chi'ch hun ydych chi'n sôn Gladys? | 
| (2, 0) 1416 | Bobol annwyl. | 
| (2, 0) 1419 | Rydych chi'n iawn. | 
| (2, 0) 1420 | 'Anodd atal anlwc,' chwedl yr hen air. | 
| (2, 0) 1423 | Peidiwch â meddwl amdano fo, Gladys. | 
| (2, 0) 1427 | Chi eich hun. | 
| (2, 0) 1433 | Gladys, rhaid i chi addo na 'newch chi byth feddwl am hyn eto. | 
| (2, 0) 1434 | Newch chi addo f'annwyl i? | 
| (2, 0) 1439 | O, mae hyn yn anobeithiol. | 
| (2, 0) 1440 | Dim llygedyn o heulwen na gwawr fach o oleuni ar ein cartre' ni. | 
| (2, 0) 1442 | O nâc ydy. | 
| (2, 0) 1443 | Hawdd y gellwch chi dd'eud hynny. | 
| (2, 0) 1445 | A hwyrach eich bod chi'n iawn na fydd hi ddim gwell yn y tŷ newydd chwaith. | 
| (2, 0) 1449 | Pam ar y ddaear yr ydyn ni wedi'i adeiladu o ynte'? | 
| (2, 0) 1450 | Fedrwch chi dd'eud wrtha i? | 
| (2, 0) 1454 | Be' yn hollol ydych chi'n ei feddwl Gladys? | 
| (2, 0) 1456 | Ie. | 
| (2, 0) 1457 | Be' aflwydd ydych chi'n ei feddwl? | 
| (2, 0) 1458 | Mi ddwed'soch chi'r peth mor rhyfedd fel 'tai rhyw ystyr gudd ynddo fo. | 
| (2, 0) 1461 | Dowch rŵan. | 
| (2, 0) 1462 | Mi wn i be ydy be. | 
| (2, 0) 1463 | 'Dydw i ddim yn ddall nâc yn fyddar. | 
| (2, 0) 1467 | Rydych chi'n gweld rhyw ystyr gudd a llechwraidd yn y petha' mwya' diniwed fydda' i'n ei ddeud, on'd ydych? | 
| (2, 0) 1470 | Ho, ho, ho. | 
| (2, 0) 1471 | Mae o'n ddigon naturiol, debyg, a chitha' efo dyn sâl i edrych ar ei ôl. | 
| (2, 0) 1475 | Dyn hanner call ynte', dyn wedi drysu. | 
| (2, 0) 1476 | Galwch fi be' fynnoch chi. | 
| (2, 0) 1479 | Ond rydych chi wedi methu, chi a'r doctor. | 
| (2, 0) 1480 | Nid dyna sy' o'i le arna' i. | 
| (2, 0) 1484 | Mewn gwirionedd 'does 'na ddim o gwbwl o'i le arna' i. | 
| (2, 0) 1487 | Fy mod i'n teimlo'n barod i sigo dan ryw faich dychrynllyd o ddyled. | 
| (2, 0) 1491 | Rydw i mewn dyled ddiderfyn i chi Gladys. | 
| (2, 0) 1495 | Does yna ddim byd y tu ôl iddo fo. | 
| (2, 0) 1496 | 'Dydw i erioed wedi g'neud dim drwg i chi, ddim o fwriad beth bynnag. | 
| (2, 0) 1497 | Ac eto, mae fel petai yna euogrwydd mawr yn fy ngwasgu fi i lawr. | 
| (2, 0) 1499 | Ie, chi'n bennaf. | 
| (2, 0) 1502 | Mae'n rhaid fy mod i, neu bod rhywbeth o'i le. | 
| (2, 0) 1504 | A, dyna hi'n goleuo rŵan. | 
| (2, 0) 1509 | Ddar'u chi gysgu'n iawn? | 
| (2, 0) 1514 | Roeddech chi'n berffaith gyffyrddus felly? | 
| (2, 0) 1516 | Ac mi ddar'u chi freuddwydio reit siŵr. | 
| (2, 0) 1518 | O? | 
| (2, 0) 1521 | Byddaf, rŵan ac yn y man. | 
| (2, 0) 1523 | Iasa' nes bod rhywun yn teimlo'n oer drosto. | 
| (2, 0) 1525 | Byddaf cyn uched fyth ag a fedra' i. | 
| (2, 0) 1542 | Ie, ond mi allai pobol gymryd yn eu penna' eich bod chitha' o'ch co', ydych chi'n gweld. | 
| (2, 0) 1546 | Dyma i chi |un| beth bynnag. | 
| (2, 0) 1549 | Ydych chi ddim wedi sylwi ar hynny eto? | 
| (2, 0) 1553 | Glywsoch chi |hyn'na| Gladys? | 
| (2, 0) 1557 | Dowch rŵan, allan â fo. | 
| (2, 0) 1561 | Ydych chi'n meddwl hynny? | 
| (2, 0) 1567 | Ydych chi'n meddwl eich bod chi wedi gweld rhyw arwydd o hynny o gwbwl? | 
| (2, 0) 1570 | Mae Gladys wedi mynd yn swil iawn efo pobol ddiarth y blynyddoedd d'waetha' 'ma. | 
| (2, 0) 1572 | Ond dim ond i chi ddod i'w nabod hi'n iawn, mae hi mor neis a charedig. | 
| (2, 0) 1573 | Mae ganddi hi galon fawr. | 
| (2, 0) 1576 | Ei dyletswydd? | 
| (2, 0) 1579 | Pam? | 
| (2, 0) 1584 | Hm! | 
| (2, 0) 1585 | Feddyliais i ddim llawer amdano fo. | 
| (2, 0) 1588 | Ond nefoedd fawr, be' f'asech chi wedi hoffi iddi hi 'i ddeud ynte'? | 
| (2, 0) 1591 | Felly yr hoffech chi? | 
| (2, 0) 1595 | Oes. | 
| (2, 0) 1596 | Rydw i wedi hel cryn dipyn. | 
| (2, 0) 1598 | Mi fyddwn i'n arfer trïo. | 
| (2, 0) 1599 | Fyddwch chi'n darllen llawer? | 
| (2, 0) 1603 | Dyna'n union fydda' inna' 'n ei feddwl. | 
| (2, 0) 1606 | Nâc e. | 
| (2, 0) 1607 | Dyn ifanc sy'n gweithio i mi sy' wedi'i g'neud nhw. | 
| (2, 0) 1609 | Ydy, yn ddiama' mae o wedi dysgu dipyn oddi wrtha i. | 
| (2, 0) 1614 | Dydy o ddim yn ddrwg, at be' ydw i ei angen. | 
| (2, 0) 1616 | Ydych chi'n medru gweld hynny o'r cynllunia'? | 
| (2, 0) 1619 | Ond mae 'na ddigonedd o bobol sy' wedi dysgu efo mi ac wedi g'neud ychydig iawn o'u hôl er hynny. | 
| (2, 0) 1622 | Twp? | 
| (2, 0) 1623 | Ydych chi'n meddwl 'mod i'n un gwirion iawn? | 
| (2, 0) 1627 | Wel, a pham lai? | 
| (2, 0) 1636 | Sut ar y ddaear y daeth hyn'na i'ch pen chi? | 
| (2, 0) 1638 | Na, nid dyna ydw i'n ei feddwl. | 
| (2, 0) 1639 | Ond rŵan mi dd'weda i rywbeth wrthych chi. | 
| (2, 0) 1641 | Yma, ar fy mhen fy hun, mi fydda i'n synfyfyrio uwchben yr union syniad yna. | 
| (2, 0) 1644 | Ydych chi wedi sylwi'n barod, felly? | 
| (2, 0) 1646 | Ond gynna' pan ddar'u chi dd'eud eich bod chi'n meddwl bod 'na ryw un peth od... | 
