| ANNE yn cadw llygad ar MARGOT ac yn ymateb i bob swn ma hi'n ei wneud. | |
| Anne | Well rwan? Mi ga'i rywun i helpu mi fynd a ti at doctor. | 
| Margot | Misio. | 
| Anne | I ti gael gwella. | 
| Margot | Na. | 
| Anne | Wrach ge'i di ffisig. A fyddi di'm run un! Be ti'n ddeud? (ANNE yn mynd i afael am MARGOT.) Nghariad gwyn i. | 
| Margot | Mam? | 
| Anne | Naci, Margot. | 
| Margot | Mam? | 
| Anne | Paid rwan. | 
| Margot | Isio… | 
| Anne | Gawn ni weld Mam sdi…yn munud. | 
| Margot | Boeth… | 
| Anne | Gorwedd di rwan. | 
| Milwr | Allan! | 
| Milwr 2 | Pawb allan! | 
| Anne | Aros di'n fama ia? Fydda i'm yn hir. | 
| Milwr | 174, 175, 176… | 
| ANNE yn hymian can y dawnsio nes mae ei rhif hi a MARGOT yn cael ei alw. | |
| Milwr | 182…182? | 
| Anne | Ia. | 
| Milwr | 183…183 | 
| Anne | Ia. | 
| MILWR 2 yn sylwi mai ANNE sydd wedi ateb y ddau rif.  ANNE yn ofni cael ei chosbi. MARGOT yn gorwedd yn farw ym mreichiau ANNE. | |
| Anne | Gafael yn y mwg Margot rhag ofn i rywun ei ddwyn o. Sgin ti'm syched? Ma raid i ti yfed! Bwysicach na dim! Tyd rwan Margot! Tisio tamad o fara ta? Mi ges i hyd iddo fo tu ol i'r gegin. Agor dy geg rwan! Isio llonydd ti, ia? Isio mi adael ti gysgu i fod yn gry at fory? Ma raid ni gael ein cyfri yli! Tyd rwan! Rown ni ti i bwyso yn erbyn y wal lle gei di gysgod. E? Isio mi fyta fo ti? Na ti bia fo! Da ni'n gofalu am ein gilydd dydan? Pawb arall ar ben u hunin yli! Ond ddim y ni! Tyd Margot fach, llynca fo! Plis Margot? | 
| Milwr | Allan! Rwan! | 
| Anne | Ma hi'n sal. Ellith hi'm symud. | 
| Milwr | Dos di allan ta! | 
| Anne | Y'n chwaer i di hi! Mi a'i nol rhywun i'n helpu i! | 
| Milwr | Gad hi! | 
| Anne | Fydd hi'n iawn yn munud. Plis? Mi oeddach chi'n arfer bod yn glen! Ddim fatha'r lleill! | 
| Milwr | Allan! | 
| Anne | Sbiwch! Ma hi'n styrio! | 
| MILWR yn chwerthin.  ANNE yn ymuno am rhywfaint. | |
| Milwr | Allan! | 
| Anne | Ma hi'n weithwraig dda! | 
| Milwr | Rwan! | 
| ANNE yn ddiymadferth.  MILWR yn galw ar MILWR 2. | |
| Milwr | Un arall di mynd! | 
| Milwr 2 | Swn i'm cyffwrdd yn hwnna. Mi ga'n nhw i symud hi u hunin. | 
| Anne | Gadwch i mi neud. | 
| Milwr | Rel madam fach dwyt? Isio ffor dy hun hefo bob dim! | 
| MILWR ar fin gafael yn ANNE mewn ffordd rywiol.  ANNE yn poeri yn ei wyneb. |