| (Meredith) Fedra' i ddim diodde' yn hir iawn eto, na fedraf wir. | |
| (1, 0) 332 | Isaac. |
| (Morris) {Yn troi.} | |
| (1, 0) 336 | Rydw i'n dod ar eich traws chi mae arna' i ofn. |
| (Morris) Ddim o gwbwl. | |
| (Morris) Mae gan Miss Parry lythyr byr i'w deipio, dyna'r cwbwl. | |
| (1, 0) 339 | Oes, felly rydw i'n gweld. |
| (Morris) Be' sy' Gladys? | |
| (Morris) Be' sy' Gladys? | |
| (1, 0) 341 | Dim ond dod i ddeud bod Dr Hughes yma. |
| (1, 0) 342 | Ydych chi ddim am ddod i'w weld o Isaac? |
| (Morris) {Yn edrych yn amheus arni.} | |
| (Morris) Ydy'r meddyg eisio 'ngweld i'n arw? | |
| (1, 0) 346 | Na ddim yn arbennig. |
| (1, 0) 347 | I 'ngweld i y daeth o mewn gwirionedd ond na fasai 'fo ddim yn lecio mynd, heb gael gair efo chitha' hefyd. |
| (Morris) {Yn chwerthin ynddo'i hun.} | |
| (Morris) Wel gofynnwch iddo fo aros am funud. | |
| (1, 0) 351 | Mi ddowch chi drwodd yn y munud ynte'? |
| (Morris) 'Ddo' i wedyn. | |
| (1, 0) 356 | Wel, cofiwch chi rŵan Isaac. |
| (1, 0) 423 | Isaac, 'fedra' i gadw'r doctor ddim hwy. |
| (Morris) Wel, ynte'; dowch i mewn yma. | |
| (1, 0) 426 | Ydych chi wedi gorffen y llythyr yn barod Miss Parry? |
| (Gwyneth) {Yn ffwdanus.} | |
| (Morris) Do, un byr oedd o. | |
| (1, 0) 430 | Rhaid ei fod o'n fyr iawn. |
| (Morris) 'Gewch chi fynd rŵan Miss Parry. | |
| (Gwyneth) {Yn mynd allan drwy ddrws y cyntedd.} | |
| (1, 0) 436 | Mae'n rhaid ei bod hi'n gaffaeliad mawr i chi, Isaac, Miss Parry 'ma. |
| (Morris) Ydy wir. | |
| (Morris) Mae hi'n ddefnyddiol iawn mewn llawer modd. | |
| (1, 0) 439 | Felly mae'n edrych. |
| (Dr Hughes) Ydy hi'n dda am gadw cyfrifon hefyd? | |
| (Morris) A mae hi mor ddymunol a chymwynasgar ym mhob modd. | |
| (1, 0) 443 | Ie. |
| (1, 0) 444 | Rhaid bod hynny'n braf iawn. |
| (Morris) Ydy, mae o. | |
| (1, 0) 448 | Fedrwch chi dd'eud hynny Isaac? |
| (Morris) Na fedraf, wrth gwrs, Gladys annwyl. | |
| (Morris) Maddeuwch i mi. | |
| (1, 0) 451 | Mae'n iawn. |
| (1, 0) 452 | Wel mi ddowch yn ôl a chael swper efo ni ynte' Doctor? |
| (Dr Hughes) Does gen i ond eisio galw mewn un lle. | |
| (Dr Hughes) Mi ddo i yn ôl wedyn. | |
| (1, 0) 455 | Diolch i chi. |
| (1, 0) 800 | Pwy ydych chi'n dd'eud sy' 'na? |
| (1, 0) 802 | O, chi sy' 'na Miss O'Reilly? |
| (1, 0) 804 | Mi ddaethoch i'r dre wedi'r cwbwl. |
| (Morris) Newydd gyrraedd mae Miss O'Reilly. | |
| (Morris) Mi f'asai hi'n hoffi aros noson yma. | |
| (1, 0) 807 | Yma, efo ni? |
| (1, 0) 808 | Cewch â chroeso. |
| (Morris) Iddi gael dipyn o drefn ar ei phetha', ydych chi'n gweld. | |
| (Morris) Iddi gael dipyn o drefn ar ei phetha', ydych chi'n gweld. | |
| (1, 0) 810 | Mi 'na' i fy ngora' i chi. |
| (1, 0) 811 | 'Dydy o ddim ond fy nyletswydd i. |
| (1, 0) 812 | Bydd eich cesus chi'n cyrraedd cyn bo hir, debyg? |
| (Helen) Does gen i ddim |luggage|. | |
| (Helen) Does gen i ddim |luggage|. | |
| (1, 0) 814 | Wel, bydd popeth yn iawn mae'n siŵr. |
| (1, 0) 815 | Esgusodwch fi yn eich gadael chi yma efo'r gŵr am dipyn, tra bydda' i'n paratoi stafell i chi. |
| (Morris) Fedrwn ni ddim rhoi un o stafelloedd y plant iddi hi? | |
| (Morris) Mae'r rheini yn barod eisoes. | |
| (1, 0) 818 | O ie. |
| (1, 0) 819 | Mae yna ddigon o le yn y fan honno. |
| (1, 0) 821 | Eisteddwch rŵan a gorffwys dipyn. |
| (Helen) Mae o'n cofio'r manion lleia' ar unwaith. | |
| (1, 0) 1270 | Dyna ni. |
| (1, 0) 1271 | Miss O'Reilly, mae'r stafell yn barod i chi rŵan. |
| (Helen) Ew, rydych chi'n ffeind. | |
| (Morris) Un o stafelloedd y plant? | |
| (1, 0) 1275 | Ie, yr un ganol. |