| (2, 0) 1648 | Be' oedd o? | 
| (2, 0) 1651 | Iawn, fel y mynnoch chi. | 
| (2, 0) 1653 | Dowch yma. | 
| (2, 0) 1654 | Mi dd'weda' i rywbeth wrthych chi. | 
| (2, 0) 1657 | Welwch chi yn fan'cw, yn yr ardd? | 
| (2, 0) 1660 | Reit uwchben y chwarel. | 
| (2, 0) 1662 | Ie, yr un sy'n cael ei adeiladu rŵan, bron wedi'i orffen. | 
| (2, 0) 1664 | Mae'r sgaffald yn dal i fyny. | 
| (2, 0) 1666 | Ie. | 
| (2, 0) 1668 | Ie. | 
| (2, 0) 1671 | Oes, tair fel sy' yma. | 
| (2, 0) 1673 | Ie, a fydd yno byth un. | 
| (2, 0) 1676 | Sut felly? | 
| (2, 0) 1678 | Hynny oedd y tu ôl i'ch meddwl chi? | 
| (2, 0) 1682 | Mi |fu| gan Gladys a finna' blant wyddoch chi. | 
| (2, 0) 1685 | Dau hogyn bach, yr un oed. | 
| (2, 0) 1687 | Ie, gefeilliaid. | 
| (2, 0) 1688 | Mae un mlynedd ar ddeg neu ddeuddeng mlynedd ers hynny rŵan. | 
| (2, 0) 1693 | Dim ond rhyw dair wythnos y buon nhw gennyn ni, prin hynny. | 
| (2, 0) 1695 | O Helen, fedra' i ddim d'eud wrthych chi pa mor fendithiol ydy eich bod chi wedi dod. | 
| (2, 0) 1696 | Achos, o'r diwedd mae gen i rywun y medra' i |siarad| efo hi. | 
| (2, 0) 1698 | Ddim am hyn. | 
| (2, 0) 1699 | Nid fel yr ydw i'n dymuno. | 
| (2, 0) 1700 | Ac fel y mae'n rhaid i mi siarad. | 
| (2, 0) 1702 | Nâc am lawer o betha' eraill chwaith. | 
| (2, 0) 1705 | Hynny'n fwy na dim. | 
| (2, 0) 1706 | O leiaf, ddoe, achos erbyn heddiw dydw i ddim mor siŵr. | 
| (2, 0) 1708 | Helen, dowch yma; mi eisteddwn ni. | 
| (2, 0) 1709 | Eisteddwch chi yn fan'na lle medrwch chi weld yr ardd. | 
| (2, 0) 1712 | Fasech chi'n hoffi clywed am y peth? | 
| (2, 0) 1715 | Mi dd'weda' i'r cyfan wrthych chi ynte'. | 
| (2, 0) 1716 | 'Helen | 
| (2, 0) 1717 | Reit. | 
| (2, 0) 1718 | Mi alla' i weld yr ardd a chitha. | 
| (2, 0) 1719 | Away. | 
| (2, 0) 1721 | Draw ar y codiad tir acw... lle gwelwch chi'r tŷ newydd. | 
| (2, 0) 1723 | Roedd Gladys a finna''n byw yn fan'na y blynyddoedd cyntaf ar ôl priodi. | 
| (2, 0) 1724 | Roedd yno hen dŷ wedi bod yn perthyn i'w mam hi. | 
| (2, 0) 1725 | Fe gafodd ei adael i ni a'r cwbwl o'r hen ardd i'w ganlyn o. | 
| (2, 0) 1727 | Nâc oedd. | 
| (2, 0) 1728 | Dim byd tebyg. | 
| (2, 0) 1729 | O'r tu allan roedd o'n edrych fel bocs pren mawr tywyll ond oddi fewn roedd o'n ddigon clyd a chysurus. | 
| (2, 0) 1732 | Na. | 
| (2, 0) 1733 | Mi aeth ar dân. | 
| (2, 0) 1735 | Ie. | 
| (2, 0) 1737 | Mae'n dibynnu sut yr edrychwch chi ar y peth. | 
| (2, 0) 1738 | O ran busnes dyna'r peth gora' a ddigwyddodd i mi. | 
| (2, 0) 1740 | Yn fuan wedi geni'r ddau hogyn bach oedd hi. | 
| (2, 0) 1742 | Roedden nhw'n fabanod bach cryf, nobl. | 
| (2, 0) 1743 | A thyfu yr oedden nhw. | 
| (2, 0) 1744 | Mi fedrech chi weld y gwahaniaeth bob dydd. | 
| (2, 0) 1746 | Fel y byddai'r ddau'n gorwedd ym mreichia'u mam, ddela' welsoch chi erioed. | 
| (2, 0) 1747 | Ond wedyn mi ddaeth noson y tân... | 
| (2, 0) 1752 | Naddo. | 
| (2, 0) 1753 | Mi ddaeth pawb allan o'r tŷ yn ddiogel. | 
| (2, 0) 1755 | Roedd Gladys wedi dychryn a chynhyrfu'n arw. | 
| (2, 0) 1756 | Y corn tân, y rhuthro allan ar frys gwyllt ac ar ben hynny, awyr oer y nos... | 
| (2, 0) 1757 | Achos mi fu'n rhaid eu cario allan yn union fel yr oedden nhw'n gorwedd, hi a'r plant. | 
| (2, 0) 1759 | Na, doedden nhw ddim gwaeth. | 
| (2, 0) 1760 | Ond mi gafodd Gladys dwymyn ac mi effeithiodd ar ei llaeth hi. | 
| (2, 0) 1761 | Thalai dim ond iddi gael eu magu nhw ei hun, am mai dyna oedd ei dyletswydd hi, meddai hi. | 
| (2, 0) 1762 | A mi ddaru ein dau blentyn bach ni... | 
| (2, 0) 1764 | Mi fuon nhw... | 
| (2, 0) 1766 | Naddo. | 
| (2, 0) 1767 | Dyna sut y dar'u ni eu colli nhw. | 
| (2, 0) 1769 | Roedd hi'n ddigon drwg arna' i ond roedd hi'n saith gwaeth ar Gladys. | 
| (2, 0) 1771 | I feddwl bod y fath beth yn cael ei ganiatáu ar y ddaear yma. | 
| (2, 0) 1773 | O'r diwrnod y collais i nhw 'doedd gen i ddim awydd i adeiladu eglwysi mwy. | 
| (2, 0) 1775 | Na doedd o ddim yn bleser. | 
| (2, 0) 1776 | Mi wn i pa mor hapus a rhydd oeddwn i'n teimlo pan orffennwyd y tŵr hwnnw. | 
| (2, 0) 1778 | A rŵan, adeilada' i byth ddim byd fel 'na eto, byth eto. | 
| (2, 0) 1779 | Nâc eglwysi na thyra' eglwysi. | 
| (2, 0) 1782 | Cartrefi i foda' dynol Helen. | 
| (2, 0) 1784 | Ie, hwyrach. | 
| (2, 0) 1786 | Ond, fel yr oeddwn i'n d'eud, y tân roddodd fi ar fy nhraed, fel contractor ydw i'n ei feddwl. | 
| (2, 0) 1788 | Chefais i erioed yr addysg dechnegol. | 
| (2, 0) 1789 | Petha' ydw i wedi ddysgu wrth fynd ydy'r rhan fwyaf o'r hyn a wn i. | 
| (2, 0) 1791 | Do, diolch i'r tân. | 
| (2, 0) 1792 | Mi rannais i bron y cwbwl o'r ardd yn blotia' a chodi tai ar y rheini yn ôl fy ffansi. | 
| (2, 0) 1793 | Mi ddois i ymlaen yn wych. | 
| (2, 0) 1797 | Hapus? | 
