| (1, 0) 1 | Stafell weithio wedi'i dodrefnu'n blaen yn nhŷ Isaac Ryan Morris. |
| (1, 0) 2 | Drysau dwbwl yn arwain i gyntedd yn y mur chwith. |
| (1, 0) 3 | Ar y dde, drws i stafelloedd mewnol y tŷ. |
| (1, 0) 4 | Yn y mur cefn drws agored i'r swyddfa gynllunio. |
| (1, 0) 5 | Ar y chwith, ym mlaen y llwyfan, desg gyda llyfrau, papurau ac offer sgrifennu a chyfrifiadur. |
| (1, 0) 6 | Yng nghefn y llwyfan, lle tân. |
| (1, 0) 7 | Yn y gornel dde, soffa gyda bwrdd a chadeiriau. |
| (1, 0) 8 | Blaen y llwyfan, i'r dde, bwrdd bach, cadair siglo a chadair freichiau. |
| (1, 0) 9 | ~ |
| (1, 0) 10 | Y tu mewn i'r swyddfa, Owen Meredith a'i fab Elwyn yn brysur gyda chynlluniau a mesuriadau. |
| (1, 0) 11 | Gwyneth Parry yn eistedd wrth ddesg yn y stafell weithio yn teipio ar brosesydd geiriau. |
| (1, 0) 12 | Owen Meredith - hen ŵr tenau gyda gwallt gwyn a barf wen. |
| (1, 0) 13 | Mae 'n gwisgo sbectol. |
| (1, 0) 14 | Ei ddillad yn dwt ond wedi gwisgo. |
| (1, 0) 15 | Elwyn Meredith, yn ei dri degau, yn drwsiadus; tuedda i wargrymu. |
| (1, 0) 16 | Gwyneth Parry, merch ifanc yn ei hugeiniau. |
| (1, 0) 17 | Mae'r tri yn gweithio'n ddistaw am ychydig. |
| (1, 0) 18 | ~ |
| (1, 0) 19 | Yn nhŷ Isaac Ryan Morris y digwydd y ddrama. |
| (1, 0) 20 | Mae hi'n hwyr brynhawn. |
| (1, 0) 21 | Owen Meredith yn codi'n sydyn o'i waith a golwg bryderus arno. |
| (1, 0) 22 | Daw at y drws yn anadlu'n drwm a chydag anhawster. |
| (1, 0) 45 | Â'r tri yn ôl at eu gwaith. |
| (1, 0) 46 | Distawrwydd am ennyd. |
| (1, 0) 47 | Daw Isaac Ryan Morris i mewn drwy ddrws y cyntedd. |
| (1, 0) 48 | Mae'n ddyn yn ei anterth, yn iach ac egnïol gyda gwallt cyrliog cwta, mwstash tywyll ac aeliau trymion tywyll. |
| (1, 0) 49 | Het trilbi am ei ben a dau neu dri ffolder dan ei fraich. |
| (1, 0) 54 | Tyn hi ei sbectol. |
| (1, 0) 55 | Morris yn mynd ar draws y stafell, yn taflu ei het ar gadair, yn rhoi'r ffolderi ar y bwrdd ger y soffa a dod at y ddesg. |
| (1, 0) 56 | Gwyneth yn mynd ymlaen â'i theipio heb oedi ond mae'n edrych yn nerfus ac anniddig. |
| (1, 0) 121 | Â Gwyneth yn anfoddog i swyddfa'r cynllunwyr gan daflu golwg bryderus a thaer ar Morris a chau'r drws. |
| (1, 0) 259 | Meredith ac Elwyn yn mynd allan drwy ddrws y cyntedd a Gwyneth at y ddesg. |
| (1, 0) 260 | Saif Morris a'i ben i lawr i'r dde wrth y gadair freichiau. |
| (1, 0) 326 | Cynorthwya hi i godi; cerdda hi'n sigledig at y ddesg. |
| (1, 0) 327 | Daw Mrs Gladys Morris i mewn drwy'r drws ar y chwith. |
| (1, 0) 328 | Y mae'n edrych yn denau a chystuddiol gan ofìd, ond yn dangos atgof ô brydferthwch; mân gyrls modrwyog, melyn golau. |
| (1, 0) 329 | Mae hi'n gwisgo dillad i awgrymu ei chyflwr digalon... yn chwaethus. |
| (1, 0) 330 | Mae hi'n siarad braidd yn araf ac mewn llais dwys. |
| (1, 0) 407 | Brysia Gwyneth i swyddfa'r cynllunwyr a chwilio'n bryderus mewn drôr. |
| (1, 0) 408 | Caiff hyd i ffolder a daw ag ef allan. |
