|  |  | 
|---|
| 
 
 | ANNE a MARGOT wedi newid i wisg y gwersyll.  Blanced dros y ddwy.  Swn crio a thagu. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Na'i byth gysgu! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Cau dy lygid. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ma bob dim yn troi yn y meddwl i. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Tria gofio sud oedd hi! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Alla i ddim! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Cyn i ni fynd i guddio. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dwi'm yn cofio dim byd! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ti'n cael dy benbwydd, cacan, pawb yn hapus… a'r dyddiadur! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Be os ydyn nhw di ddarllen o? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Mam yn chwarae hefo dy wallt di. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Lle ma hi? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ma na filoedd o bobl yma! Ma hi'n mynd i gymryd amser. Mi ddown ni o hyd iddi'n diwedd. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Ond dwyt ti'm yn gwbod hynny, nagwyt? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Fydd bob dim yn well fory ar ol ni gael bwyd a diod. Wyt ti isio mi wrando arnat ti'n deud dy bader? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Gafael yna i'n dynn. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Well fory sdi. Efo'n gilydd! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Am byth! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Ti a fi! 
 
 | 
| Anne 
 
 | A Dad a Mam. 
 
 |