| (1, 0) 1276 | Gadewch i ni fynd am swper gynta'. |
| (Morris) {Yn nodio at Helen.} | |
| (1, 0) 1280 | Helen? |
| (Morris) Ie, Helen ydy enw Miss O'Reilly. | |
| (Morris) Roeddwn i'n ei nabod hi'n blentyn. | |
| (1, 0) 1283 | Oeddech chi wir, Isaac? |
| (1, 0) 1284 | Gawn ni fynd? |
| (1, 0) 1285 | Mae swper yn barod. |
| (Helen) {Yn ysgafn a chflym wrth Morris.} | |
| (2, 0) 1342 | Synnwn i ddim petai ynta' hefyd yn marw. |
| (Morris) {Yn edrych i fyny arni.} | |
| (Morris) Pwy arall ydych chi'n ei feddwl? | |
| (2, 0) 1346 | Ydy siŵr, mae'r hen Feredith yn mynd i farw, Isaac, gewch chi weld. |
| (Morris) Gladys annwyl, fasai hi ddim gwell i chi fynd am dro bach? | |
| (Morris) Gladys annwyl, fasai hi ddim gwell i chi fynd am dro bach? | |
| (2, 0) 1348 | Ie, hwyrach y dylwn i. |
| (2, 0) 1353 | Breuddwydio am Miss O'Reilly ydych chi'n ei neud yn eistedd yn fan 'na? |
| (Morris) {Yn ddidaro.} | |
| (Morris) Cofio amdani hi yn sydyn 'nes i. | |
| (2, 0) 1356 | Mae Miss O'Reilly wedi codi ers meitin. |
| (Morris) O, ydy hi? | |
| (Morris) O, ydy hi? | |
| (2, 0) 1358 | Pan ês i i mewn i'w gweld hi roedd hi'n brysur yn rhoi trefn ar ei phetha'. |
| (Morris) Dyna un o'r stafelloedd plant wedi dod i mewn reit handi wedi'r cwbwl, Gladys. | |
| (2, 0) 1362 | Ie on'd e? |
| (Morris) Gwell na'u bod nhw i gyd yn wag 'ddyliwn. | |
| (Morris) Gwell na'u bod nhw i gyd yn wag 'ddyliwn. | |
| (2, 0) 1364 | Mae'r gwacter yma'n ofnadwy. |
| (2, 0) 1365 | Rydych chi'n iawn. |
| (Morris) {Yn cau'r ffolder, yn codi a dod ati hi.} | |
| (Morris) Mi fydd yn brafiach, mi fydd bywyd yn haws, yn arbennig i chi. | |
| (2, 0) 1369 | O hyn ymlaen? |
| (Morris) Ie'n sicir i chi Gladys. | |
| (Morris) Ie'n sicir i chi Gladys. | |
| (2, 0) 1371 | Am ei bod |hi| wedi dod yma ydych chi'n ei feddwl? |
| (Morris) {Yn amddiffynnol.} | |
| (2, 0) 1375 | Ydych chi'n meddwl hynny, Isaac? |
| (2, 0) 1376 | Fydd hi'n well wedyn? |
| (Morris) Mae'n rhaid iddi fod. | |
| (Morris) Rydych chitha' 'n credu hynny debyg? | |
| (2, 0) 1379 | Fydda' i'n meddwl dim o gwbwl am y tŷ newydd. |
| (2, 0) 1380 | Morris |
| (2, 0) 1382 | Mae'n wirioneddol ddrwg gen i eich clywed yn d'eud hyn'na achos mi wyddoch mai er eich mwyn chi, yn bennaf, yr ydw i wedi'i 'neud o. |
| (2, 0) 1385 | Y gwir ydy, rydych chi'n g'neud llawer gormod o betha' er fy mwyn i. |
| (Morris) {Dan dipyn o deimlad.} | |
| (Morris) Fedra' i ddim diodde' eich clywed chi'n d'eud y fath beth. | |
| (2, 0) 1389 | O'r gora' 'na' i ddim d'eud hynny ynte' Isaac. |
| (Morris) Rydw i'n dal at be' dd'wedais i. | |
| (Morris) Gewch chi weld y bydd hi'n brafiach o lawer arnoch chi yn y tŷ newydd. | |
| (2, 0) 1392 | Nefoedd annwyl, brafiach arna' i? |
| (Morris) {Yn eiddgar.} | |
| (Morris) Mi ellwch fod yn berffaith siŵr achos mi fydd y lle'n llawn o betha' fydd yn eich atgoffa chi o'ch hen gartre'. | |
| (2, 0) 1396 | Hen gartre' 'nhad a mam a losgwyd i'r llawr? |
| (Morris) {Mewn llais isel.} | |
| (2, 0) 1401 | Faint bynnag o dai godwch chi, Isaac, fedrwch chi byth 'neud lle fydd yn gartre' iawn i mi. |
| (Morris) {Yn croesi'r stafell.} | |
| (Morris) Wel yn enw'r nefoedd gadewch i ni beidio sôn dim mwy am y peth ynte'. | |
| (2, 0) 1404 | Fyddwn ni byth |yn| sôn amdano fo. |
| (2, 0) 1405 | Mi fyddwch chi, bob amser, yn gwrthod meddwl am y peth. |
| (Morris) {Yn aros yn sydyn ac edrych arni.} | |
| (Morris) A pham y b'aswn i'n g'neud hynny, gwrthod meddwl am y peth? | |
| (2, 0) 1409 | O byddwch Isaac. |
| (2, 0) 1410 | Rydw i'n eich darllen chi fel llyfr. |
