| (0, 3) 240 | Fy ngrasol dad, fy mrenin uchel, |
| (0, 3) 241 | fy nghydymdeithion rhyfel, |
| (0, 3) 242 | hebryngwch fy mrawd Antenor |
| (0, 3) 243 | at ei gydymaith Meneläws; |
| (0, 3) 244 | mae fe'n siarad yn debyg, |
| (0, 3) 245 | a'i ddull fel gŵr bonheddig |
| (0, 3) 246 | a fyddai wedi ei elïo |
| (0, 3) 247 | 'rhyd cledrau ei ddwylo. |
| (0, 3) 248 | Mae'r eli o gymhendod |
| (0, 3) 249 | yn sawrio ar ei dafod. |
| (0, 3) 250 | Nis gwêl ef mo'r niwed |
| (0, 3) 251 | er dal mewn hir gaethiwed |
| (0, 3) 252 | Fy modryb Hesion |
| (0, 3) 253 | sydd gystal merch â hithe. |
| (0, 3) 254 | Moeswch wneuthur ein meddwl, |
| (0, 3) 255 | na choeliwn iddo'n gwbwl, |
| (0, 3) 256 | sy'n dewinio y gwaetha |
| (0, 3) 257 | dros oes a chenedl Troea. |
| (0, 3) 258 | Glynwn yn ein gafael: |
| (0, 3) 259 | croeso wrth ffrotun rhyfel! |
| (0, 3) 349 | I'r gwirion na wnewch ddialedd |
| (0, 3) 350 | dros yr euog a'i gamwedd, |
| (0, 3) 351 | ac na fyddwch rhy greulon; |
| (0, 3) 352 | fe ddichon hon fod yn wirion. |
| (0, 3) 386 | Hector, fy annwyl frawd, |
| (0, 3) 387 | ymddiffynnwr gwiriondlawd, |
| (0, 3) 388 | Erfyn yr wy ich mawredd |
| (0, 3) 389 | ymddiffyn gwirionedd. |
| (0, 3) 390 | Ymddiffynwch i Gresyd, |
| (0, 3) 391 | i heinioed, a'i bywyd. |
| (0, 3) 407 | Rho fy einioes drosti |
| (0, 3) 408 | o bu yn hon un drygioni, |
| (0, 3) 409 | nac erioed yn arfer |
| (0, 3) 410 | â thwyll neu ffalster. |
| (0, 3) 411 | Yr ydym yn atolwg i chwi |
| (0, 3) 412 | roi maddeuant iddi, |
| (0, 3) 413 | ac o'r awr hon allan, |
| (0, 3) 414 | yr wyf i, Troelus, fy hunan |
| (0, 3) 415 | yn caethiwo fy rhyddid |
| (0, 3) 416 | dros gywirdeb Cresyd. |
| (0, 3) 431 | Tydi, fudredd celwyddog, |
| (0, 3) 432 | i bob achwyn yn chwannog, |
| (0, 3) 433 | dy rodresus ddyfeisiau |
| (0, 3) 434 | ydyw arwain celwyddau |
| (0, 3) 435 | a bwrw beiau ar wirion |
| (0, 3) 436 | trwy faleisus ddychmygion |
| (0, 3) 437 | ac esgusodi camwedd |
| (0, 3) 438 | ac anafus fuchedd |
| (0, 3) 439 | er mwyn ysgwyd dy gynffon |
| (0, 3) 440 | ar bob math ar ddynion. |
| (0, 3) 441 | Oni bai fod yn bresennol |
| (0, 3) 442 | fy ngwir dad naturiol, |
| (0, 3) 443 | myn yr holl Dduwiau |
| (0, 3) 444 | rhown drwyddot fy nghleddau! |
| (0, 3) 446 | Onid oes gariad, o Dduw, pa beth sy'm trwblio, |
| (0, 3) 447 | os oes gariad, pa fodd, pa sut sydd arno? |
| (0, 3) 448 | Os da cariad, o ble mae'n dyfod i'm blino? |
| (0, 3) 449 | Os drwg cariad, mae'n rhyfedd iawn ei drino! |
