|  |  | 
|---|
| 
 
 | ANNE yn cipio llyfr gan MARGOT. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Tyd a fo'n ol! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dwi isio sbio ar y llunia! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Tyd a fo yma, rwan! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Mynadd Margot! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Mi o'n i ar ganol i ddarllen o! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Paid a gneud swn neu fydd gweithwyr y ffatri'n dy glywed di. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Mi gafodd y llyfr yna i ddewis gan Bep yn arbennig ar y nghyfer i. Ma gen ti dy lyfra dy hun. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dwi di'u gorffan nhw! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Sa Mam ddim yn licio i ti sbio arno fo. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Pam? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Mae o ar gyfer rhywun hyn na ti! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Am be mae o'n son lly? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Dwi'm yn meddwl y dylwn i ddeud. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Be rhyw? Sud ma dyn yn sticio'i bidlan yn… 
 
 | 
| Margot 
 
 | Stopia! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ti'm yn swil Margot? Mae o'n naturiol i ni feddwl am y petha ma! Wrach swn i'm yn sownd yn fama swn i di 'neud o' erbyn hyn! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Paid a bod yn ffiaidd! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ti'm yn teimlo weithia fod na awydd yn dod drosda ti i… 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ti fatha hogan fach di sbwylio! Byth yn gwbod pryd ma isio tewi! Does na'm syndod fod Mam a Dad yn dy drin di fel ma nhw. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Mam a Dad? Ma pawb wrthi! Dussel a'r van Daans am y gora yn gweld pwy ellith ddeud drefn ora wrtha i! Mychanu i a gneud hwyl ar y mhen i heb feddwl sud dwi'n teimlo tu mewn. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Wel faswn i byth yn dwyn llyfr gen ti. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dwi'm yn son am y blydi llyfr Margot! Dwi'n son am sut ma Mam a Dad yn dy drin di a sud ma nhw hefo fi. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ma nhw'n ein caru ni'n dwy. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Does na'm cariad rhyngdda i a Mam. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Paid a deud hynna. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dwi'n ei weld o yn ei llygid hi. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Poeni amdana ti ma hi sdi. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Di'm yn hawdd arna i. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Mi ga'i air hefo hi. Son am sud wyt ti'n teimlo. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Siarad di'r cwbwl da ni'n neud yma! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Fyddwn ni'm yma am byth. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dwi di laru ar bob dim! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Mi o'n i'n y'ch clywed chi, bob gair! Rhag dy gywilydd di Anne! Rho'r llyfr na yn ei ol ar dy union. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ma'n iawn iddi sbio arno fo. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Mi fysa na ffasiwn sterics tasa Margot druan yn meiddio sbio ar un o dy lyfra di! 
 
 | 
| 
 
 | ANNE yn gollwng y llyfr yn swnllyd. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Cwyd o, munud ma! 
 
 | 
| 
 
 | ANNE yn gadael yn flin. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Tyd yn ol yma! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Eith hi'm yn bell na neith Dad? 
 
 |