| (1, 0) 23 | Fedra' i ddim diodde' yn hir iawn eto, na fedraf wir. |
| (Gwyneth) Teimlo'n sâl iawn heddiw, f'ewyrth? | |
| (Gwyneth) Teimlo'n sâl iawn heddiw, f'ewyrth? | |
| (1, 0) 25 | Mae arna i ofn 'mod i'n mynd yn waeth bob dydd. |
| (Elwyn) Mi ddylech chi fynd adre nhad. | |
| (Elwyn) Ceisiwch gysgu dipyn. | |
| (1, 0) 28 | Mynd i 'ngwely? |
| (1, 0) 29 | Wyt ti am i mi fygu'n lân? |
| (Gwyneth) Wel, ewch am dro bach ynte'. | |
| (1, 0) 34 | Dydw i ddim am fynd odd' 'ma nes y daw o. |
| (1, 0) 35 | Rydw i'n benderfynol o setlo petha' heddiw {yn chwerw} efo fo,... efo'r mistar. |
| (Gwyneth) O na f'ewyrth! | |
| (1, 0) 40 | Yh. Yh. |
| (1, 0) 41 | Does gen i fawr o amser ar ôl i aros. |
| (Gwyneth) {Yn gwrando.} | |
| (Morris) O, oedden reit siŵr; felly y maen nhw i gyd. | |
| (1, 0) 85 | Maen nhw'n ysu am gael mynd i dŷ o'u heiddo'u hunain, medden nhw. |
| (Morris) Ydyn, ydyn. | |
| (1, 0) 94 | Rhywun arall? |
| (1, 0) 95 | Fasech chi'n ystyried gollwng y job rŵan? |
| (Morris) {Yn ddiamynedd.} | |
| (Morris) Heblaw hynny, 'chydig iawn a wn i am y bobol yma hyd yn hyn. | |
| (1, 0) 101 | Mae'r bobol yn iawn. |
| (1, 0) 102 | Mae Elwyn yn eu nabod nhw. |
| (1, 0) 103 | Mae o'n gyfaill i'r teulu; pobol berffaith onest. |
| (Morris) Gonest, o ddigon gonest. | |
| (Morris) Mi gân' nhw ofyn i bwy fynnon nhw o'm rhan i. | |
| (1, 0) 110 | Ydych chi o ddifri? |
| (Morris) {Yn sorllyd.} | |
| (Morris) Ydw ar ei phen, am unwaith. | |
| (1, 0) 113 | Ga' i air neu ddau efo chi? |
| (Morris) Wrth reswm. | |
| (1, 0) 116 | Dos di drwodd am funud Gwyneth. |
| (Gwyneth) {Yn anesmwyth.} | |
| (Gwyneth) Ond f'ewyrth... | |
| (1, 0) 119 | Gwna fel rydw i'n d'eud wrthyt ti, 'ngeneth i. |
| (1, 0) 120 | A chau'r drws ar d'ôl. |
| (1, 0) 123 | Does arna' i ddim eisio i'r plant druain yma wybod pa mor sâl ydw i. |
| (Morris) Ie, rydych chi wedi bod yn edrych yn wael yn ddiweddar yma. | |
| (Morris) Ie, rydych chi wedi bod yn edrych yn wael yn ddiweddar yma. | |
| (1, 0) 125 | Mi fydd y cwbwl ar ben arna' i reit fuan. |
| (1, 0) 126 | Rydw i'n gwanio bob dydd. |
| (Morris) Steddwch chi ddim? | |
| (Morris) Steddwch chi ddim? | |
| (1, 0) 128 | Os ca' i. |
| (1, 0) 129 | Diolch. |
| (Morris) {Yn gosod y gadair freichiau yn hwylusach.} | |
| (1, 0) 135 | Wel, fel hyn y mae hi, ydych chi'n gweld. |
| (1, 0) 136 | Ynghylch Elwyn, dyna sy'n fy mhoeni fi fwya'. |
| (1, 0) 137 | Be' ddaw ohono fo? |
| (Morris) Wel mi gaiff y mab aros yma efo mi, wrth gwrs, cyhyd ag y mynn o. | |
| (Morris) Wel mi gaiff y mab aros yma efo mi, wrth gwrs, cyhyd ag y mynn o. | |
| (1, 0) 139 | Ond dyna'r union beth na fynn o. |
