| (Meredith) Fedra' i ddim diodde' yn hir iawn eto, na fedraf wir. | |
| (Mrs Morris) Felly mae'n edrych. | |
| (1, 0) 440 | Ydy hi'n dda am gadw cyfrifon hefyd? |
| (Morris) Mae hi wedi cael digon o brofiad yn ystod y ddwy flynedd ddwaetha' 'ma. | |
| (Mrs Morris) Wel mi ddowch yn ôl a chael swper efo ni ynte' Doctor? | |
| (1, 0) 453 | Does gen i ond eisio galw mewn un lle. |
| (1, 0) 454 | Mi ddo i yn ôl wedyn. |
| (Mrs Morris) Diolch i chi. | |
| (Morris) Ydych chi ar frys Doctor? | |
| (1, 0) 458 | Ddim o gwbwl. |
| (Morris) Ga' i sgwrs bach efo chi? | |
| (Morris) Ga' i sgwrs bach efo chi? | |
| (1, 0) 460 | Can croeso. |
| (Morris) Gadewch i ni eistedd i lawr ynte'. | |
| (Morris) D'wedwch i mi, ddar'u chi sylwi bod yna rywbeth yn rhyfedd yn Gladys? | |
| (1, 0) 465 | Gynna', pan oedd hi yma, ydych chi'n ei feddwl? |
| (Morris) Ie, yn ei hymddygiad ata' i. | |
| (1, 0) 469 | Wel, rhaid cyfadde', fedrai dyn ddim llai na sylwi bod eich gwraig... hm... |
| (Morris) Wel? | |
| (Morris) Wel? | |
| (1, 0) 471 | Nad ydy'r wraig ddim yn rhyw hoff iawn o Miss Parry. |
| (Morris) Ai dyna'r cwbwl? | |
| (Morris) Rydw i wedi sylwi ar hynny fy hun. | |
| (1, 0) 474 | A rhaid i mi dd'eud, 'dydy hynny'n synnu dim arna' i. |
| (Morris) Be'? | |
| (Morris) Be'? | |
| (1, 0) 476 | Nad ydy hi'n hollol fodlon eich bod chi'n gweld cymaint ar ddynes arall drwy'r dydd a phob dydd. |
| (Morris) Nâc ydy siŵr. | |
| (Morris) Ond mae unrhyw newid yn amhosib. | |
| (1, 0) 480 | Allech chi ddim cyflogi clarc? |
| (1, 0) 481 | Dyn felly? |
| (Morris) Rhywun rywun, fasai'n ei gynnig ei hun. | |
| (Morris) Ddim diolch; wnâi hynny byth 'mo'r tro i mi. | |
| (1, 0) 484 | Ond os ydy'ch gwraig...? |
| (1, 0) 485 | Meddyliwch am funud am y gwendid mae hi ynddo fo. |
| (1, 0) 486 | Beth pe byddai hyn oll yn ormod iddi hi? |
| (Morris) Wel, bron na dd'wedwn i, 'does 'mo'r help. | |
| (Morris) Fedrai neb arall gymryd ei lle hi. | |
| (1, 0) 490 | Neb arall? |
| (Morris) {Yn gwta.} | |
| (1, 0) 494 | Yn awr, gwrandewch arna' i Mr Morris annwyl. |
| (1, 0) 495 | Ga' i ofyn cwestiwn i chi, rhyngon ni'n dau yn unig? |
| (Morris) Ar bob cyfri'. | |
| (Morris) Ar bob cyfri'. | |
| (1, 0) 497 | Mae gan ferched, ydych chi'n gweld, ryw reddfa' sensitif eithriadol ynglŷn â rhai petha'. |
| (Morris) Oes wir. | |
| (Morris) Does dim gronyn o amheuaeth ynghylch hynny... ond... | |
| (1, 0) 500 | D'wedwch wrtha i rŵan, os na all eich gwraig ddiodde'r Gwyneth Parry 'ma. |