| (2, 0) 1411 | Rydych chi eisio f'arbed i a g'neud esgusion dros fy nhyflwr i gymaint ag a fedrwch chi. |
| (Morris) {Gyda syndod yn ei lygaid.} | |
| (Morris) Amdanoch chi, chi'ch hun ydych chi'n sôn Gladys? | |
| (2, 0) 1414 | Ie wrth gwrs, amdana' i fy hun. |
| (Morris) {Wrtho'i hun.} | |
| (Morris) Bobol annwyl. | |
| (2, 0) 1417 | Gyda golwg ar yr hen dŷ, roedd y tân i fod i ddigwydd. |
| (2, 0) 1418 | Does dim fedrwch chi ei 'neud yn erbyn ffawd. |
| (Morris) Rydych chi'n iawn. | |
| (Morris) 'Anodd atal anlwc,' chwedl yr hen air. | |
| (2, 0) 1421 | Ond, yr hyn a ddigwyddodd o achos y tân, y peth dychrynllyd a ddigwyddodd wedyn, dyna'r peth na alla' i byth, byth, byth... |
| (Morris) {Gydag angerdd.} | |
| (Morris) Peidiwch â meddwl amdano fo, Gladys. | |
| (2, 0) 1424 | Dyna'r union beth na fedra' i ddim peidio â meddwl amdano. |
| (2, 0) 1425 | A rŵan, rhaid i mi siarad amdano fo beth bynnag, achos 'dydw i ddim yn teimlo y medra' i ei ddal o'n llawer hwy; a finna' 'n gwybod na fedra' i byth fadda' i mi fy hun... |
| (Morris) {Yn uchel.} | |
| (Morris) Chi eich hun. | |
| (2, 0) 1428 | Ie, achos roedd gen i ddyletswydd at y ddwy ochor, atoch chi ac at y rhai bychain. |
| (2, 0) 1429 | Mi ddylwn i fod wedi bod yn galed. |
| (2, 0) 1430 | Peidio â gadael i'r arswyd fy llethu; na'r loes o golli 'nghartre efo'r tân chwaith. |
| (2, 0) 1431 | O Isaac, gresyn na faswn i wedi bod yn ddigon cryf. |
| (Morris) {Yn dyner, dan gryn deimlad, daw yn nes ati.} | |
| (Morris) Newch chi addo f'annwyl i? | |
| (2, 0) 1435 | O'r nefoedd. |
| (2, 0) 1436 | Addo, addo. |
| (2, 0) 1437 | Mi all rhywun addo unrhyw beth. |
| (Morris) {Yn gwasgu ei ddwylo'n ddyrnau a chroesi'r stafell.} | |
| (Morris) Dim llygedyn o heulwen na gwawr fach o oleuni ar ein cartre' ni. | |
| (2, 0) 1441 | |'Dydy| hwn ddim yn gartre', Isaac. |
| (Morris) O nâc ydy. | |
| (Morris) A hwyrach eich bod chi'n iawn na fydd hi ddim gwell yn y tŷ newydd chwaith. | |
| (2, 0) 1446 | Fydd hi byth yn well. |
| (2, 0) 1447 | Yr un mor wag, yr un mor oeraidd ag ydy hi yma. |
| (Morris) {Gydag angerdd.} | |
| (Morris) Fedrwch chi dd'eud wrtha i? | |
| (2, 0) 1451 | Na fedraf. |
| (2, 0) 1452 | Mae'n rhaid i chi ateb hynny drosoch eich hun. |
| (Morris) {Yn taflu golwg amheus arni.} | |
| (Morris) Be' yn hollol ydych chi'n ei feddwl Gladys? | |
| (2, 0) 1455 | Be' ydw i'n ei feddwl? |
| (Morris) Ie. | |
| (Morris) Mi ddwed'soch chi'r peth mor rhyfedd fel 'tai rhyw ystyr gudd ynddo fo. | |
| (2, 0) 1459 | Nâc oedd, yn enw'r Tad, ar fy ngwir. |
| (Morris) {Yn dod yn nes.} | |
| (Morris) 'Dydw i ddim yn ddall nâc yn fyddar. | |
| (2, 0) 1464 | Bobol annwyl; am be' ar y ddaear ydych chi'n siarad? |
| (2, 0) 1465 | Be' sy'? |
| (Morris) {Yn sefyll o'i blaen.} | |
| (Morris) Rydych chi'n gweld rhyw ystyr gudd a llechwraidd yn y petha' mwya' diniwed fydda' i'n ei ddeud, on'd ydych? | |
| (2, 0) 1468 | Fi? |
| (2, 0) 1469 | Ydych chi'n d'eud 'mod i'n g'neud hynny? |
| (Morris) Ho, ho, ho. | |
| (2, 0) 1473 | Sâl; ydych chi'n sâl Isaac? |
| (Morris) {Yn wyllt.} | |
| (2, 0) 1478 | Isaac, yn enw'r nefoedd...! |
| (Morris) Ond rydych chi wedi methu, chi a'r doctor. | |
| (Morris) Mewn gwirionedd 'does 'na ddim o gwbwl o'i le arna' i. | |
| (2, 0) 1485 | Nâc oes, wrth gwrs. |
| (2, 0) 1486 | Ond eto, be' sy'n eich poeni chi gymaint? |
| (Morris) Fy mod i'n teimlo'n barod i sigo dan ryw faich dychrynllyd o ddyled. | |
| (Morris) Fy mod i'n teimlo'n barod i sigo dan ryw faich dychrynllyd o ddyled. | |
| (2, 0) 1488 | Dyled? |
| (2, 0) 1489 | Ond 'does arnoch chi ddim i neb. |