| (0, 3) 450 | Rhwng poen, cyffro a thynged, |
| (0, 3) 451 | er maint yr wyf yn ei yfed, |
| (0, 3) 452 | mwyfwy im yw'r syched. |
| (0, 3) 453 | ~ |
| (0, 3) 454 | Os wŷf â thi gytûn mewn cariad |
| (0, 3) 455 | mae beiau mawr am achwyn arnad. |
| (0, 3) 456 | Mewn llong foel rwyf yn amddifad, |
| (0, 3) 457 | rhwng dau wynt, gwrthwyneb dreiglad. |
| (0, 3) 458 | O Dduw, pa fath ryfeddod |
| (0, 3) 459 | sydd mor ddisymwth i'm gorfod? |
| (0, 3) 460 | Rhag gwres mewn oerfel dwyn nychdod, |
| (0, 3) 461 | rhag oerfel mewn gwres rwy'n darfod. |
| (0, 3) 462 | ~ |
| (0, 3) 463 | O'r uchelfraint arglwyddes cariad, |
| (0, 3) 464 | fy nhrafferthus ysbryd derbyn atat, |
| (0, 3) 465 | neu ddod im rinwedd ddianynad |
| (0, 3) 466 | i ufuddhau meistres ddigwyddiad. |
| (0, 3) 467 | Ei gwas a'i gwasanaethwr |
| (0, 3) 468 | a'i dirgel ewyllysiwr, |
| (0, 3) 469 | nes fy rhoddi mewn amdo |
| (0, 3) 470 | nis caiff wybod oddi wrtho. |
| (0, 3) 471 | ~ |
| (0, 3) 472 | O Troelus, druan tuchanllyd, |
| (0, 3) 473 | mae tynged it i ddwyn penyd. |
| (0, 3) 474 | Pes gwyddai dy feistres dy ofid |
| (0, 3) 475 | nid oes fodd nas trugarhau wrthyd. |
| (0, 3) 476 | Mal rhew yw'r ddyn feindlos |
| (0, 3) 477 | ar eglur leuad gaeafnos; |
| (0, 3) 478 | tithau yw'r eira oerfelog |
| (0, 3) 479 | yn toddi wrth eirias dân gwresog. |
| (0, 3) 480 | ~ |
| (0, 3) 481 | I borth marfwolaeth, Duw, na bawn wedi'n rheiglo! |
| (0, 3) 482 | Prudd-der, o'r diwedd, a'm dwc i yno! |
| (0, 3) 486 | Oddi yma y byddwn gysurus i ymado |
| (0, 3) 487 | ar blinder trallodrys beunydd sy'm cystyddo. |
| (0, 3) 492 | Pa rhyw beth a'th trefnodd di i glywed |
| (0, 3) 493 | fy meddwl trwblus a'm anoddefus gaethiwed, |
| (0, 3) 494 | yr hyn mae pawb yn orthrwm ganddynt ei weled? |
| (0, 3) 495 | Atolwg it oddi yma fyned! |
| (0, 3) 499 | Erfyn i ti fyned ymaith! |
| (0, 3) 505 | Os wyt yn meddwl mai ofn gwŷr ac arfau |
| (0, 3) 506 | sydd ddychryn i'm corff a'm trwblus feddyliau, |
| (0, 3) 507 | mae rhywbeth arall sydd drymach i'm gruddiau |
| (0, 3) 508 | nac ofni'r Groegiaid a'u mawrion eiriau. |
| (0, 3) 509 | A'r achos hwn sydd farwol |
| (0, 3) 510 | trwy drymder naturiol; |
| (0, 3) 511 | na ddod arnaf fai anianol |
| (0, 3) 512 | am gelu hyn; mae'n weddol. |
| (0, 3) 521 | Cariad, po fwya rhagddo amddiffynnwy', |
| (0, 3) 522 | bydd fy mhoen a'm penyd fwyfwy, |
| (0, 3) 523 | heb obaith ond trymder mawrglwy |
| (0, 3) 524 | a marwolaeth drom lle y byddwy. |