| (Morris) Ie. | |
| (Morris) Be' wedyn? | |
| (1, 0) 503 | Oes ganddi hi ddim, oes ganddi hi ddim,... wel... y mymryn lleia' o reswm dros y drwglecio greddfol yma? |
| (Morris) {Yn edrych arno a chodi.} | |
| (Morris) Oho! | |
| (1, 0) 506 | Rŵan peidiwch â digio... ond oes 'na ddim? |
| (Morris) {Yn gwta a phendant.} | |
| (Morris) Nâc oes. | |
| (1, 0) 509 | Dim math o reswm? |
| (Morris) Dim byd ond ei natur ddrwgdybus hi ei hun. | |
| (Morris) Dim byd ond ei natur ddrwgdybus hi ei hun. | |
| (1, 0) 511 | Rydw i'n gwybod i chi fod efo llawer o ferched yn eich oes. |
| (Morris) Do mi fûm i. | |
| (Morris) Do mi fûm i. | |
| (1, 0) 513 | A rhai ohonyn nhw wedi mynd â'ch bryd, hefyd? |
| (Morris) O do, 'nâ' i ddim gwadu. | |
| (Morris) O do, 'nâ' i ddim gwadu. | |
| (1, 0) 515 | Ond ynglŷn â Miss Parry. |
| (1, 0) 516 | Does dim byd felly yn ei hachos hi? |
| (Morris) Na, dim o gwbwl o'm hochor i. | |
| (Morris) Na, dim o gwbwl o'm hochor i. | |
| (1, 0) 518 | Ond o'i hochor hi? |
| (Morris) Dydw i ddim yn meddwl bod gennych chi hawl i ofyn y cwestiwn yna, Doctor. | |
| (Morris) Dydw i ddim yn meddwl bod gennych chi hawl i ofyn y cwestiwn yna, Doctor. | |
| (1, 0) 520 | Am yr hyn a elwir yn sythwelediad neu reddf eich gwraig yr oedden ni'n sôn, mi gofiwch chi. |
| (Morris) Digon gwir. | |
| (Morris) A chyn belled â hynny... {gostwng ei lais} mewn ffordd... dydy Gladys ddim ymhell iawn o'i lle efo'i greddf fel rydych chi'n galw'r peth. | |
| (1, 0) 523 | Aha. |
| (1, 0) 524 | Dyna ni! |
| (Morris) {Eistedd i lawr.} | |
| (Morris) Dr Hughes rydw i am dd'eud stori ryfedd wrthych chi os leciwch chi wrando ami hi. | |
| (1, 0) 527 | Mi fydda' i'n hoffi gwrando ar straeon rhyfedd. |
| (Morris) O'r gora' ynte'. | |
| (Morris) Rydych chi'n cofio, mae'n siŵr, i mi gymryd Owen Meredith a'i fab i weithio i mi wedi i fusnes yr hen frawd fynd i'r gwellt. | |
| (1, 0) 530 | Ydw rydw i'n cofio rhywbeth am hynny. |
| (Morris) Mae'r ddau yma, mewn gwirionedd, yn ddynion clyfar. | |
| (1, 0) 536 | Ie, on'd ydy o'n hen arferiad cas, yr hen awydd priodi 'ma? |
| (Morris) Yn hollol. | |
| (Morris) Mae o'n dda ofnadwy efo mathemateg, clandro straen pwysa' ac ati. | |
| (1, 0) 541 | Ie, mae hynny'n bwysig iawn, mae'n sicir. |
| (Morris) Yn bendant. | |
| (Morris) 'Doedd wiw sôn am ddim arall. | |
| (1, 0) 545 | Ond mae o wedi aros efo chi er hynny. |
| (Morris) Ydy. | |