| (1, 0) 140 | Mae o'n teimlo na fedr o aros ddim hwy. |
| (Morris) Tewch. | |
| (Morris) Ond os eisio mwy o gyflog mae o, f'aswn i ddim yn gwrthod ystyried... | |
| (1, 0) 144 | Na, na. |
| (1, 0) 145 | Nid dyna sy'n bod. |
| (1, 0) 146 | Ond yn hwyr neu'n hwyrach mi fydd rhaid i'r hogyn gael cyfle i 'neud rhywbeth ar ei liwt ei hun. |
| (Morris) {Heb edrych arno.} | |
| (Morris) Ydych chi'n meddwl y gwnâi Elwyn rywbeth ohoni hi ar ei ben ei hun? | |
| (1, 0) 149 | Wel, nâc ydw. |
| (1, 0) 150 | Dyna sy'n dorcalonnus. |
| (1, 0) 151 | Rydw i'n dechra' ama' gallu'r hogyn, achos 'dydych chi ddim wedi rhoi'r un gair da iddo fo; ac eto fedra' i yn fy myw lai na theimlo bod yna allu ynddo fo. |
| (1, 0) 152 | Dydy o ddim yn ddidalent, yn fy marn i. |
| (Morris) Wel 'dydy o ddim wedi dysgu dim byd yn drwyadl felly, ar wahân i dipyn ar bapur, wrth gwrs. | |
| (1, 0) 155 | Digon 'chydig wyddech chi o'r busnes pan oeddech chi'n gweithio i mi ond ddar'u hynny 'mo'ch rhwystro chi rhag dechra' arni {yn anadlu'n drwm} a'ch gwthio'ch hun i fyny, a dwyn y gwynt o'm hwylia' i a phobol eraill. |
| (Morris) Ie, roedd amgylchiada' o 'mhlaid i, welwch chi. | |
| (Morris) Ie, roedd amgylchiada' o 'mhlaid i, welwch chi. | |
| (1, 0) 157 | Rydych chi'n iawn. |
| (1, 0) 158 | Roedd popeth o'ch tu chi. |
| (1, 0) 159 | Ond eto, sut yn eich byw y medrwch chi adael i mi fynd i 'medd heb weld be' fedr Elwyn ei 'neud. |
| (1, 0) 160 | Ac wrth gwrs mi fyddai'n dda iawn gen i eu gweld nhw wedi priodi cyn imi fynd. |
| (Morris) {Yn siarp.} | |
| (Morris) Hi sy'n dymuno hynny? | |
| (1, 0) 163 | Nid Gwyneth yn gymaint ag Elwyn. |
| (1, 0) 164 | Mae o'n siarad am y peth bob dydd. |
| (1, 0) 165 | Mae'n rhaid, ydy mae'n rhaid i chi helpu i gael rhyw waith ar ei ben ei hun iddo rŵan. |
| (1, 0) 166 | Mae'n rhaid imi gael gweld rhywbeth y bydd yr hogyn wedi'i 'neud. |
| (1, 0) 167 | Ydych chi'n clywed? |
| (Morris) {Yn biwis.} | |
| (Morris) Fedrwch chi ddim disgwyl i mi dynnu gwaith o'r awyr. | |
| (1, 0) 170 | Mae ganddo fo gyfle am waith ardderchog y funud yma; job reit fawr. |
| (Morris) {Yn anesmwytho 'n gynhyrfus braidd.} | |
| (Morris) Oes? | |
| (1, 0) 173 | Pe rhoech chi'ch caniatâd. |
| (Morris) Sut fath o waith ydy o? | |
| (1, 0) 176 | Mi gaiff 'neud y tŷ yna draw ym Mrynfelin. |
| (Morris) Hwnnw. | |
| (Morris) Rydw i'n mynd i godi hwnnw fy hun. | |
| (1, 0) 179 | Ond 'does dim llawer o wahaniaeth gennych chi. |
| (Morris) {Yn tanio.} | |
| (Morris) Pwy sy'n meiddio d'eud hynny? | |
| (1, 0) 184 | Mi dd'wed'soch chi hynny eich hun gynna'. |
| (Morris) Twt, twt. | |
| (Morris) F'asen nhw yn rhoi'r gwaith yna i Elwyn? | |
| (1, 0) 188 | B'asen. |