| (2, 0) 1798 | Ydych chitha'n d'eud hynny hefyd, 'run fath â'r lleill? | 
| (2, 0) 1801 | Y ddau fachgen bach; 'dydyn nhw ddim mor hawdd eu hanghofio, Helen. | 
| (2, 0) 1805 | Dyn hapus dd'wedsoch chi? | 
| (2, 0) 1808 | Pan oeddwn i'n d'eud yr hanes am y tân... | 
| (2, 0) 1810 | Ddaru 'na ddim byd eich taro chi'n arbennig? | 
| (2, 0) 1815 | Y tân yna a hwnnw'n unig roddodd y cyfle i mi i neud cartrefi. | 
| (2, 0) 1816 | Cartrefi clyd a chysurus a siriol lle gall tad a mam a phlant fyw'n ddiogel a llawen a theimlo ei bod hi'n braf bod yn fyw. | 
| (2, 0) 1817 | A mwy na hynny bod yn perthyn y naill i'r llall mewn petha' bach a phetha' mawr. | 
| (2, 0) 1820 | Y pris Helen, y pris dychrynllyd y bu raid i mi ei dalu am hynny. | 
| (2, 0) 1822 | Na fedraf. | 
| (2, 0) 1823 | Er mwyn g'neud cartrefi i bobol eraill roedd yn rhaid i mi fyw heb gartre' i mi fy hun,... am byth, hynny ydy cartre' i griw o blant ac i dad a mam. | 
| (2, 0) 1827 | Dyna oedd pris yr hapusrwydd yma y bydd pobol yn sôn amdano. | 
| (2, 0) 1828 | 'Doedd yr hapusrwydd yma ddim i'w gael yn rhatach Helen. | 
| (2, 0) 1831 | Byth yn y byd yma. | 
| (2, 0) 1832 | Byth. | 
| (2, 0) 1833 | Dyna un arall o ganlyniada'r tân. | 
| (2, 0) 1834 | Ac o afiechyd Gladys ar ei ôl o. | 
| (2, 0) 1838 | Ydych chi erioed wedi sylwi fel mae'r amhosib yn hudo dyn, yn codi'i law a galw'n daer ar rywun? | 
| (2, 0) 1844 | Ydw. | 
| (2, 0) 1846 | Dewin? | 
| (2, 0) 1849 | Ie, hwyrach eich bod chi'n iawn. | 
| (2, 0) 1851 | Ond sut y medra i ddianc o afael yr ysbrydion yma, pan fo popeth yn troi allan fel hyn yn fy hanes i bob amser? | 
| (2, 0) 1854 | Gwrandewch yn ofalus Helen. | 
| (2, 0) 1855 | Mae'r cwbwl ydw i wedi llwyddo i'w 'neud, adeiladu tai, llunio cyfle llawenydd, ceisio darparu cysur, ie, a'r gwychter hefyd... | 
| (2, 0) 1857 | O, mae'n ofnadwy meddwl am y peth... | 
| (2, 0) 1859 | Bod rhaid i mi dalu'n ôl am hyn i gyd, talu, nid mewn arian ond mewn hapusrwydd. | 
| (2, 0) 1860 | Ac nid fy hapusrwydd fy hun yn unig ond efo hapusrwydd pobol eraill hefyd. | 
| (2, 0) 1861 | Welwch chi Helen? | 
| (2, 0) 1862 | Dyna bris bod yn artist, y pris am |lwyddo wrth gyflawni rhywbeth yn y byd 'ma|, i mi ac eraill. | 
| (2, 0) 1863 | A phob un dydd mae'n rhaid i mi wylio tra bo'r pris yn cael ei dalu drosta' i o'r newydd. | 
| (2, 0) 1864 | Drosodd a throsodd a throsodd, am byth. | 
| (2, 0) 1867 | Ie, am Gladys yn bennaf. | 
| (2, 0) 1868 | Oherwydd roedd ganddi hitha' ei galwedigaeth mewn bywyd gymaint ag oedd gen i. | 
| (2, 0) 1870 | Ond mi fu raid gwasgu ei gweledigaeth hi, ei malu a'i chwalu er mwyn i f'un i fedru gwthio'i ffordd i ryw fath o fuddugoliaeth fawr. | 
| (2, 0) 1871 | Roedd gan Gladys ddawn i adeiladu hefyd, cofiwch. | 
| (2, 0) 1874 | Nid tai a thyra' a'r petha' y bydda' i yn gweithio arnyn nhw. | 
| (2, 0) 1877 | Llunio eneidia' plant bach, Helen; eu llunio nhw i dyfu'n gytbwys i fod yn bobol ifainc o gymeriad ac yna'n bobol dda, yn gryf ac yn annibynnol. | 
| (2, 0) 1878 | Dyna oedd talent Gladys. | 
| (2, 0) 1879 | A dyna hi'n gorwedd heb ei harfer, yn ddiffrwyth am byth... yn dda i ddim i neb,... yn union 'run fath â'r adfeilion ar ôl y tân. | 
| (2, 0) 1881 | Mae o'n wir. | 
| (2, 0) 1882 | O, ydy. | 
| (2, 0) 1883 | Mi wn i. | 
| (2, 0) 1886 | A! Dyna ydy'r cwestiwn mawr, y cwestiwn brawychus. | 
| (2, 0) 1887 | Ama' hynny sy'n fy mwyta i nos a dydd. | 
| (2, 0) 1889 | Ie. | 
| (2, 0) 1890 | Fy mai i oedd o mewn rhyw ffordd, cofiwch. | 
| (2, 0) 1893 | Y cwbwl, y tân a'r cwbwl. | 
| (2, 0) 1894 | Ac eto hwyrach 'mod i'n ddieuog. | 
| (2, 0) 1897 | Hm. | 
| (2, 0) 1898 | 'Dydw i ddim yn meddwl y bydda i byth yn iach,... mewn un ystyr. | 
| (2, 0) 1904 | Na, paid â mynd. | 
| (2, 0) 1905 | Gad i ni ei gael o drosodd. | 
| (2, 0) 1908 | Dydy dy dad ddim gwell rydw i'n deall. | 
| (2, 0) 1913 | Wrandawa' i ddim mwy am y cynllunia' yma sy' gen ti. | 
| (2, 0) 1915 | Ydw. | 
| (2, 0) 1919 | Aros di yma efo mi, Elwyn. | 
| (2, 0) 1920 | Gei di bopeth dy ffordd dy hun. | 
| (2, 0) 1921 | Mi fedri di briodi Gwyneth wedyn a byw yn braf, yn hapus hwyrach, pwy a ŵyr. | 
| (2, 0) 1922 | Ond paid â meddwl am godi tai ar dy liwt dy hun. | 
| (2, 0) 1928 | O, o. | 
| (2, 0) 1929 | Dywed ti be' fynnot ti o'm rhan i. | 
| (2, 0) 1930 | Gwell peidio deud dim wrtho fo. | 
| (2, 0) 1932 | Cei, cymer nhw ar bob cyfri. | 
| (2, 0) 1933 | Maen nhw ar y bwrdd yn fan 'na. | 
| (2, 0) 1938 | Pam? | 
| (2, 0) 1940 | Ond rydych chi |wedi bod|... | 
| (2, 0) 1942 | Gadael nhw yma ynte'. | 
| (2, 0) 1944 | Gwell i ti fynd adre at dy dad ar d'union. | 
| (2, 0) 1947 | Elwyn, rhaid i ti beidio gofyn i mi 'neud rhywbeth sy' y tu hwnt i ngallu i. | 
| (2, 0) 1948 | Wyt ti'n clywed? | 
| (2, 0) 1949 | Rhaid i ti beidio. | 