| (1, 0) 420 | Daw Mrs Morris a Dr Hughes i mewn drwy'r drws ar y dde. |
| (1, 0) 421 | Hen fachgen tew mewn tipyn o oed ac wyneb crwn rhadlon ganddo, wedi'i eillio'n lân; gwallt golau tenau ganddo ac y mae'n gwisgo sbectol. |
| (1, 0) 462 | Dengys y gadair siglo i'r meddyg ac eistedd yn y gadair freichiau ei hun. |
| (1, 0) 463 | Mae'n edrych yn dreiddgar arno. |
| (1, 0) 603 | Cerdda'n hamddenol ar draws y stafell; daw yn ôl, ac aros wrth y bwrdd. |
| (1, 0) 604 | Mae'n edrych ar y meddyg gyda gwên slei. |
| (1, 0) 706 | Daw Helen O 'Reilly i mewn drwy ddrws y cyntedd. |
| (1, 0) 707 | Geneth o daldra canolig, yn denau ac ystwyth a lliw haul arni. |
| (1, 0) 708 | Mae'n gwisgo dillad dringo yn cynnwys trowsus bach neu jeans. |
| (1, 0) 709 | Hwyrach y byddai gwisg uchaf o liw coch yn taro'n dda ac y mae ganddi ffon ddringo a rucksack. |
| (1, 0) 710 | Mae hi'n mynd ar ei hunion at Morris a'i llygaid yn ddisglair gan lawenydd. |
| (1, 0) 769 | Helen yn rhoi ei ffon wrth y Ile tan, yn tynnu ei rucksack a'i roi ar y soffa. |
| (1, 0) 770 | Cynigia Dr Hughes ei helpu. |
| (1, 0) 771 | Saif Morris a syllu arni. |
| (1, 0) 772 | Mae hi'n mynd ato. |
| (1, 0) 795 | Mae 'n mynd allan drwy ddrws y cyntedd. |
| (1, 0) 796 | Morris yn agor y drws ar y dde a siarad i mewn i'r stafell nesaf. |
| (1, 0) 823 | Helen yn mynd o gwmpas y stafell yn hamddenol a'i dwylo tu ôl gan edrych ar wahanol bethau. |
| (1, 0) 824 | Saif Morris wrth y bwrdd, yntau â'i ddwylo tu ôl, yn ei dilyn a'i lygaid.) |
| (1, 0) 1025 | Yn troi a mynd yn araf at y lle tan b'le mae hi'n sefyll yn llonydd hollol, ei hwyneb wedi'i droi oddi wrtho, ei dwylo'r tu ôl. |
| (1, 0) 1026 | Saib fer. |
| (1, 0) 1029 | Helen yn ddistaw heb symud. |
| (1, 0) 1039 | Helen yn aros yn llonydd. |
| (1, 0) 1045 | Helen yn ddistaw o hyd. |
| (1, 0) 1046 | Moris |
| (1, 0) 1048 | O, o'r gora', yn enw'r annwyl. |
| (1, 0) 1049 | Mi ddar'u mi ynte', mae'n siŵr. |
| (1, 0) 1070 | Helen yn eistedd yn y gdair freichiau. |
| (1, 0) 1071 | Morris yn sefyll a phwyso yn erbyn y gadair siglo ac yn edrych arni'n daer. |
| (1, 0) 1260 | Daw Dr Hughes i mewn drwy ddrws y cyntedd. |
| (1, 0) 1269 | Daw Mrs Morris i mewn o'r dde. |
| (1, 0) 1286 | Mrs Morris yn gafael ym mraich Dr Hughes a mynd allan gydag ef i'r dde. |
| (1, 0) 1287 | Yn y cyfamser mae Helen wedi bod yn casglu ei hoffer dringo. |
| (2, 0) 1303 | YR AIL ACT |
| (2, 0) 1304 | ~ |
| (2, 0) 1305 | Lolfa fechan wedi'i dodrefnu'n hyfryd yn nhŷ Morris. |
| (2, 0) 1306 | Yn y cefn, drws gwydr yn arwain allan i'r feranda a'r ardd. |
| (2, 0) 1307 | Mae ffenest fae ar hytraws ar draws y gongl dde ac y mae byrddau blodau yno. |
| (2, 0) 1308 | Ar hytraws i'r gongl chwith mae mur ac ynddo ddrws bychan wedi'i bapuro yr un fath â'r mur. |
| (2, 0) 1309 | Drws cyffredin ar bob ochor. |
| (2, 0) 1310 | Ar y dde, yny ffrynt mae bwrdd wal gyda drych mawr. |
| (2, 0) 1311 | Digonedd o flodau a phlanhigion. |
