| (1, 0) 711 | Hiya. |
| (1, 0) 712 | Long time no see. |
| (1, 0) 713 | Sut ydych chi? |
| (1, 0) 717 | 'Dydych chi erioed wedi colli nabod arna' i? |
| (1, 0) 722 | O, chi oedd yn... |
| (1, 0) 727 | O, mi aethon nhw draw tua'r gorllewin. |
| (1, 0) 729 | Oedden, 'dw i'n meddwl. |
| (1, 0) 732 | Wel, roedd hynny'n fwy o hwyl nag eiste' yno'n yfed te efo'r hen wragedd rheini. |
| (1, 0) 736 | Ie, newydd gyrraedd. |
| (1, 0) 738 | Siwr iawn. |
| (1, 0) 741 | le, wrth gwrs. |
| (1, 0) 744 | le, merch pwy arall allwn i fod? |
| (1, 0) 748 | le wrth gwrs, yr adeg honno oedd hi. |
| (1, 0) 751 | Deng mlynedd union yn ôl oedd hi. |
| (1, 0) 754 | Dim mor fach. |
| (1, 0) 755 | Roeddwn i'n un deg tair. |
| (1, 0) 757 | Yep. |
| (1, 0) 759 | Neb ond chi. |
| (1, 0) 760 | A'ch gwraig wrth gwrs. |
| (1, 0) 762 | Ddim yn dda iawn. |
| (1, 0) 763 | Ddar'u ni dreulio 'chydig ddiwrnodia' efo'n gilydd pan oedd hi yn y mynyddoedd er mwyn ei hiechyd. |
| (1, 0) 765 | Mi ddwedodd hi wrtha i am alw os byth y down i i'r dre. |
| (1, 0) 767 | Nid na f'aswn i wedi dod 'run fath, cofiwch. |
| (1, 0) 773 | Wel rŵan rhaid i mi ofyn i chi. |
| (1, 0) 774 | Ga' i aros yma dros nos, os gwelwch chi'n dda? |
| (1, 0) 776 | Diolch yn fawr. |
| (1, 0) 777 | Does gen i ddim Ilawer o ddillad eraill heblaw'r rhai sy' amdana i, ar wahan i ddillad isa sbar a mae'r rheini eisio'u golchi. |
| (1, 0) 778 | Mae nhw'n fudron iawn. |
| (1, 0) 813 | Does gen i ddim |luggage|. |
| (1, 0) 826 | Oes gennych chi lawer o stafelloedd plant? |
| (1, 0) 828 | Ew! mae hynny'n Ilawer. |
| (1, 0) 829 | Mae gennych chi lawer iawn o blant felly, debyg. |
| (1, 0) 832 | Am heno. |
| (1, 0) 833 | OK. |
| (1, 0) 834 | Wna i ddim crio. |
| (1, 0) 835 | Mi gysga' i fel top. |
| (1, 0) 837 | O naddo. |
| (1, 0) 838 | Ond p'run bynnag mae hi'n braf ofnadwy; gorwedd a breuddwydio. |
| (1, 0) 840 | O byddaf, bron bob amser. |
| (1, 0) 842 | 'Dydw i ddim yn mynd i dd'eud heno. |
| (1, 0) 843 | Rywdro eto hwyrach. |
| (1, 0) 847 | Na, dim ond sbio ar yr holl betha' 'ma. |
| (1, 0) 849 | Hwyrach na ddylwn i ddim? |
| (1, 0) 852 | Chi fydd yn gweithio ar y cyfrifiadur 'ma? |
| (1, 0) 855 | Merch felly? |
| (1, 0) 858 | Un o staff yr offis 'ma, ie? |
| (1, 0) 860 | Ydy hi wedi priodi? |
| (1, 0) 862 | Wela i. |
| (1, 0) 864 | Neis iawn iddi hi. |
| (1, 0) 866 | Fedrwch chi ddim cael rhywun arall cystal â hi? |
| (1, 0) 869 | No way. |
| (1, 0) 870 | Dim byd fel 'na i mi, |
| (1, 0) 872 | achos mae'n rhaid bod 'na ddigon o betha' heblaw hynny i'w g'neud yma. |
| (1, 0) 873 | Cytuno? |
| (1, 0) 878 | Na, mi gaiff hynny ddisgwyl, 'dw i'n meddwl. |
| (1, 0) 880 | 'Does gen i 'run geiniog ar ôl, ydych chi'n gweld. |
| (1, 0) 883 | 'Run o'r ddau ond hidiwch befo; dim dam ots am hynny rŵan. |
| (1, 0) 886 | Hyn 'na'n unig? |
| (1, 0) 890 | Ydy, mae o'n fyw. |
| (1, 0) 892 | Na, feddyliais i ddim am hynny. |
| (1, 0) 894 | Dibynnu. |
| (1, 0) 896 | Mr Morris? |
| (1, 0) 898 | Ydy'ch co' chi'n ddrwg iawn? |
| (1, 0) 901 | Does gennych chi ddim byd i'w dd'eud wrtha i am yr hyna ddigwyddodd i fyny yna? |
| (1, 0) 907 | Sut y medrwch chi eistedd i lawr a d'eud y fath beth? |
| (1, 0) 908 | Mormis |
| (1, 0) 909 | Wel, d'wedwch chi wrtha i am y Ile ynte'. |
| (1, 0) 910 | Pan orffennwyd y tŵr mi gawson ni lawer o hwyl yn dathlu yn y dre. |
| (1, 0) 914 | Na 'newch? |
| (1, 0) 915 | 'Dydych chi ddim mor ddrwg felly, yr hen gariad. |
| (1, 0) 917 | Roedd 'na ganu yn y fynwent, a channoedd lawer o bobol. |
| (1, 0) 918 | Roedden ni'r genod ysgol mewn gwyn a roedden ni i gyd yn cario fflagia'. |
| (1, 0) 921 | Wedyn mi ddar'u chi ddringo i fyny'r |scaffold| yn syth i ben ucha'r tŵr. |
| (1, 0) 922 | Roedd gennych chi |wreath| fawr o floda' a mi rhoisoch chi hi i hongian reit ar ben y ceiliog gwynt. |
| (1, 0) 925 | Roedd o'n exciting iawn i fod yn y gwaelod yn edrych i fyny arnoch chi. |
| (1, 0) 926 | Dim ond meddwl... beth 'tai o'n disgyn, fo, y prif adeiladwr ei hun! |
| (1, 0) 931 | Hwre i Mr Isaac Ryan Morris. |
| (1, 0) 932 | Hwre i'r adeiladwr dewr! |
| (1, 0) 933 | Ie? |
| (1, 0) 936 | Y g'nawes bach,... fi oedd honno. |
| (1, 0) 941 | O, roedd hi mor wefreiddiol o braf. |
| (1, 0) 942 | F'aswn i ddim wedi coelio bod yna adeiladwr yn y byd i gyd f'asai wedi gallu codi twr mor ofnadwy o uchel. |
| (1, 0) 943 | A wedyn, i feddwl y b'asech chi'ch hun yn sefyll ar ben y tŵr yn gadarn. |
| (1, 0) 944 | A dim arwydd o bendro arnoch chi. |
| (1, 0) 945 | Roeddwn i'n teimlo'n reit wan wrth sbio. |
| (1, 0) 948 | Nâc oedd wir. |
| (1, 0) 949 | O, nâc oedd. |
| (1, 0) 950 | Roedd rhywbeth yn d'eud wrtha i; petai arnoch chi bendro, f'asech chi byth wedi gallu sefyll yno a chanu. |
| (1, 0) 954 | Do, mi f'aswn i'n meddwl wir. |
| (1, 0) 957 | Do wir. |
| (1, 0) 958 | Mi ddar'u chi ganu'r adeg honno. |
| (1, 0) 959 | Roedd o'n swnio fel telyna' yn yr awyr. |
| (1, 0) 960 | Mortis |
| (1, 0) 962 | Mae hyn i gyd yn rhyfedd iawn. |
| (1, 0) 964 | Ond wedyn, wedyn y digwyddodd y peth mawr. |
| (1, 0) 967 | Ie, 'does dim rhaid i mi'ch atgoffa chi o hynny, siawns. |
| (1, 0) 970 | Ydych chi ddim yn cofio bod cinio mawr yn y neuadd i'ch anrhydeddu chi? |
| (1, 0) 973 | Ac ar ôl hynny mi gawsoch chi wadd i'n tŷ ni i swper. |
| (1, 0) 976 | Manion! |
| (1, 0) 977 | Wel dyna i ni. |