| (2, 0) 1955 | Ydych chi'n meddwl hynny? | 
| (2, 0) 1958 | Dydych chi ddim yn deall fy sefyllfa i. | 
| (2, 0) 1961 | Mi dd'wedsoch eich hun gynna' na ddylai neb arall ond fi gael adeiladu. | 
| (2, 0) 1964 | Siawns na cha' i, yn anad neb, fi sy' wedi talu mor ddrud am fy safle. | 
| (2, 0) 1967 | A thawelwch cydwybod yn y fargen. | 
| (2, 0) 1976 | Eisteddwch i lawr am funud eto Helen. | 
| (2, 0) 1977 | Mi dd'weda' i rywbeth doniol wrthych chi. | 
| (2, 0) 1980 | Mae o'n swnio'n beth bach mor wrthun; achos mae'r stori i gyd yn troi o gylch dim byd ond... crac mewn simdde. | 
| (2, 0) 1982 | Ddim yn y dechra'. | 
| (2, 0) 1987 | Roeddwn i wedi sylwi ar y crac yn y simdde. | 
| (2, 0) 1988 | O, ymhell cyn y tân. | 
| (2, 0) 1989 | Bob tro y byddwn i'n mynd i'r atig mi fyddwn i'n edrych oedd o'n dal yno. | 
| (2, 0) 1991 | Oedd, 'doedd neb arall yn gwybod amdano fo. | 
| (2, 0) 1993 | Dim gair. | 
| (2, 0) 1995 | O, do. | 
| (2, 0) 1996 | Mi feddyliais i am 'neud ond dyna'r cwbwl. | 
| (2, 0) 1997 | Bob tro y byddwn i'n bwriadu dechra' arni roedd yn union fel petai rhyw law yn fy nal i'n ôl. | 
| (2, 0) 1998 | Ddim heddiw, meddwn i wrthyf fy hun,... yfory. | 
| (2, 0) 1999 | Yn y diwedd chafodd o 'mo'i 'neud. | 
| (2, 0) 2001 | Am fy mod i'n pendronni ynghylch rhywbeth. | 
| (2, 0) 2003 | Mi fedrwn i, hwyrach, drwy'r crac bach yn y simdde, fy ngwthio fy hun i fyny... fel adeiladwr. | 
| (2, 0) 2006 | Bron yn llwyr. | 
| (2, 0) 2007 | Wel, yn llwyr. | 
| (2, 0) 2008 | Achos yr adeg honno roeddwn i'n ei weld o'n fater syml a hawdd. | 
| (2, 0) 2009 | Mi ddigwyddai yn y gaeaf,... ychydig cyn amser cinio. | 
| (2, 0) 2010 | Mi fyddwn i allan am dro bach yn y car efo Gladys. | 
| (2, 0) 2011 | Byddai'r forwyn, gartre', wedi g'neud tanllwyth o dân iawn i gynhesu'r tŷ. | 
| (2, 0) 2013 | Yn oer iawn allan. | 
| (2, 0) 2014 | A byddai'r forwyn yn awyddus i Gladys deimlo'r tŷ yn berffaith glyd a chynnes pan ddoen ni adre. | 
| (2, 0) 2016 | Ydy, mae hi. | 
| (2, 0) 2017 | Ac fel y bydden ni'n agosáu, roedden ni i weld mwg. | 
| (2, 0) 2019 | Y mwg gynta'. | 
| (2, 0) 2020 | Ond pan fydden ni'n dod at giat yr ardd, mi fyddai'r hen dŷ i gyd ar dân a'r fflama' 'n rhuo drwy'r ffenestri. | 
| (2, 0) 2021 | Felly roeddwn i'n dychmygu sut y byddai hi, ydych chi'n gweld. | 
| (2, 0) 2023 | Pam yn wir? | 
| (2, 0) 2026 | Nâc ydw. | 
| (2, 0) 2027 | I'r gwrthwyneb, rydw i'n hollol siŵr nad oedd a wnelo'r crac yn y simdde ddim byd o gwbwl â'r tân. | 
| (2, 0) 2029 | Mi wnaethpwyd yn berffaith siŵr mai yn y cwpwrdd dillad, mewn darn hollol wahanol o'r tŷ y cychwynnodd y tân. | 
| (2, 0) 2031 | Ga' i ddal i siarad efo chi am dipyn, Helen? | 
| (2, 0) 2034 | Mi wnâ i 'ngore. | 
| (2, 0) 2038 | Ydych chi ddim yn cytuno fod na rai pobol, rhai wedi cael eu dewis yn arbennig. | 
| (2, 0) 2039 | Rhai'n meddu'r gallu a'r ddawn i ddymuno rhywbeth, awchu amdano, ewyllysio rhywbeth efo cymaint o ddyfalbarhad ac mor benderfynol, fel yn y diwedd bod yn rhaid i'r peth ddigwydd? | 
| (2, 0) 2040 | Ydych chi ddim yn credu hyn na? | 
| (2, 0) 2043 | All rhywun ddim g'neud petha' mor fawr ohono'i hun yn unig, cofiwch. | 
| (2, 0) 2044 | O na. | 
| (2, 0) 2045 | Mae'n rhaid i'r rhai nad ydyn nhw ond gweision a negeswyr 'neud eu rhan hefyd,... i'r peth weithio. | 
| (2, 0) 2046 | Ond fydd y rheini byth yn dod ohonyn nhw'u hunain. | 
| (2, 0) 2047 | Mae'n rhaid i ddyn alw yn daer iawn arnyn nhw. | 
| (2, 0) 2048 | Galw oddi mewn iddo'i hun, ydych chi'n deall? | 
| (2, 0) 2050 | O mi gawn ni siarad am hynny rywdro eto. | 
| (2, 0) 2051 | Ar hyn o bryd gadewch i ni gadw at fusnes y tân 'ma. | 
| (2, 0) 2053 | Petai'r tŷ wedi digwydd bod yn perthyn i'r hen Owen Meredith, fasai fo byth wedi mynd ar dân mor hwylus iddo fo. | 
| (2, 0) 2054 | Rydw i'n siŵr o hynny achos ŵyr o ddim sut i alw'r gweision a'r negeswyr. | 
| (2, 0) 2056 | Felly fy mai i oedd o wedi'r cwbwl, bod rhaid aberthu bywyda'r bechgyn bach, ydych chi'n gweld, Helen? | 
| (2, 0) 2057 | Ydych chi ddim yn meddwl, hefyd, mai arna' i mae'r bai am gyflwr Gladys? | 
| (2, 0) 2058 | Na chafodd hi ddatblygu i'r ddynes allai hi fod a'r hyn yr oedd hi'n hiraethu am fod? | 
| (2, 0) 2060 | Pwy alwodd ar y gweision a'r negeswyr? | 
| (2, 0) 2061 | Fi! | 
| (2, 0) 2062 | Ac mi ddaethon ac ufuddhau i'm hewyllys i. | 
| (2, 0) 2064 | Bod yn lwcus, dyna fydd pobol yn galw hyn 'na. | 
| (2, 0) 2065 | Ond mi dd'weda' i wrthych chi sut mae'r lwc 'ma'n teimlo. | 
| (2, 0) 2066 | Mae o fel petai gen i ddarn mawr o gig noeth ar fy mrest. | 
| (2, 0) 2067 | A'r gweision a'r negeswyr wrthi'n wastad yn plicio darna' o groen oddi ar gyrff pobol eraill i gau fy mriw i. | 
| (2, 0) 2068 | Ond 'dydy'r briw ddim wedi'i gau byth. | 
