|  |  | 
|---|
| 
 
 | ANNE yn ysgrifennu yn ei dyddiadur, MARGOT a PETER yn edrych allan ar y cymylau. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Charades? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Ia! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Anne? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dwi'n brysur. 
 
 | 
| Peter 
 
 | Plis Anne! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ma raid i mi orffen hwn. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Tyd ta Peter! Dos di gynta! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Di o'm run fath mond hefo dau. 
 
 | 
| Margot 
 
 | (Cyfeirio at PETER.) Awn ni nol lawr ta? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dwi bron a gorffen. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Mwya sydyn! Rhyfedd! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Be nown ni? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Geith Peter ddewis! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Mots gynna i! Be sa ora gen ti Anne? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dyfalu cymyla! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Pawb yn hapus hefo hynny? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Mond bo fi ddim yn gorfod mynd gynta! 
 
 | 
| 
 
 | MARGOT yn cychwyn ar ei hunion heb roi cyfle i ANNE. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Debyg i be di hwna ta? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ma'n amlwg! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Ddim i mi! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Crycha dy lygid a mi weli di'n syth! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Sbia'n iawn! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Na! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Wel! Gwyneb hen ddyn! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Paid a bod yn wirion! Cacan di! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ers pryd ma gin gacan drwyn? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Wela i! Donyt di! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Da iawn Peter! 
 
 | 
| Peter 
 
 | A jam yn i chanol hi! 
 
 | 
| Margot 
 
 | A siwgwr yn dew drosti! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Ag wrth ti gymryd dy damad cynta ma'r jam yn diferu lawr dy en di! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ond ti'n i ddal o mewn digon o bryd ac yn llyfu dy fys a mwynhau pob diferyn! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Sa ti'n rhoi tamad ohoni i mi? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Tamad o be? 
 
 | 
| Anne 
 
 | O'r donyt de! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Ond sgynna i'm un! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Tasa gin ti un? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Swn i'n ei rhannu hi hefo pawb. 
 
 | 
| 
 
 | ANNE yn anfodlon a'r ateb.  MARGOT yn cyfeirio at gwmwl arall. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Be am hwn ta? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ma hi'n union run fath a Boche! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Hi? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Hi, fo, be bynnag ydi o! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Sa ti'n chwara efo'r gath sa ti'n gwbod yn iawn na hogyn ydi o! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Wyt ti'n gallu gweld? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Anne! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Ma'i organ genehedlu fo i weld yn glir! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Tyd Anne! Mi fydd Dad yn disgwyl amdano ni! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Elli di ddangos i 'organ genhedlu' o i mi? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Tyd i fyny i'r atig heno a mi gei di weld! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dyna ti'n ddeud ia? 'Organ genhedlu'? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Wel…ia! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Achos 'fagina' fydda i'n galw un merch! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Mi a'i ddeud dy fod ti ar dy ffor! 
 
 | 
| 
 
 | MARGOT yn gadael. 
 
 | 
| Peter 
 
 | Mi o'n i'n gwbod hynny'n barod! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Oes na air arall wyt ti'n ddefnyddio am organ genhedlu dyn? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Mmmm…. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ti'n gwbod ─ gair go iawn! Ddim un babiaidd! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Wel… 
 
 | 
| Anne 
 
 | Achos sut da ni fod i ddysgu'r geiria ma pan does na neb yn egluro'n gall! Does na neb yn son am y pethau wyt ti isio gwbod amdanyn nhw go iawn! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Wrach sa well ti siarad hefo dy fam a dy dad? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Fyddi di'n trafod petha felma hefo dy rai di? 
 
 | 
| Peter 
 
 | Pan fydda nhw isio! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Hola nhw ta! Ddoi fyny ata ti heno ma! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Fama da chi'n cuddio! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ar y'n ffor o'n i. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Lawr a ti ta! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Cofia be ddudis i! 
 
 | 
| 
 
 | Saib anghyfforddus. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Anne ddim yn dy boeni di gobeithio! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Ddim o gwbwl! Dwi wrth y modd hefo hi…a Margot. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Mond y'ch bod chi gyd yn ffrindiau! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Hoff iawn o'n gilydd! Y tri ohonan ni. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Siwr sa well gen ti fod yng nghanol hogia run oed a ti. 
 
 | 
| Peter 
 
 | Na! 
 
 | 
| Tad 
 
 | Chditha'n hogyn ifanc sy…bron yn ddyn. 
 
 | 
| Peter 
 
 | Fydda i'm yn teimlo ddim gwahanol i be o'n i. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Na ti! 
 
 | 
| 
 
 | Saib. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Braf cael llonydd weithia dydi! 
 
 | 
| Peter 
 
 | Well gynna i fod efo rhywun. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Ddigon ohonan ni yma cofia…i gadw cwmpeini. 
 
 | 
| Peter 
 
 | Da ni'n ffodus iawn Mr. Frank. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Yndan y ngwas i. 
 
 | 
| Peter 
 
 | Oedda chi isio wbath o fama? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Na…ma bob dim i weld yn ei le. 
 
 | 
| Peter 
 
 | Dwi am fynd at y lleill os ydi hynny'n iawn gynno chi! 
 
 | 
| 
 
 | PETER yn gadael a OTTO yn siomedig nad oedd wedi gallu cyfleu byrdwn ei sgwrs yn ddigon clir. 
 
 |