| (1, 2) 152 | Yn bwyllog Arglwydd Grey! Ni cha un dyn |
| (1, 2) 153 | I chwareu'r ffyrnig gi, na'r heliwr chwaith, |
| (1, 2) 154 | Ac yn ysglyfaeth dewrddyn fel Glyndwr, |
| (1, 2) 155 | Tra bo gan Harri Mynwy law neu lais, |
| (1, 2) 156 | I godi i'w amddiffyn. |
| (1, 2) 160 | Fy Arglwydd Frenin! Pob dyledus barch |
| (1, 2) 161 | A dala'th fab i ti, ac i dy lys; |
| (1, 2) 162 | Ond ni wna parch i lys, nac arglwydd chwaith |
| (1, 2) 163 | Ddileu y ddyled enfawr arnaf sydd |
| (1, 2) 164 | I Owen o Glyndwr. |
| (1, 2) 166 | Pan ydoedd haul dy lwyddiant di fy nhad, |
| (1, 2) 167 | A'm llwyddiant i dan dywyll gwmwl erch; |
| (1, 2) 168 | Tydi yn Ffraingc, yn alltud o dy wlad; |
| (1, 2) 169 | A mi, a'm cefnder, Gloster, draw yn mhell, |
| (1, 2) 170 | Yn Nghastell Trim yn garcharorion, heb |
| (1, 2) 171 | Un cyfaill ini'n agos, nac un wên |
| (1, 2) 172 | O obaith ini'n codi o un man: |
| (1, 2) 173 | Ein rhwymau'n dyn, a'n bwyd yn hynod wael; |
| (1, 2) 174 | Ein rhyddid ini mynodd y Glyndwr, |
| (1, 2) 175 | A throsom ni yn feichiau aeth ei hun, |
| (1, 2) 176 | Ei dy gymerodd le y dywell gell, |
| (1, 2) 177 | A'i huliog fwrdd, ein gwrthwyneblyd fwyd. |
| (1, 2) 178 | Ei garedigrwydd nid annghofiaf byth. |
| (1, 2) 323 | Fy anwyl dad, er mwyn eich anwyl fab, |
| (1, 2) 324 | Gwnewch gofio 'i gymwynaswr! |