| (1, 2) 31 | Mor amheus â dau nofiwr blin wedi ymaflyd y naill yn y llall ac o'r herwydd yn tagu eu medr. |
| (1, 2) 32 | Y mae Macdonald ddidrugaredd, cymwys i fod yn wrthryfelwr fyth, am fod holl ddrygau natur arno'n heidio, yn cael digonedd o wŷr arfog o bob math o ynysoedd y Gorllewin, a Ffawd, gan wenu ar eì felltigedig waith, yn edrych hithau fel cyffoden bradwr. |
| (1, 2) 33 | Ond rhy wan yw'r cwbl. |
| (1, 2) 34 | Dyma Macbeth ddewr—a gwych yr haeddai ef yr enw hwnnw—yn herio Ffawd, ac â'i gleddyf, a hwnnw'n mygu gan waed, fel ffefryn dewrder ei hun, yn naddu ei lwybr trwodd a dyfod wyneb yn wyneb â'r cnaf. |
| (1, 2) 35 | Ac ni roes iddo nawdd na'i adael ychwaith, cyn ei agor o geg i geudod, a dodi ei ben ar frig ein muriau ni. |
| (1, 2) 37 | Ond, fel y bydd ystormydd dinistriol a tharanau arswydus yn torri o'r lle bo'r haul yn dechrau tywynnu, felly, o'r fan lle'r oedd cysur fel pe'n dyfod, dyna anghysur yn ymchŵyddo eto. |
| (1, 2) 38 | Dal di, Frenin Alban, dal ar hyn: Nid cynt y gorfu cyfiawnder ac arfau dewrder i'r cnafon hyn ymddiried yn eu sodlau nad dyma'r Arglwydd o Norwy, o weld y cyfle, yn dechrau rhuthr newydd ag arfau gloywon a rhagor o ddynion. |
| (1, 2) 40 | Do, fel y bydd adar to yn digalonni eryrod, neu ysgyfarnog yn digalonni llew. |
| (1, 2) 41 | A dywedyd y gwir, rhaid cydnabod eu bod fel magnelau wedi eu gorlwytho ag ergydion dwbl. |
| (1, 2) 42 | Felly, yr oeddynt yn dwbl ddyblu eu hergydion ar y gelyn; naill ai bod eu bryd ar ymdrochi mewn gwaed, neu ynteu beri cofio Golgotha arall—ni fedraf adrodd—'rwy'n gwanhau a'm clwyfau'n llefain am gynhorthwy. |