| (0, 3) 533 | Y sôn am ddagrau Niobe'r frenhines; |
| (0, 3) 534 | Nis gellwch im les, na help am fesitres. |
| (0, 3) 537 | Mae'ch geiriau mawrion, erchyll, |
| (0, 3) 538 | yn chwedlau y'm cewyll; |
| (0, 3) 539 | nid yw hon wamal na thrythyll, |
| (0, 3) 540 | nid oes fodd i allu ei hennill. |
| (0, 3) 550 | Gadewch hen chwedl i orwedd i'ch mynwes, |
| (0, 3) 551 | cynhyrchol farwolaeth i mi sydd gynnes. |
| (0, 3) 583 | Os rhaid i minnau bellach ddywedyd |
| (0, 3) 584 | pwy ydyw'r ferch a'm rhoes mewn penyd, |
| (0, 3) 585 | y mae pawb yma yn adwaenyd, |
| (0, 3) 586 | hon yw'r lân arweddaidd Cresyd. |
| (0, 3) 587 | Er nych, er poen, er galar, |
| (0, 3) 588 | er dwyn marwolaeth gynnar, |
| (0, 3) 589 | ni chaiff ar y ddaear |
| (0, 3) 590 | wybod hyn onid Pandar. |
| (0, 3) 622 | Pandar, Pandar, nis medraf draethu fy meddwl! |
| (0, 3) 623 | Synhwyrol wyt, ti a wyddost y cwbwl. |
| (0, 3) 624 | I'r ych a gerddo ni raid un swmbwl; |
| (0, 3) 625 | i amddiffyn fy einioes ti a ddaethost mewn trwbwl. |
| (0, 3) 626 | Gorchymyn y cwestiwn |
| (0, 3) 627 | at un ferch a garwn; |
| (0, 3) 628 | fy hoedl pe'i collwn, |
| (0, 3) 629 | ei digio nis mynnwn. |
| (0, 4) 822 | O Pandar, fy anwylyd, |
| (0, 4) 823 | na saf rhyngof a Cresyd, |
| (0, 4) 824 | ar liniau yn dyfod |
| (0, 4) 825 | i wneuthur fy ufudd-dod. |
| (0, 4) 828 | Yr anwylferch! O Cresyd drugarorg! |
| (0, 4) 829 | Trugaredd, trugaredd i wylofus farchog! |
| (0, 4) 834 | Y peth a'ch trefnodd yma i'm cysuro, |
| (0, 4) 835 | yr un peth a ganiata i chwi fy ngwrando |
| (0, 4) 836 | a deall y pethau, hir yn guddiedig, |
| (0, 4) 837 | a rhoddi i mi unwaith olwg caredig |
| (0, 4) 838 | a bod ohonoch fodlon |
| (0, 4) 839 | i wir ewyllys calon |
| (0, 4) 840 | er gofal, er adfyd, |
| (0, 4) 841 | i'ch gwasanaeth fy nghymryd. |
| (0, 4) 842 | ~ |
| (0, 4) 843 | Fel fy nghyfiawn arglwyddes a'm beunydd gyrchfa, |
| (0, 4) 844 | trwy gwbwl o'm synnwyr a'm ufudd-dod i'r eithaf, |
| (0, 4) 845 | a chaffael cyfiawnder y modd y rhyglydda, |
| (0, 4) 846 | y da am y gorau, y drwg am y gwaethaf, |
| (0, 4) 847 | a gwneuthur o'ch mawredd |
| (0, 4) 848 | un cymaint trugaredd, |
| (0, 4) 849 | a thrwy fy nymuniad |
| (0, 4) 850 | fy ngorchymyn yn wastad. |
| (0, 4) 851 | ~ |
| (0, 4) 852 | A minnau i fod i chwi yn ostyngedig ddidifar |
| (0, 4) 853 | i'ch gwasanaethu beunydd fel cyfrinachwr diodefgar, |
| (0, 4) 854 | bob dydd bigilydd yn chwanegu, |