| (Morris) A phan welais i gymaint yr oedd y ddau wedi gwirioni am ei gilydd, mi drawodd arna' i; petawn i ddim ond yn medru ei chael hi i'r swyddfa yma, yna efallai y b'asai Elwyn yn aros hefyd. | |
| (1, 0) 551 | Syniad campus. |
| (Morris) Ie, ond ar y pryd, ddwedais i ddim gair o'r hyn oedd ar fy meddwl i. | |
| (Morris) Wedyn mi aeth. | |
| (1, 0) 556 | O, ac wedi hynny? |
| (Morris) Wel, ynte', y diwrnod wedyn, yn hwyr gyda'r nos wedi i'r hen Feredith ac Elwyn fynd adre dyma hi yma'r eilwaith gan ymddwyn fel petawn i wedi g'neud rhyw drefniant efo hi. | |
| (Morris) Wel, ynte', y diwrnod wedyn, yn hwyr gyda'r nos wedi i'r hen Feredith ac Elwyn fynd adre dyma hi yma'r eilwaith gan ymddwyn fel petawn i wedi g'neud rhyw drefniant efo hi. | |
| (1, 0) 558 | Trefniant, ynghylch be'? |
| (Morris) Ynghylch yr union beth yr oeddwn i wedi bod yn meddwl amdano fo. | |
| (Morris) Ond 'doeddwn i ddim wedi sôn gair am y peth. | |
| (1, 0) 561 | Roedd hynny'n od iawn. |
| (Morris) Oedd. | |
| (Morris) A wedyn roedd hi eisio gwybod beth oedd hi i'w 'neud yma, a fyddai hi'n iawn iddi hi ddechra'r bore wedyn ac ati. | |
| (1, 0) 565 | Ydych chi ddim yn meddwl mai er mwyn bod efo'i chariad y gwnaeth hi hynny? |
| (Morris) Dyna ddaeth i'm meddwl inna' i gychwyn. | |
| (Morris) Roedd hi i'w gweld yn llithro i ffwrdd yn llwyr oddi wrtho fo unwaith y daeth hi yma ata' i. | |
| (1, 0) 569 | Mi lithrodd hi tuag atoch chi ynte'. |
| (Morris) Do'n gyfangwbwl. | |
| (Morris) Be' 'ddyliech chi o hyn 'na? | |
| (1, 0) 574 | Hm. |
| (1, 0) 575 | 'Dydy hynny ddim yn anodd iawn ei egluro. |
| (Morris) Ond be' am y peth arall? | |
| (Morris) Fedrwch chi egluro hyn 'na Doctor Hughes? | |
| (1, 0) 579 | Na, cheisia' i ddim g'neud hynny. |
| (Morris) Roeddwn i'n siŵr na 'naech chi ddim; dyna pam yr ydw i wedi bod yn anfodlon siarad am y peth o'r blaen. | |
| (Morris) Achos os rhed hi i ffwrdd yna bydd Elwyn yn mynd hefyd. | |
| (1, 0) 587 | Dydych chi ddim wedi d'eud y stori'n iawn wrth eich gwraig? |
| (Morris) Naddo. | |
| (Morris) Naddo. | |
| (1, 0) 589 | Pam ar y ddaear na newch chi ynte'? |
| (Morris) Oherwydd 'mod i fel petawn i'n cael rhyw bleser wrth adael i Gladys 'neud cam efo mi. | |
| (Morris) Oherwydd 'mod i fel petawn i'n cael rhyw bleser wrth adael i Gladys 'neud cam efo mi. | |
| (1, 0) 591 | 'Wn i yn y byd be' ydych chi'n ei feddwl. |
| (Morris) Mae o fel talu'n ôl rhyw gyfran fach, g'neud iawn am ryw ddyled ofnadwy o fawr. | |
| (Morris) Mae o fel talu'n ôl rhyw gyfran fach, g'neud iawn am ryw ddyled ofnadwy o fawr. | |