| (1, 0) 978 | Peth bychan hefyd oedd fy mod i ar |fy mhen fy hun| pan ddaethoch chi i mewn debyg? |
| (1, 0) 981 | Nid hen g'nawes bach ddar'u chi 'ngalw i yr adeg honno. |
| (1, 0) 983 | Mi dd'wedsoch 'mod i'n ddel iawn yn fy ffrog wen a 'mod i'n edrych fel tywysoges fach. |
| (1, 0) 986 | Wedyn dyma chi'n d'eud y cawn i fod yn dywysoges i chi wedi i mi dyfu. |
| (1, 0) 990 | Do, mi ddar'u chi. |
| (1, 0) 991 | A phan ofynnais i pa mor hir y byddai raid i mi ddisgwyl, dyma chi'n d'eud y b'asech chi'n dod eto ymhen deng mlynedd,... fel dewin, a mynd â fi dros y môr i rywle. |
| (1, 0) 992 | A mi ddar'u chi addo prynu teyrnas i mi yno. |
| (1, 0) 998 | Do, a mi ddar'u chi dd'eud hefyd be' fyddai enw'r deyrnas. |
| (1, 0) 1000 | Teyrnas y Cymyla' fyddai ei henw hi, meddech chi. |
| (1, 0) 1002 | Na 'doeddwn i'n lecio dim arno fo; roedd o fel 'tâech chi'n g'neud sbort am fy mhen i. |
| (1, 0) 1004 | Nac e gobeithio, a chofio be' ddar'u chi wedyn... |
| (1, 0) 1006 | Wel, dyna'r ora' eto. |
| (1, 0) 1007 | Os ydych chi wedi anghofio hynny hefyd. |
| (1, 0) 1008 | Mi f'aswn i'n disgwyl na allai neb lai na chofio peth felly. |
| (1, 0) 1013 | Mi ddar'u chi 'nghusanu fi Mr Morris. |
| (1, 0) 1016 | Do wir, mi ddar'u chi. |
| (1, 0) 1017 | Mi roesoch chi'ch breichia' amdana i a phlygu 'mhen i'n ôl a 'nghusanu fi,... lawer gwaith. |
| (1, 0) 1020 | 'Dydych chi erioed yn mynd i wadu? |
| (1, 0) 1024 | O felly wir. |
| (1, 0) 1051 | Rydych chi'n cyfadde' rŵan ynte? |
| (1, 0) 1053 | Roesoch chi'ch breichia' amdana' i? |
| (1, 0) 1055 | A phlygu 'mhen i'n ôl? |
| (1, 0) 1057 | A nghusanu fi? |
| (1, 0) 1059 | Lawer gwaith? |
| (1, 0) 1062 | Wel, mi lwyddais i i'ch cael chi i gyfadde' o'r diwedd, on'd do? |
| (1, 0) 1063 | Mornis |
| (1, 0) 1065 | Do. |
| (1, 0) 1066 | I feddwl 'mod i wedi anghofio peth fel'na. |
| (1, 0) 1068 | O rydych chi wedi cusanu cymaint o ferched yn eich dydd, debyg. |
| (1, 0) 1073 | Ie? |
| (1, 0) 1076 | Ddaeth yna ddim byd ohono fo. |
| (1, 0) 1077 | Mi wyddoch hynny'n iawn. |
| (1, 0) 1078 | Achos mi ddaeth y bobol eraill i mewn a wedyn,... bah. |
| (1, 0) 1081 | O, 'dydych chi ddim wedi anghofio dim byd mewn gwirionedd; dipyn o g'wilydd sydd arnoch chi, dyna'r cwbwl. |
| (1, 0) 1082 | Rydw i'n sicr nad ydy pobol ddim yn anghofio petha' fel'na. |
| (1, 0) 1085 | Hwyrach eich bod chi wedi anghofio pa ddiwrnod oedd hi, hyd yn oed? |
| (1, 0) 1087 | Ie, pa ddiwrnod ddar'u chi osod y bloda' ar ben y tŵr... |
| (1, 0) 1088 | Pa ddiwmod? |
| (1, 0) 1089 | Come on. |
| (1, 0) 1095 | le, deng mlynedd yn ôl oedd hi. |
| (1, 0) 1096 | A'r dyddiad, Medi un deg naw. |
| (1, 0) 1103 | Ie, mae'r deng mlynedd ar ben. |
| (1, 0) 1104 | A ddaethoch chi ddim fel y dar'u chi addo i mi. |
| (1, 0) 1107 | 'Dydw i ddim yn meddwl bod 'na fygythiad o gwbwl yn hynny. |
| (1, 0) 1109 | Dyna'r cwbwl oeddech chi eisio'i 'neud? |
| (1, 0) 1110 | Cael hwyl am fy mhen i? |
| (1, 0) 1114 | Ddim cweit. |
| (1, 0) 1115 | 'Doeddwn i ddim cymaint o blentyn ag yr ydych chi'n ei ddychmygu. |
| (1, 0) 1119 | Oeddwn wir; hynny o leia'. |
| (1, 0) 1121 | Ie, 'run fath â stori dylwyth teg. |
| (1, 0) 1123 | Dyna ddar'u chi addo. |
| (1, 0) 1126 | Pam lai? |
| (1, 0) 1127 | Wrth gwrs 'doedd dim thaid iddi hi fod yn deyrnas go iawn, un gyffredin fel rhyw deyrnas arall. |
| (1, 0) 1129 | O, gystal o leia'. |
| (1, 0) 1131 | Roeddwn i'n meddwil, os oeddech chi'n gallu codi'r tŵr ucha'n y byd, y byddech chi'n siŵr o allu g'neud teyrnas o ryw fath neu'i gilydd hefyd. |
| (1, 0) 1133 | Na wyddoch? |
| (1, 0) 1134 | Mae'r cyfan yn edrych reit hawdd i mi. |
| (1, 0) 1137 | Tynnu coes hwyrach? |
| (1, 0) 1138 | Finna' hefyd? |
| (1, 0) 1143 | Roeddwn i'n gwybod hynny o'r dechra'. |
| (1, 0) 1144 | Pam rydych chi'n gofyn? |
| (1, 0) 1149 | Mae arna i eisio fy nheyrnas. |
| (1, 0) 1150 | Mae'r amser ar ben. |
| (1, 0) 1154 | B'le mae 'nheynas i Mr Morris? |
| (1, 0) 1156 | Y deyrnas ar y bwrdd. |
| (1, 0) 1157 | Come on. |
| (1, 0) 1159 | Deliver. |
| (1, 0) 1163 | Wel, i ddechra' mae gen i eisio mynd am dro i weld pob peth ydych chi wedi'i adeiladu. |
| (1, 0) 1165 | Oes. |
| (1, 0) 1166 | Mi wn i'ch bod chi wedi adeiladu peth wmbreth. |
| (1, 0) 1168 | Llawer tŵr eglwys ymhlith petha' eraill? |
| (1, 0) 1169 | Rhai uchel, uchel? |
| (1, 0) 1172 | Be' |fyddwch| chi'n ei adeiladu rŵan? |
| (1, 0) 1175 | F'asech chi ddim yn gallu codi rhyw fymryn bach o dŵr ar rai o'r cartrefi hynny hefyd? |
| (1, 0) 1176 | Moris |
| (1, 0) 1178 | Am be' ydych chi'n meddwl |rŵan|? |
| (1, 0) 1179 | Rhywbeth yn pwyntio i fyny, i fyny i'r awyr agored, a cheiliog gwynt reit ar y copa. |
| (1, 0) 1180 | Moms |
| (1, 0) 1182 | Rhyfedd i chi dd'eud hyn 'na. |
| (1, 0) 1183 | Achos dyna'r union beth sydd arna' i eisio'i 'neud fwyaf. |
| (1, 0) 1185 | Pam na 'newch chi un ynte'. |
| (1, 0) 1189 | Neb eisio un? |
| (1, 0) 1190 | Pwy f'asai'n meddwl? |
| (1, 0) 1193 | Ar eich cyfer chi'ch hun? |
| (1, 0) 1196 | Tŵr uchel? |
| (1, 0) 1198 | Uchel iawn? |
| (1, 0) 1200 | Mi a' i allan y peth cynta' bore 'fory i'w weld o. |
| (1, 0) 1203 | Ond Helen wrth gwrs. |
| (1, 0) 1207 | Ydych chi ddim yn cofio |hynny|? |
| (1, 0) 1208 | Helen ddar'u chi 'ngalw i y diwrnod hwnnw y buoch chi'n hogyn drwg. |
| (1, 0) 1210 | Ond yr adeg honno, Helen bach ddar'u chi dd'eud a 'doedd hynny ddim yn plesio. |
