| (1, 0) 23 | Fedra' i ddim diodde' yn hir iawn eto, na fedraf wir. | 
| (1, 0) 25 | Mae arna i ofn 'mod i'n mynd yn waeth bob dydd. | 
| (1, 0) 28 | Mynd i 'ngwely? | 
| (1, 0) 29 | Wyt ti am i mi fygu'n lân? | 
| (1, 0) 34 | Dydw i ddim am fynd odd' 'ma nes y daw o. | 
| (1, 0) 35 | Rydw i'n benderfynol o setlo petha' heddiw {yn chwerw} efo fo,... efo'r mistar. | 
| (1, 0) 40 | Yh. Yh. | 
| (1, 0) 41 | Does gen i fawr o amser ar ôl i aros. | 
| (1, 0) 85 | Maen nhw'n ysu am gael mynd i dŷ o'u heiddo'u hunain, medden nhw. | 
| (1, 0) 94 | Rhywun arall? | 
| (1, 0) 95 | Fasech chi'n ystyried gollwng y job rŵan? | 
| (1, 0) 101 | Mae'r bobol yn iawn. | 
| (1, 0) 102 | Mae Elwyn yn eu nabod nhw. | 
| (1, 0) 103 | Mae o'n gyfaill i'r teulu; pobol berffaith onest. | 
| (1, 0) 110 | Ydych chi o ddifri? | 
| (1, 0) 113 | Ga' i air neu ddau efo chi? | 
| (1, 0) 116 | Dos di drwodd am funud Gwyneth. | 
| (1, 0) 119 | Gwna fel rydw i'n d'eud wrthyt ti, 'ngeneth i. | 
| (1, 0) 120 | A chau'r drws ar d'ôl. | 
| (1, 0) 123 | Does arna' i ddim eisio i'r plant druain yma wybod pa mor sâl ydw i. | 
| (1, 0) 125 | Mi fydd y cwbwl ar ben arna' i reit fuan. | 
| (1, 0) 126 | Rydw i'n gwanio bob dydd. | 
| (1, 0) 128 | Os ca' i. | 
| (1, 0) 129 | Diolch. | 
| (1, 0) 135 | Wel, fel hyn y mae hi, ydych chi'n gweld. | 
| (1, 0) 136 | Ynghylch Elwyn, dyna sy'n fy mhoeni fi fwya'. | 
| (1, 0) 137 | Be' ddaw ohono fo? | 
| (1, 0) 139 | Ond dyna'r union beth na fynn o. | 
| (1, 0) 140 | Mae o'n teimlo na fedr o aros ddim hwy. | 
| (1, 0) 144 | Na, na. | 
| (1, 0) 145 | Nid dyna sy'n bod. | 
| (1, 0) 146 | Ond yn hwyr neu'n hwyrach mi fydd rhaid i'r hogyn gael cyfle i 'neud rhywbeth ar ei liwt ei hun. | 
| (1, 0) 149 | Wel, nâc ydw. | 
| (1, 0) 150 | Dyna sy'n dorcalonnus. | 
| (1, 0) 151 | Rydw i'n dechra' ama' gallu'r hogyn, achos 'dydych chi ddim wedi rhoi'r un gair da iddo fo; ac eto fedra' i yn fy myw lai na theimlo bod yna allu ynddo fo. | 
| (1, 0) 152 | Dydy o ddim yn ddidalent, yn fy marn i. | 
| (1, 0) 155 | Digon 'chydig wyddech chi o'r busnes pan oeddech chi'n gweithio i mi ond ddar'u hynny 'mo'ch rhwystro chi rhag dechra' arni {yn anadlu'n drwm} a'ch gwthio'ch hun i fyny, a dwyn y gwynt o'm hwylia' i a phobol eraill. | 
| (1, 0) 157 | Rydych chi'n iawn. | 
| (1, 0) 158 | Roedd popeth o'ch tu chi. | 