| (1, 0) 593 | I'ch gwraig? |
| (Morris) Ie. | |
| (Morris) Mae rhywun yn cael ei wynt ato am ysbaid, ydych chi'n gweld? | |
| (1, 0) 597 | Nâc ydw. |
| (1, 0) 598 | Y nefoedd a ŵyr. |
| (1, 0) 599 | Dydw i ddim yn gweld o gwbwl... |
| (Morris) {Yn rhoi'r gorau i'r testun a chodi eto.} | |
| (1, 0) 607 | Eich tynnu chi allan? |
| (1, 0) 608 | Unwaith eto rydw i yn y niwl Mr Morris. |
| (Morris) Dowch. | |
| (Morris) Allan â hi, achos rydw i'n ei gweld hi fel haul, wyddoch chi. | |
| (1, 0) 611 | Be' ydych chi'n ei weld? |
| (Morris) {Yn araf mewn llais isel.} | |
| (Morris) Eich bod chi wedi bod yn cadw llygad arna' i'n slei. | |
| (1, 0) 614 | Fy mod i? |
| (1, 0) 615 | A pham ar y ddaear y g'nawn i hynny? |
| (Morris) Am eich bod chi'n meddwl 'mod i... | |
| (Morris) Wel twt, dam, rydych chi'n meddwl yr un peth â Gladys amdana' i. | |
| (1, 0) 619 | A be' mae hi'n ei feddwl amdanoch chi? |
| (Morris) {Wedi ei adfeddiannu ei hun.} | |
| (Morris) Mae hi wedi dechra' meddwl 'mod i'n, 'mod i'n... sâl. | |
| (1, 0) 622 | Yn sâl? |
| (1, 0) 623 | Chi? |
| (1, 0) 624 | Ddar'u hi erioed gymaint ag awgrymu'r fath beth wrtha i. |
| (1, 0) 625 | Be' all fod o'i le arnoch chi, gyfaill annwyl? |
| (Morris) {Gan blygu dros gefn y gadair a sibrwd.} | |
| (1, 0) 630 | O, chwarae teg Isaac Morris annwyl... |
| (Morris) Ydy ar fy ngwir. | |
| (1, 0) 637 | Isaac Morris, wnes i erioed ddychmygu'r fath beth. |
| (Morris) {Gyda gwên i ddangos nad yw'n coelio.} | |
| (Morris) O ddifri? | |
| (1, 0) 641 | Naddo erioed. |
| (1, 0) 642 | A 'naeth eich gwraig ddim chwaith rydw i'n berffaith siŵr. |
| (1, 0) 643 | Mi awn ar fy llw. |
| (Morris) Chynghorwn i mohonoch chi i 'neud hynny. | |
| (Morris) Ydych chi'n gweld, efallai nad ydy hi ymhell iawn o'i lle yn meddwl peth felly. | |
| (1, 0) 646 | Dowch rŵan. |
| (1, 0) 647 | Mae'n rhaid i mi dd'eud... |
| (Morris) {Ar ei draws gan chwifìo'i law.} | |
| (Morris) Ond edrychwch yma rŵan Doctor; hm... | |
| (1, 0) 653 | Wel? |
| (Morris) Gan nad ydych chi'n meddwl 'mod i'n sâl nâc o 'ngho nâc wedi d'rysu ac yn y blaen... | |
| (Morris) Gan nad ydych chi'n meddwl 'mod i'n sâl nâc o 'ngho nâc wedi d'rysu ac yn y blaen... | |
| (1, 0) 655 | Be' wedyn? |
| (Morris) Rydych chi'n cario'r syniad 'mod i'n ddyn hapus ryfeddol debyg geni? | |
| (Morris) Rydych chi'n cario'r syniad 'mod i'n ddyn hapus ryfeddol debyg geni? | |
| (1, 0) 657 | Nid camsyniad ydy hynny siŵr? |
| (Morris) {Yn chwerthin.} | |
| (Morris) Mae gen i le mawr i fod yn ddiolchgar. | |