| (1, 0) 1212 | Na. |
| (1, 0) 1213 | Nid ar adeg arbennig felly. |
| (1, 0) 1214 | Ond 'Y Dywysoges Helen'. |
| (1, 0) 1215 | Byddai hynny'n swnio'n dda iawn. |
| (1, 0) 1218 | Twt lol, 'na i ddim byd a'r deyrnas wirion honno. |
| (1, 0) 1219 | Rydw i wedi rhoi 'mryd ar un wahanol iawn! |
| (1, 0) 1223 | Efo be'? |
| (1, 0) 1226 | Mi ddylech chi fod wedi rhoi cwlwm ar eich cadach poced Mr Morris, bach. |
| (1, 0) 1228 | Hm. |
| (1, 0) 1229 | Mae'n siwr bod 'na bobol bach neu dylwyth teg yn chwarae castia' felly yn y byd yma hefyd. |
| (1, 0) 1233 | Ydy o'n beth da? |
| (1, 0) 1240 | Pyh. |
| (1, 0) 1241 | Ydy'r bobol ifainc yn peri dychryn i chi? |
| (1, 0) 1247 | Eisio i chi fynd allan ac agor y drws i'r ifainc sydd, yn fy meddwl i. |
| (1, 0) 1249 | Ie siŵr, gadael iddyn nhw ddod i mewn atoch chi, yn gyfeillgar. |
| (1, 0) 1250 | Moris |
| (1, 0) 1251 | Bobol bach, nac e. |
| (1, 0) 1252 | Wyddoch chi be' mae'r genhedlaeth ifanc yn ei gynrychioli? |
| (1, 0) 1253 | Cosb, talu'n ôl. |
| (1, 0) 1254 | Mae nhw'n dod o dan faner newydd, yn argoel bod fy Iwc i'n dod i ben. |
| (1, 0) 1256 | Alla' i fod o unrhyw help ichi Mr Morris? |
| (1, 0) 1264 | Hen a newydd. |
| (1, 0) 1266 | Sôn am hwyl. |
| (1, 0) 1267 | Mae gan Mr Morris 'ma gof mor wyrthiol. |
| (1, 0) 1268 | Mae o'n cofio'r manion lleia' ar unwaith. |
| (1, 0) 1272 | Ew, rydych chi'n ffeind. |
| (1, 0) 1289 | Ydy o'n wir be' ddar'u chi dd'eud? |
| (1, 0) 1290 | Alla' i 'neud rhywbeth i chi, o ddifri'? |
| (1, 0) 1294 | O bendigedig! |
| (1, 0) 1297 | Os felly rydw i wedi cael fy nheyrnas! |
| (1, 0) 1301 | Bron... oeddwn i am dd'eud. |
| (2, 0) 1507 | Hiya, Mr Morris. |
| (2, 0) 1510 | Ardderchog. |
| (2, 0) 1511 | Fel mewn crud. |
| (2, 0) 1512 | Mi orweddais ac ymlacio fel... fel tywysoges. |
| (2, 0) 1515 | Great. |
| (2, 0) 1517 | Do mi wnes i, ond roedd hynny'n ofnadwy. |
| (2, 0) 1519 | Oedd, achos mi freuddwydiais i 'mod i'n disgyn dros ymyl clogwyn uchel a serth. |
| (2, 0) 1520 | Fyddwch chi'n cael breuddwyd felly? |
| (2, 0) 1522 | Mae o'n gyrru ias drwy rywun, mae o'n braf ofnadwy pan fyddwch chi'n disgyn a disgyn. |
| (2, 0) 1524 | Fyddwch chi'n tynnu'ch coesa' i fyny o danoch chi pan fyddwch chi'n disgyn? |
| (2, 0) 1526 | A finna'. |
| (2, 0) 1532 | O Mrs Morris annwyl, rydych chi'n werth y byd! |
| (2, 0) 1533 | Rydych chi'n rhy garedig wrtha i, wir... yn ffeind ofnadwy. |
| (2, 0) 1537 | O ddifri, mi fydda' i'n iawn yn y dillad sy' gen i. |
| (2, 0) 1540 | Rydw i wedi arfer wyddoch chi. |
| (2, 0) 1543 | O 'ngho'? |
| (2, 0) 1544 | Oes 'na lawer o bobol wedi drysu yn y dre' yma ynte'? |
| (2, 0) 1547 | Chi, Mr Morris? |
| (2, 0) 1550 | Bobol bach, nâc ydw i. |
| (2, 0) 1552 | Ac eto, mewn rhyw un peth bach. |
| (2, 0) 1558 | No way. |
| (2, 0) 1559 | 'Dydw'i ddim mor bell o 'ngho â hynny. |
| (2, 0) 1566 | Ydy'ch gwraig chi'n fy nrwglecio i'n arw? |
| (2, 0) 1568 | Ddar'u chi ddim sylwi'ch hun? |
| (2, 0) 1571 | Ydy hi wir? |
| (2, 0) 1575 | Ond os ydy hi mor dda, be wnaeth iddi hi sôn am ei dyletswydd? |
| (2, 0) 1577 | Mi ddywedodd yr âi hi allan a phrynu rhywbeth i mi, am ei fod yn |ddyletswydd| ami. |
| (2, 0) 1578 | O, fedra' i ddim diodde''r hen air hyll yna. |
| (2, 0) 1580 | Mae o'n swnio mor oer, mor finiog a phigog. |
| (2, 0) 1581 | Dyletswydd, dyletswydd, dyletswydd! |
| (2, 0) 1582 | Ydych chi ddim yn cytuno? |
| (2, 0) 1583 | Ydy o ddim yn eich pigo chitha'? |
| (2, 0) 1586 | Wel |mae| o! |
| (2, 0) 1587 | Ac os ydy hi mor neis, fel yr ydych chi yn deud, pam mae hi'n siarad fel na? |
| (2, 0) 1589 | Mi allai hi fod wedi d'eud ei bod yn g'neud am ei bod wedi cymryd ata' i'n arw. |
| (2, 0) 1590 | Mi allai hi fod wedi d'eud rhywbeth fel 'na, rhywbeth cynnes a serchog, ydych chi'n deall? |
| (2, 0) 1592 | Ie, yn hollol. |
| (2, 0) 1594 | Ew, llawer o lyfra' sy' gennych chi! |
| (2, 0) 1597 | Fyddwch chi'n eu darllen nhw i gyd hefyd? |
| (2, 0) 1600 | Na fydda' i, byth. |
| (2, 0) 1601 | Rydw i wedi rhoi'r gora' iddi. |
| (2, 0) 1602 | Mae'r cwbwl mor amherthnasol. |
| (2, 0) 1605 | Chi bia' 'r plania' yma i gyd? |
| (2, 0) 1608 | Rhywun ydych chi wedi'i ddysgu? |
| (2, 0) 1611 | Mae o'n glyfar iawn ynte', debyg? |
| (2, 0) 1613 | Ydy o ddim? |
| (2, 0) 1615 | O ydy wir, rydw i'n siŵr ei fod o'n glyfar ofnadwy. |
| (2, 0) 1617 | Na, twt, twt, ddim o'r sgribliada' yma. |
| (2, 0) 1618 | Ond os ydy o'n ddisgybl i chi... |
| (2, 0) 1621 | Fedra' i ddim deall sut y gellwch chi fod mor dwp. |
| (2, 0) 1624 | Ydw, sorry. |
| (2, 0) 1625 | Os ydych chi'n fodlon treulio'ch amser yn dysgu'r bobol yma... |
| (2, 0) 1629 | Na. |
| (2, 0) 1630 | Mr Isaac Ryan Morris, contractor mwya'r lle. |
| (2, 0) 1631 | Be' dâl hynny? |
| (2, 0) 1632 | Ddylai neb ond chi gael adeiladu. |
| (2, 0) 1633 | Mi ddylech chi sefyll yn hollol ar eich pen eich hun... g'neud y cwbwl eich hun. |
| (2, 0) 1634 | Dyna chi'n gwybod rŵan. |
| (2, 0) 1635 | Wel? |
| (2, 0) 1637 | Ydych chi'n meddwl 'mod i'n nuts ynte'? |
| (2, 0) 1640 | Wel? |
| (2, 0) 1642 | Mae hynny'n swnio'n hollol naturiol i mi. |
| (2, 0) 1645 | Nâc ydw, ddim o gwbwl. |
| (2, 0) 1647 | O, am rywbeth hollol wahanol yr oeddwn i'n meddwl. |
| (2, 0) 1649 | Dydw i ddim am dd'eud. |
| (2, 0) 1656 | Be? |
| (2, 0) 1658 | Gwelaf. |