| (2, 0) 2069 | O, pe baech chi ond yn gwybod sut y mae o'n tynnu ac yn llosgi weithia'. | 
| (2, 0) 2072 | Wedi drysu, waeth i chi ddeud, achos dyna ydych chi'n ei feddwl. | 
| (2, 0) 2074 | Ar be' ynte'? | 
| (2, 0) 2075 | Allan â fo. | 
| (2, 0) 2077 | Cydwybod giami? | 
| (2, 0) 2078 | Be goblyn ydy hynny? | 
| (2, 0) 2081 | Hm. | 
| (2, 0) 2082 | Ga' i ofyn, sut gydwybod ddylai fod gan ddyn? | 
| (2, 0) 2084 | Felly wir? | 
| (2, 0) 2085 | Cadarn ai e? | 
| (2, 0) 2086 | Ydy'ch cydwybod chi'ch hun yn gadarn? | 
| (2, 0) 2089 | Chafodd hi 'mo'i phrofi'n galed iawn 'ddyliwn. | 
| (2, 0) 2092 | A hynny ddim ond am ryw fis neu ddau? | 
| (2, 0) 2094 | Byth? | 
| (2, 0) 2095 | Wel pam y dar'u chi ei adael o ynte'? | 
| (2, 0) 2098 | Twt lol. | 
| (2, 0) 2099 | Oedd 'na rywbeth o'i le gartre' ynte'? | 
| (2, 0) 2103 | Dyna chi wedi'i tharo hi, Helen. | 
| (2, 0) 2104 | Mae yna ddewin neu witj yn eich corddi chi fel finna'. | 
| (2, 0) 2105 | Oherwydd yr ysbryd mewn dyn sy'n galw ar y pwera' y tu allan iddo, ydych chi'n gweld. | 
| (2, 0) 2106 | A wedyn mae'n rhaid i ni ildio, hoffí hynny neu beidio. | 
| (2, 0) 2109 | Oes, mae na ysbrydion ar gerdded yn y byd 'ma, Helen. | 
| (2, 0) 2110 | Tylwyth na fyddwn i byth yn eu gweld nhw. | 
| (2, 0) 2114 | Tylwyth teg a thylwyth drwg. | 
| (2, 0) 2115 | Rhai pryd gola' a rhai pryd tywyll. | 
| (2, 0) 2116 | Petai rhywun ddim ond yn gwybod pa fath sy' wedi gafael ynddo fo. | 
| (2, 0) 2118 | Ho, ho. | 
| (2, 0) 2119 | Mi fuasai'n reit hawdd wedyn. | 
| (2, 0) 2123 | Rydw i'n credu erbyn hyn mai creaduriaid go wan fel finna' ydy'r rhan fwyaf o bobol yn hynny o beth. | 
| (2, 0) 2126 | Yn y llyfra' hanes,... ydych chi wedi darllen rhai ohonyn nhw? | 
| (2, 0) 2128 | Yn y llyfra' hanes mae 'na sôn am y cenhedloedd duon yn hwylio ar longa', o wledydd y gogledd, i ysbeilio a llosgi a lladd... | 
| (2, 0) 2130 | A'u cadw'n gaeth... | 
| (2, 0) 2132 | Ac ymddwyn tuag atyn nhw fel... fel diawliaid. | 
| (2, 0) 2136 | Dwyn merched, ie? | 
| (2, 0) 2139 | O, felly wir. | 
| (2, 0) 2142 | Am fod rhaid bod gan yr hogia' yne gydwyboda' go wydn, beth bynnag. | 
| (2, 0) 2143 | Ar ôl cyrraedd adre' roedden nhw'n medru bwyta ac yfed a bod yn hapus fel plant. | 
| (2, 0) 2144 | Ac am y merched, roedden nhw'n gwrthod gadael wedyn ar unrhyw gyfri'. | 
| (2, 0) 2145 | Fedrwch chi ddeall hynny Helen? | 
| (2, 0) 2147 | Oho! | 
| (2, 0) 2148 | Hwyrach y b'asech chi'n medru g'neud yr un peth eich hun. | 
| (2, 0) 2150 | Fasech chi byth, o'ch bodd, yn dewis byw efo rhyw fwystfil fel 'na. | 
| (2, 0) 2152 | Fedrech chi ddod i garu dyn fel 'na? | 
| (2, 0) 2156 | Ie. | 
| (2, 0) 2157 | Mae'n debyg mai'r dewin tu fewn i rywun sy'n gyfrifol am hynny. | 
| (2, 0) 2161 | Wel, rydw i'n gobeithio â'm holl galon y bydd yr ysbrydion yn dewis yn garedig drosoch chi, Helen. | 
| (2, 0) 2165 | Helen, rydych chi fel deryn gwyllt o'r coed! | 
| (2, 0) 2168 | Na. | 
| (2, 0) 2169 | Dipyn o deulu'r barcud sy' ynoch chi. | 
| (2, 0) 2175 | Helen, wyddoch chi be ydych chi? | 
| (2, 0) 2178 | Na. | 
| (2, 0) 2179 | Rydych chi megis toriad gwawr. | 
| (2, 0) 2180 | Pan fydda' i'n edrych arnoch chi mae fel petawn i'n gweld y dydd yn deffro. | 
| (2, 0) 2184 | Bron na thybiwn i fod yn rhaid 'mod i wedi g'neud. | 
| (2, 0) 2185 | 58 Helen | 
| (2, 0) 2186 | Be' sy' arnoch chi ei eisio gen i? | 
| (2, 0) 2187 | Chi ydy'r genhedlaeth ifanc, Helen. | 
| (2, 0) 2191 | Ac yr ydw i'n hiraethu cymaint amdano yn fy nghalon. | 
| (2, 0) 2195 | Rhowch y petha' yna o'r neilltu. | 
| (2, 0) 2196 | Rydw i wedi gweld digon arnyn nhw. | 
| (2, 0) 2198 | Cymeradwyaeth? | 
| (2, 0) 2199 | Byth. | 
| (2, 0) 2203 | Ie, dyna'n union be' gâi o. | 
| (2, 0) 2204 | Mae o wedi g'neud yn siŵr o hynny,... y dyn ifanc smart 'ma. | 
| (2, 0) 2206 | Celwydd? | 
| (2, 0) 2208 | Helen, ewch â phlania'r diafol o 'ngolwg i. | 
| (2, 0) 2215 | Ddim arna' i. | 
| (2, 0) 2218 | Arhoswch ble rydych chi, Helen. | 
| (2, 0) 2219 | Mi ddylwn i dd'eud celwydd, meddech chi. | 
| (2, 0) 2220 | Wel, dylwn hwyrach er mwyn yr hen ddyn ei dad druan. | 
| (2, 0) 2221 | Achos mi wnes i ddrwg iddo fo, ei wasgu o i lawr. | 
| (2, 0) 2223 | Roedd arna' i angen lle í mi fy hun. | 
| (2, 0) 2224 | Ond yr Elwyn ma, does wiw iddo fo ddechra' dod yn ei flaen. | 
| (2, 0) 2227 | Os daw Elwyn Meredith yn ei flaen mi fydd yn fy ngwthio i i lawr, yn rhoi'r farwol i mi. | 
| (2, 0) 2229 | O ydy, mi ellwch fentro. | 
| (2, 0) 2230 | Fo ydy'r genhedlaeth newydd sy'n barod i gnocio ar fy nrws i a rhoi diwedd am byth ar Isaac Ryan Morris, y contractor. | 
| (2, 0) 2234 | Mae'r frwydr y bûm i'n ei hymladd wedi costio'n ddrud iawn i mi eisoes. | 
| (2, 0) 2235 | Ac y mae arna' i ofn na fydd y gweision a'r negeswyr yn ufuddhau i mi mwy. | 
