Ⓗ 1941 Eic Davies
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.


Testun llawn Y Tu Hwnt i'r Llenni



Cymeriadau


Mr. James
Marged
Sam
Gwen
Siân
John
Y Parchedig Artemus Price
Neli
Gwilym


Manylion

I'r ddrama hon y dyfarnwyd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth cyfansoddi Drama Fer yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn yr Hen Golwyn yn 1941. Wele feirniadaeth Mr. John Gwilym Jones arni:

Helyntion cwmni drama y tu hwnt i'r llenni sydd yma. Crynhôdd yr awdur ddwsinau ohonynt i ychydig o le a hynny'n hollol naturiol heb arlliw gorlwytho. Ond y rhagoriaeth bennaf yw'r feirniadaeth sydd ynddi, dan gochl hiwmor caredig, iach, o fan genfigen aelodau cwmni drama at ei gilydd, o ddifrawder a diffyg difrifwch rhai ohonynt, o'r awdur sydd hefyd yn gorfod bod yn gynhyrchydd a chwarae rhan ei hunan, o berson pwlyf hirwyntog gyda'i ragfarnau a'i weniaith; mewn gwirionedd, o gant a mil o bethau.

Elsbeth Evans yn Y Ddrama Yng Nghymru:

Ni welir yr un naws ar watwareg neb o'r dramawyr diweddarach nes inni gyrraedd blaenoriaid Idwal Jones yn Pobl Yr Ymylon, a chwmni drama Eic Davies yn Y Tu Hwnt i'r Lenni.


Perfformiadau

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Chwaryddion Tŷ'r Cymry, Caerdydd.

Mr James Dewi Lloyd Jones
Marged Gwyneth J Evans
Sam Griffith John Jones
Gwen Lynne Tudor
Siân Gwyneth Protheroe
John Llewelyn Walters
Y Parchedig Artemus Price D Llewelyn Jones
Neli Evelyn Gwynne Jones
Gwilym Raymond Edwards