| (2, 0) 1312 | Ym mlaen y llwyfan, chwith, soffa, bwrdd a chadeiriau. |
| (2, 0) 1313 | Ymhellach yn ôl, cwpwrdd llyfrau. |
| (2, 0) 1314 | O flaen y ffenest fae, bwrdd bychan a chadeiriau. |
| (2, 0) 1315 | Mae hi'n gynnar bore drannoeth. |
| (2, 0) 1316 | ~ |
| (2, 0) 1317 | Mae Morris yn eistedd wrth y bwrdd bach gyda ffolder Elwyn Meredith yn agored o'i flaen. |
| (2, 0) 1318 | Mae'n troi'r dyluniadau drosodd ac yn archwilio rhai ohonynt yn ofalus. |
| (2, 0) 1319 | Mae Mrs Gladys Morris yn cerdded o gwmpas yn ddistaw gyda chan dyfrio yn gofalu am ei blodau. |
| (2, 0) 1320 | Mae hi'n gwisgo dillad tebyg i rai'r noson cynt ac y mae ei het, ei chôt uchaf a'i hymbarel ar gadair ger y drych. |
| (2, 0) 1321 | Heb iddi hi ei weld mae Isaac Morris yn ei dilyn â'i lygaid yn awr ac yn y man. |
| (2, 0) 1322 | Nid yw'r un ohonynt yn siarad. |
| (2, 0) 1323 | Daw Gwyneth Parry i mewn yn ddistaw ar y chwith. |
| (2, 0) 1339 | Gwyneth yn mynd allan i'r chwith. |
| (2, 0) 1340 | Deil Morris i eistedd a mynd drwy'r dyluniadau. |
| (2, 0) 1481 | Yn cerdded yn ôl ac ymlaen a Mrs Morris yn ei ddilyn yn bryderus â'i llygaid. |
| (2, 0) 1482 | O'r diwedd mae'n mynd ati. |
| (2, 0) 1483 | Wedi dofi, dywaid: |
| (2, 0) 1505 | Daw Helen O 'Reilly i mewn. |
| (2, 0) 1506 | Mae wedi newid dipyn ar ei dillad 1 rywbeth hwylus yn y tŷ yn y bore ond gan gofio nad oes ganddi lawer o ddillad efo hi. |
| (2, 0) 1710 | Helen yn eistedd ar gornel y soffa. |
| (2, 0) 1711 | Daw Morris â chadair yn nes. |
| (2, 0) 1899 | Agorir y drws bychan yn y gornel chwith yn ofalus gan Elwyn Meredith. |
| (2, 0) 1900 | Helen yn mynd ar draws y stafell. |
| (2, 0) 1951 | Yn mynd allan yn gwrtais drwy ddrws y gornel. |
| (2, 0) 1952 | Helen yn mynd ar draws ac eistedd ar gadair ger y drych. |
| (2, 0) 2304 | Yn taflu ei olwg tua'r drws ar y chwith, yna mynd ymlaen i sgrifennu. |
| (2, 0) 2305 | Yr un funud daw Mrs Morris i mewn â pharseli yn ei dwylo. |
| (2, 0) 2447 | Helen yn edrych yn syth o'i blaen a golwg bell yn ei llygaid. |
| (2, 0) 2448 | Yr unig eiriau a glywir yw: |
| (3, 0) 2450 | Y DRYDEDD ACT |
| (3, 0) 2451 | ~ |
| (3, 0) 2452 | Feranda fawr lydan yn rhan o dŷ Morris. |
| (3, 0) 2453 | Gwelir darn o'r tŷ a'r drws allan yn arwain i'r feranda. |
| (3, 0) 2454 | Mae canllaw ar hyd y feranda i'r dde. |
| (3, 0) 2455 | Yn y cefn, o ben draw'r feranda mae grisiau yn mynd i'r ardd islaw. |
| (3, 0) 2456 | Mae canghennau hen goed tal yn bargodi dros y feranda tua'r tŷ. |
| (3, 0) 2457 | Ymhell i'r dde, rhwng y coed, ceir cipolwg ar ddarn isa'r tŷ newydd gyda sgaffald o amgylch hynny a welir o'r tŵr. |
| (3, 0) 2458 | Yn y cefndir gwelir terfyn yr ardd, hen ffens goed. |
| (3, 0) 2459 | Tu allan i'r ffens, stryd a'i thai isel yn mynd â'u pen iddynt. |
| (3, 0) 2460 | ~ |
| (3, 0) 2461 | Yr ail ddiwrnod. |
| (3, 0) 2462 | Awyr fìn nos a'r cymylau dan olau haul. |