| (2, 0) 1661 | Y tŷ newydd yna ydych chi'n ei feddwl? |
| (2, 0) 1663 | Mae o'n edrych fel petai 'na dŵr uchel arno fo. |
| (2, 0) 1665 | Eich tŷ newydd chi ydy o? |
| (2, 0) 1667 | Y tŷ yr ydych chi'n mynd i symud iddo fo yn fuan? |
| (2, 0) 1670 | Oes 'na stafelloedd plant yn y tŷ acw hefyd? |
| (2, 0) 1672 | A dim un plentyn? |
| (2, 0) 1675 | Wel, ydy hi ddim yn union fel y dwedais i? |
| (2, 0) 1677 | Eich bod chi dipyn bach o'ch co' wedi'r cwbwl. |
| (2, 0) 1679 | Ie. |
| (2, 0) 1680 | Yr holl stafelloedd plant gwag yna lle bûm i'n cysgu. |
| (2, 0) 1684 | Do wir? |
| (2, 0) 1686 | Twins. |
| (2, 0) 1690 | Felly mae'r ddau ohonyn nhw... |
| (2, 0) 1691 | Rydych chi wedi colli'r ddau? |
| (2, 0) 1697 | Ellwch chi ddim siarad efo |hi|? |
| (2, 0) 1704 | Dyna'r cwbwl oeddech chi'n ei feddwl pan dd'wedsoch chi fod arnoch chi f'angen i? |
| (2, 0) 1713 | Mi f'aswn i wrth fy modd yn eistedd a gwrando arnoch chi. |
| (2, 0) 1722 | Ie. |
| (2, 0) 1726 | Oedd 'na dŵr ar y tŷ hwnnw hefyd? |
| (2, 0) 1730 | Be ddar'u chi? |
| (2, 0) 1731 | Ei dynnu o i lawr? |
| (2, 0) 1734 | Y cwbwl? |
| (2, 0) 1736 | W! dyna golled i chi. |
| (2, 0) 1739 | Sut hynny? |
| (2, 0) 1741 | Y twins bach druan? |
| (2, 0) 1745 | Mae babis yn tyfu'n fuan ar y cychwyn. |
| (2, 0) 1749 | Be ddigwyddodd? |
| (2, 0) 1750 | D'wedwch wrtha i. |
| (2, 0) 1751 | Anafwyd rhywun? |
| (2, 0) 1754 | A wedyn? |
| (2, 0) 1758 | Ac yr oedd hynny'n ormod iddyn nhw? |
| (2, 0) 1765 | Ddar'u nhw ddim dal hynny? |
| (2, 0) 1768 | Mi gawsoch chi amser caled ofnadwy ynte'. |
| (2, 0) 1774 | Chawsoch chi ddim pleser yn codi tŵr ein heglwys ni? |
| (2, 0) 1777 | Mi wn inna' hefyd. |
| (2, 0) 1781 | Dim heblaw tai i bobol fyw ynddyn nhw. |
| (2, 0) 1783 | Ond cartrefi efo tyra' uchel a phinacla' arnyn nhw. |
| (2, 0) 1787 | Ydych chi ddim yn galw'ch hun yn architect fel y lleill? |
| (2, 0) 1790 | Ond rydych chi wedi llwyddo'n eithriadol er hynny. |
| (2, 0) 1795 | Mae'n rhaid eich bod chi'n ddyn hapus iawn fel mae petha' wedi troi allan? |
| (2, 0) 1799 | Mae'n rhaid eich bod chi, petaech chi'n gallu anghofio am y ddau blentyn bach. |
| (2, 0) 1803 | Ydych chi'n teimlo'u colli nhw gymaint â hynny ar ôl yr holl flynyddoedd? |
| (2, 0) 1806 | Rydych chi'n hapus, mewn ffyrdd eraill, siŵr iawn? |
| (2, 0) 1809 | Wel? |
| (2, 0) 1812 | Naddo. |
| (2, 0) 1813 | Be' sy' gennych chi mewn golwg? |
| (2, 0) 1819 | Wel, ydy o ddim yn destun hapusrwydd mawr i chi eich bod chi'n gallu g'neud cartrefi mor hyfryd? |
| (2, 0) 1821 | Ond ellwch chi ddim rhoi hynny o'r neilltu? |
| (2, 0) 1825 | Ond oedd |rhaid| i chi neud hynny, am byth? |
| (2, 0) 1830 | Ond, mi all petha' wella, hyd yn oed rŵan? |
| (2, 0) 1836 | Ac eto rydych chi'n adeiladu'r holl stafelloedd plant 'ma. |
| (2, 0) 1840 | Yr amhosib. |
| (2, 0) 1842 | O ydy wir! |
| (2, 0) 1843 | Ydych chitha'n teimlo hynny hefyd? |
| (2, 0) 1845 | Mae'n rhaid bod rhyw ddewin o'ch mewn chitha' hefyd. |
| (2, 0) 1847 | Be' fuasech chi'n ei alw ynte', witj? |
| (2, 0) 1852 | Be ydych chi'n 'i feddwl? |
| (2, 0) 1858 | Be sy mor ofnadwy? |
| (2, 0) 1866 | Meddwl yr ydych chi amdani hi. |
| (2, 0) 1872 | Hi, i adeiladu? |
| (2, 0) 1875 | Be ynte'? |
| (2, 0) 1880 | Ie, ond hyd yn oed petai hyn yn wir...? |
| (2, 0) 1884 | P'run bynnag, nid arnoch chi mae'r bai. |
| (2, 0) 1888 | Hynny? |
| (2, 0) 1891 | Eich bai chi? |
| (2, 0) 1892 | Y tân? |
| (2, 0) 1896 | O, Mr Morris, os gellwch chi siarad fel 'na, mae'n rhaid eich bod chi'n sâl wedi'r cwbwl, mae arna' i ofn. |
| (2, 0) 1937 | Na, gadewch nhw yma. |
| (2, 0) 1939 | Am fod arna' i eisio edrych arnyn nhw. |
| (2, 0) 1954 | Roedd yn beth hyll iawn i'w ddweud. |
| (2, 0) 1956 | Ydw, roedd o'n ofnadwy o hyll ac yn galed. |
| (2, 0) 1957 | Ac yn ddrwg a chreulon hefyd. |
| (2, 0) 1959 | Dim gwahaniaeth am hynny. |
| (2, 0) 1960 | Ddylech chi ddim bod fel 'na. |
| (2, 0) 1962 | Mi ga i dd'eud petha' fel 'na. |
| (2, 0) 1963 | Chewch |chi| ddim. |
| (2, 0) 1965 | O ie. |
| (2, 0) 1966 | Efo cysur cartre ac ati. |
| (2, 0) 1969 | Tawelwch cydwybod! |
| (2, 0) 1971 | Ie. |
| (2, 0) 1972 | Rydych chi'n iawn. |
| (2, 0) 1973 | Y contractor druan!... |
| (2, 0) 1974 | Rhaid eich bod chi'n meddwl... |
| (2, 0) 1979 | OK. |
| (2, 0) 1981 | Dim ond hynny? |
| (2, 0) 1985 | Reit. |
| (2, 0) 1986 | Rŵan am stori'r crac yn y simdde. |
| (2, 0) 1990 | A roedd o? |
| (2, 0) 1992 | Ddar'u chitha' ddim d'eud? |
| (2, 0) 1994 | Na meddwl am ei drwsio chwaith? |
| (2, 0) 2000 | Pam yr oeddech chi yn ei roi o heibio o hyd fel 'na? |
| (2, 0) 2005 | Roedd y syniad yn eich hudo chi'n llwyr? |
| (2, 0) 2012 | Achos roedd hi i fod yn gafael o oer y diwrnod hwnnw. |
| (2, 0) 2015 | Mae hi'n teimlo'r oeri'n arw, ydy hi? |
| (2, 0) 2018 | Dim ond mwg? |
| (2, 0) 2022 | Pam ar y ddaear na allai hi fod wedi digwydd felly? |
| (2, 0) 2024 | Ond 'rhoswch am funud, Mr Morris. |
| (2, 0) 2025 | Ydych chi'n berffaith siŵr mai drwy'r crac bach 'na y digwyddodd y tân? |
| (2, 0) 2028 | O ddifri? |
| (2, 0) 2030 | Be ydych chi'n gyboli'n wirion am y crac yn y simdde ynte'? |
| (2, 0) 2032 | OK. |
| (2, 0) 2033 | Ond triwch siarad yn gall, plis. |
| (2, 0) 2036 | Reit; i ffwrdd â chi. |
| (2, 0) 2042 | Os felly, mi gawn ni weld un o'r dyddia' nesa 'ma, ydw i'n un o'r bobol arbennig. |