| (1, 0) 159 | Ond eto, sut yn eich byw y medrwch chi adael i mi fynd i 'medd heb weld be' fedr Elwyn ei 'neud. | 
| (1, 0) 160 | Ac wrth gwrs mi fyddai'n dda iawn gen i eu gweld nhw wedi priodi cyn imi fynd. | 
| (1, 0) 163 | Nid Gwyneth yn gymaint ag Elwyn. | 
| (1, 0) 164 | Mae o'n siarad am y peth bob dydd. | 
| (1, 0) 165 | Mae'n rhaid, ydy mae'n rhaid i chi helpu i gael rhyw waith ar ei ben ei hun iddo rŵan. | 
| (1, 0) 166 | Mae'n rhaid imi gael gweld rhywbeth y bydd yr hogyn wedi'i 'neud. | 
| (1, 0) 167 | Ydych chi'n clywed? | 
| (1, 0) 170 | Mae ganddo fo gyfle am waith ardderchog y funud yma; job reit fawr. | 
| (1, 0) 173 | Pe rhoech chi'ch caniatâd. | 
| (1, 0) 176 | Mi gaiff 'neud y tŷ yna draw ym Mrynfelin. | 
| (1, 0) 179 | Ond 'does dim llawer o wahaniaeth gennych chi. | 
| (1, 0) 184 | Mi dd'wed'soch chi hynny eich hun gynna'. | 
| (1, 0) 188 | B'asen. | 
| (1, 0) 189 | Mae o'n nabod y teulu ydych chi'n gweld. | 
| (1, 0) 190 | A pheth arall, mae o wedi g'neud plania', ─ o ran 'myrraeth felly, a rhoi amcan o'r gost ac ati... | 
| (1, 0) 193 | Ydyn. | 
| (1, 0) 194 | Dim ond i chi edrych arnyn nhw a rhoi eich caniatâd. | 
| (1, 0) 196 | Roedden nhw wrth eu bodd efo'i syniada' fo; gwreiddiol iawn, medden nhw. | 
| (1, 0) 199 | Eu gweld nhw'n wahanol rywsut yr oedden nhw. | 
| (1, 0) 202 | Galw i'ch gweld chi ddar'u nhw ac ar yr un pryd gofyn a fyddai wahaniaeth gennych chi roi'r gora' i'r gwaith. | 
| (1, 0) 205 | A chaniatâu eich bod chi'n meddwl bod plania' Elwyn... | 
| (1, 0) 208 | Tynnu'n ôl o'r cytundeb oedden nhw'n ei feddwl. | 
| (1, 0) 214 | Pam 'nenw'r Tad? | 
| (1, 0) 215 | Mae 'na le i fwy nag un, debyg. | 
| (1, 0) 221 | Felly mi fydd rhaid i mi adael y byd 'ma heb ddim sicrwydd. | 
| (1, 0) 222 | Heb lygedyn o lawenydd? | 
| (1, 0) 223 | Heb hyder na ffydd yn Elwyn? | 
| (1, 0) 224 | Heb weld dim o'i waith o. | 
| (1, 0) 225 | Felly mae hi i fod? | 
| (1, 0) 229 | Ond atebwch yr un cwestiwn yna. | 
| (1, 0) 230 | Fydd raid i mi farw mor druenus o dlawd â hynny? | 
| (1, 0) 233 | Felly y bo hi ynte'. | 
| (1, 0) 238 | Na fedrwch debyg. | 
| (1, 0) 240 | Ga'i lasiad o ddŵr, os gwelwch chi'n dda? | 
| (1, 0) 243 | Diolch. | 
| (1, 0) 249 | Rho dy fraich i mi. | 
| (1, 0) 250 | Gad i ni fynd rŵan. | 
| (1, 0) 256 | Pnawn da. | 
| (1, 0) 257 | Cysgwch yn iawn,... os medrwch chi. |