| (2, 0) 2238 | Anobeithiol, Helen. | 
| (2, 0) 2239 | Mae fy lwc i'n siŵr o droi. | 
| (2, 0) 2240 | Yn hwyr neu'n hwyrach. | 
| (2, 0) 2241 | Talu'r pris fydd raid. | 
| (2, 0) 2242 | Y pris eithaf. | 
| (2, 0) 2247 | A be' ydy hwnnw? | 
| (2, 0) 2255 | Mae gen i un yn fan 'ma. | 
| (2, 0) 2264 | Dwedwch un peth wrtha i Helen. | 
| (2, 0) 2266 | Os ydych chi wedi bod yn disgwyl amdana' i ar hyd y deng mlynedd yma... | 
| (2, 0) 2268 | Pam na ddaru chi sgrifennu ata' i? | 
| (2, 0) 2269 | Mi allwn i fod wedi ateb wedyn. | 
| (2, 0) 2273 | Pam? | 
| (2, 0) 2276 | Ie, siŵr. | 
| (2, 0) 2281 | Fuoch chi erioed yn caru rhywun, Helen? | 
| (2, 0) 2284 | Dim ond gofyn fuoch chi'n caru rhywun. | 
| (2, 0) 2287 | Rhywun arall, ie. | 
| (2, 0) 2288 | Fuoch chi o gwbwl? | 
| (2, 0) 2289 | Yn ystod y deng mlynedd? | 
| (2, 0) 2290 | Erioed? | 
| (2, 0) 2293 | Roeddech ch'n cymryd diddordeb mewn bechgyn, felly? | 
| (2, 0) 2296 | Helen. | 
| (2, 0) 2297 | I be daethoch chi yma? | 
| (2, 0) 2300 | Atebwch, Helen. | 
| (2, 0) 2301 | Be sy arnoch chi eisio gen i? | 
| (2, 0) 2303 | H'm. | 
| (2, 0) 2311 | Gladys. | 
| (2, 0) 2313 | Ddaru chi sylwi oedd yr ysgrifenyddes yn y swyddfa? | 
| (2, 0) 2316 | H'm. | 
| (2, 0) 2319 | Wel mi ro' i hwn iddi hi ynte', a d'eud wrthi bod... | 
| (2, 0) 2324 | Miss Parry. | 
| (2, 0) 2327 | Gwyneth, rydw i'n meddwl. | 
| (2, 0) 2338 | Rhowch nhw i'r hen ŵr cyn gynted ag y medrwch chi. | 
| (2, 0) 2340 | Mi gaiff Elwyn gyfle i godi tai ar ei ben ei hun rŵan. | 
| (2, 0) 2343 | 'Does ama i ddim eisio diolch. | 
| (2, 0) 2344 | D'wedwch 'mod i'n d'eud hynny. | 
| (2, 0) 2346 | A d'wedwch wrtho fo'r un pryd na fydda' i angen ei wasanaeth o o hyn ymlaen. | 
| (2, 0) 2347 | Na chitha' chwaith. | 
| (2, 0) 2350 | Mi fydd gennych chi betha' eraill i feddwl amdanyn nhw ac edrych ar eu hola' rŵan. | 
| (2, 0) 2351 | Dyna'r ffordd ora' debyg. | 
| (2, 0) 2352 | Adre â chi efo'r plania' rŵan, Miss Parry. | 
| (2, 0) 2353 | Ar unwaith. | 
| (2, 0) 2354 | Ydych chi'n clywed? | 
| (2, 0) 2359 | Hi? | 
| (2, 0) 2360 | Y greadures fach yna? | 
| (2, 0) 2363 | Ydw. | 
| (2, 0) 2365 | Dyna oeddech chi eisio Gladys. | 
| (2, 0) 2366 | Rydw i'n gwybod. | 
| (2, 0) 2372 | Hidiwch befo, hidiwch befo. | 
| (2, 0) 2373 | Mi fydd popeth yn iawn, Gladys. | 
| (2, 0) 2374 | Yr unig beth sy' eisio i chi ei 'neud rŵan ydy meddwl am symud i'n cartre' newydd cyn gynted ag y medrwch chi. | 
| (2, 0) 2375 | Heno mi rown ni'r dorch floda' i fyny. | 
| (2, 0) 2377 | Reit ar binacl y tŵr. | 
| (2, 0) 2378 | Be ydych chi'n dd'eud am |hyn 'na|, Miss Helen? | 
| (2, 0) 2381 | Fi! | 
| (2, 0) 2391 | Amhosib, ydy yn amhosib. | 
| (2, 0) 2392 | Ond mi wnes i sefyll yno er hynny. | 
| (2, 0) 2396 | Hwyrach y gwelwch chi rywbeth gwahanol heno. | 
| (2, 0) 2402 | Ond Gladys...! | 
| (2, 0) 2410 | Mod i'n cael pendro? | 
| (2, 0) 2412 | Fel'na ydych chi'n ei gweld hi? | 
| (2, 0) 2414 | 'Does 'na 'run darn ohono i yn ddiogel oddi wrthych chi, 'ddyliwn. | 
| (2, 0) 2419 | Mi allech chi gael y stafell ucha yn y tŵr, Helen. | 
| (2, 0) 2420 | Mi allech chi fyw fel tywysoges yno. | 
| (2, 0) 2423 | |Ddaru| mi? | 
| (2, 0) 2430 | Ydych chi'n berffaith siŵr nad breuddwyd ydy hyn i gyd... rhyw ffansi yn eich pen chi? | 
| (2, 0) 2434 | Dydw i ddim yn gwybod yn iawn. | 
| (2, 0) 2436 | Ond un peth a wn i rŵan, sef... | 
| (2, 0) 2439 | Y dylwn i fod wedi g'neud. | 
| (2, 0) 2442 | Heno, mi rown i'r dorch floda' i fyny... Dywysoges Helen. | 
| (2, 0) 2445 | Uwchben tŷ newydd na fydd o byth yn gartre' i mi. | 
| (3, 0) 2636 | Ydych chi wedi sylwi, Helen, ei bod hi'n mynd pan fydda' i'n ymddangos? | 
| (3, 0) 2638 | Hwyrach. | 
| (3, 0) 2639 | Ond 'does gen i mo'r help. | 
| (3, 0) 2641 | Ydych chi'n oer, Helen? | 
| (3, 0) 2642 | Rydych chi'n edrych felly. | 
| (3, 0) 2644 | Be' ydych chi'n 'i feddwl? | 
| (3, 0) 2647 | Rydw i'n meddwl mod i'n deall... | 
| (3, 0) 2649 | Mi gefais i gip arnoch chi o'r fan 'cw. | 
| (3, 0) 2651 | Mi wyddwn i yr âi hi ar unwaith pan ddeuwn i yma. | 
| (3, 0) 2653 | Mewn ffordd mae o'n rhyddhad hefyd. | 
| (3, 0) 2655 | Ie. | 
| (3, 0) 2657 | Ie, hynny'n bennaf. | 
| (3, 0) 2661 | Gawsoch chi sgwrs hir efo hi? | 
| (3, 0) 2663 | Mi ofynnais i gawsoch chi sgwrs hir? | 
| (3, 0) 2665 | Am be' roedd hi'n siarad Helen? | 
| (3, 0) 2669 | Ddaw hi byth drosto fo. | 
| (3, 0) 2670 | Byth, tra bo hi ar y ddaear 'ma. | 
| (3, 0) 2672 | Rydych chi'n sefyll yn fan'na fel delw eto, yn union fel roeddech chi'n sefyll neithiwr. | 
| (3, 0) 2676 | Mynd i ffwrdd? | 
| (3, 0) 2678 | Ond, 'na i ddim gadael i chi fynd. | 
| (3, 0) 2680 | Dim ond aros yma Helen. | 
| (3, 0) 2686 | Wel, gora' oll. | 
| (3, 0) 2690 | Pwy sy'n sôn am hynny? | 