| (1, 0) 663 | Yn hollol. |
| (1, 0) 664 | I bob golwg rydych chi wedi bod yn ffodus tu hwnt, rhaid i mi dd'eud. |
| (Morris) {Gan guddio gwên brudd.} | |
| (Morris) 'Does gen i ddim lle i gwyno am hynny. | |
| (1, 0) 668 | Yn y lle cynta' mi losgwyd yr hen hongo o dŷ mawr yna oedd gennych chi. |
| (1, 0) 669 | Roedd hynny'n siŵr o fod yn ddigwyddiad lwcus iawn i chi. |
| (Morris) Cartre' teulu Gladys oedd o er hynny, cofiwch. | |
| (Morris) Cartre' teulu Gladys oedd o er hynny, cofiwch. | |
| (1, 0) 671 | Roedd o'n loes mawr iddi hi, siŵr o fod. |
| (Morris) 'Dydy hi byth wedi dod drosto fo, ers deuddeng mlynedd neu dair ar ddeg. | |
| (Morris) 'Dydy hi byth wedi dod drosto fo, ers deuddeng mlynedd neu dair ar ddeg. | |
| (1, 0) 673 | Ie ond mae'n rhaid mai'r hyn a ddigwyddodd wedyn roddodd yr ergyd fwya' iddi hi. |
| (Morris) Y ddau beth efo'i gilydd. | |
| (Morris) Y ddau beth efo'i gilydd. | |
| (1, 0) 675 | Ond o'r adfeilion hynny y dar'u chi godi. |
| (1, 0) 676 | Mi ddechreusoch chi yn hogyn tlawd mewn pentref gwledig ond erbyn heddiw chi ydy prif adeiladwr y lle yma. |
| (1, 0) 677 | Ydy wir, mae ffawd wedi bod o'ch plaid chi, yn ddi-os. |
| (Morris) {Yn edrych yn amheus arno.} | |
| (Morris) Ydy, ond dyna'r union beth sy'n peri cymaint o ofn i mi. | |
| (1, 0) 680 | Ofn? |
| (1, 0) 681 | Am fod ffawd o'ch plaid chi? |
| (Morris) Mae'n ddychryn i mi, yn ddychryn i mi bob awr o'r dydd. | |
| (Morris) Achos, yn hwyr neu'n hwyrach mi fydd fy lwc i'n troi, welwch chi. | |
| (1, 0) 684 | Twt lol. |
| (1, 0) 685 | Be' allai beri i'ch lwc chi droi? |
| (Morris) {Yn gryf a sicr.} | |
| (Morris) Y genhedlaeth newydd! | |
| (1, 0) 688 | Y genhedlaeth newydd, twt. |
| (1, 0) 689 | 'Dydych chi ddim yn mynd i lawr yr allt eisoes gobeithio. |
| (1, 0) 690 | Na, mae eich safle chi yma yn gadarnach nag y bu hi erioed, siŵr o fod. |
| (Morris) Bydd fy lwc yn troi. | |
| (1, 0) 698 | Wel diar annwyl, os dôn nhw? |
| (Morris) Pan ddôn nhw, dyna ddiwedd Isaac Ryan Morris, yr adeiladwr wedyn. | |
| (Morris) Glywsoch chi ddim byd? | |
| (1, 0) 703 | Mae rhywun yn curo. |
| (Morris) {Yn uchel.} | |
| (1, 0) 720 | Ond rydw i'n eich cofio chi, 'ngeneth annwyl i. |
| (Helen) {Yn falch.} | |
| (Helen) O, chi oedd yn... | |
| (1, 0) 723 | Ie, wrth gwrs. |
| (1, 0) 725 | Mi ddar'u ni gyfarfod mewn gwesty yn y mynyddoedd yr ha' d'waetha'. |
| (1, 0) 726 | Be' ddaeth o'r merched eraill? |
| (Helen) O, mi aethon nhw draw tua'r gorllewin. | |
