Ciw-restr

Y Sosban

Llinellau gan Clerc (Cyfanswm: 126)

 
(1, 0) 14 Mi fyddwch chi'n sefyll yn rh'wla arall os na fyddwch chi'n byhafio.
(1, 0) 15 Rwan, gawn ni dipyn o drefn.
 
(1, 0) 17 Byddwch ddistaw neu fe fyddwch chi'n gorfod gadael.
 
(1, 0) 19 'Does gennoch chi ddim hawl i godi trwbwl.
 
(1, 0) 21 Tŷ cyfiawnder ydi llys barn, nid syrcas i bobol fel chi.
(1, 0) 22 Does gennoch chi'r bobol ifanc 'ma ddim parch at ddim byd.
 
(1, 0) 24 Mi rwyt ti'n dipyn o lanc yn 'dwyt? ─
(1, 0) 25 Wel, gwranda di ar hyn, o leia' mi roeddan ni'n dangos parch at rywun arall...
 
(1, 0) 30 Trefn!
(1, 0) 31 Dipyn o drefn yn y llys os gwelwch yn dda.
(1, 0) 32 Sefwch...
 
(1, 0) 34 Sefwch i'r fainc...
 
(1, 0) 37 Gawn ni DREFN yn y lle 'ma...
 
(1, 0) 43 Barchus Ynadon?
 
(1, 0) 45 Wnaiff y diffynydd sefyll?
 
(1, 0) 52 Tawelwch!
(1, 0) 53 Pa achos sy'n dod nesa' offisar?
 
(1, 0) 59 Os bydd 'na fwy o drwbwl, mi fydda i'n clirio'r cyfleusterau cyhoeddus...
 
(1, 0) 61 Dewch a'r diffynydd i'r llys.
 
(1, 0) 66 Rhowch o i eistedd yn fanna wrth Ben Little, Offisar.
 
(1, 0) 71 Cyn cychwyn ar yr achos hwn mi garwn i chi, barchus ynadon, wrando ar dystiolaeth seicolegydd am gyflwr meddyliol y diffynnydd.
 
(1, 0) 73 Doctor?
 
(1, 0) 95 Mae hynny'n golygu na chaiff o bledio na thyngu llw, na gofyn nac ateb unrhyw gwestiwn na'i gael yn euog na chael ei gosbi chwaith.
(1, 0) 96 Mi fydd y cyfreithiwr Ben Little yn ymddangos ar ei ran.
 
(1, 0) 100 Cyhuddir Samuel Jones o ddwyn côt fawr ar y degfed o Awst y flwyddyn hon, côt o eiddo David Howells.
(1, 0) 101 P.C. Davies?
 
(1, 0) 104 Ben Little!
(1, 0) 105 Wnewch chi gadw eich cleiant dan reolaeth?
(1, 0) 106 Does ganddo fo ddim hawl i ddeud dim byd ─ mae hynny er ei les ei hun.
 
(1, 0) 108 P.C. Davies?
 
(1, 0) 116 Gawn ni fynd yn ôl at yr achos dan sylw, P.C. Davies?
 
(1, 0) 120 Beth yn union rwan cwnstabl?
 
(1, 0) 129 Ai hon oedd y gôt?
 
(1, 0) 131 Ewch ymlaen.
 
(1, 0) 134 Mi roeddach chi'n ei nabod felly?
 
(1, 0) 139 Oedd o'n anystywallt y tro yma?
 
(1, 0) 142 'Lwyddoch chi i'w gael o i ddeud rhywbeth?
 
(1, 0) 144 Peidiwch â thorri ar draws o hyd.
 
(1, 0) 146 Dim byd?
 
(1, 0) 148 Am be'?
 
(1, 0) 150 Beth yn union 'rwan?
 
(1, 0) 152 A sut dywydd oedd hi?
 
(1, 0) 154 Dwi'n gweld...diddorol iawn.
 
(1, 0) 168 Brysiwch, brysiwch ─ mae hi'n dod.
(1, 0) 169 Hei, rho'r gadair na'n fanna yli.
 
(1, 0) 171 Na, tro hi rownd fel arall.
 
(1, 0) 173 ... Ia, dyna chi.
(1, 0) 174 Brysiwch rwan ─ i ffwrdd oddi wrthi ─ mae Annie Pi-Pi'n trwsus yn dod.
 
(1, 0) 186 O cê hogia, gadwch lonydd iddi am rwan i ni gael mynd ymlaen efo'r gêm.
(1, 0) 187 Cym on Annie ti'n oer, oer ar hyn o bryd...
 
(1, 0) 198 Ty'd o'na Annie, tria rhwla arall...
 
(1, 0) 203 Dal ati, Annie ─ mi rwyt ti bron â bod yno.
 
(1, 0) 211 Reit, tro pwy ydi hi rwan?
 
(1, 0) 218 O hist, hist!
(1, 0) 219 Mi wna i ddewis 'ta am ych bod chi mor anhrefnus.
 
(1, 0) 221 Fi 'di boss y gêm ─ mi wna i ddewis...
 
(1, 0) 223 Gadewch i mi weld rwan.
 
(1, 0) 226 Nage ddim.
 
(1, 0) 228 Hei, dwi'n gw'bod pwy fydd nesa' ─ sbiwch pwy sy'n fan'na!
 
