|  |  | 
|---|
| 
 
 | MARGOT a ANNE yn gafael yn nwylo ei gilydd.  Holi yn digwydd y tu ol iddynt. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Mi fydda hi'n haws i chi, ac yn llai o waith i mi, pe byddech chi'n deud pob dim rwan, a wedyn mi gewch chi fynd nol at eich teulu. Mi gewch chi ddychwelyd at eich dwy ferch ar ol cyflwyno'r wybodaeth briodol. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Lle mae ngwraig i? 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Dyna welliant! Mae hi'n dipyn haws cydweithredu tydi? Mae hi yma ond dydi hi ddim yn barod i'ch gweld chi eto. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Ydi'n iawn? 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Mae hynny'n dibynnu arnoch chi. Rwan eich bod chi'n barod i siarad, mi gawn ni gychwyn ar y broses. Ers pryd fuoch chi'n cuddio? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Bron i ddwy flynedd. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Da iawn. A phwy arall oedd yna heblaw am eich teulu chi? Dewch rwan! Waeth i chi heb a mynd yn groes i'n dymuniadau ni. Iawn, mi nawn ni holi eich gwraig. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Mi oedd na un dyn arall. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | A'i enw fo? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Ym… 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Waeth i chi heb a meddwl ein twyllo ni chwaith achos mi ydan ni yn tueddu i ffeindio bod merched yn plygu'n haws i dipyn o berswad. 
 
 | 
| 
 
 | Saib. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | A'i enw fo? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Dussel. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Enw cyntaf? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Albert. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | A phwy arall oedd yno? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Neb arall. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Mi ydan ni'n gwbod be ydi enw'r hogyn. Hogyn gwan iawn. Mi fyddai ychydig o hyfforddiant milwrol yn help iddo fo. Mi ydach chi'n ddyn dipyn cryfach ar ol ymladd yn y rhyfel dwytha. Dallt sut mae'r pethau ma'n gweithio. 
 
 | 
| 
 
 | Saib. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Ddown ni'n ol at hynny. Pwy oedd yn dod a chyflenwadau i chi? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Neb. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Mi wnaethoch chi lwyddo i fyw am ddwy flynedd heb i neb ddod a bwyd i chi? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Mi fuon ni'n byw ar fwyd sych. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Mae'r enwau'n ddigon. Mater bach ydi ffeindio lle mae'n nhw'n byw. Enwau! 
 
 | 
| 
 
 | Saib. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Os na fel hyn mae ei dallt hi, mi fydd raid i ni alw eich gwraig. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Doedd na neb yn ein helpu ni! 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Celwydd. 
 
 | 
| Tad 
 
 | Mi oeddan ni wedi bod yn hel y bwyd ers dros flwyddyn. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Celwydd eto! 
 
 | 
| 
 
 | Chwipio. 
 
 | 
| Milwr 
 
 | Mi ydan ni angen y gwir. Mi ddowch chi i ddallt yn diwedd. 
 
 | 
| 
 
 | TAD yn dychwelyd at ANNE a MARGOT. 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dad! 
 
 | 
| Margot 
 
 | Be ddigwyddodd? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Dad? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Be naethon nhw? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Mi ga'i weld pwy ydw i'n nabod yma. 
 
 | 
| Margot 
 
 | Lle ma Mam? 
 
 | 
| Anne 
 
 | Oedd hi efo chi? 
 
 | 
| Margot 
 
 | Dad, lle ma hi? 
 
 | 
| Tad 
 
 | Ma raid i ni fod yn gry! Da chi'n dallt? 
 
 | 
| 
 
 | ANNE a MARGOT yn ysgwyd eu pennau'n ansicr. 
 
 |