| (3, 0) 2698 | Ie, ond wnes i erioed awgrymu y dylech chi. | 
| (3, 0) 2702 | A be' ddaw ohonof fi wedi i chi fynd? | 
| (3, 0) 2703 | Be' fydd gen i i fyw er ei fwyn o wedyn? | 
| (3, 0) 2708 | Rhy hwyr. | 
| (3, 0) 2709 | Mae'r pwera' 'ma... yr... yr... | 
| (3, 0) 2711 | Ie, yr ysbrydion 'na. | 
| (3, 0) 2712 | A'r dewin oddi mewn i mi hefyd. | 
| (3, 0) 2713 | Mae nhw wedi sugno gwaed ei bywyd hi. | 
| (3, 0) 2715 | Er mwyn fy hapusrwydd i y gwnaethon nhw. | 
| (3, 0) 2716 | Ie. | 
| (3, 0) 2718 | A rŵan mae hi wedi marw... er fy mwyn i. | 
| (3, 0) 2719 | A finna', yn fyw, ond wedi fy rhwymo wrth ddynes farw. | 
| (3, 0) 2721 | Fi, na |alla'| i fyw heb sirioldeb mewn bywyd. | 
| (3, 0) 2726 | Dydw ddim yn credu yr adeilada' i lawer eto. | 
| (3, 0) 2728 | Fydd 'na alw am dai felly yn y dyfodol, os gwn i? | 
| (3, 0) 2732 | Ie, mae 'na lawer o wir yn yr hyn ydych chi'n 'i dd'eud. | 
| (3, 0) 2735 | Be? | 
| (3, 0) 2738 | Rhywun nad oes gennych chi ddim hawl i'w wthio o'r neilltu. | 
| (3, 0) 2744 | Oedd gennych chi gartre' cysurus hapus draw efo'ch tad Helen? | 
| (3, 0) 2747 | A rydych chi'n benderfynol nad ewch chi'n ôl iddo? | 
| (3, 0) 2750 | Gwell ganddo wibio drwy'r awyr agored... | 
| (3, 0) 2754 | Biti na bai ysbryd dewr yr hen anturwyr ynon ninna'. | 
| (3, 0) 2758 | Cydwybod gref. | 
| (3, 0) 2762 | Mi wyddoch chi fwy nag a wn i ynte', Helen. | 
| (3, 0) 2765 | Be' fydd o ynte? | 
| (3, 0) 2768 | Pa gastell? | 
| (3, 0) 2770 | Ydych chi eisio castell rŵan? | 
| (3, 0) 2772 | Felly rydych chi'n dal i dd'eud. | 
| (3, 0) 2776 | Ie. | 
| (3, 0) 2777 | |Maen| nhw'n cyd-fynd fel arfer. | 
| (3, 0) 2782 | Rŵan, y munud 'ma? | 
| (3, 0) 2788 | Nid mater bach ydy bod yn eich dyled chi Helen. | 
| (3, 0) 2789 | | Helen | 
| (3, 0) 2790 | Ddylech chi fod wedi meddwl am hynny'n gynt. | 
| (3, 0) 2791 | Mae'n rhy hwyr rŵan. | 
| (3, 0) 2793 | Felly, y castell ar y bwrdd. | 
| (3, 0) 2794 | Fy nghastell i ydy o. | 
| (3, 0) 2795 | Rydw i eisio fo rŵan! | 
| (3, 0) 2796 | | Morris | 
| (3, 0) 2798 | Sut fath o gastell sy' gennych chi mewn golwg, Helen? | 
| (3, 0) 2803 | Efo tŵr uchel, 'does dim dwywaith. | 
| (3, 0) 2808 | O, fel y byddwch chi wrth eich bodd yn sefyll mewn lle mor beryglus o uchel... | 
| (3, 0) 2813 | Gaiff yr hen adeiladwr ddringo i fyny at y dywysoges? | 
| (3, 0) 2816 | Felly, rydw i'n credu y daw'r adeiladwr. | 
| (3, 0) 2819 | Ond wnaiff o byth adeiladu wedyn, yr hen adeiladwr druan. | 
| (3, 0) 2825 | Helen, d'wedwch wrtha i, be' ydy hwnnw? | 
| (3, 0) 2830 | Ydyn, mwy na thebyg. | 
| (3, 0) 2831 | Ond rŵan dwedwch wrtha' i be' ydy o. | 
| (3, 0) 2832 | Y peth hardda' yn y byd. | 
| (3, 0) 2833 | Yr un rydyn ni'n mynd i'w adeiladu efo'n gilydd? | 
| (3, 0) 2836 | Cestyll yn yr awyr? | 
| (3, 0) 2841 | Dyna'r peth hardda' yn y byd, meddech chi. | 
| (3, 0) 2849 | Ar ôl heddiw mi adeiladwn ni'n dau efo'n gilydd Helen. | 
| (3, 0) 2852 | Ie. | 
| (3, 0) 2853 | Un â sylfeini cadarn iddo fo. | 
| (3, 0) 2860 | O, chdi sy' wedi dod â hi Elwyn? | 
| (3, 0) 2863 | A mae dy dad yn well felly ynte? | 
| (3, 0) 2865 | Ddaru'r hyn sgrifennais i mo'i gysuro fo? | 
| (3, 0) 2867 | Rhy hwyr! | 
| (3, 0) 2870 | Gwell i ti fynd adre ato fo. | 
| (3, 0) 2871 | Rhaid i ti fynd i edrych ar ôl dy dad. | 
| (3, 0) 2873 | Ond mi ddylet ti fod efo fo, debyg iawn. | 
| (3, 0) 2876 | Gwyneth? | 
| (3, 0) 2879 | Dos di adre, Elwyn. | 
| (3, 0) 2880 | I fod efo fo a hitha'. | 
| (3, 0) 2881 | Dyro i mi'r |wreath|. | 
| (3, 0) 2884 | Rydw i eisio mynd â hi i lawr iddyn nhw fy hun. | 
| (3, 0) 2886 | A rŵan, dos di adre. | 
| (3, 0) 2887 | 'Dydyn ni mo d'angen di heddiw. | 
| (3, 0) 2890 | O'r gora', aros. | 
| (3, 0) 2891 | Os wyt ti wedi rhoi dy feddwl ar hynny. | 
| (3, 0) 2895 | Fy ngwylio i! | 
| (3, 0) 2898 | Mi siaradwn ni am hynny eto, Helen. | 
| (3, 0) 3062 | Mae nhw'n d'eud bod rhywun eisio 'ngweld i. | 
| (3, 0) 3065 | O! Chi sy 'na Helen? | 
| (3, 0) 3066 | Roedd arna' i ofn mai'r doctor a Gladys oedd yma. | 
| (3, 0) 3069 | Ydych chi'n meddwl? | 
| (3, 0) 3071 | Mae hynny'n fater gwahanol. | 
| (3, 0) 3072 | 'Helen | 
| (3, 0) 3073 | Mae'n wir fod arnoch chi ofn ynte? | 
| (3, 0) 3074 | Ydy. | 
| (3, 0) 3076 | Na, nid hynny. | 
| (3, 0) 3078 | Ofn cosbedigaeth, Helen, ofn y farn. | 
| (3, 0) 3081 | Eisteddwch i lawr, a mi dd'weda' i rywbeth wrthych chi. | 
| (3, 0) 3085 | Mi wyddoch chi mai drwy adeiladu eglwysi y dechreuais i. | 
| (3, 0) 3088 | Wel, hogyn o gartre duwiol yn y wlad oeddwn i, ydych chi'n gweld. | 
| (3, 0) 3089 | Felly roeddwn i'n meddwl mai adeiladu eglwysi oedd y gwaith mwya' teilwng fedrwn i 'i neud. | 
| (3, 0) 3091 | A rydw i'n meddwl y medra' i dd'eud mod i wedi codi'r eglwysi bychain hynny mor onest a chywir a chyda cymaint o barch fel... | 
