| (1, 1) 8 | Pa bryd y down ni eto'n tair |
| (1, 1) 9 | Ai mewn taranau, mellt a glaw? |
| (1, 1) 13 | Ym mha lannerch? |
| (1, 1) 16 | Dyma fi, Lwyd Gath y Coed! |
| (1, 3) 66 | Palo y buost ti, chwaer? |
| (1, 3) 69 | Gwraig morwr oedd a'i glin yn llawn o gnau, |
| (1, 3) 70 | A hithau'n cnoi a chnoi, gofynnais "dyro beth;" |
| (1, 3) 71 | "Dos ymaith, wrâch," medd hithau'r faeden lwth. |
| (1, 3) 72 | I Aleppo'r aeth ei gŵr, yn feistr ar y Teigr; |
| (1, 3) 73 | Ond yno hwyliaf gyda hoel, |
| (1, 3) 74 | Ac wedyn, fel llygoden foel, |
| (1, 3) 75 | Mi wnâf, mi wnâf ac mi wnâf. |
| (1, 3) 77 | Dyna dda! |
| (1, 3) 79 | Gennyf i mae'r llall fy hun, |
| (1, 3) 80 | Chwythant ar y pyrth i gyd |
| (1, 3) 81 | Gwyddant bob rhyw borth o'r byd |
| (1, 3) 82 | Ar ei gwmpas oll y sydd. |
| (1, 3) 83 | Bydd ef mor grin â'r gweiryn rhos, |
| (1, 3) 84 | Ni ddaw cwsg na dydd na nos |
| (1, 3) 85 | Ar ei amrant i roi saib, |
| (1, 3) 86 | Dyn a roed fydd dan ei raib; |
| (1, 3) 87 | Blin wythnosau, naw gwaith naw, |
| (1, 3) 88 | Nychu bydd yn brudd mewn braw; |
| (1, 3) 89 | Er nad eith ei long i lawr, |
| (1, 3) 90 | Hyrddir gan y dymestl fawr, |
| (1, 3) 91 | Gwelwch beth sy gennyf i. |
| (1, 3) 93 | Bawd y gŵr y boddwyd ef |
| (1, 3) 94 | Wrth ddychwelyd tua thref. |
| (1, 3) 114 | Henffych, Macbeth! |
| (1, 3) 115 | Henffych, Bendefig Glamis! |
| (1, 3) 125 | Henffych! |
| (1, 3) 129 | Llai na Macbeth, a mwy. |
| (1, 3) 132 | Banquo a Macbeth, hanffoch well! |