| (Helen) O, mi aethon nhw draw tua'r gorllewin. | |
| (1, 0) 728 | Roedden nhw'n ddig braidd ein bod ni'n cael cymaint o hwyl gyda'r nosa'... |
| (Helen) Oedden, 'dw i'n meddwl. | |
| (1, 0) 731 | A 'does dim gwadu na ddar'u chi fflyrtio dipyn bach efo ni. |
| (Helen) Wel, roedd hynny'n fwy o hwyl nag eiste' yno'n yfed te efo'r hen wragedd rheini. | |
| (1, 0) 734 | Cytuno'n hollol. |
| (Morris) Heno y daethoch chi i'r dre 'ma? | |
| (Helen) Ie, newydd gyrraedd. | |
| (1, 0) 737 | Ar eich pen eich hun bach, Miss O'Reilly? |
| (Helen) Siwr iawn. | |
| (Helen) Roeddwn i'n un deg tair. | |
| (1, 0) 756 | Dyma'r tro cynta' i chi ddod i'r dre', Miss O'Reilly? |
| (Helen) Yep. | |
| (Morris) Rŵan mi a' i i dd'eud wrth fy ngwraig. | |
| (1, 0) 781 | Yn y cyfamser mi a' 'inna' i weld un o'r cleifion. |
| (Morris) le, dyna chi. | |
| (1, 0) 785 | O mi 'na' i hynny gellwch fod yn berffaith siŵr. |
| (1, 0) 787 | Mae'r hyn oeddech chi'n ei broffwydo wedi dod yn wir Mr Morris. |
| (Morris) Sut felly? | |
| (Morris) Sut felly? | |
| (1, 0) 789 | Mae'r to ifanc wedi dod i guro ar eich drws chi. |
| (Morris) {Yn siriol.} | |
| (Morris) Ond mewn ffordd wahanol iawn i'r un oedd gen i mewn golwg. | |
| (1, 0) 793 | Ie, gwahanol iawn. |
| (1, 0) 794 | Does dim gwadu hynny. |
| (Morris) Gladys, dowch yma os gwelwch chi'n dda. | |
| (Morris) Yr ifanc yn amddiffynfa yn erbyn yr ifanc... | |
| (1, 0) 1261 | Helo. |
| (1, 0) 1262 | Ydych chi a Miss O'Reilly yma o hyd? |
| (Morris) Rydyn ni wedi bod yn siarad am bob math o betha'. | |
| (Helen) Hen a newydd. | |
| (1, 0) 1265 | Ydych chi wir? |
| (Helen) Sôn am hwyl. | |
| (3, 0) 2600 | Ydych chi'n eistedd allan, a hwyrach dal annwyd Mrs Morris? |
| (Mrs Morris) Mae hi reit braf a chynnes yma heddiw. | |
| (Mrs Morris) Mae hi reit braf a chynnes yma heddiw. | |
| (3, 0) 2602 | Ydy mae hi. |
| (3, 0) 2603 | Ond ydy popeth yn iawn yma? |
| (3, 0) 2604 | Mi ges i neges ffôn gennych chi. |
| (Mrs Morris) {Yn codi.} | |
| (Mrs Morris) Mae na rywbeth mae'n rhaid i mi siarad amdano efo chi. | |
| (3, 0) 2607 | O'r gora'. |
| (3, 0) 2608 | Fyddai'n well i ni fynd i'r tŷ? |
| (3, 0) 2610 | Yn eich dillad mynydda o hyd, Miss O'Reilly? |
| (Helen) {Yn codi ac ateb yn llon. Yn dangos ei hesgidiau a'i sanau, a chwiban a fflachlamp hwyrach.} | |
| (Helen) Mi arhoswn ni'n dau'n ddistaw yn y gwaelod a sbïo, Doctor. | |
| (3, 0) 2616 | Be gawn ni weld? |
| (Mrs Morris) {Yn ddistaw ac wedi dychryn; wrth Helen.} | |
