|  |  | 
|---|
| 
 
 | ANNE yn penlinio a gweddio wrth ei gwely.  OTTO'n ochneidio'n drwm cyn cael y nerth i ddod i mewn i'r ystafell. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Barod am dy wely? Ma hi di bod yn ddiwrnod hir. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dad… 
 
 | 
| Tad 
 
 | Mi yda ni gyd di tawelu rwan. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Di blino odda chi. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Gwres ma'n deud arna ni gyd. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Da chi'n gwbod efo… 
 
 | 
| Tad 
 
 | Peter? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Mi fyddwn ni'n treulio dipyn o amser efo'n gilydd yn yr atig. Ydi hynny'n y'ch poeni chi? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Ma isio bod yn ofalus a ninna'n byw ar ben y'n gilydd fel hyn. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Da ni'm yn wirion! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Nagwyt siwr. Ond ma isio bod yn ddisgybledig. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dad! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Dwi'n dallt sud ma hi ar y ddau ohono chi ond ma raid i ti fod yn bendant hefo fo. Peidio gneud mwy na sy raid. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Be da chi'n feddwl da ni'n neud? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Ti'n gweld ma hogia ifanc yn licio mentro a ma isio i'r hogan ddangos yn glir be di be. Ddau ohona chi yng nghwmni'ch gilydd o hyd a ma beryg i betha fynd yn fler. Mae isio ti fod yn ofalus Anne. Sa well ti gadw dy bellter. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Mae o'n hogyn call. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Ge'i di ddigon o gyfla ar ol i ni adael fama i gyfarfod hynny lici di o hogia. Hynny ydi, o fewn rheswm! Ti'n gweld, dydi Peter ddim yn gymeriad mor gry a ti. Ma hi'n hawdd iawn dylanwadu arno fo a dydi o'm o'r hogyn mwya siarp! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Snob da chi Dad! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Ddim o gwbwl! Isio'r gora i ti dwi. 
 
 | 
| 
 
 | ANNE yn cael ei chyfareddu gan awydd i afael am ei thad.  Mae'r ddau yn dal ei gilydd yn dynn am yn hir. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Da chi werth y byd Dad! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Cysga'n dawel y nghariad i. Os ddaw na unrhyw… 
 
 | 
| Margot 
 
 | Dad! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Gad mi orffen. Os lwydda nhw i'n ffeindio ni dydan ni… 
 
 | 
| Margot 
 
 | Da ni di bod trw hyn. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Ma'n bwysig y'n bod ni'n barod am beth bynnag ddaw. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Deud dim. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Peidio enwi neb. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Na i'm plygu. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Ddim amdana ti dwi'n boeni. Ma hi'n gallu bod mor fyrbwyll a gwirion. 
 
 | 
| Margot 
 
 | A di Anne fawr gwell! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Margot! Sensitif di dy fam! Does gynni'm help! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Does ddim isio iddi weiddi gymaint ar Anne chwaith. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Ma raid ti wastad gadw llygad ar y ddwy achos ga'i ddim aros efo chi. Dyna sy'n cael ei ddeud. Ma nhw'n gwahanu'r dynion a'r merched. Ond fyddwch chi'ch tair yn gry efo'ch gilydd. A ma'n bwysig y'ch bod chi'n cadw'ch ysbryd. Bach o dynnu coes bob hyn a hyn! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Di Mam ddim yn dallt jocs rwan yn fama heb son os ydan ni yn… 
 
 | 
| Tad 
 
 | Peidio tynnu sylw neb a dangos dim. Ag os oes raid ti ddeud rw gelwydd gola i gael Anne i neud i gwaith wel… 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ma isio mi ddeud clwydda rwan! Dwi'n cael cychwyn yn fama? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Mi wyt ti mor … 
 
 | 
| Margot 
 
 | Peidio dangos dim byd Dad! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Na mi ydw i isio… 
 
 | 
| Margot 
 
 | Does ddim angen. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Oes. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Dad! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Dwi wastad di bod mor falch ohona ti. Wastad. Paid ag anghofio hynny. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ydi'r straeon am y… camps yn wir? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Straeon ydyn nhw Margot. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Straeon di cychwyn yn rwla dydyn? 
 
 | 
| Tad 
 
 | I be sa nhw isio lladd a nhwtha'n gallu defnyddio pobol i weithio! Ma hynny'n sefyll i rewsm siwr. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Sbiwch be ma nhw di neud i ni'n barod! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Pan fyddwn ni'n rhydd a nol efo'n gilydd yn un teulu hapus mi gawn ni… 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ddechra ffraeo'n iawn fel oedda ni adra! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Dyna ma dy fam yn neud yli! Practisio at hynny! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Na i'm o'ch siomi chi. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Da'r Hogan. 
 
 |