| (Morris) {Yn dawel a than deimlad.} | |
| (2, 0) 1493 | Be' sy' y tu ôl i hyn i gyd? |
| (2, 0) 1494 | Waeth i chi ddeud wrtha i ar unwaith. |
| (Morris) Does yna ddim byd y tu ôl iddo fo. | |
| (Morris) Ac eto, mae fel petai yna euogrwydd mawr yn fy ngwasgu fi i lawr. | |
| (2, 0) 1498 | Euogrwydd o'm plegid i? |
| (Morris) Ie, chi'n bennaf. | |
| (Morris) Ie, chi'n bennaf. | |
| (2, 0) 1500 | Felly mae'n rhaid eich bod chi'n sâl wedi'r cwbwl Isaac. |
| (Morris) {Yn ddigalon.} | |
| (2, 0) 1528 | Rhaid i mi fynd i'r dre' rŵan, Isaac. |
| (2, 0) 1530 | Ac mi chwilia i am un neu ddau o betha' fydd yn ddefnyddiol i chi, Miss O'Reilly. |
| (Helen) {Yn gwneud osgo fel petai am roi ei breichiau am ei gwddw.} | |
| (2, 0) 1535 | O, dim o gwbwl, dim ond fy nyletswydd i. |
| (2, 0) 1536 | Rydw i'n falch o gael g'neud. |
| (Helen) O ddifri, mi fydda' i'n iawn yn y dillad sy' gen i. | |
| (Helen) O ddifri, mi fydda' i'n iawn yn y dillad sy' gen i. | |
| (2, 0) 1538 | Mi edrycha' i am drowsus cynnes i'ch siwtio chi. |
| (2, 0) 1539 | Mae hi'n gallu mynd yn oer iawn yma yr adeg yma o'r flwyddyn. |
| (Helen) Rydw i wedi arfer wyddoch chi. | |
| (Helen) Chi, Mr Morris? | |
| (2, 0) 1548 | O peidiwch â siarad fel 'na Isaac annwyl. |
| (Morris) Ydych chi ddim wedi sylwi ar hynny eto? | |
| (Morris) Glywsoch chi |hyn'na| Gladys? | |
| (2, 0) 1554 | A be' ydy'r un peth hwnnw, Miss O'Reilly? |
| (2, 0) 1555 | Helen |
| (2, 0) 1556 | O, 'dydw i ddim am dd'eud. |
| (Morris) Dowch rŵan, allan â fo. | |
| (Helen) 'Dydw'i ddim mor bell o 'ngho â hynny. | |
| (2, 0) 1560 | Pan fyddwch chi a Miss O'Reilly ar eich penna' eich hunain mi dd'wedith wrthych chi, Isaac, fwy na thebyg. |
| (Morris) Ydych chi'n meddwl hynny? | |
| (Morris) Ydych chi'n meddwl hynny? | |
| (2, 0) 1562 | Ydw, siŵr. |
| (2, 0) 1563 | Achos roeddech chi'n ei nabod hi mor dda ers talwm; ers pan oedd hi'n blentyn, meddech chi. |
| (Morris) H'm. | |
| (2, 0) 2306 | Dyma ychydig o betha' ydw i wedi gael i chi, Miss O'Reilly. |
| (Helen) Rydych chi'n garedig dros ben. | |
| (Helen) Rydych chi'n garedig dros ben. | |
| (2, 0) 2308 | Twt, dim ond fy nyletswydd i. |
| (2, 0) 2309 | Dim mwy na hynny. |
| (Morris) {Yn darllen yr hyn a ysgrifennodd.} | |
| (Morris) Gladys. | |
| (2, 0) 2312 | Ie? |
| (Morris) Ddaru chi sylwi oedd yr ysgrifenyddes yn y swyddfa? | |
| (Morris) Ddaru chi sylwi oedd yr ysgrifenyddes yn y swyddfa? | |
| (2, 0) 2314 | Oedd, wrth gwrs ei bod hi yna. |
| (Morris) {Yn rhoi'r cynlluniau yn y ffolder.} | |
| (Morris) H'm. | |
| (2, 0) 2317 | Roedd hi wrth y ddesg fel y mae hi bob amser y bydda i'n mynd trwodd. |
| (Morris) {Yn codi.} | |
| (Gwyneth) {Yn mynd allan.} | |
| (2, 0) 2358 | Mewn difri', on'd oes ganddi hi lygaid t'wyllodrus? |
| (Morris) Hi? | |
| (Morris) Y greadures fach yna? | |
| (2, 0) 2361 | O, 'dydw i ddim yn ddall Isaac... |
| (2, 0) 2362 | Ydych chi'n eu diswyddo nhw o ddifri? |
| (Morris) Ydw. | |
| (Morris) Ydw. | |
| (2, 0) 2364 | Y ferch hefyd? |
| (Morris) Dyna oeddech chi eisio Gladys. | |
| (Morris) Rydw i'n gwybod. | |
| (2, 0) 2367 | Ond sut y medrwch chi 'neud hebddi |hi|? |
| (2, 0) 2368 | O, ie. |
| (2, 0) 2369 | Os ydw i'n eich nabod chi, mae gennych chi rywun arall mewn golwg. |
| (Helen) {Yn llon.} | |
| (Morris) Fi! | |
| (2, 0) 2382 | Yn enw'r nefoedd, Miss O'Reilly, peidiwch â meddwl am y fath beth. |
| (2, 0) 2383 | Fy ngŵr i! |
| (2, 0) 2384 | Ac ynta'n cael pendro mor ofnadwy! |
| (Helen) Fo'n cael pendro! | |
| (Helen) Na, mi wn i'n iawn nad ydy o ddim! | |