| (1, 0) 189 | Mae o'n nabod y teulu ydych chi'n gweld. |
| (1, 0) 190 | A pheth arall, mae o wedi g'neud plania', ─ o ran 'myrraeth felly, a rhoi amcan o'r gost ac ati... |
| (Morris) Ydyn nhw'n hoffi'r cynllunia'? | |
| (Morris) Y bobol fydd yn mynd i fyw yno. | |
| (1, 0) 193 | Ydyn. |
| (1, 0) 194 | Dim ond i chi edrych arnyn nhw a rhoi eich caniatâd. |
| (Morris) Mi fasen nhw'n gadael i Elwyn adeiladu eu cartref iddyn nhw? | |
| (Morris) Mi fasen nhw'n gadael i Elwyn adeiladu eu cartref iddyn nhw? | |
| (1, 0) 196 | Roedden nhw wrth eu bodd efo'i syniada' fo; gwreiddiol iawn, medden nhw. |
| (Morris) Oho! gwreiddiol ai e? | |
| (Morris) Ddim mor hen ffasiwn â'r petha' fydda' i'n eu g'neud debyg. | |
| (1, 0) 199 | Eu gweld nhw'n wahanol rywsut yr oedden nhw. |
| (Morris) {Yn atal ei lid.} | |
| (Morris) Felly i weld Elwyn y daethon nhw yma pan oeddwn i allan? | |
| (1, 0) 202 | Galw i'ch gweld chi ddar'u nhw ac ar yr un pryd gofyn a fyddai wahaniaeth gennych chi roi'r gora' i'r gwaith. |
| (Morris) {Yn flin.} | |
| (Morris) Rhoi'r gora' iddi. | |
| (1, 0) 205 | A chaniatâu eich bod chi'n meddwl bod plania' Elwyn... |
| (Morris) Fi. | |
| (Morris) Rhoi'r gora' iddi hi, i 'neud lle i'ch mab chi! | |
| (1, 0) 208 | Tynnu'n ôl o'r cytundeb oedden nhw'n ei feddwl. |
| (Morris) O, 'run peth yn union. | |
| (Morris) Mae'n rhaid iddo fynd o'r ffordd... i 'neud lle. | |
| (1, 0) 214 | Pam 'nenw'r Tad? |
| (1, 0) 215 | Mae 'na le i fwy nag un, debyg. |
| (Morris) O, does 'na ddim cymaint â hynny o le yn sbâr chwaith. | |
| (1, 0) 221 | Felly mi fydd rhaid i mi adael y byd 'ma heb ddim sicrwydd. |
| (1, 0) 222 | Heb lygedyn o lawenydd? |
| (1, 0) 223 | Heb hyder na ffydd yn Elwyn? |
| (1, 0) 224 | Heb weld dim o'i waith o. |
| (1, 0) 225 | Felly mae hi i fod? |
| (Morris) {Yn lled-droi a mwmian.} | |
| (Morris) Peidiwch â gofyn dim mwy rŵan. | |
| (1, 0) 229 | Ond atebwch yr un cwestiwn yna. |
| (1, 0) 230 | Fydd raid i mi farw mor druenus o dlawd â hynny? |
| (Morris) {Yn edrych fel pe mewn ymdrech. O'r diwedd dywaid mewn llais isel ond cadarn.} | |
| (Morris) Rhaid i chi adael y byd 'ma ora' y gellwch chi. | |
| (1, 0) 233 | Felly y bo hi ynte'. |
| (Morris) Rydw i yr hyn ydw i, a fedra' i ddim newid fy natur. | |
| (1, 0) 238 | Na fedrwch debyg. |
| (1, 0) 240 | Ga'i lasiad o ddŵr, os gwelwch chi'n dda? |
| (Morris) Wrth gwrs. | |
| (Morris) {Yn llenwi gwydr o ddŵr a'i estyn iddo.} | |
| (1, 0) 243 | Diolch. |
| (Elwyn) Be' sy' 'nhad? | |
| (1, 0) 249 | Rho dy fraich i mi. |
| (1, 0) 250 | Gad i ni fynd rŵan. |
| (Elwyn) O'r gora'. | |
| (1, 0) 256 | Pnawn da. |
| (1, 0) 257 | Cysgwch yn iawn,... os medrwch chi. |