| (3, 0) 3093 | Fel y disgwyliwn i 'mod i wedi'i blesio Fo. | 
| (3, 0) 3095 | Yr un roedd yr eglwysi er ei fwyn o, wrth gwrs. | 
| (3, 0) 3096 | Hwnnw roedden nhw wedi'u cysegru i'w ogoniant o, ac er ei glod. | 
| (3, 0) 3100 | |Fo| yn falch ohona' i? | 
| (3, 0) 3101 | Sut y medrwch chi siarad fel 'na Helen? | 
| (3, 0) 3102 | Yr un roddodd y dewin oddi mewn i mi i chwara' ei gastia'? | 
| (3, 0) 3103 | Hwnnw barodd iddyn nhw fod wrth law ddydd a nos... nhw... tylwyth yr... | 
| (3, 0) 3105 | Ie. | 
| (3, 0) 3106 | Y ddau fath. | 
| (3, 0) 3107 | O, na. | 
| (3, 0) 3108 | Mi ddangosodd yn ddigon buan nad oeddwn i wedi'i blesio Fo. | 
| (3, 0) 3110 | Dyna, mewn gwirionedd, pam y parodd o i'r hen dŷ fynd ar dân, ydych chi'n gweld. | 
| (3, 0) 3112 | Ie. | 
| (3, 0) 3113 | Ydych chi ddim yn deall? | 
| (3, 0) 3114 | Roedd o eisio rhoi'r cyfle i mi ddod yn bencampwr yn fy ngwaith fel y b'aswn i'n adeiladu eglwysi mwy gogoneddus iddo Fo. | 
| (3, 0) 3115 | Yn y dechra' 'doeddwn i ddim yn deall be' oedd ganddo Fo mewn golwg. | 
| (3, 0) 3116 | Ond mi wawriodd arna i mewn amrantiad. | 
| (3, 0) 3118 | Pan oeddwn i'n codi tŵr yr eglwys i fyny ym Mryn Padarn. | 
| (3, 0) 3120 | Oherwydd, i fyny yno yn yr ardal anial honno mi fûm i'n crwydro gan fy holi fy hun. | 
| (3, 0) 3121 | Yr adeg honno mi sylweddolais i'n glir pam roedd O wedi cymryd fy mhlant bach oddi arna' i. | 
| (3, 0) 3122 | Rhag bod gen i ormod o feddwl o betha' eraill. | 
| (3, 0) 3123 | Doedd dim byd fel cariad a hapusrwydd yn cyfri', ydych chi'n gweld? | 
| (3, 0) 3124 | Adeiladwr oeddwn i i fod a dim arall. | 
| (3, 0) 3125 | A thrwy gydol fy mywyd roeddwn i i fod i ddal ati i adeiladu iddo Fo. | 
| (3, 0) 3127 | Ond, mi fedra' i'ch sicrhau chi nad felly y bu hi. | 
| (3, 0) 3129 | I ddechra' mi holais fy hun... a phrofi fy hun... | 
| (3, 0) 3131 | Yna... mi wnes i'r amhosib... fi gystal â Fo. | 
| (3, 0) 3133 | 'Doeddwn i erioed wedi medru dringo i unrhyw uchder. | 
| (3, 0) 3134 | Ond y diwrnod hwnnw, mi lwyddais i. | 
| (3, 0) 3137 | A phan oeddwn i'n sefyll yno yn uchel, reit ar y top, wrth i mi roi'r dorch floda' ar y ceiliog gwynt, mi dd'wedais i wrtho Fo: | 
| (3, 0) 3138 | Clyw fi yn awr. | 
| (3, 0) 3139 | Tydi yr Hollalluog. | 
| (3, 0) 3140 | O'r dydd hwn ymlaen byddaf yn adeiladwr rhydd. | 
| (3, 0) 3141 | Myfi yn fy myd fy hun fel yr wyt Ti yn dy fyd. | 
| (3, 0) 3142 | Adeilada' i byth eglwysi i Ti eto... dim ond cartrefi i bobol. | 
| (3, 0) 3145 | Ond wedi hynny mi ddaeth ei dro ynta'. | 
| (3, 0) 3148 | Dydy codi tai i bobol yn dda i ddim, Helen. | 
| (3, 0) 3150 | Oherwydd mod i'n gweld nad ydy pobol ddim yn medru defnyddio'r tai er mwyn eu hapusrwydd. | 
| (3, 0) 3151 | A f'aswn inna' ddim chwaith petawn i wedi cael un. | 
| (3, 0) 3153 | Wrth edrych yn ôl, be' sy' 'na? | 
| (3, 0) 3154 | 'Dydw i wedi adeiladu dim byd. | 
| (3, 0) 3155 | Na dim byd wedi'i aberthu chwaith er mwyn cael y cyfle i adeiladu. | 
| (3, 0) 3156 | Dim. | 
| (3, 0) 3157 | Dim oll! | 
| (3, 0) 3160 | O g'naf. | 
| (3, 0) 3161 | Rydw i ar fin dechra'! | 
| (3, 0) 3164 | Does dim ond un trigfan i hapusrwydd pobol. | 
| (3, 0) 3165 | A dyna ydw i am ei adeiladu rŵan. | 
| (3, 0) 3168 | Ie. | 
| (3, 0) 3169 | Cestyll yn yr awyr. | 
| (3, 0) 3171 | Nid os ca' i fynd i fyny law yn llaw efo chi, Helen. | 
| (3, 0) 3175 | Pwy arall? | 
| (3, 0) 3179 | Oho! | 
| (3, 0) 3180 | Amdani hi yr oedd Gladys yn siarad efo chi? | 
| (3, 0) 3184 | Ateba' i 'mo'r fath gwestiwn. | 
| (3, 0) 3185 | Rhaid i chi gredu ynof fi, yn llwyr. | 
| (3, 0) 3187 | Rhaid i chi ddal i gredu ynof fi. | 
| (3, 0) 3190 | Helen, nid bob dydd y medra' i neud hynny. | 
| (3, 0) 3197 | Os ceisia' i Helen, mi safa' i fyny yn fan 'cw a siarad fel y gwnes i o'r blaen. | 
| (3, 0) 3200 | Mi dd'weda' i wrtho Fo: | 
| (3, 0) 3201 | Clyw fi, Arglwydd Hollalluog. | 
| (3, 0) 3202 | Rhaid i Ti fy marnu i yn ôl dy ddoethineb. | 
| (3, 0) 3203 | Ond o hyn allan, adeilada' i ddim ond y peth hardda' yn y byd... | 
| (3, 0) 3206 | Ei adeiladu o gyda thywysoges a garaf. | 
| (3, 0) 3210 | G'naf. | 
| (3, 0) 3211 | Ac yna mi dd'weda' i wrtho Fo: | 
| (3, 0) 3212 | Yn awr rwy'n mynd i lawr, rhoi fy mreichia' amdani hi a'i chusanu... | 
| (3, 0) 3215 | Laweroedd o weithia', dyna dd'weda' i. | 
| (3, 0) 3217 | Yna mi chwifia' i fy het a dod i lawr i'r ddaear a g'neud fel y d'wedais i. | 
| (3, 0) 3221 | Sut ddar'u chi ddatblygu i'r hyn ydych chi, Helen? | 
| (3, 0) 3224 | Mi gaiff y dywysoges ei chastell. | 
| (3, 0) 3229 | Ar ei sylfaen gadarn. | 
| (3, 0) 3241 | Iawn. | 
| (3, 0) 3242 | Mi a' i i lawr. | 
| (3, 0) 3246 | Rhaid i mi fod i lawr 'na efo'r dynion. | 
| (3, 0) 3249 | Dyna lle bydda' i bob amser. | 
| (3, 0) 3250 | Fel arfer. |