| (2, 0) 2387 | O ydy wir, mae o. |
| (Helen) Ond rydw i wedi'i weld o â'm llygaid fy hun reit ar ben tŵr eglwys uchel! | |
| (Helen) Ond rydw i wedi'i weld o â'm llygaid fy hun reit ar ben tŵr eglwys uchel! | |
| (2, 0) 2389 | Ie, mi glywais i bobol yn sôn am hynny ond mae'n amhosib. |
| (Morris) {Yn bendant.} | |
| (Morris) Ond mi wnes i sefyll yno er hynny. | |
| (2, 0) 2393 | Sut y medrwch chi dd'eud hyn 'na Isaac? |
| (2, 0) 2394 | Gwarchod, fedrwch chi ddim diodde rhoi eich pen allan o ffenest y llofft ucha. |
| (2, 0) 2395 | Fel na y buoch chi erioed. |
| (Morris) Hwyrach y gwelwch chi rywbeth gwahanol heno. | |
| (2, 0) 2398 | Nâc e, nâc e, nâc e! |
| (2, 0) 2399 | O Dduw mawr, gobeithio na cha' i byth weld hynny. |
| (2, 0) 2400 | Rydw i'n gyrru am y doctor y munud 'ma. |
| (2, 0) 2401 | Wnaiff o byth ganiatâu'r fath beth. |
| (Morris) Ond Gladys...! | |
| (Morris) Ond Gladys...! | |
| (2, 0) 2403 | Rhaid i mi 'neud. |
| (2, 0) 2404 | Oherwydd rydych chi'n sâl, Isaac. |
| (2, 0) 2405 | Mae hyn yn profi hynny. |
| (2, 0) 2406 | O Dduw, O Dduw! |
| (3, 0) 2472 | Fuoch chi o gwmpas yr ardd, Miss O'Reilly? |
| (Helen) Do, mi fûm i'n cael golwg arni. | |
| (Helen) Do, mi fûm i'n cael golwg arni. | |
| (3, 0) 2474 | A dod o hyd i ychydig o floda' rydw i'n gweld. |
| (Helen) Do wir. | |
| (Helen) Mae 'na glystyra' ohonyn nhw dan y llwyni. | |
| (3, 0) 2477 | Oes 'na wir? |
| (3, 0) 2478 | O hyd? |
| (3, 0) 2479 | Anaml iawn y bydda' i'n mynd yna, ydych chi'n gweld. |
| (Helen) {Yn dod yn nes.} | |
| (3, 0) 2484 | Fydda i ddim yn |picio| i unlle rŵan. |
| (Helen) Wel, ond fyddwch chi ddim yn mynd i lawr rŵan ac yn y man i weld yr holl betha' hardd sy' 'na? | |
| (Helen) Wel, ond fyddwch chi ddim yn mynd i lawr rŵan ac yn y man i weld yr holl betha' hardd sy' 'na? | |
| (3, 0) 2486 | Mae'r cwbwl wedi mynd mor ddiarth i mi, bron nad oes arna i ofn mynd i weld erbyn hyn. |
| (Helen) Eich gardd chi'ch hun? | |
| (Helen) Eich gardd chi'ch hun? | |
| (3, 0) 2488 | Dydw i ddim yn teimlo mai fi piau hi bellach. |
| (Helen) Be' ydych chi'n 'i feddwl? | |
| (Helen) Be' ydych chi'n 'i feddwl? | |
| (3, 0) 2490 | Dydy hi ddim fel roedd hi yn amser nhad a mam. |
| (3, 0) 2491 | O, nâc ydy. |
| (3, 0) 2492 | Maen nhw wedi dwyn cymaint o'r ardd, Miss O'Reilly. |
| (3, 0) 2493 | Be 'ddyliech chi? |
| (3, 0) 2494 | Maen nhw wedi'i rhannu hi'n glytia' a chodi tai i bobol ddiarth yno, pobol nad ydw i ddim yn eu nabod nhw. |
| (3, 0) 2495 | Ac mi fedran |nhw| eistedd ac edrych i mewn i'r tŷ arna' i o'u ffenestri. |
| (Helen) {Yn sirioli.} | |
| (Helen) Mrs Morris. | |
| (3, 0) 2498 | Ie? |
| (Helen) Ga' i aros yma efo chi am dipyn? | |
| (Helen) Ga' i aros yma efo chi am dipyn? | |
| (3, 0) 2500 | Cewch ar bob cyfri, os ydych chi eisio. |
| (Helen) {Yn symud stôl at fraich y gadair freichiau ac yn eistedd.} | |
| (3, 0) 2504 | Chwarae teg i chi am fod eisio eistedd efo |mi|. |
| (3, 0) 2505 | Roeddwn i'n meddwl mai i'r tŷ at y gŵr yr oeddech chi am fynd. |
| (Helen) I be? | |
| (Helen) I be? | |
| (3, 0) 2507 | I'w helpu o, dyna oeddwn i'n feddwl. |
| (Helen) Ddim diolch. | |
| (Helen) Ond roedd o'n edrych mor ffyrnig na feiddiais i ddim siarad efo fo. | |
| (3, 0) 2512 | Ond un ffeind a thyner ydy o mewn gwirionedd, wyddoch chi. |
| (Helen) Tybed? | |
| (Helen) Tybed? | |
| (3, 0) 2514 | Dydych chi ddim yn ei nabod o eto, Miss O'Reilly. |
| (Helen) {Yn edrych arni yn hoffus.} | |
| (Helen) Ydych chi'n falch eich bod chi'n mynd i'r tŷ newydd? | |
| (3, 0) 2517 | Mi ddylwn i fod yn falch gan mai dyna ddymuniad Mr Morris. |
