Adar o'r Unlliw (1928)

John Oswald Francis

Allan o hawlfraint. Y fersiwn yma Ⓗ 2021 Steffan Donnelly, CC-BY-NC-SA 4.0.


Testun llawn Adar o'r Unlliw



Cymeriadau


Twm Tincer
Dici Bach Dwl
Jenkins y Cipar
Esgob Canolbarth Cymru


NODIAD GAN YR AWDUR

Cyflwynir y gomedi fach hon sydd eisoes wedi ei chwarae droeon o dan deitl arall o'r llaw ysgrif. at wasanaeth Cwmnioedd Drama pentrefi Cymru. Er mwyn ei chwarae 'n effeithiol, rhaid wrth lwyfan a golygfa briodol. Digwydd yr amgylchiad yn yr awyr agored yn hwyr y nos. Felly mae'n rhaid i'r cyfarwyddwr wrthod yr olygfa hen gynefin sy'n darlunio cegin Gymreig yng ngoleuni tanbaid hanner dydd.

Gyda thipyn o ddyfais, gellir trefnu golygfa addas mewn unrhyw neuadd neu ystafell lle bynnag y bo. Os nad oes ar gael "tree-sets" i'w gosod yng nghefn y llwyfan, gellir awgrymu coed yn ddigon effeithiol trwy ddefnyddio llenni tywyll wedi eu trefnu a'u sicrhau ar ffurf prennau yn ymledu yn ganghennau wrth esgyn i fyny. Gwneir y clawdd trwy daenu "baize" gwyrdd neu ryw ddefnydd arall dros feinciau isel. Mae'n hawdd gwneud y tân trwy lapio papur du a choch a melyn am ddau electric bulb; neu, os nad oes goleuni trydan i'w gael, am lamp neu lusern, ond gofaler rhag iddo gyffwrdd a'r fflam.

Er cael y goleuni priodol, rhaid i oleu'r tân ddatguddio canol y llwyfan ac ymdolli yng ngoleu'r lleuad a'r tywyllwch yn y cefndir. Peth anodd ydyw cael effeithiau goleuadol anghyffredin ar lwyfannau bach sydd heb eu cyfaddasu at waith o'r fath; ond yn y chwarae hwn, trefner dwy lamp modur fel ag i daflu eu pelydrau o'r ochrau. Gellir cael goleuni tyner a chynnes drwy osod darn teneu o wydr o liw'r ambr dros y lampau.

I gael goleu'r lleuad gosoder nifer o lampau glas ar astell o bobtu i'r llwyfan. Pan mae'r lleuad yn cilio tu cefn i'r cymylau, ni ddylid diffodd y lampau yn sydyn. Nid yw Natur yn gweithio felly. Gwell fyddai symud y lampau yn ol yn raddol er mwyn pylu'r goleu cyn ei ddiffodd.

Gellir benthyca'r samwn am bris rhesymol gan Messrs C. H. FOX, Ltd., Theatrical Costumiers, 27, Wellington Street, London, W.C.2.

Mae'n hawdd cael brithyllod neu bysgod tebig, ond yn niffyg gwell, swna pysgod "celluloid" wedi eu paentio y tro.

Gwneir swn y gwahanol greaduriaid a glywir yn y chwarae gan gyfaill un o'r cwmni sydd yn berchen dawn dynwared.

J.O.F.