| (0, 4) 855 | fy mhoen a'm wyllys yn ych gwasanaethu. |
| (0, 4) 856 | Er fy mod yn gwybod |
| (0, 4) 857 | y dygaf hir nychod, |
| (0, 4) 858 | gorchmyna yngwasanaeth |
| (0, 4) 859 | i'ch unig feistrolaeth. |
| (0, 4) 954 | Myn fy nghywir Dduw cyfiawn, yr wyf i yn tyngu, |
| (0, 4) 955 | hwn fel y mynn yr hollfyd sy'n llyfodraethu, |
| (0, 4) 956 | os celwydd y ddoeda, Achilles a'i weiw ffon, |
| (0, 4) 957 | a bod ym fywyd tragwyddol, a hyllt fy nghalon, |
| (0, 4) 958 | Os byth i'r addefa |
| (0, 4) 959 | y dirgel chwedlau yma, |
| (0, 4) 960 | i un dyn bydol |
| (0, 4) 961 | ar coweth daearol. |
| (0, 4) 988 | O Mercuriws, er mwyn cariad ar ddyn dirion, |
| (0, 4) 989 | achos hon bu Palas wrth Aglawros yn ddicllon, |
| (0, 4) 990 | moes i'm help Diana - arnat rwy'n dymuno |
| (0, 4) 991 | nad i hyn o siwrnai yn ofer fyned heibio. |
| (0, 4) 992 | Chwithau'r tair chwiorydd hefyd |
| (0, 4) 993 | sydd yn tynnu edau'r bywyd, |
| (0, 4) 994 | moeswch i mi eich help yn amser, |
| (0, 4) 995 | na adwch hyn o swirnai'n ofer. |
| (0, 6) 1132 | O Cresyd, fy anwylddyn, |
| (0, 6) 1133 | aeth y byd i gyd yn ein erbyn. |
| (0, 6) 1134 | ~ |
| (0, 6) 1135 | O greulon ddiwrnod, melltigedig i lawenydd hyfryd, |
| (0, 6) 1136 | lleidr y nos a lleidr cariad wyt hefyd. |
| (0, 6) 1137 | O genfigennus ddiwrnod, melltigedig ddyfodiad |
| (0, 6) 1138 | o fewn caerau Troea heb unwaith yrru amdanad. |
| (0, 6) 1139 | Pa achos yr wyt yn ysbienna? |
| (0, 6) 1140 | A gollaist dy ffordd yma? |
| (0, 6) 1141 | Duw a wnel i ti golli |
| (0, 6) 1142 | dy lewyrch a'th oleuni? |
| (0, 6) 1143 | ~ |
| (0, 6) 1144 | Och! Beth a wnaeth cariad ddynion yn dy erbyn |
| (0, 6) 1145 | pan wyt bob amser mor genfigennus unddyn? |
| (0, 6) 1146 | ~ |
| (0, 6) 1147 | O Cresyd, beth bellach a wnaf gan hiraethus gariad? |
| (0, 6) 1148 | Yr owran mae'r amser o'r trwm ymadawiad. |
| (0, 6) 1149 | Hir fyw nis gallaf yn y fath drymder; |
| (0, 6) 1150 | oes byth im obaith ond arwain prudd-der? |
| (0, 6) 1151 | Nid oes fodd na ddaw hiraeth |
| (0, 6) 1152 | arnaf i'n ddigon helaeth, |
| (0, 6) 1153 | pan yr wyf yr owran yn ymwrando |
| (0, 6) 1154 | â hiraeth cyn ymado. |
| (0, 6) 1155 | ~ |
| (0, 6) 1156 | Yn wir, f'arglwyddes loyw, eurbleth, |
| (0, 6) 1157 | hyn pes gwyddwn yn ddiweiniaith, |
| (0, 6) 1158 | fod eich ufudd was a'ch marchog cywir |
| (0, 6) 1159 | wedi ei osod yn eich meddwl mor sicir |
| (0, 6) 1160 | ar ydd ych chwi, f'arglwyddes, |