(1, 0) 230 Sbiwch wir.
(1, 0) 231 Dowch yma.
 
(1, 0) 233 Sami-babi-mami!
(1, 0) 234 Wyt ti isho gem Sami?
(1, 0) 235 Wyt ti isho sgarff rownd dy lygaid?
 
(1, 0) 239 Pam?
(1, 0) 240 E?
(1, 0) 241 Be wyt ti'n mynd i'w wneud 'ta?
 
(1, 0) 250 Ho! mi wn i ─ dwi'n ei dallt hi rwan.
(1, 0) 251 Hen gena slei wyt ti ynte Sami?
(1, 0) 252 Sam slei...
 
(1, 0) 254 Wyddoch chi be mae |o| am wneud?
 
(1, 0) 256 Mae |o|... yn mynd i'r clastrwm... i lyfu Miss Robyts.
(1, 0) 257 Titsiars pet ─ dyna be ydi o.
(1, 0) 258 Titsiars pet ynte Sami?
 
(1, 0) 260 Dal bag i Miss Robyts, agor drws i Miss Robyts, rhoi llyfra allan i Miss Robyts, hel llyfra fewn i Miss Robyts, dod a bloda i Miss Robyts.
(1, 0) 261 Titsiars pet!
 
(1, 0) 267 Na, dwi'n gw'bod.
(1, 0) 268 Dwyt ti ddim yn pet siŵr iawn.
(1, 0) 269 A deud y gwir, dydi Miss Robyts ddim dy lecio dy di o gwbwl.
 
(1, 0) 276 Na, mae o'n llawar iawn gwaeth.
 
(1, 0) 278 Ia, fel hyn...
 
(1, 0) 280 Ow!
(1, 0) 281 Beth ar wyneb y ddaear ydi'r ogla 'ma?
(1, 0) 282 Ow!
(1, 0) 283 Pwy wnaeth yr ogla drwg 'ma?
 
(1, 0) 285 Ow, yr hen hogyn bach drwg.
(1, 0) 286 Samuel, dowch ata i'r funud hon.
(1, 0) 287 Dewch yma, Samuel Jones.
 
(1, 0) 289 Chi wnaeth yr hen ogla drwg ych-a-fi yna eto Samuel Jones?
 
(1, 0) 291 Atebwch fi!
 
(1, 0) 293 Gadewch i mi weld.
 
(1, 0) 295 Ow, dear me!
(1, 0) 296 YCH-A-FI!
(1, 0) 297 Yr hen fochyn bach budur, budur, budur.
 
(1, 0) 299 Samuel Jones, pam ych bod chi'n baeddu'ch trowsus o hyd ac o hyd ac o HYD!
(1, 0) 300 Does gennoch chi ddim ofn codi'ch llaw yn nagoes?
 
(1, 0) 303 Ac mi wyddoch chi lle mae'r tŷ bach?
 
(1, 0) 305 Wel, pam 'ta?
 
(1, 0) 307 Wir, dydi'r ddynas 'na ddim ffit i edrach ar ôl ci heb sôn am hogyn bach.
 
(1, 0) 309 Nain wir.
(1, 0) 310 Hen ddynas wyllt o'r coed fasa'n nes ati.
(1, 0) 311 Mi fydd yn rhaid i mi ei riportio hi a mynd a thi i'r cartra' lle cei di ofal go iawn.
 
(1, 0) 318 Ow, yr hen hogyn bach drwg ─ mi ddysga i di...
 
(1, 0) 320 (Gan droi at P.C. Davies)
(1, 0) 321 Wel?
 
(1, 0) 323 Dydi plant da ddim yn deud clwydda.
 
(1, 0) 325 Dim ond plant drwg sy'n gneud hynny.
(1, 0) 326 Dos i sefyll yn y gornal tra bydda i yn dysgu'r plant da i sgwennu.
(1, 0) 327 Dim ond plant da sy'n cael dysgu sgwennu a gneud syms.
(1, 0) 328 Plant da sy'n cael dysgu darllen.
(1, 0) 329 Plant da sy'n cael testimonial i gael job dda.
(1, 0) 330 Ond mae plant drwg yn mynd i drwbwl.
(1, 0) 331 Rwan dos i'r gornal...
 
(1, 0) 341 Ia, chwilia am y gadair Sami.
 
(1, 0) 343 Fan hyn yli ─ fan hyn Sami.
 
(1, 0) 352 Ha! ha!
(1, 0) 353 Dydi o ddim mor hawdd a hynny, Sami bach.
(1, 0) 354 Fan hyn mae hi yli.
 
(1, 0) 712 Trefn!
(1, 0) 713 Gawn ni drefn yn y llys.
 
(1, 0) 717 Cyfiawnder sydd yn y lle yma nid carnifal.
 
(1, 0) 719 Ewch 'mlaen efo'ch adroddiad, doctor.
 
(1, 0) 726 Wnewch chi gadw'ch cleiant dan reolaeth Ben Little ─ dydw i ddim eisiau dweud hynny eto.
 
(1, 0) 729 Daliwch ati, doctor.
 
(1, 0) 733 Barchus ynadon?
 
(1, 0) 755 Pa achos sy nesa'?