|  |  | 
|---|
| 
 
 | ANNE a MARGOT yn cyrraedd Auschwitz.  Swn tren.  MILWYR yn gweiddi'n uchel dros ei gilydd. 
 
 | 
| Milwr 2 
 
 | Dewch allan yn drefnus! 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Allan! Allan rwan! 
 
 | 
| Milwr 2 
 
 | Dynion i'r dde a merched a phlant i'r chwith! 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Unrhyw un sy'n teimlo'n flinedig ar ol y siwrnai, dewch draw ffor hyn. Pawb mewn rhesi syth! Dwi isio gweld pawb yn symud! Symudwch! Merched a phlant i'r chwith! Dynion i'r dde! Does na'm amser i loetran! Pawb i symud! 
 
 | 
| Milwr 2 
 
 | Unrhyw un sy'n teimlo'n flinedig, dewch draw ffor hyn! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Tyd Margot! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Aros lle wyt ti! 
 
 | 
| Anne 
 
 | Alla i'm cerdded dim mwy! 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Mi gewch chi eich cofrestru a chael archwiliad meddygol. Yna cawod a chasglu eich gwisg briodol ar gyfer eich harosiad. Gadewch eich holl eiddo yma. Sbectols, dannedd gosod... 
 
 | 
| Milwr 2 
 
 | Tynnwch eich dillad! Os oes gynnoch chi unrhyw beth gwerthfawr, dowch a nhw… 
 
 | 
| 
 
 | MILWR yn sylwi ar ANNE a MARGOT yn gafael yn ei gilydd. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Rhosa! Ti'n hogan fawr i fod yn gafael llaw! 
 
 | 
| 
 
 | ANNE yn gollwng llaw MARGOT yn frysiog. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | S'ddim isio bod ofn! Isio mwytha ti? 
 
 | 
| 
 
 | ANNE yn ysgwyd ei phen yn bendant. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Fama'n gallu bod yn le unig i hogan ifanc! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Da ni'n iawn diolch. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Heblaw bo ti'n hogan sbesial! Gadwa i'n llygad arna ti yli! 
 
 | 
| Milwr 2 
 
 | Symwch hi! 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Dowch! 
 
 | 
| 
 
 | ANNE a MARGOT yn mynd o'r golwg. 
 
 | 
| Milwr 2 
 
 | Cadwa di at dy waith! 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Mond sbio dwi! 
 
 | 
| Milwr 2 
 
 | Fydda nhw di colli u graen mewn wsnos. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Dyna pam dwi'n licio rhai newydd. Neis gweld bach o gig arnyn nhw. 
 
 | 
| Milwr 2 
 
 | Iddewon cachlyd ydyn nhw! 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Ma nhw dda i wbath! 
 
 | 
| Milwr 2 
 
 | I losgi yn y ffwrnais na. Symwch ar y platform! Ma angen'u sortio nhw! 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Ma isio bach o hwyl! (Troi i weiddi ar y bobol.) Symwch hi! 
 
 | 
| Milwr 2 
 
 | Dynion i'r dde, merched a phlant i'r chwith. 
 
 |