| (0, 6) 1161 | yn fy meddwl i a'm mwynes, |
| (0, 6) 1162 | digŵyn yw gen i ymarfer |
| (0, 6) 1163 | â hiraeth twm a phrudd-der. |
| (0, 6) 1172 | O cydymaith o'r cymdeithion, y gorau i drugaredd |
| (0, 6) 1173 | a fu erioed, ac a fu byth mewn gwirionedd, |
| (0, 6) 1174 | fy meddwl i a ddygaist i esmwythdra nefol |
| (0, 6) 1175 | o Fflegeton, y tanllyd afon uffernol, |
| (0, 6) 1176 | Pes gallwn i roddi |
| (0, 6) 1177 | fy einioes i'th wasanaethu, |
| (0, 6) 1178 | ni fydde hyn i'w wneuthud |
| (0, 6) 1179 | ddim wrth a ryglyddyd. |
| (0, 6) 1206 | Cariad, mae ytt ar dir a môr reoli; |
| (0, 6) 1207 | cariad, mae ytt orchymyn y nefoedd o fri; |
| (0, 6) 1208 | cariad, mae ytt ryddid mawr a gollyngdod; |
| (0, 6) 1209 | O cariad, i ti mae'r holl ufudddod. |
| (0, 6) 1210 | Tydi, cariad, sy'n clymu |
| (0, 6) 1211 | pob cyfraith a chwmpeini; |
| (0, 6) 1212 | cwlwm hyn o gytundeb |
| (0, 6) 1213 | rhag dyfod byth wrthwyneb. |
| (0, 6) 1214 | ~ |
| (0, 6) 1215 | Cariad, ir byd mae'n dwyn caredigrwydd; |
| (0, 6) 1216 | i bob peth yn ei ryfogaeth y mae'n digwydd; |
| (0, 6) 1217 | mae hwn yn naturiol i'r pedwar deunydd; |
| (0, 6) 1218 | y rhain sy wrthwynebys bob un yw gilydd. |
| (0, 6) 1219 | Y lleuad sydd dros noswaith, |
| (0, 6) 1220 | yr Haul dros loywddydd perffaith; |
| (0, 6) 1221 | pob un ai dyfodiad |
| (0, 6) 1222 | o achos rhinwedd cariad. |
| (0, 6) 1223 | ~ |
| (0, 6) 1224 | Hwn, i'r môr, or maint yw trwst ei donnau, |
| (0, 6) 1225 | sy'n gwneuthur iddo gydnabod ai derfyne; |
| (0, 6) 1226 | hwn sy'n dwyn afonydd a phrydiau digwyddiad |
| (0, 6) 1227 | i ffrwythau tiroedd o meilliondir gwastad. |
| (0, 6) 1228 | Hawsa peth i hepgor |
| (0, 6) 1229 | bob amser ydi'w gyngor; |
| (0, 6) 1230 | anhawsa peth yn wastad |
| (0, 6) 1231 | yw hepgor ydiw cariad. |
| (0, 6) 1232 | ~ |
| (0, 6) 1233 | Erfyn it, arglwydd, o'th drugaredd, yn enwedig, |
| (0, 6) 1234 | roddi rhwym ar gariad a chwlwm caredig; |
| (0, 6) 1235 | a phlannu yn ei calonnau hir cytundeb, |
| (0, 6) 1236 | lle bo unwaith gariad, na bo byth anghywirdeb. |
| (0, 6) 1237 | A thyfu o gariad ffyddlon |
| (0, 6) 1238 | ai gwreiddin yn y galon, |
| (0, 6) 1239 | na bo achos iddyn dybied |
| (0, 6) 1240 | byth o angharedig weithred. |
| (0, 7) 1287 | O ffortun anffortunus, beth yr owran a'th gyffrôdd? |
| (0, 7) 1288 | Beth a wneuthum yn dy erbyn, nac o'm bodd nac o'm anfodd? |
| (0, 7) 1289 | Pa fodd y gellid fy siomi rhag pechodrwydd? |
