| (1, 0) 26 | Mi ddylech chi fynd adre nhad. | 
| (1, 0) 27 | Ceisiwch gysgu dipyn. | 
| (1, 0) 31 | Ie, dowch. | 
| (1, 0) 32 | Mi ddo' i efo chi. | 
| (1, 0) 38 | Ie, mi fasai'n well aros, 'nhad. | 
| (1, 0) 77 | Do y pâr ifanc sydd eisio cael codi tŷ draw ym Mrynfelin. | 
| (1, 0) 83 | Roedden nhw'n awyddus iawn i weld y cynllunia' ar unwaith. | 
| (1, 0) 248 | Be' sy' 'nhad? | 
| (1, 0) 251 | O'r gora'. | 
| (1, 0) 252 | Mi fyddai'n well i titha' wisgo amdanat hefyd Gwyneth. | 
| (2, 0) 1902 | O mae'n ddrwg gen i, Mr Morris. | 
| (2, 0) 1906 | Ie wir. | 
| (2, 0) 1907 | Piti na fedren ni. | 
| (2, 0) 1909 | Mae 'nhad yn gwanio'n gyflym. | 
| (2, 0) 1910 | Am hynny rydw i'n gofyn ac yn erfyn arnoch chi, 'newch chi sgrifennu gair neu ddau o gymeradwyaeth ar y plania'. | 
| (2, 0) 1911 | Rhywbeth i 'nhad ei ddarllen cyn iddo... | 
| (2, 0) 1914 | Ydych chi wedi edrych arnyn nhw? | 
| (2, 0) 1916 | A dydyn nhw'n dda i ddim? | 
| (2, 0) 1917 | Na finna'n dda i ddim chwaith? | 
| (2, 0) 1923 | Ah wel. | 
| (2, 0) 1924 | Felly mae'n rhaid i mi fynd adre a gadael i 'nhad wybod be' ydych chi'n ei dd'eud. | 
| (2, 0) 1925 | Dyna wnes i addo. | 
| (2, 0) 1926 | Dyna ydych eisio i mi dd'eud wrth fy nhad cyn iddo farw? | 
| (2, 0) 1931 | Ga' i'r plania' i fynd efo mi? | 
| (2, 0) 1935 | Diolch. | 
| (2, 0) 1943 | O'r gora'. | 
| (2, 0) 1945 | Ie, rhaid i mi. | 
| (2, 0) 1950 | Wrth gwrs, maddeuwch i mi. | 
| (3, 0) 2861 | Roeddwn i wedi addo i'r fforman y g'nawn i. | 
| (3, 0) 2864 | Nâc ydy. | 
| (3, 0) 2866 | Roedd hi'n rhy hwyr. | 
| (3, 0) 2868 | Pan gyrhaeddodd hi roedd o'n anymwybodol. | 
| (3, 0) 2869 | Wedi cael strôc. | 
| (3, 0) 2872 | 'Dydy o mo f'angen i ddim mwy. | 
| (3, 0) 2874 | Mae hi'n eistedd wrth ei wely fo. | 
| (3, 0) 2878 | Ie, Gwyneth. | 
| (3, 0) 2883 | Dydych chi erioed yn meddwl g'neud hynny'ch hun? | 
| (3, 0) 2888 | Rydw i'n deall na fyddwch chi mo' f'angen i yn y dyfodol. | 
| (3, 0) 2889 | Ond rydw i'n aros heddiw. | 
| (3, 0) 2902 | Diolch. | 
| (3, 0) 2903 | Ddylwn i fod wedi diolch iddo fo? | 
| (3, 0) 2905 | Rydw i'n meddwl mai i chi y dylwn i ddiolch. | 
| (3, 0) 2908 | Ond byddwch yn ofalus, Miss O'Reilly. | 
| (3, 0) 2909 | 'Dydych chi ddim yn ei nabod o eto. | 
| (3, 0) 2913 | Diolch iddo fo! | 
| (3, 0) 2914 | Y dyn gadwodd fi i lawr flwyddyn ar ôl blwyddyn. | 
| (3, 0) 2915 | Y dyn barodd i 'nhad golli ffydd yn fy ngallu i. | 
| (3, 0) 2916 | Wnaeth i mi golli ffydd ynof fi fy hun... | 
| (3, 0) 2917 | A'r cwbwl dim ond iddo fo... | 
| (3, 0) 2921 | Iddo fo gael ei chadw hi efo fo. | 
| (3, 0) 2924 | Ie. | 
| (3, 0) 2928 | Roeddwn innau yn gwrthod credu hynny hyd heddiw... pan dd'wedodd hi ei hun. | 
| (3, 0) 2934 | Mi dd'wedodd hi ei fod o wedi meddiannu ei meddwl hi... yn gyfangwbwl. | 
| (3, 0) 2935 | Wedi'i orseddu'i hun yn ei holl feddylia' hi. | 
| (3, 0) 2936 | Na fedrith hi ddim dianc. | 
| (3, 0) 2937 | ... Ei bod hi am aros yma, lle mae o... | 
| (3, 0) 2940 | Pwy sy'n d'eud? | 
| (3, 0) 2942 | O, rydw i'n deall. | 
| (3, 0) 2943 | Ar ôl hyn fasai hi ddim ond yn rhwystr iddo. | 
| (3, 0) 2947 | Pam, ynte'? | 
| (3, 0) 2949 | Dd'wedodd o hynny wrthych chi? | 
