|  |  | 
|---|
| 
 
 | Mae Anne yn darllen ei dyddiadur yn ddwys tra bo Margot yn ymdrechu i gael gweld y cynnwys. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Paid! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Gad mi gael golwg! Mond am funud! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Na! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Pam? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dwi'm isio i ti weld. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Pam? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Sa ti'm yn licio'r petha dwi'n ddeud! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Hy! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Sut ti'n gwbod? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Mae o ddigon diniwed! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Wyt ti di bod yn'o fo'n barod? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Naddo! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Pam ti'n gwenu'n wirion ta? E? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Paid a gneud swn Anne! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Meiddia di osod blaen dy fys ar hwn! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Tempar Anne! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dwi'n i feddwl o! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ti mor hawdd dy weindio, dwyt? 
 
 | 
| Anne 
 
 | A titha'n ast annifyr! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ymddiheura rwan! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Na naf! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ymddiheura! 
 
 | 
| 
 
 | Saib. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Mi gawn ni weld be sy gan Dad i'w ddeud! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Be am i ti sefyll ar dy draed dy hun am unwaith? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Dwi'm yn mynd i siarad efo ti os wyt ti fel hyn. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dos o ma ta! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Mae gen ti lot i'w ddysgu Anne! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Twll dy din di! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ti mor blentynaidd! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Tisio cweir? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Nes i'm dewis bod yn chwaer i ti. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dos i chwilio am fwytha gan Mam! Dos! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Rhosa yma tan fydd na well hwylia arnat ti. 
 
 | 
| 
 
 | Saib. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ag i ti gael dallt, ddim y fi sy di bod yn sbio drwy dy ddyddiadur di. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Pwy ta? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ma isio ti ofalu be ti'n roi yno fo. 
 
 | 
| 
 
 | Margot yn gadael. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Margot tyd yn… 
 
 | 
| 
 
 | Ansicrwydd mawr yn dod dros ANNE. 
 
 |