|  |  | 
|---|
| 
 
 | OTTO'n gwbwl aflonydd wrth iddo fod yn argyhoeddiedig fod swn yn y swyddfa islaw.  ANNE yn aflonydd oherwydd y gwres. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Sh! Glywsoch chi o? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Swn allan oedd o Dad. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Gwranda eto! Glywis i wbath! Stedda Anne! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ffrog ma sy'n dynn amdana i! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Sh! Na fo eto! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dwi'n chwys doman! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Bendith Tad i ti, stedda'n llonydd! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Tyd oddi wrth y ffenast Anne! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Wyt ti isio i rywun dy weld di? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Pwy sa'n gweld trw gyrtan? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Tyd i ddarllan efo fi. 
 
 | 
| 
 
 | ANNE yn parhau i sefyll wrth y ffenestr. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ga'i hagor hi'r mymryn lleia? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Sh! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Swn allan ydi o Dad! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Ma na rywun yma eto. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Bep sy'n dod a bwyd. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Ma hi'n rhy hwyr i hynny! Ista lawr Anne! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Does na'm byd yna Dad! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Symud bob dau funud! Sgin ti gynron? Neu trio ngwylltio fi wyt ti? Cwyno byth a beunydd! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Peidiwch! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Gneud ati o hyd! Trio ngwylltio i! Isio cal y gora arna i… Isio ngweld i'n torri… isio mi… isio'n lladd i! Ond ne'i di ddim! O na! Mi na'i dy ymladd di i'r pen! Bob un ohona chi! Da chi'n y ngweld i? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Sh! Shh! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Dyma fi… Dyma fi! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Sh Dad! Plis! 
 
 | 
| 
 
 | OTTO'n sylweddoli'n sydyn gymaint mae wedi dychryn y merched. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Ma ddrwg gynna i… Ddrwg gynna i Anne! Ti'n dallt dwyt? Ti di'n hogan fach i sdi. Geith neb dy frifo di… byth, y nghariad i. Nghalon aur i! Cariad Dad wyt ti bob tamad. 
 
 |