| (3, 0) 2954 | A'r funud y daethoch chi, mi adawodd o iddi hi fynd. | 
| (3, 0) 2959 | Oes posib mai f'ofn i oedd arno fo drwy'r amser? | 
| (3, 0) 2963 | Mae'n siŵr ei fod o wedi sylweddoli ers talwm fod gen i rywfaint o allu. | 
| (3, 0) 2964 | P'run bynnag, ydych chi ddim yn gweld mai ofn sy' amo fo? | 
| (3, 0) 2967 | Yn ei ffordd ei hun mae o'n llwfr. | 
| (3, 0) 2968 | Isaac Ryan Morris, Contractor! | 
| (3, 0) 2969 | Does arno fo ddim ofn dwyn oddi ar bobol eraill,... eu hapusrwydd. | 
| (3, 0) 2970 | Fel mae o wedi difetha bywyd 'nhad a finna'. | 
| (3, 0) 2971 | Ond pan ddaw hi i ddringo rhyw fymryn o sgaffald, mae'n well ganddo fo 'neud unrhyw beth na hynny. | 
| (3, 0) 2973 | Welsoch chi hynny? | 
| (3, 0) 2977 | Mi wn i iddo fo fentro yr un tro hwnnw yn ei fywyd. | 
| (3, 0) 2978 | Dim ond un tro. | 
| (3, 0) 2979 | Rydyn ni'r dynion ifainc wedi bod yn sôn am y peth. | 
| (3, 0) 2980 | Ond 'does 'na 'run gallu ar y ddaear fedrai ei gael o i 'neud hynny eto. | 
| (3, 0) 2983 | Gawn ni |weld|. | 
| (3, 0) 2985 | Welwch chi na finna' mo hynny. | 
| (3, 0) 2986 | Bendant. | 
| (3, 0) 2991 | Na, wnaiff o ddim. | 
| (3, 0) 2992 | Feiddith o ddim. | 
| (3, 0) 2993 | Dyna'r man gwan yn ei gymeriad o... y giaffar, er mor glyfar ydy o... y contractor pwysig. | 
| (3, 0) 2998 | Mae Mr Morris i lawr yn fan'na efo'r dynion, | 
| (3, 0) 3006 | Ga' i ddeud eich bod chi eisio siarad efo fo, Mrs Morris? | 
| (3, 0) 3011 | O'r gora', mi 'na i hynny Mrs Morris. | 
| (3, 0) 3236 | Oes. | 
| (3, 0) 3237 | Band yr Undeb ydy o. | 
| (3, 0) 3239 | Mi ofynnodd y fforman i mi ddeud wrthych chi 'i fod o'n barod i fynd i fyny efo'r |wreath|. | 
| (3, 0) 3270 | Miss O'Reilly. | 
| (3, 0) 3271 | Welwch chi'r dynion ifainc 'na i lawr yn y stryd? | 
| (3, 0) 3273 | Y gweithwyr ifainc a'r prentisiaid ydyn nhw, wedi dod i wylio'r bos. | 
| (3, 0) 3275 | Mae nhw eisio gweld cymaint o ofn arno fo na 'naiff o ddim dringo i ben ei dŷ ei hun. | 
| (3, 0) 3278 | Mae o wedi'n dal ni i lawr. | 
| (3, 0) 3279 | Rŵan, mi gawn ni ei weld o'i hun yn gorfod aros i lawr yn y gwaelod. | 
| (3, 0) 3283 | Felly wir. | 
| (3, 0) 3284 | B'le gwelwn ni o ynte'? | 
| (3, 0) 3288 | Fo? | 
| (3, 0) 3289 | Dyna ydych |chi|'n ei feddwl. | 
| (3, 0) 3292 | Meddwl, ie. | 
| (3, 0) 3293 | Mi fedra' i gredu hynny'n hawdd. | 
| (3, 0) 3294 | Ond |fedrith| o ddim. | 
| (3, 0) 3295 | Mi gâi bendro... ymhell cyn cyrraedd hanner y ffordd. | 
| (3, 0) 3296 | Mi f'asai'n rhaid iddo gropian i lawr ar ei bedwar. | 
| (3, 0) 3303 | Ond Duw annwyl... fo. | 
| (3, 0) 3327 | Rhaid iddo droi'n ôl rŵan. | 
| (3, 0) 3328 | ... 'Does dim arall amdani. | 
| (3, 0) 3345 | Ond, mae hyn yn... | 
| (3, 0) 3350 | Rydw i'n teimlo mod i'n gweld rhywbeth amhosib. | 
| (3, 0) 3355 | Na, does 'na neb arall. | 
| (3, 0) 3358 | Does 'na neb yna. | 
| (3, 0) 3360 | Rhaid mai'r gwynt ydy o, ym mriga'r coed. | 
| (3, 0) 3390 | Mae'n rhaid ei fod o wedi'i falu'n ddarna'. | 
| (3, 0) 3391 | Wedi'i ladd yn y fan. | 
| (3, 0) 3394 | Fedra' i ddim symud... | 
| (3, 0) 3397 | Sut mae petha? | 
| (3, 0) 3398 | Ydy o'n fyw? | 
| (3, 0) 3406 | Mae hyn yn ofnadwy. | 
| (3, 0) 3407 | Methu ddaru o yn y diwedd. |