Ⓗ 1928 Idwal Jones
Mae angen caniatâd cyn perfformio neu recordio unrhyw ran o’r ddrama.


Testun agoriadol Yr Anfarwol Ifan Harris



Cymeriadau


Ifan Harris, mab yr anfarwol Ifan Harris. Cyfeirir ato drwy'r ddrama fel "Ifan".
Mrs Harris-Jones, gwraig David Henry Jones, a gweddw i Ifan Harris.
David Henry Jones, llys-dad i"Ifan".
Bertie, mab David Henry Jones a Mrs Harris-Jones.
Mr Inskip
Ann, y forwyn.
Gwilym Reynolds, Walter Bevan, Tony Richards, Mrs Eurallt Morris, ac eraill o wahoddedigion y dadorchuddio.


Manylion

Act I: Ystafell yn nhy Ifan Harris. Nos Lun.

Act II: Yr un ystafell, Nos Fawrth.

Act III: Yr un ystafell. Prynhawn dydd Mercher. Daw'r Llen i lawr am ennyd tua chanol yr Act hon er mwyn awgrymu ysbaid o hanner awr.

Yr un ydyw'r olygfa drwy'r chwarae ─ ystafell yn nhy Ifan Harries. Dodrefner yr ystafell fel ag i awgrymu "ystafell oreu" lled wych. Awgrymer ychydig bach o ddiffyg chwaeth yn y dodrefnu, i.e. ychydig bach o duedd gwneuthur arddangosfa o'r lle. Eithr y mae golwg lled hen eg afluniaidd ar y bwrdd, y desg, ac un neu ddwy o'r cadeiriau. Y mae drws yn y mur ar yr ochr chwith yn arwain i mewn i'r ty. Y mae drws hefyd yn y mur gyferbyn a'r edrychwyr, ychydig i'r dde, a phan agorir ef gellir gweled y porth sydd yn arwain (yn ol awgrymiadau'r ddeialog) i ddrws yr heol. Y mae'r porth hwn hefyd yn arwain i mewn i'r ty. Y mae drws bach hefyd yn y mur ar yr ochr dde yn arwain i mewn i ystafell a gyfeirir ati fel y "rwm fach".

Tua chanol y mur, gyferbyn a'r edrychwyr, y mae darn mawr o liain gwyn yn orchudd ar agen neu gell fechan yn y mur. O fewn yr agen yma saif cof-golofn o ben ac ysgwyddau yr anfarwol Ifan Harris.