| (Helen) O, nid hynny'n unig, siŵr. | |
| (Helen) O, nid hynny'n unig, siŵr. | |
| (3, 0) 2519 | Wir, Miss OReilly. |
| (3, 0) 2520 | Oherwydd dyna 'nyletswydd i, cyd-dynnu efo fo. |
| (3, 0) 2521 | Ond yn amal mae'n anodd iawn eich gorfodi eich hun i ufuddhau. |
| (Helen) Ydy, mae'n rhaid bod hynny'n anodd iawn. | |
| (Helen) Ydy, mae'n rhaid bod hynny'n anodd iawn. | |
| (3, 0) 2523 | Ydy. |
| (3, 0) 2524 | Coeliwch fi. |
| (3, 0) 2525 | I rywun â chymaint o wendida' ag sy' gen i... |
| (Helen) I rywun sy' wedi bod drwy gymaint â chi... | |
| (Helen) I rywun sy' wedi bod drwy gymaint â chi... | |
| (3, 0) 2527 | Sut y gwyddoch chi am hynny? |
| (Helen) Eich gŵr chi ddwedodd wrtha' i. | |
| (Helen) Eich gŵr chi ddwedodd wrtha' i. | |
| (3, 0) 2529 | Prin iawn y bydd o'n sôn am y petha' yna efo mi. |
| (3, 0) 2530 | Ydw, o ydw, rydw i wedi bod drwy fwy na digon o drwbwl yn fy mywyd, Miss OReilly. |
| (Helen) {Yn edrych arni yn llawn cydymdeimlad ac yn nodio'n araf.} | |
| (3, 0) 2535 | Do. |
| (3, 0) 2536 | Popeth oedd yn perthyn i mi wedi'i losgi. |
| (Helen) A wedyn mi ddaeth rhywbeth gwaeth... | |
| (3, 0) 2539 | Gwaeth? |
| (Helen) Gwaeth na'r cwbwl. | |
| (Helen) Gwaeth na'r cwbwl. | |
| (3, 0) 2541 | Be' ydych chi'n 'i feddwl? |
| (Helen) {Y'n dyner.} | |
| (Helen) Mi goll'soch chi'r ddau hogyn bach. | |
| (3, 0) 2544 | O, ie. |
| (3, 0) 2545 | Nhw. |
| (3, 0) 2546 | Ond roedd hynny'n beth gwahanol, wyddoch chi. |
| (3, 0) 2547 | Trefn rhagluniaeth oedd hynny ac felly fedar rhywun neud dim ond ymostwng a bodloni... |
| (3, 0) 2548 | Ie, a bod yn ddiolchgar hefyd. |
| (Helen) Felly rydych chi'n teimlo, ie? | |
| (Helen) Felly rydych chi'n teimlo, ie? | |
| (3, 0) 2550 | Nid bob amser, mae'n ddrwg gen i dd'eud. |
| (3, 0) 2551 | Mi wn i o'r gora' mai dyna ydy 'nyletswydd i. |
| (3, 0) 2552 | Ond er hynny fedra' i ddim. |
| (Helen) Na fedrwch. | |
| (Helen) 'Dydy hynny ddim ond naturiol. | |
| (3, 0) 2555 | Ac yn amal rhaid i mi f'atgoffa fy hun mai cosb gyfiawn arna' i oedd hi. |
| (Helen) Am be? | |
| (Helen) Am be? | |
| (3, 0) 2557 | Am nad oedd gen i ddigon o ddewrder yn wyneb anffawd. |
| (Helen) Ond wela' i ddim bod... | |
| (Helen) Ond wela' i ddim bod... | |
| (3, 0) 2559 | O, peidiwch wir, Miss OReilly. |
| (3, 0) 2560 | Peidiwch â siarad dim mwy am y ddau fachgen bach. |
| (3, 0) 2561 | Dim rhaid bod yn drist yn eu cylch nhw. |
| (3, 0) 2562 | Mae nhw'n hapus rŵan, y plant bach,... hapus rŵan. |
| (3, 0) 2563 | Na, y mân golledion mewn bywyd sy'n torri calon rhywun. |
| (3, 0) 2564 | Colli'r cwbwl o'r petha' nad ydy pobol yn meddwl dim ohonyn nhw. |
| (Helen) {Yn rhoi ei breichiau ar liniau Mrs Morris ac edrych arni yn annwyl.} | |
| (Helen) Pa betha'? | |
| (3, 0) 2569 | Dim ond petha' bychain. |
| (3, 0) 2570 | Fel roeddwn i'n d'eud. |
| (3, 0) 2571 | Mi losgwyd yr hen lunia' i gyd ar y walia', a'r holl wisgoedd sidan oedd wedi bod yn y teulu ers cenedlaetha'. |
| (3, 0) 2572 | A lês mam a nain, y cwbwl wedi'u llosgi. |
| (3, 0) 2573 | A'r gema'. |
| (3, 0) 2575 | A'r dolia' i gyd. |
| (Helen) Y dolia?? | |
| (3, 0) 2578 | Roedd gen i naw o ddolia'; ddigon o ryfeddod. |
| (Helen) Mi gawson hwytha'u llosgi hefyd? | |
| (Helen) Mi gawson hwytha'u llosgi hefyd? | |
| (3, 0) 2580 | Bob un. |
| (3, 0) 2581 | Roedd hynny'n galed. |
| (3, 0) 2582 | O mi deimlais i'n arw. |
| (Helen) Oeddech chi wedi cadw'r dolia' 'ma i gyd ers pan oeddech chi'n hogan bach? | |
| (Helen) Oeddech chi wedi cadw'r dolia' 'ma i gyd ers pan oeddech chi'n hogan bach? | |