| (2, 0) 2049 | Be' ydy'r gweision a'r negeswyr 'ma? |
| (2, 0) 2052 | Ydych chi ddim yn meddwl y b'asai'r tân wedi digwydd 'run fath yn union, hyd yn oed pe baech chi heb ddymuno amdano fo? |
| (2, 0) 2059 | Ie, ond os mai gwaith y gweision a'r negeswyr ydy o i gyd? |
| (2, 0) 2071 | Rydych chi yn sâl, Mr Morris, bron na ddwedwn i, yn wael iawn. |
| (2, 0) 2073 | Na, 'dydw i ddim yn credu bod 'na lawer o'i le ar eich meddwl chi. |
| (2, 0) 2076 | Os gwn i a ddaethoch chi i'r byd 'ma efo cydwybod giami. |
| (2, 0) 2079 | Meddwl rydw i bod eich cydwybod chi'n wan, yn ddelicet felly, dim nerth ynddi hi i fynd i'r afael â phetha'; methu dal pwysa'. |
| (2, 0) 2083 | Mi hoffwn i i'ch cydwybod chi fod yn gwbwl gadarn. |
| (2, 0) 2087 | Rydw i'n meddwl ei bod hi. |
| (2, 0) 2088 | Sylwais i erioed nad oedd hi ddim. |
| (2, 0) 2091 | Doedd gadael 'nhad ddim yn fater mor hawdd,... rydw i mor ofnadwy o hoff ohono fo. |
| (2, 0) 2093 | 'Dydw i ddim yn meddwl yr a' i adre byth eto. |
| (2, 0) 2097 | Ydych chi wedi anghofio eto bod y deng mlynedd ar ben? |
| (2, 0) 2101 | Rhywbeth oddi mewn i mi oedd yn fy ngyrru i, yn fy ngorfodi fi i ddod yma; ac yn fy nenu a'm hudo i hefyd. |
| (2, 0) 2107 | Rydw i bron â meddwl eich bod chi'n iawn. |
| (2, 0) 2111 | Be ydych chi'n ei feddwl? |
| (2, 0) 2112 | Tylwyth? |
| (2, 0) 2121 | Neu petai gan rywun gydwybod wirioneddol wydn fel y |meiddiai| rhywun neud be' fynnai o. |
| (2, 0) 2124 | Synnwn i ddim. |
| (2, 0) 2127 | Do, pan oeddwn i'n arfer darllen llyfra', mi... |
| (2, 0) 2129 | A chipio'r merched i ffwrdd... |
| (2, 0) 2131 | Mynd â nhw adre yn eu llonga'... |
| (2, 0) 2134 | W! Exciting iawn. |
| (2, 0) 2137 | |Cael| eich dwyn. |
| (2, 0) 2141 | Be 'naeth i chi sôn am y Vikings? |
| (2, 0) 2146 | Mi fedra i ddeall y merched yn dda iawn. |
| (2, 0) 2149 | Pam lai? |
| (2, 0) 2151 | Petawn i wedi dod i'w garu. |
| (2, 0) 2153 | Nefi wen. |
| (2, 0) 2154 | Mi wyddoch yn burion nad oes gan rywun ddim help pwy mae o'n mynd i'w garu. |
| (2, 0) 2159 | A'r tylwyth bondigrybwyll 'na, y rhai tywyll a'r rhai gola', yr ysbrydion ydych chi'n eu nabod mor dda. |
| (2, 0) 2162 | Maen nhw wedi dewis drosta' i eisoes. |
| (2, 0) 2163 | Unwaith ac am byth. |
| (2, 0) 2166 | Ddim peryg. |
| (2, 0) 2167 | Fydda' i byth yn cuddio dan y llwyni. |
| (2, 0) 2170 | Mae hynny'n nes i'r gwir hwyrach. |
| (2, 0) 2172 | Pam nad yr hebog neu'r barcud? |
| (2, 0) 2173 | Pam na ddylwn inna' fynd a hela gystal â nhw? |
| (2, 0) 2174 | Cipio'r ysglyfaeth sy' ama' i ei eisio, cyn belled ag y galla' i gael fy nghrafanga' arno fo a chael fy ffordd fy hun efo fo. |
| (2, 0) 2176 | Gwn. |
| (2, 0) 2177 | Deryn go ryfedd ydw i debyg. |
| (2, 0) 2181 | Dwedwch wrtha i, y contractor clyfar, ydych chi'n siŵr na wnaethoch chi 'mo 'ngalw i atoch chi? |
| (2, 0) 2182 | Ynoch eich hun, felly? |
| (2, 0) 2189 | Yr ie'nctid y mae gennych chi gymaint o'i ofn? |
| (2, 0) 2193 | Am y plania' 'ma roedden ni'n siarad. |
| (2, 0) 2197 | Do, ond mi sgrifennwch chi air o gymeradwyaeth arnyn nhw. |
| (2, 0) 2200 | Ond mae'r hen ŵr druan ar farw. |
| (2, 0) 2201 | Ellwch chi ddim rhoi cymaint â hynny o foddhad iddo fo a'i fab cyn iddyn nhw gael eu gwahanu? |
| (2, 0) 2202 | A hwyrach y câi o'r job o godi'r tŷ wedyn. |
| (2, 0) 2205 | Os felly, ellwch chi ddim d'eud y mymryn lleia' o gelwydd am dro? |
| (2, 0) 2210 | Hold on. |
| (2, 0) 2211 | Dim rhaid i chi 'mrathu fi. |
| (2, 0) 2212 | Sôn am ysbrydion. |
| (2, 0) 2213 | Rydych chi'ch hun yn ymddwyn fel blymin ysbryd. |
| (2, 0) 2214 | Oes gennych chi feiro? |
| (2, 0) 2217 | Yn yr offis lle mae'r hogan 'na... |
| (2, 0) 2222 | Fo hefyd? |
| (2, 0) 2225 | Y dyn ifanc druan, 'does dim peryg o hynny siŵr, os nad oes 'na ddim byd yn ei ben o. |
| (2, 0) 2228 | O. Ydy o mor alluog â hynny? |
| (2, 0) 2232 | Ac eto roeddech chi eisio'i gau o allan. |
| (2, 0) 2233 | Rhag cywilydd i chi Mr Morris. |
| (2, 0) 2236 | Mi fydd rhaid i chi fynd yn eich blaen hebddyn nhw ynte'. |
| (2, 0) 2237 | 'Does dim arall amdani hi. |
| (2, 0) 2244 | Peidiwch â siarad fel 'na. |
| (2, 0) 2245 | Oes arnoch chi eisio fy lladd i? |
| (2, 0) 2246 | Dwyn oddi arna' i yr hyn sy'n fwy na mywyd i? |
| (2, 0) 2248 | Y dyhead am eich gweld chi yn eich gogoniant. |
| (2, 0) 2249 | Eich gweld chi â bloda' yn eich llaw. |
| (2, 0) 2250 | Yn uchel, uchel ar ben tŵr eglwys. |
| (2, 0) 2252 | Dowch, ble mae'r beiro? |
| (2, 0) 2253 | Mae'n rhaid bod gennych chi un. |
| (2, 0) 2257 | Da iawn. |
| (2, 0) 2258 | Rŵan, gadewch i ni'n dau eistedd i lawr yn fan 'ma, Mr Morris. |
| (2, 0) 2260 | A rŵan, gawn ni sgrifennu ar y cynllunia'? |
| (2, 0) 2261 | Rhywbeth reit neis a charedig. |
| (2, 0) 2262 | I'r Alwyn ofnadwy 'na, neu beth bynnag ydy ei enw fo. |
| (2, 0) 2265 | Ie? |
| (2, 0) 2267 | Wel? |
| (2, 0) 2271 | Na, na, na. |
| (2, 0) 2272 | Dyna'r union beth nad oeddwn i eisio. |
| (2, 0) 2274 | Roedd arna' i ofn i'r holl beth ddisgyn yn chwilfriw. |
| (2, 0) 2275 | Ond mynd i sgrifennu ar y cynllunia' roedden ni, Mr Morris. |
| (2, 0) 2278 | Cofiwch rŵan, neis a charedig. |
| (2, 0) 2279 | O mae'n gas gen i'r Aelwyn 'ma. |
| (2, 0) 2283 | Be ddaru chi ddeud? |
| (2, 0) 2285 | Rhywun arall ydych chi'n ei feddwl, debyg? |
| (2, 0) 2291 | Do, yn awr ac yn y man. |
| (2, 0) 2292 | Pan fyddwn i'n flin iawn efo chi am beidio dod. |