| (Mrs Morris) Ga' i air efo chi? | |
| (3, 0) 2630 | Amdano fo? |
| (Mrs Morris) Ie wir. | |
| (Mrs Morris) Ac wrth gysylltu hynny ag ambell i beth a glywais i o'i hun yn ei dd'eud... | |
| (3, 0) 3028 | Ydy o'n dod yn o fuan? |
| (Mrs Morris) Ydy, rydw i'n meddwl, rydw i wedi gyrru amdano fo beth bynnag. | |
| (3, 0) 3031 | F'asai hi ddim gwell i chi fynd i'r tŷ, Mrs Morris? |
| (Mrs Morris) Na, na. | |
| (Mrs Morris) Mi arhosa' i allan yma i ddisgwyl Isaac. | |
| (3, 0) 3034 | Ond mae rhyw ferched wedi galw i'ch gweld chi. |
| (Mrs Morris) O'r annwyl, rhywbeth arall, a'r funud yma o bob adeg. | |
| (Mrs Morris) O'r annwyl, rhywbeth arall, a'r funud yma o bob adeg. | |
| (3, 0) 3036 | Mae nhw'n d'eud eu bod nhw'n awyddus i weld y seremoni. |
| (Mrs Morris) O! wel, rhaid imi fynd atyn' nhw wedi'r cwbwl debyg. | |
| (Mrs Morris) Mae'n ddyletswydd arna' i. | |
| (3, 0) 3039 | Fedrwch chi ddim gofyn iddyn' nhw alw eto? |
| (Mrs Morris) Na. | |
| (Mrs Morris) Ond da chi, arhoswch chi allan yma i'w dderbyn o pan ddaw o. | |
| (3, 0) 3044 | A thrio'i ddal o i siarad cyhyd ag y medrwn ni. |
| (Mrs Morris) Ia, os gwelwch chi'n dda. | |
| (3, 0) 3051 | Dyma fo, mae o'n dod. |
| (Mrs Morris) A minna'n gorfod mynd i'r tŷ. | |
| (3, 0) 3054 | Peidiwch â sôn wrtho fo 'mod i yma. |
| (Helen) Na' i ddim. | |
| (3, 0) 3256 | Mi welwch mod i'n iawn. |
| (3, 0) 3257 | Mae o wedi rhoi o'r neilltu'r syniad gwirion. |
| (Mrs Morris) O'r fath ryddhad. | |
| (3, 0) 3264 | Ie wir, Miss O'Reilly. |
| (3, 0) 3265 | Rydych chi'n gwybod sut i ddal eich gafael yn rhywun pan rowch chi'ch meddwl ar hynny. |
| (Elwyn) {Yn mygu chwerthiniad a sibrwd yn isel.} | |
| (3, 0) 3298 | Edrychwch. |
| (3, 0) 3299 | Dacw'r fforman yn dechra' dringo'r ysgol. |
| (Mrs Morris) A mae o'n cario'r |wreath| hefyd. | |
| (Mrs Morris) Isaac! | |
| (3, 0) 3312 | Hsht, hsht. |
| (3, 0) 3313 | Peidiwch â gweiddi arno fo. |
| (Mrs Morris) {Wedi colli arni ei hun.} | |
| (3, 0) 3318 | Peidiwch â symud. |
| (3, 0) 3319 | Yr un ohonoch chi. |
| (3, 0) 3320 | Dim smic. |
| (Helen) {Heb symud ond yn dilyn Morris â'i llygaid.} | |
| (Mrs Morris) Fedra' i ddim diodde' edrych! | |
| (3, 0) 3333 | Gwell i chi beidio edrych. |
| (Helen) Dyna i chi. | |
| (Helen) Reit yn y top! | |
| (3, 0) 3337 | Neb i symud. |
| (3, 0) 3338 | Ydych chi'n clywed? |
| (Helen) {Yn dawel orfoleddus.} | |
| (Helen) Hwre i'r adeiladwr! | |
| (3, 0) 3371 | Peidiwch. |
| (3, 0) 3372 | Yn enw'r nefoedd, peidiwch... |