| (0, 7) 1290 | Oes dim trugaredd ynot na gonestrwydd? |
| (0, 7) 1291 | Os clywi arnat hyn yma - |
| (0, 7) 1292 | ddwyn Cresyd oddi arna - |
| (0, 7) 1293 | anrhugarog a chreulon |
| (0, 7) 1294 | ydyw meddwl dy galon. |
| (0, 7) 1295 | ~ |
| (0, 7) 1296 | Oni ddarfu im dy anrhydeddu hyd yn hyn o'm bywyd |
| (0, 7) 1297 | yn fwy na'r holl dduwiau eraill i gyd? |
| (0, 7) 1298 | Paham yr wyt yn ymgolledu o'm holl ddifyrrwch? |
| (0, 7) 1299 | O Troelus, pa fodd y'th elwir bellach ond tristwch? |
| (0, 7) 1300 | Pawb ath eilw di yn fydredd |
| (0, 7) 1301 | wedi colli dy anrhydedd; |
| (0, 7) 1302 | nes colli it dy fywyd, |
| (0, 7) 1303 | nis coll trymder trwm am Gresyd. |
| (0, 7) 1304 | ~ |
| (0, 7) 1305 | O Ffortun, os wyt yn dwyn i mi genfigen |
| (0, 7) 1306 | o ran fy mod yn dwyn fy mynd yn llawen, |
| (0, 7) 1307 | dwyn einioes y brenin a'm tad a ellyd; |
| (0, 7) 1308 | dwyn einioes y mrodyr, am einioes innau hefyd. |
| (0, 7) 1309 | Sy'n trwblio yr owran y byd i gyd a'i gwynfan, |
| (0, 7) 1310 | am farwolaeth yn nychu, |
| (0, 7) 1311 | a marw yn iawn heb fedru. |
| (0, 7) 1312 | ~ |
| (0, 7) 1313 | O Cresyd, pe buaswn i heb dy weled, |
| (0, 7) 1314 | Ffortun nis gallase imi mor niwed; |
| (0, 7) 1315 | trwy'r golwg hwn i cafodd arna fantais, |
| (0, 7) 1316 | yr owran fy nifeddiannu or fwy a gerais. |
| (0, 7) 1317 | Ai gorchafiaeth gennyd |
| (0, 7) 1318 | nychu gwan am i fywyd? |
| (0, 7) 1319 | Gad i ffordd hyn yma |
| (0, 7) 1320 | a gwna i mi dy eitha! |
| (0, 7) 1321 | ~ |
| (0, 7) 1322 | Beth a wnaf ym prudd-der a caethiwed? |
| (0, 7) 1323 | Ai ymadael a Chresyd a brynais cyn ddruted? |
| (0, 7) 1324 | ~ |
| (0, 7) 1325 | Onid ef, mi wnaf y peth allaf ei wneuthud - |
| (0, 7) 1326 | byw'n unig mewn prudd-der a chreulon benyd, |
| (0, 7) 1327 | achwyn fy hunan ar fy anffortunus ddigwyddiad, |
| (0, 7) 1328 | lle ni ddaw na glaw na haul na lleuad. |
| (0, 7) 1329 | Fy niwedd a fydd amlwg |
| (0, 7) 1330 | fel Edipws, mewn tywyllwch, |
| (0, 7) 1331 | dwyn prydd-der yn fy mywyd |
| (0, 7) 1332 | a mawr o'r diwedd mewn adfyd. |
| (0, 7) 1333 | ~ |
| (0, 7) 1334 | O'r trymion lygaid, erioed bu eich difyrrwch |
| (0, 7) 1335 | i edrych ar Cresyd, ei glendid a'i hawddgarwch. |
| (0, 7) 1336 | Beth a wnewch, bod yn anghysurus i minnau, |
| (0, 7) 1337 | ai sefyll am ddim i ollwng heilltion ddagrau? |
| (0, 7) 1338 | Ewch ymaith, trymion lygaid, |
| (0, 7) 1339 | nid oes obaith i chwi amnaid, |
| (0, 7) 1340 | nid oes mo'r rhinwedd arnoch, |