| (2, 0) 2294 | Ychydig, am ryw wythnos neu ddwy. |
| (2, 0) 2295 | Duwcs annwyl, rydych chi'n gwybod sut mae petha' fel 'na'n digwydd, debyg. |
| (2, 0) 2298 | Peidiwch â gwastraffu amser yn siarad. |
| (2, 0) 2299 | Mi allai'r hen ŵr farw. |
| (2, 0) 2302 | Rydw i eisio 'nheyrnas. |
| (2, 0) 2307 | Rydych chi'n garedig dros ben. |
| (2, 0) 2321 | O na, gadewch i mi gael y pleser o neud hynny. |
| (2, 0) 2323 | Be ydy ei henw hi? |
| (2, 0) 2325 | Mae hynny'n swnio mor oeraidd. |
| (2, 0) 2326 | Ei henw cynta hi oeddwn i'n 'i feddwl. |
| (2, 0) 2329 | Gwyneth, dowch i mewn yma. |
| (2, 0) 2330 | Brysiwch, mae Mr Morris eisio siarad efo chi. |
| (2, 0) 2334 | Edrychwch yma Gwyneth. |
| (2, 0) 2335 | Gewch chi fynd â'r rhain adre. |
| (2, 0) 2336 | Mae Mr Morris wedi sgrifennu arnyn nhw. |
| (2, 0) 2371 | Wel, 'dydw i 'mo'r un i fod wrth y ddesg yna beth bynnag. |
| (2, 0) 2380 | Mi fydd yn wych eich gweld chi mor uchel unwaith eto! |
| (2, 0) 2385 | Fo'n cael pendro! |
| (2, 0) 2386 | Na, mi wn i'n iawn nad ydy o ddim! |
| (2, 0) 2388 | Ond rydw i wedi'i weld o â'm llygaid fy hun reit ar ben tŵr eglwys uchel! |
| (2, 0) 2409 | Ydy hyn yn wir neu ydy o ddim? |
| (2, 0) 2411 | Na |feiddia| fy arwr i, na |fedar| o, ddringo cyn uched ag y gall o adeiladu? |
| (2, 0) 2413 | Ie. |
| (2, 0) 2416 | I fyny acw. |
| (2, 0) 2417 | Reit i fyny... |
| (2, 0) 2422 | Ie, dyna ddaru chi addo i mi. |
| (2, 0) 2424 | Come on, Mr Morris. |
| (2, 0) 2425 | Mi dd'wedsoch chi y byddwn i'n dywysoges. |
| (2, 0) 2426 | Y b'asech chi'n rhoi teyrnas i mi. |
| (2, 0) 2427 | Ac yna mi 'naethoch chi, a... |
| (2, 0) 2428 | Wel? |
| (2, 0) 2432 | Trïo gwadu ydych chi? |
| (2, 0) 2433 | D'eud na ddaru chi ddim? |
| (2, 0) 2437 | Sef be? |
| (2, 0) 2438 | Dwedwch ar unwaith. |
| (2, 0) 2441 | F'asech |chi| byth yn cael pendro! |
| (2, 0) 2444 | Uwchben eich cartre' newydd chi, on'd e? |
| (2, 0) 2449 | ... dychrynllyd o wefreiddiol... |
| (3, 0) 2473 | Do, mi fûm i'n cael golwg arni. |
| (3, 0) 2475 | Do wir. |
| (3, 0) 2476 | Mae 'na glystyra' ohonyn nhw dan y llwyni. |
| (3, 0) 2481 | Be'? |
| (3, 0) 2482 | Fyddwch chi ddim yn picio i lawr i'r ardd bob dydd ynte'? |
| (3, 0) 2485 | Wel, ond fyddwch chi ddim yn mynd i lawr rŵan ac yn y man i weld yr holl betha' hardd sy' 'na? |
| (3, 0) 2487 | Eich gardd chi'ch hun? |
| (3, 0) 2489 | Be' ydych chi'n 'i feddwl? |
| (3, 0) 2497 | Mrs Morris. |
| (3, 0) 2499 | Ga' i aros yma efo chi am dipyn? |
| (3, 0) 2502 | A! Mi all rhywun 'i fwynhau ei hun fel cath yn yr haul yn fan 'ma. |
| (3, 0) 2506 | I be? |
| (3, 0) 2508 | Ddim diolch. |
| (3, 0) 2509 | A ph'run bynnag dydy o ddim yn y tŷ. |
| (3, 0) 2510 | Mae o draw yn fan'na efo'r gweithwyr. |
| (3, 0) 2511 | Ond roedd o'n edrych mor ffyrnig na feiddiais i ddim siarad efo fo. |
| (3, 0) 2513 | Tybed? |
| (3, 0) 2516 | Ydych chi'n falch eich bod chi'n mynd i'r tŷ newydd? |
| (3, 0) 2518 | O, nid hynny'n unig, siŵr. |
| (3, 0) 2522 | Ydy, mae'n rhaid bod hynny'n anodd iawn. |
| (3, 0) 2526 | I rywun sy' wedi bod drwy gymaint â chi... |
| (3, 0) 2528 | Eich gŵr chi ddwedodd wrtha' i. |
| (3, 0) 2532 | Mrs Morris druan. |
| (3, 0) 2533 | I ddechra' mi fuo'r tân... |
| (3, 0) 2537 | A wedyn mi ddaeth rhywbeth gwaeth... |
| (3, 0) 2540 | Gwaeth na'r cwbwl. |
| (3, 0) 2543 | Mi goll'soch chi'r ddau hogyn bach. |
| (3, 0) 2549 | Felly rydych chi'n teimlo, ie? |
| (3, 0) 2553 | Na fedrwch. |
| (3, 0) 2554 | 'Dydy hynny ddim ond naturiol. |
| (3, 0) 2556 | Am be? |
| (3, 0) 2558 | Ond wela' i ddim bod... |
| (3, 0) 2566 | Mrs Morris annwyl. |
| (3, 0) 2567 | Dwedwch wrtha' i. |
| (3, 0) 2568 | Pa betha'? |
| (3, 0) 2576 | Y dolia?? |
| (3, 0) 2579 | Mi gawson hwytha'u llosgi hefyd? |
| (3, 0) 2583 | Oeddech chi wedi cadw'r dolia' 'ma i gyd ers pan oeddech chi'n hogan bach? |
| (3, 0) 2587 | Wedi i chi dyfu? |
| (3, 0) 2589 | Wedi i chi briodi hefyd? |
| (3, 0) 2596 | Dydw i ddim yn chwerthin yn siŵr i chi. |
| (3, 0) 2612 | Wrth gwrs. |
| (3, 0) 2613 | Yr offer a'r gêr i gyd. |
| (3, 0) 2614 | Ond heddiw 'dydw i ddim yn mynd i ddringo a thorri 'ngwddw. |
| (3, 0) 2615 | Mi arhoswn ni'n dau'n ddistaw yn y gwaelod a sbïo, Doctor. |
| (3, 0) 2624 | O biti na fedren ni. |
| (3, 0) 2637 | Rydw i wedi sylwi eich bod chi'n cael effaith felly. |
| (3, 0) 2643 | Rydw i newydd ddod i fyny o blith y meirw. |
| (3, 0) 2645 | Bod iasa' oer wedi bod yn fy ngherdded i, Mr Morris. |
| (3, 0) 2648 | Be' ddaeth â chi yma rŵan? |
| (3, 0) 2650 | Ond rhaid eich bod chi wedi'i gweld hitha' hefyd. |
| (3, 0) 2652 | Ydy o'n boenus iawn i chi ei bod hi'n eich osgoi chi fel hyn? |
| (3, 0) 2654 | Nad os raid i chi ei hwynebu hi. |
| (3, 0) 2656 | Rhag i chi orfod gweld yn gyson gymaint o loes ydy colli'r bechgyn bach iddi hi o hyd? |
| (3, 0) 2674 | Rydw i'n mynd i ffwrdd. |
| (3, 0) 2677 | Ydw. |
| (3, 0) 2679 | Be' ydw i'n mynd i'w 'neud yma? |
| (3, 0) 2682 | O, ie. |
| (3, 0) 2683 | Diolch yn fawr. |
| (3, 0) 2684 | Ond mi wyddoch chi'n iawn na fasai hi'n gorffen yn fan'no. |
| (3, 0) 2688 | Alla' i ddim g'neud drwg i rywun ydw i'n ei |nabod|. |
| (3, 0) 2689 | Alla' i ddim dwyn rhywbeth sy'n perthyn iddi hi. |
| (3, 0) 2692 | Rhywun diarth, OK. |
| (3, 0) 2693 | Achos mae hynny'n hollol wahanol. |
| (3, 0) 2694 | Rhyw berson na welais i erioed mohoni. |
