Llwybrau Anrhydedd (1917)

David Derwenydd Morgan

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.


Testun agoriadol Llwybrau Anrhydedd



Cymeriadau


John Jones, amaethwr tlawd ac annysgedig ddaeth i gyfoeth lawer trwy ei gael ar ol ei frawd, o'r America.
Morris, hen ysgolfeistr ac ysgrifennydd preifat i John Jones.
Ann, morwyn John Jones.
Wil Sais Bach, gwas John Jones.
Postman


Perfformiadau

Drama Newydd.—Nos Lun y Pasg, yn yr Hen Gapel Cynulleidfaol, Pencader, rhoddwyd perfformiad o'r ddrama Llwybrau Anrhydedd gan gwmni lleol. Yr oedd yr adeilad wedi ei orlenwi ar yr amgylchiad, a chafodd y gynulleìdfa luosog wledd a hir gofir. Drama newydd spon ydyw Llwybrau Anrhydedd o waith y bardd a'r nofelydd D. Derwenydd Morgan. Fferyllydd wrth ei alwedigaeth ydyw'r awdwr, a cheidw faelfa ym Mhencader. Heblaw bod yn fferyllydd, y mae hefyd yn bregethwr gwir boblogaidd gyda'n Henwad. Dyma'r tro cyntaf i Derwenydd anturio i'r byd dramodol, ond y mae ei enw yn hysbys tbrwy Gymru fel bardd a nofelydd. Dyma'r perfformiad cyntaf o'r ddrama, a deallaf y cyhoeddir hi yn fuan. Cymerwyd y gadair gan Mr. J. D. Evans, Tremle. Rhoddodd y perfformwyr a phawb eu gwaith yn rhad, a thrwy hynny gwnawd swm sylweddol o arian tuag at gynorthwyo y milwyr lleol sydd wedi ymuno â'r fyddin.

Y Tyst. 16 Mai 1917.