| (3, 0) 2584 | Wedi'u cadw, oeddwn. |
| (3, 0) 2585 | Ond nid eu rhoi o'r neilltu. |
| (3, 0) 2586 | Roedd y dolia' a finna' wedi dal i fyw efo'n gilydd. |
| (Helen) Wedi i chi dyfu? | |
| (Helen) Wedi i chi dyfu? | |
| (3, 0) 2588 | Ie, ymhell ar ôl hynny. |
| (Helen) Wedi i chi briodi hefyd? | |
| (Helen) Wedi i chi briodi hefyd? | |
| (3, 0) 2590 | O, ie. |
| (3, 0) 2591 | Cyn belled na welai o mohonyn nhw. |
| (3, 0) 2592 | Ond mi llosgwyd nhw i gyd, y petha' bach. |
| (3, 0) 2593 | Feddyliodd neb am eu hachub nhw. |
| (3, 0) 2594 | Rydw i mor ddigalon yn meddwl am y peth. |
| (3, 0) 2595 | Wnewch chi ddim chwerthin am fy mhen i, na wnewch, Miss OReilly? |
| (Helen) Dydw i ddim yn chwerthin yn siŵr i chi. | |
| (Helen) Dydw i ddim yn chwerthin yn siŵr i chi. | |
| (3, 0) 2597 | Oherwydd, roedd 'na fywyd ynddyn hwytha', ydych chi'n gweld? |
| (3, 0) 2598 | Roeddwn i'n eu cario o dan fy nghalon, fel plant bach heb eu geni. |
| (Dr Hughes) {Yn dod allan a'i het yn ei law. Mae'n gweld Mrs Morris a Helen.} | |
| (Dr Hughes) Ydych chi'n eistedd allan, a hwyrach dal annwyd Mrs Morris? | |
| (3, 0) 2601 | Mae hi reit braf a chynnes yma heddiw. |
| (Dr Hughes) Ydy mae hi. | |
| (3, 0) 2606 | Mae na rywbeth mae'n rhaid i mi siarad amdano efo chi. |
| (Dr Hughes) O'r gora'. | |
| (3, 0) 2618 | Hsht, hsht. |
| (3, 0) 2619 | Yn enw'r nefoedd. |
| (3, 0) 2620 | Mae o'n dod. |
| (3, 0) 2621 | Ceisiwch gael y syniad 'na o'i ben o. |
| (3, 0) 2622 | A Helen, fedrwn ni ddim bod yn ffrindia', dwedwch? |
| (Helen) {Yn taflu ei dwylo am wddw Mrs Morris.} | |
| (3, 0) 2626 | Dyna ni. |
| (3, 0) 2627 | Dyna ni. |
| (3, 0) 2628 | Dyma fo'n dod Doctor. |
| (3, 0) 2629 | Ga' i air efo chi? |
| (Dr Hughes) Amdano fo? | |
| (Dr Hughes) Amdano fo? | |
| (3, 0) 2631 | Ie wir. |
| (3, 0) 2632 | Dowch i mewn. |
| (Morris) Ydych chi wedi sylwi, Helen, ei bod hi'n mynd pan fydda' i'n ymddangos? | |
| (3, 0) 2996 | Ydy o ddim yma? |
| (3, 0) 2997 | B'le mae o wedi mynd? |
| (Elwyn) Mae Mr Morris i lawr yn fan'na efo'r dynion, | |
| (3, 0) 3001 | Mi aeth â'r |wreath| efo fo? |
| (3, 0) 3002 | O'r nefoedd! |
| (3, 0) 3003 | Duw a'n helpo ni. |
| (3, 0) 3004 | Meredith, ewch i lawr ato fo wir. |
| (3, 0) 3005 | Perswadiwch o i ddod yn ôl i fan 'ma. |
| (Elwyn) Ga' i ddeud eich bod chi eisio siarad efo fo, Mrs Morris? | |
| (Elwyn) Ga' i ddeud eich bod chi eisio siarad efo fo, Mrs Morris? | |
| (3, 0) 3007 | Ie. |
| (3, 0) 3008 | Nâc e. |
| (3, 0) 3009 | Na, peidiwch â d'eud bod arna' i eisio fo. |
| (3, 0) 3010 | D'wedwch fod 'na rywun yma ac iddo ddod ar unwaith. |
| (Elwyn) O'r gora', mi 'na i hynny Mrs Morris. | |
| (Elwyn) {Yn mynd i Iawr y grisiau ac allan drwy'r ardd.} | |
| (3, 0) 3013 | O, Miss O'Reilly fedrwch chi ddim dychmygu mor bryderus ydw i yn ei gylch o. |
| (Helen) Dydw i ddim yn deall be' ydy'r panic. | |
| (Helen) Dydw i ddim yn deall be' ydy'r panic. | |
| (3, 0) 3015 | Ydych hi ddim yn sylweddoli ngeneth i? |
| (3, 0) 3016 | Y peryg petai o'n g'neud hyn? |
| (3, 0) 3017 | Petai o'n cymryd yn ei ben i ddringo'r sgaffald? |
| (Helen) {Yn eiddgar.} | |
| (Helen) Ydych chi'n meddwl y gwnaiff o? | |
| (3, 0) 3020 | Does dim dal be' all o gymryd yn ei ben. |
| (3, 0) 3021 | Mi all o 'neud unrhyw beth dan haul. |
| (Helen) Aha! | |
| (Helen) Ydych chitha''n meddwl ei fod o... wel...? | |
| (3, 0) 3024 | Wn i ddim be' i'w feddwl ohono fo, wir. |
| (3, 0) 3025 | Mae'r doctor wedi bod yn d'eud pob math o betha' wrtha' i. |
| (3, 0) 3026 | Ac wrth gysylltu hynny ag ambell i beth a glywais i o'i hun yn ei dd'eud... |