| (0, 7) 1341 | eich rhinwedd a gollasoch. |
| (0, 7) 1342 | ~ |
| (0, 7) 1343 | O Cresyd, Cresyd, o arglwyddes anrhydeddus, |
| (0, 7) 1344 | pwy im a rydd unwaith un gair cysurus? |
| (0, 7) 1345 | Neb nid oes pan ddarffo i'm calon dorri, |
| (0, 7) 1346 | yn lle'r corff, gad i'm ysbryd dy wasanaethu. |
| (0, 7) 1347 | I'm corff anrhugarog y buost, |
| (0, 7) 1348 | anrhugaredd mawr a wnaethost. |
| (0, 7) 1349 | O hyn allan, Cresyd, |
| (0, 7) 1350 | bydd drugarog i'm ysbryd. |
| (0, 7) 1359 | Chwychwi gariadau, sy'n aros ar dop yr olwyn beraidd, |
| (0, 7) 1360 | duw a drefno i chwi eich cariadu'n dduraidd, |
| (0, 7) 1361 | fel y gallo bod eich bywyd mewn hir ddifyrrwch; |
| (0, 7) 1362 | Ar fy medd pen y deloch, amdanafi meddyliwch, |
| (0, 7) 1363 | a doedwch: 'yn hwn fedd |
| (0, 7) 1364 | mae'n cydymaith ni'n gorwedd; |
| (0, 7) 1365 | i garu bu ei ddigwyddiad, |
| (0, 7) 1366 | er nas rhyglyddodd cariad.' |
| (0, 7) 1380 | Och i'r henddyn anheilwng cyn ei amser wedi ei eni; |
| (0, 7) 1381 | och i'r hen Galcas, pa beth a ddarfod i ti? |
| (0, 7) 1382 | Yr owran yn Roegwr, Torean eriod y'th gwelwyd. |
| (0, 7) 1383 | O Calchas, mewn amser drwg i mi y'th aned. |
| (0, 7) 1384 | Gwae fi na chawn afael |
| (0, 7) 1385 | arnat, Calchas, mewn cornel; |
| (0, 7) 1386 | mi a wnawn i ti na chyrchid |
| (0, 7) 1387 | ym mysg Groegwyr mo Cresyd. |
| (0, 7) 1405 | Cynt y caiff marwolaeth allan o'm calon wthio |
| (0, 7) 1406 | y fywoliaeth a fu cyd mewn trymder yn trigo |
| (0, 7) 1407 | nag y caiff Cresyd â'm henaid byth ymadael. |
| (0, 7) 1408 | Gyda Proserpina y byddwn i mewn gafael, |
| (0, 7) 1409 | achwyn y byddaf yno |
| (0, 7) 1410 | trwy ochain mawr ac wylo, |
| (0, 7) 1411 | y modd y darfu i minne |
| (0, 7) 1412 | glymu fy hunan yn yr unlle. |
| (0, 8) 1470 | O greulon Iau, creulonach ffortun aflawen, |
| (0, 8) 1471 | lledaist Cresyd a Throelus â'th genfigen, |
| (0, 8) 1472 | y cleddau hwn a yrr fy ysbryd i allan, |
| (0, 8) 1473 | i'th ddilyn di, Cresyd, 'rhyd feysydd Elisian. |
| (0, 8) 1474 | Yna y byddwn yn aros |
| (0, 8) 1475 | barnedigaeth brenin Minos, |
| (0, 8) 1476 | gan fod ffortun mor greulon |
| (0, 8) 1477 | a chariad eilwaith mor ddigllon. |
| (0, 8) 1478 | ~ |
| (0, 8) 1479 | Gan ddarfod amdanom, myfi a'r byd ydawa, |
| (0, 8) 1480 | i ba le bynnag yr elych, dy ysbryd a gylyna. |
| (0, 8) 1481 | Ni chaiff cariadddyn am Droelus fyth ddoedyd: |
| (0, 8) 1482 | nas llefys, rhag ofn marw, gydfarw a Chresyd. |
