| YR ACT GYNTAF GOLYGFA I Lle diffaith. Taranau a mellt. Tair Dewines yn dyfod. |
|
| Y Ddewines Gyntaf |
Pa bryd y down ni eto'n tair Ai mewn taranau, mellt a glaw? |
| Yr Ail Ddewines |
Pan ddarffo hwrli-bwrli'r ffair, Ar ôl y cael a'r colli a ddaw. |
| Y Drydedd Ddewines |
Cyn bod yr haul yn cilio draw. |
| Y Ddewines Gyntaf |
Ym mha lannerch? |
| Yr Ail Ddewines |
Ar y tyno. |
| Y Drydedd Ddewines |
 Macbeth i gyfwrdd yno. |
| Y Ddewines Gyntaf |
Dyma fi, Lwyd Gath y Coed! |
| Yr Ail Ddewines |
Geilw'r Llyffant. |
| Y Drydedd Ddewines |
Dyna'r oed. |
| Y Tair |
Hyll yw hardd a hardd yw hyll; Trown uwchben drwy darth a gwyll. |
| Ant ymaith. |