| (Dr Hughes) Ydy o'n dod yn o fuan? | |
| (Dr Hughes) Ydy o'n dod yn o fuan? | |
| (3, 0) 3029 | Ydy, rydw i'n meddwl, rydw i wedi gyrru amdano fo beth bynnag. |
| (Dr Hughes) {Yn nesáu.} | |
| (Dr Hughes) F'asai hi ddim gwell i chi fynd i'r tŷ, Mrs Morris? | |
| (3, 0) 3032 | Na, na. |
| (3, 0) 3033 | Mi arhosa' i allan yma i ddisgwyl Isaac. |
| (Dr Hughes) Ond mae rhyw ferched wedi galw i'ch gweld chi. | |
| (Dr Hughes) Ond mae rhyw ferched wedi galw i'ch gweld chi. | |
| (3, 0) 3035 | O'r annwyl, rhywbeth arall, a'r funud yma o bob adeg. |
| (Dr Hughes) Mae nhw'n d'eud eu bod nhw'n awyddus i weld y seremoni. | |
| (Dr Hughes) Mae nhw'n d'eud eu bod nhw'n awyddus i weld y seremoni. | |
| (3, 0) 3037 | O! wel, rhaid imi fynd atyn' nhw wedi'r cwbwl debyg. |
| (3, 0) 3038 | Mae'n ddyletswydd arna' i. |
| (Dr Hughes) Fedrwch chi ddim gofyn iddyn' nhw alw eto? | |
| (Dr Hughes) Fedrwch chi ddim gofyn iddyn' nhw alw eto? | |
| (3, 0) 3040 | Na. |
| (3, 0) 3041 | Wnâi hynny 'mo'r tro o gwbwl. |
| (3, 0) 3042 | Gan eu bod nhw yma, fy nyletswydd i ydy eu gweld nhw. |
| (3, 0) 3043 | Ond da chi, arhoswch chi allan yma i'w dderbyn o pan ddaw o. |
| (Dr Hughes) A thrio'i ddal o i siarad cyhyd ag y medrwn ni. | |
| (Dr Hughes) A thrio'i ddal o i siarad cyhyd ag y medrwn ni. | |
| (3, 0) 3045 | Ia, os gwelwch chi'n dda. |
| (3, 0) 3046 | Miss O'Reilly, daliwch eich gafael yn dynn ynddo fo. |
| (Helen) Fyddai hi ddim yn well i chi 'ch hun 'neud hynny. | |
| (Helen) Fyddai hi ddim yn well i chi 'ch hun 'neud hynny. | |
| (3, 0) 3048 | Byddai, mae o'n ddyletswydd arna' i. |
| (3, 0) 3049 | Ond pan fo gan rywun ddyletswydda' mewn cymaint o gyfeiriada'... |
| (Dr Hughes) {Yn edrych tua'r ardd.} | |
| (Dr Hughes) Dyma fo, mae o'n dod. | |
| (3, 0) 3052 | A minna'n gorfod mynd i'r tŷ. |
| (Dr Hughes) {Wrth Helen.} | |
| (Helen) Gellwch fentro y ca' i rywbeth arall i siarad amdano fo efo Mr Morris. | |
| (3, 0) 3057 | A plis, gofalwch gadw'ch gafael yn dynn ynddo fo. |
| (3, 0) 3058 | Chi fedar 'neud hynny ora'. |
| (Morris) Mae nhw'n d'eud bod rhywun eisio 'ngweld i. | |
| (3, 0) 3235 | Oes 'na fand hefyd? |
| (Elwyn) Oes. | |
| (3, 0) 3244 | Pam mae eisio i chi fynd i lawr, Isaac? |
| (Morris) {Yn gwta.} | |
| (Morris) Rhaid i mi fod i lawr 'na efo'r dynion. | |
| (3, 0) 3247 | Ie, i |lawr| cofiwch. |
| (3, 0) 3248 | Dim ond ar lawr. |
| (Morris) Dyna lle bydda' i bob amser. | |
| (3, 0) 3253 | Da chi, perwch i'r dyn fod yn ofalus wrth fynd i fyny. |
| (3, 0) 3254 | Cofiwch, Isaac. |
| (Dr Hughes) {Wrth Mrs Morris.} | |
| (Dr Hughes) Mae o wedi rhoi o'r neilltu'r syniad gwirion. | |
| (3, 0) 3258 | O'r fath ryddhad. |
| (3, 0) 3259 | Ddwy waith mae 'na ddynion wedi disgyn a chael eu lladd yn y fan. |
| (3, 0) 3261 | Diolch i chi, Miss O'Reilly, am ddal gafael yn dynn ynddo fo. |
| (3, 0) 3262 | Faswn i byth wedi medru g'neud hynny fy hun. |
| (Dr Hughes) {Yn siriol.} | |
| (Dr Hughes) Dacw'r fforman yn dechra' dringo'r ysgol. | |
| (3, 0) 3300 | A mae o'n cario'r |wreath| hefyd. |
| (3, 0) 3301 | O, gobeithio'r annwyl y bydd o'n ofalus. |
| (Elwyn) {Yn llygadrythu'n anghrediniol a gweiddi.} | |
| (3, 0) 3308 | Ie, Isaac ydy o! |
| (3, 0) 3309 | O Dduw mawr! |
| (3, 0) 3310 | Isaac! |
| (3, 0) 3311 | Isaac! |
| (Dr Hughes) Hsht, hsht. | |
| (3, 0) 3315 | Rhaid i mi fynd ato fo. |
| (3, 0) 3316 | Rhaid i mi ei gael o i lawr! |
| (Dr Hughes) {Yn dal ei afael ynddi.} | |
| (Helen) Mae o bron ar ben y tŵr! | |
| (3, 0) 3331 | Mae'r ofn yn ddigon amdana' i. |
| (3, 0) 3332 | Fedra' i ddim diodde' edrych! |