|  |  | 
|---|
| 
 
 | TAD, ANNE a MARGOT yn gorfoleddu tra mae Peter yn dawedog. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Meddyliwch amdano fo'n gorwedd yn sbyty yn diawlio'i Swyddogion. 'Heil Hitler! Mistec bach oedd o chi Fuhrer! Doedd y bwled ddim i fod i'ch hitio chi!' 
 
 | 
| Margot 
 
 | Siwr i fod o'n wallgo! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Y Fuhrer i hun! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Mae o dal yn fyw! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ond o leia ma na rywun di trio'i ladd o! 
 
 | 
| Margot 
 
 | A hwnnw'n Almaenwr! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Mi oeddan nhw siwr o weld trwy i gelwydda fo'n diwedd! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Mond criw bach gymrith hi i droi'r rhyfel ma ar ei ben! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Ma pobol dal i gredu ma Hitler sy'n iawn. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ma hi di cymryd mwy na un person i ddod mor agos a hyn at i ladd o. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Be os fydd raid ni fynd nol i'r ysgol yn yr Hydref? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Fydd isio ffrogia a sgidia newydd! 
 
 | 
| Margot 
 
 | A siaced newydd hefo felfet ar y goler! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Dwn i'm am hynny Margot! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Be nown ni am feics? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Anne! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Fydd y fflat dal yna i ni? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Agor y drws a mynd allan i'r awyr iach! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Gweld pawb eto! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Gorwedd mewn bath poeth! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Gawn ni barti i ddiolch i bawb am eu help! 
 
 | 
| 
 
 | Saib.  Sylweddoliad fod yna bobol yn guddfan. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dad? 
 
 | 
| 
 
 | Swyddogion SS yn dod i mewn i'r fflat a chludo pawb i ganolfan i'w creosholi.  Y pedwar yn codi eu breichiau i ddangos nad ydynt am wrthwynebu'r arestio cyn gafael am ei gilydd yn dynn.  Goleuo yn cryfhau yn sydyn a cherddoriaeth glasurol yn dwyshau tristwch y sefyllfa. 
 
 |