| (3, 0) 2695 | Ond rhywun yr ydw i wedi dod yn agos ati hi. |
| (3, 0) 2696 | Na. |
| (3, 0) 2697 | No way. |
| (3, 0) 2699 | O, Mr Morris. |
| (3, 0) 2700 | Mi wyddoch chi'n iawn be fyddai 'i diwedd hi. |
| (3, 0) 2701 | A dyna pam rydw i'n mynd i ffwrdd. |
| (3, 0) 2705 | Dim problem i chi. |
| (3, 0) 2706 | Mae gennych chi'ch dyletswydda' ati hi. |
| (3, 0) 2707 | Rhaid i chi fyw i'r rheini. |
| (3, 0) 2710 | ... Ysbrydion... |
| (3, 0) 2724 | Be' ydych chi am adeiladu nesa? |
| (3, 0) 2727 | Ddim mwy o'r cartrefi clyd rheini i fam a thad a thyaid o blant? |
| (3, 0) 2729 | Y contractor druan! |
| (3, 0) 2730 | A chitha' wedi bod wrthi am ddeng mlynedd. |
| (3, 0) 2731 | Wedi rhoi eich bywyd i hynny'n unig. |
| (3, 0) 2734 | O! Mae'r cwbwl yn edrych mor wirion, mor hurt. |
| (3, 0) 2736 | Na all rhywun afael yn dynn yn ei hapusrwydd ei hun. |
| (3, 0) 2737 | Am ddim rheswm ond bod rhywun ydych chi'n ei nabod yn digwydd bod yn y ffordd. |
| (3, 0) 2739 | Tybed, nad oes gan rywun yr hawl mewn gwirionedd? |
| (3, 0) 2740 | Ac eto, ac eto... |
| (3, 0) 2741 | O na f'asai rhywun yn gallu cysgu ac anghofio'r holl beth. |
| (3, 0) 2746 | Doedd gen i ddim byd ond carchar. |
| (3, 0) 2749 | Fydd deryn gwyllt o'r coed byth eisio bod mewn cawell. |
| (3, 0) 2752 | Gwibio ydy natur yr hebog a'r barcud. |
| (3, 0) 2756 | A rhywbeth arall. |
| (3, 0) 2757 | D'wedwch be' oedd |hwnnw|. |
| (3, 0) 2761 | Mi wn i be ydych chi'n mynd i adeiladu nesa'. |
| (3, 0) 2763 | Wir. |
| (3, 0) 2764 | Mae'r contractors 'ma mor dwp. |
| (3, 0) 2767 | Y castell. |
| (3, 0) 2769 | Fy nghastell i wrth gwrs. |
| (3, 0) 2771 | Rydych chi wedi addo teyrnas i mi. |
| (3, 0) 2773 | Reit, rydych chi'n cyfadde'ch bod chi wedi addo teyrnas i mi. |
| (3, 0) 2774 | Wel, ellwch chi ddim cael teyrnas heb gastell. |
| (3, 0) 2778 | Da iawn. |
| (3, 0) 2779 | Adeiladwch o ynte'. |
| (3, 0) 2780 | Ar unwaith. |
| (3, 0) 2783 | Wrth gwrs. |
| (3, 0) 2784 | Mae'r amser ar ben. |
| (3, 0) 2785 | Y deng mlynedd. |
| (3, 0) 2786 | A dydw i ddim am aros chwaneg. |
| (3, 0) 2787 | Y castell, Mr Morris! |
| (3, 0) 2800 | Mi fydd fy nghastell i'n sefyll ar le uchel, uchel iawn. |
| (3, 0) 2801 | Pob ochor yn glir. |
| (3, 0) 2802 | Fel y galla' i weld ymhell i'r pellter. |
| (3, 0) 2804 | Tŵr uchel ofnadwy. |
| (3, 0) 2805 | Ac ar ben ucha'r tŵr mi fydd 'na falconi. |
| (3, 0) 2806 | Ac yno'n uchel y bydda' i... |
| (3, 0) 2809 | Wrth gwrs. |
| (3, 0) 2810 | Mi safa' i yno ac edrych i lawr ar y lleill... y rhai sy'n codi eglwysi a chartrefi i fam a thad a phlant. |
| (3, 0) 2811 | ... A mi gewch chitha' ddod i weld hefyd. |
| (3, 0) 2814 | Os bydd o'n dymuno. |
| (3, 0) 2818 | Daw, mi ddaw. |
| (3, 0) 2821 | O g'naiff wir! |
| (3, 0) 2822 | Mi awn ni'n dau ati efo'n gilydd. |
| (3, 0) 2823 | A wedyn mi adeiladwn ni'r peth hardda'... yr hardda' yn yr holl fyd. |
| (3, 0) 2828 | Adeiladwyr. |
| (3, 0) 2829 | Bobol bach, mae nhw'n rhai twp, mor ofnadwy o dwp. |
| (3, 0) 2835 | Cestyll yn yr awyr. |
| (3, 0) 2838 | Ie. |
| (3, 0) 2839 | Cestyll yn yr awyr. |
| (3, 0) 2840 | Wyddoch chi sut beth ydy castell yn yr awyr? |
| (3, 0) 2843 | Ie, wrth gwrs. |
| (3, 0) 2844 | Cestyll yn yr awyr... maen nhw mor handi i ddianc iddyn nhw. |
| (3, 0) 2845 | Ac mor hawdd eu gwneud hefyd. |
| (3, 0) 2847 | Yn enwedig i adeiladwyr efo nerfa' gwan. |
| (3, 0) 2851 | Castell go iawn yn yr awyr? |
| (3, 0) 2857 | Y |wreath|. |
| (3, 0) 2858 | O mi fydd hyn yn wych! |
| (3, 0) 2893 | Mr Morris. |
| (3, 0) 2894 | Mi arhosa' i yn fan 'ma i'ch gwylio chi. |
| (3, 0) 2896 | Mi fydd yn hollol wefreiddiol. |
| (3, 0) 2901 | Rydw i'n meddwl y gallech chi, o leia', fod wedi diolch iddo fo. |
| (3, 0) 2904 | Wel, dylech wrth gwrs. |
| (3, 0) 2906 | Sut y gellwch chi dd'eud y fath beth? |
| (3, 0) 2911 | Rydw i'n ei nabod o'n well na neb. |
| (3, 0) 2919 | Dim ond iddo fo...? |
| (3, 0) 2920 | D'wedwch, ar unwaith! |
| (3, 0) 2923 | Yr hogan 'na wrth y ddesg? |
| (3, 0) 2926 | Dydy hyn 'na ddim yn wir. |
| (3, 0) 2927 | Rydych chi'n d'eud anwiredd amdano fo. |
| (3, 0) 2930 | Be ddwedodd hi? |
| (3, 0) 2931 | Mae'n rhaid i mi gael gwybod. |
| (3, 0) 2932 | Ar unwaith. |
| (3, 0) 2933 | Y munud 'ma. |
| (3, 0) 2939 | Chaiff hi 'mo'r cyfle! |
| (3, 0) 2941 | Mi fydd o'n d'eud. |
| (3, 0) 2944 | Dydych chi'n deall dim. |
| (3, 0) 2945 | Os ydych chi'n gallu siarad fel 'na. |
| (3, 0) 2946 | Na, mi dd'weda' i wrthych chi pam roedd o'n dal ei afael ynddi hi. |
| (3, 0) 2948 | Er mwyn eich cadw chi. |
| (3, 0) 2950 | Naddo. |
| (3, 0) 2951 | Ond dyna'r gwir. |
| (3, 0) 2952 | Felly roedd hi. |
| (3, 0) 2953 | Rydw i eisio iddi hi fod felly. |
| (3, 0) 2955 | Na, |chi|. |
| (3, 0) 2956 | Gadael i |chi| fynd ddaru o. |
| (3, 0) 2957 | Pam y b'asa fo'n malio am ryw ferch fel hi? |
| (3, 0) 2960 | Ofn wir. |
| (3, 0) 2961 | Ofn arno fo? |
| (3, 0) 2962 | Peidiwch â bod mor hunan-dybus, bendith y Tad i chi. |
| (3, 0) 2965 | Fo? |
| (3, 0) 2966 | Peidiwch â malu awyr. |
| (3, 0) 2972 | O, pe baech chi wedi'i weld o yn uchel, uchel, yn yr entrychion fel y gwelais i o. |
| (3, 0) 2974 | O, do. |
| (3, 0) 2975 | Mor rhydd a balch. |
| (3, 0) 2976 | Yn sefyll reit ar y top a gosod y |wreath| ar y ceiliog gwynt. |
| (3, 0) 2981 | Heddiw, mi fydd o'n g'neud hynny eto. |
