| (1, 1) 4 | Cyfwrdd eto, bryd y daw |
| (1, 1) 5 | Mewn taranau, mellt, neu law? |
| (1, 1) 9 | Ymha lannerch? |
| (1, 1) 12 | Dyfod 'r wyf, y Goetgath lwyd! |
| (1, 3) 60 | Pa le y buost ti, chwaer? |
| (1, 3) 63 | Gwraig morwr oedd, a'i glin yn llawn o gnau, |
| (1, 3) 64 | A chnôi, a chnôi, gofynnais "Dyro beth;" |
| (1, 3) 65 | "Dos ymaith, wrach!" medd hithau 'r faeden lwth. |
| (1, 3) 66 | I Aleppo'r aeth ei gŵr, yn feistr ar y Teigr: |
| (1, 3) 67 | Ond yno hwyliaf gyda hoel, |
| (1, 3) 68 | Ac yno, fel llygoden foel, |
| (1, 3) 69 | Mi wnaf, mi wnaf, ac mi wnaf. |
| (1, 3) 71 | 'Rwyt yn dda. |
| (1, 3) 73 | Gennyf fi mae'r llall fy hun, |
| (1, 3) 74 | Chwythant ar y pyrth i gyd, |
| (1, 3) 75 | Gwyddant bob rhyw barth o'r byd |
| (1, 3) 76 | Ar y cwmpas sydd. |
| (1, 3) 77 | Crined fydd â'r gweiryn rhos, |
| (1, 3) 78 | Ni ddaw cysgu ddydd na nos |
| (1, 3) 79 | Ar ei amrant i roi saib; |
| (1, 3) 80 | Dyn a roir fydd dan ei raib |
| (1, 3) 81 | Blin wythnosau, naw waith naw, |
| (1, 3) 82 | Nychu bydd yn brudd mewn braw; |
| (1, 3) 83 | Er nad aiff ei long i lawr, |
| (1, 3) 84 | Hyrddir gan y dymestl fawr, |
| (1, 3) 85 | Gwelwch beth sy gennyf fi. |
| (1, 3) 87 | Bawd y gŵr y boddwyd ef |
| (1, 3) 88 | Wrth ddychwelyd tua thref. |
| (1, 3) 115 | Henffych! |
| (1, 3) 118 | Llai na Macbeth, a mwy. |
| (1, 3) 121 | Banquo a Macbeth, henffych. |