| (3, 0) 2463 | Ar y feranda mae sêt ardd ar wal y tŷ ac o'i blaen fwrdd hir. |
| (3, 0) 2464 | Yr ochor arall i'r bwrdd mae cadair freichiau a stolion. |
| (3, 0) 2465 | Dodrefn cansen sydd yno. |
| (3, 0) 2466 | ~ |
| (3, 0) 2467 | Mrs Morris yn gorffwyso ar ei heistedd yn y gadair freichiau a siôl fawr wen dros ei hysgwyddau ac yn syllu tua'r dde. |
| (3, 0) 2468 | Toc daw Helen O 'Reilly i fyny'r grisiau o'r ardd. |
| (3, 0) 2469 | Mae hi'n gwisgo ei dillad mynydda ond mae ganddi dusw bach o flodau cyffredin ar ei bron. |
| (3, 0) 2470 | Mae hi'n gwisgo trowsus cynnes. |
| (3, 0) 2633 | Y ddau yn mynd i'r tŷ. |
| (3, 0) 2634 | Yn union wedyn daw Morris i fyny'r grisiau o'r ardd. |
| (3, 0) 2635 | Golwg ddifrif ar wyneb Helen. |
| (3, 0) 2658 | Helen yn symud yn araf ar draws y feranda gyda'i dwylo tu ôl. |
| (3, 0) 2659 | Yn aros wrth y ganllaw ac edrych allan tua'r ardd. |
| (3, 0) 2722 | Helen yn cerdded o gwmpas y bwrdd ac yna'n eistedd ar y sêt, ei phenelinoedd ar y bwrdd a'i phen rhwng ei dwylo. |
| (3, 0) 2723 | Yn eistedd ac edrych arno am ysbaid. |
| (3, 0) 2759 | Helen yn eistedd i fyny ar y sêt yn llawn edmygedd yr hen hoywder yn ei llygaid eto. |
| (3, 0) 2826 | Helen yn edrych arno gan wenu. |
| (3, 0) 2827 | Mae'n ysgwyd ei phen, gwneud ceg blentynnaidd a siarad fel wrth blentyn. |
| (3, 0) 2854 | Daw Elwyn Meredith allan o'r tŷ. |
| (3, 0) 2855 | Mae'n cario torch fawr werdd gyda blodau a rhubanau sidan arni. |
| (3, 0) 2994 | Daw Mrs Morris o'r tŷ i'r feranda. |
| (3, 0) 3027 | Dr Hughes yn rhoi ei ben i mewn drwy'r drws. |
| (3, 0) 3059 | Mrs Morris a Dr Hughes yn mynd i'r tŷ. |
| (3, 0) 3060 | Helen yn aros ar y feranda. |
| (3, 0) 3061 | Mr Morris yn dod i fyny'r grisiau o'r ardd. |
| (3, 0) 3230 | Trwy'r coed fe welir, yn aneglur, bod tyrfa wedi ymgasglu yn y stryd. |
| (3, 0) 3231 | Clywir sain band pres yn y pellter y tu ôl i'r tŷ newydd. |
| (3, 0) 3232 | Daw Mrs Morris gyda choler ffwr am ei gwddw, Dr Hughes gyda siôl wen, Mrs Morris ar ei fraich, ac amryw o ferched, allan ar y feranda. |
| (3, 0) 3233 | Yr un pryd daw Elwyn Meredith i fyny o'r ardd. |
| (3, 0) 3266 | Mrs Morris a Dr Hughes yn mynd at y merched sy'n sefyll wrth y grisiau yn edrych allan dros yr ardd. |
| (3, 0) 3267 | Helen yn sefyll wrth y ganllaw. |
| (3, 0) 3268 | Elwyn yn mynd ati hi. |
| (3, 0) 3373 | Y merched ar y feranda yn chwifio eu hancesi. |
| (3, 0) 3374 | Y dyrfa yn y stryd yn ymuno yn y gymeradwyaeth. |
| (3, 0) 3375 | Hwre! hwre! |
| (3, 0) 3376 | Distawrwydd sydyn a'r dyrfa yn rhoi gwaedd o ddychryn. |
| (3, 0) 3377 | Yn aneglur, rhwng y coed, gwelir corff a phlanciau ac ati yn dymchwel. |
| (3, 0) 3381 | Mrs Morris yn gwegian, yn syrthio'n ôl mewn llewyg ac yn cael ei dal gan y merched yng nghanol ocheneidiau a chythrwfl. |
| (3, 0) 3382 | Mae'r dyrfa'n torri dros y ffens ac i'r ardd. |
| (3, 0) 3383 | Dr Hughes yn rhuthro yno yr un pryd. |
| (3, 0) 3384 | Saib fer. |