| (3, 0) 2984 | Mi |gawn| ni weld! |
| (3, 0) 2988 | Rydw i'n mynd i'w weld o. |
| (3, 0) 2989 | Mae'n |rhaid| i mi ei weld o. |
| (3, 0) 2990 | Ac mi ga' i. |
| (3, 0) 2999 | Mae o wedi mynd â'r |wreath|. |
| (3, 0) 3014 | Dydw i ddim yn deall be' ydy'r panic. |
| (3, 0) 3019 | Ydych chi'n meddwl y gwnaiff o? |
| (3, 0) 3022 | Aha! |
| (3, 0) 3023 | Ydych chitha''n meddwl ei fod o... wel...? |
| (3, 0) 3047 | Fyddai hi ddim yn well i chi 'ch hun 'neud hynny. |
| (3, 0) 3055 | Na' i ddim. |
| (3, 0) 3056 | Gellwch fentro y ca' i rywbeth arall i siarad amdano fo efo Mr Morris. |
| (3, 0) 3063 | Oes. |
| (3, 0) 3064 | Fi, Mr Morris. |
| (3, 0) 3067 | Ofn. |
| (3, 0) 3068 | Rydych chi'n hawdd iawn eich dychryn, mae'n rhaid. |
| (3, 0) 3070 | Ydw, mae pobol yn d'eud fod arnoch chi ofn dringo, dringo i fyny sgaffald ac ati. |
| (3, 0) 3075 | Ofn disgyn i lawr, a'ch lladd eich hun. |
| (3, 0) 3077 | Ofn be', ynte? |
| (3, 0) 3079 | Cosb? |
| (3, 0) 3080 | 'Dydw i ddim yn deall. |
| (3, 0) 3082 | Ie, g'newch, ar unwaith. |
| (3, 0) 3087 | Mi wn i hynny. |
| (3, 0) 3090 | Ie, ie. |
| (3, 0) 3092 | Fel be? |
| (3, 0) 3094 | Plesio pwy? |
| (3, 0) 3097 | Wela' i. |
| (3, 0) 3098 | Ond ydych chi'n berffaith siŵr nad... nad oeddech chi wedi'i blesio fo? |
| (3, 0) 3104 | Yr ysbrydion? |
| (3, 0) 3111 | O, dyna pam? |
| (3, 0) 3117 | Pryd oedd hynny? |
| (3, 0) 3119 | Roeddwn i'n ama'. |
| (3, 0) 3128 | Be 'naethoch chi? |
| (3, 0) 3130 | A wedyn? |
| (3, 0) 3132 | Yr amhosib? |
| (3, 0) 3136 | O do mi 'naethoch chi. |
| (3, 0) 3144 | Dyna oedd y gân a glywais i yn yr awyr! |
| (3, 0) 3146 | Be' ydych chi'n 'i feddwl? |
| (3, 0) 3149 | Pam rydych chi'n d'eud hynny? |
| (3, 0) 3158 | Newch hi byth adeiladu dim byd eto felly? |
| (3, 0) 3162 | Be' ydych chi am adeiladu? |
| (3, 0) 3163 | Dwedwch ar unwaith. |
| (3, 0) 3167 | Ein cestyll yn yr awyr ydych chi'n feddwl, on'd e? |
| (3, 0) 3170 | Mae arna' i ofn y caech chi bendro cyn cyrraedd hanner y ffordd i fyny. |
| (3, 0) 3173 | Efo fi'n unig? |
| (3, 0) 3174 | Oni fydd 'na amryw ohonon ni? |
| (3, 0) 3176 | O, y Gwyneth 'na. |
| (3, 0) 3177 | Yr hogan druan 'na wrth y ddesg. |
| (3, 0) 3178 | Ydych chi ddim am fynd â hi hefyd? |
| (3, 0) 3181 | Ai dyna'r gwir? |
| (3, 0) 3182 | Ie neu nage? |
| (3, 0) 3186 | Ar hyd y deng mlynedd d'waetha, rydw i wedi credu ynoch chi'n gyfangwbwl. |
| (3, 0) 3188 | Gadewch i mi'ch gweld chi yn sefyll ar y top, yn ddyn rhydd ynte'. |
| (3, 0) 3192 | Rydw i eisio i chi 'neud. |
| (3, 0) 3194 | Dim ond unwaith eto, plis. |
| (3, 0) 3195 | G'newch yr amhosib unwaith eto! |
| (3, 0) 3199 | Be dd'wedwch chi wrtho Fo? |
| (3, 0) 3205 | Ie!... Ie!... Ie! |
| (3, 0) 3207 | Ie. |
| (3, 0) 3208 | D'wedwch hynny wrtho Fo. |
| (3, 0) 3209 | D'wedwch hynny wrtho Fo. |
| (3, 0) 3213 | Lawer gwaith. |
| (3, 0) 3214 | D'wedwch hynny. |
| (3, 0) 3216 | A wedyn? |
| (3, 0) 3219 | Rŵan rydw i'n eich gweld chi eto fel y gwelais i chi pan oedd cân yn yr awyr! |
| (3, 0) 3222 | Sut y g'naethoch chi fi yr hyn ydw i? |
| (3, 0) 3226 | O fy adeiladwr arbennig i! |
| (3, 0) 3227 | Fy nghastell hardd. |
| (3, 0) 3228 | Ein castell yn yr awyr! |
| (3, 0) 3272 | Gwelaf. |
| (3, 0) 3274 | I be' mae nhw eisio'i wylio fo? |
| (3, 0) 3276 | A dyna be mae'r hogia' eisio, ie? |
| (3, 0) 3280 | Welwch chi mo hynny. |
| (3, 0) 3281 | Nid y tro yma. |
| (3, 0) 3285 | I fyny reit ar y top, wrth y ceiliog gwynt. |
| (3, 0) 3286 | Dyna lle gwelwch chi o. |
| (3, 0) 3290 | Mae o wedi rhoi ei feddwl ar gyrraedd pen y tŵr. |
| (3, 0) 3291 | A dyna lle gwelwch chi o, ar y copa. |
| (3, 0) 3305 | Fo'i hun ydy o. |
| (3, 0) 3306 | Mr Morris, y contractor! |
| (3, 0) 3322 | Yn dringo a dringo. |
| (3, 0) 3323 | ... Yn uwch ac yn uwch! |
| (3, 0) 3324 | Edrychwch! |
| (3, 0) 3325 | ... Mewn difri'! |
| (3, 0) 3329 | Dringo... dal i ddringo! |
| (3, 0) 3330 | Mae o bron ar ben y tŵr! |
| (3, 0) 3334 | Dyna i chi. |
| (3, 0) 3335 | Mae o'n sefyll ar y planc ucha. |
| (3, 0) 3336 | Reit yn y top! |
| (3, 0) 3340 | O'r diwedd! |
| (3, 0) 3341 | O'r diwedd! |
| (3, 0) 3342 | Unwaith eto. |
| (3, 0) 3343 | Y pencampwr yn rhydd! |
| (3, 0) 3346 | Fel hyn yr ydw i wedi'i weld o drwy gydol y deng mlynedd. |
| (3, 0) 3347 | Mor ddewr, yn sefyll yna. |
| (3, 0) 3348 | Dyna be' ydy gwefr. |
| (3, 0) 3349 | Rŵan mae o'n gosod y |wreath| ar y ceiliog gwynt! |
| (3, 0) 3351 | Ie, yr amhosib! |
| (3, 0) 3352 | Dyna'n union mae o'n ei 'neud rŵan! |
| (3, 0) 3354 | Welwch chi rywun arall i fyny 'na efo fo? |
| (3, 0) 3356 | Oes. |
| (3, 0) 3357 | Mae 'na un, y mae o'n dadla' efo fo. |
| (3, 0) 3359 | Ydych chi ddim yn clywed cân yn yr awyr chwaith? |
| (3, 0) 3361 | Rydw i'n clywed cân orfoleddus. |
| (3, 0) 3363 | Edrychwch! |
| (3, 0) 3364 | Edrychwch! |
| (3, 0) 3365 | Rŵan mae o'n chwifio'i het! |
| (3, 0) 3366 | Arnon ni i lawr yma mae o'n chwifio! |
| (3, 0) 3367 | O, chwifiwn, chwifiwn yn ôl arno fo! |
| (3, 0) 3368 | Mae o wedi concro! |
| (3, 0) 3370 | Hwre i'r adeiladwr! |
| (3, 0) 3386 | Fy arwr. |
| (3, 0) 3387 | Fy mhencampwr i! |
| (3, 0) 3388 | Dyna ddyn! |
| (3, 0) 3405 | Alla' i mo'i weld o i fyny na rŵan. |
| (3, 0) 3409 | Ond mi gyrhaeddodd reit i'r copa. |
| (3, 0) 3410 | Ac mi glywais i delyna' yn yr awyr. |
| (3, 0) 3412 | Fy arwr! |
| (3, 0) 3413 | Fy arwr i! |