|  |  | 
|---|
| 
 
 | ANNE a MARGOT yn sefyll i gael eu cyfri.MARGOT yn teimlo'n sal. 
 
 | 
| Milwr 2 
 
 | 634, 635, 636… 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ma raid mi gael mynd. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Mi gawn ni'n munud. 
 
 | 
| Milwr 2 
 
 | 637, 638, 639… 
 
 | 
| Margot 
 
 | Alla i'm dal. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Rho dy ben i lawr. 
 
 | 
| Milwr 2 
 
 | 640, 641, 642… 
 
 | 
| Margot 
 
 | Dwi'n mynd i fod yn sal. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Cwyd ar dy draed! Mae pawb i sefyll i gael eu cyfri. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Dwi'n mynd i fod yn sal. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Mi geith hi aros ei thro fel pawb arall. Saf yn syth! 
 
 | 
| 
 
 | MARGOT yn chwydu. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Y mochyn! Y sglyfath budur! Fydd y cwbwl ohonach chi'n sal rwan achos fod na un Iddew bach methu aros i gyrraedd y toilet. Welis i fwy o urddas mewn ci. Mi fydd raid i ti gael dy gosbi. Penlinia ar lawr a chwyd dy freichiau yn yr awyr. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Tyd Margot. Fyddi di fawr hirach. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Mae pob un ohona chi'n wan! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Dangos iddyn nhw! 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Mi ydach chi gyd run fath! Pob un ohonach chi'n faw isa'r doman. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Paid a sbio arno fo! 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Ddysgith hynna i ti fod yn ufudd! Fydda i'n cadw llygad arna ti. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Helpa fi Anne! 
 
 |