| (0, 8) 1483 | Gan nas cewn ni yma aros |
| (0, 8) 1484 | gyda ein gilydd i fyw yn agos, |
| (0, 8) 1485 | dioddefwch yn eneidie |
| (0, 8) 1486 | yn dragwyddol fyw yn yr unlle. |
| (0, 8) 1487 | ~ |
| (0, 8) 1488 | Troea, bym yno fyw mewn dolur; |
| (0, 8) 1489 | Priam, a'n holl gywir frodur, |
| (0, 8) 1490 | ac i'm mam y wnaf ganu'n iach heb wybod! |
| (0, 8) 1491 | Croeso Atropos, gwna'r elor i mi'n barod. |
| (0, 8) 1492 | ~ |
| (0, 8) 1493 | Ataf a negosed cleddyf creulon, |
| (0, 8) 1494 | er dy fwyn di, at y'ng nghalon. |
| (0, 8) 1542 | Mae'n anodd cloffi ger bron cripil heb ei ganfod; |
| (0, 8) 1543 | mae cyfrwysdra Calchas bob amser mor barod. |
| (0, 8) 1544 | I dda bydol er bod ganddo ormod dychwant |
| (0, 8) 1545 | mae hen gyfrwyddyd ganddo a deall somiant. |
| (0, 8) 1546 | Chwi a glywsoch, modd y dywedan, |
| (0, 8) 1547 | haws somi babi na gwrachan. |
| (0, 8) 1548 | Anodd dallu llygaid Argos |
| (0, 8) 1549 | petai bawb yn helpio'r achos. |
| (0, 8) 1558 | Beunydd llid a ychwanega wrth golli gwaed gwirion. |
| (0, 8) 1559 | Hyn yw naturiaeth rhyfel - gwneuthur pawb yn greulon, |
| (0, 8) 1560 | a hyn a obeithia lleidr, i'w grogi pan yr elo, |
| (0, 8) 1561 | o tyr y cebystr, fod cyfraith yn ei safio. |
| (0, 8) 1562 | Nis rhoddir Helen adre |
| (0, 8) 1563 | ond yn gyfnewid i Hesione: |
| (0, 8) 1564 | hwn yw gobaith gofalon, |
| (0, 8) 1565 | a'r gobaith hwn a dyr fy nghalon. |
| (0, 8) 1574 | Hyn rwyf i yn ei ofni ac wrth ei feddwl mae'n ddolur, |
| (0, 8) 1575 | yr achos mae'ch tad i'ch cyrchu i briodi un o'r Groegwyr. |
| (0, 8) 1576 | Fe a'ch rydd i ryw ddyn a fo mewn mawr urddas; |
| (0, 8) 1577 | geiriau'r tad a dreisia'r ferch i briodas. |
| (0, 8) 1578 | Ac i Troelus cywir druan |
| (0, 8) 1579 | y daw achwyn, ochain a griddfan, |
| (0, 8) 1580 | chwychwi yn byw mewn gwrthwyneb, |
| (0, 8) 1581 | yntau yn marw mewn cywirdeb. |
| (0, 8) 1582 | ~ |
| (0, 8) 1583 | Eich tad, er mwyn eich dwyn i hyn yma, |
| (0, 8) 1584 | nyni, ein tref, a'n gallu i gyd, a ddibrisia; |
| (0, 8) 1585 | ac a ddywaid nad aiff Groegwyr byth adre |
| (0, 8) 1586 | nes ennill Troea a llosgi yn llwyr ei chaere. |
| (0, 8) 1587 | Wrthyf fi y doedych |
| (0, 8) 1588 | y gwnewch iddo goelio a fynych; |
| (0, 8) 1589 | mae arna ofn yn fy meddwl |
| (0, 8) 1590 | y gwnaiff i chwi goelio'r cwbwl. |
| (0, 8) 1591 | ~ |
| (0, 8) 1592 | Ym mysg Groegwyr llawer marchog glân a gewch ei weled, |
| (0, 8) 1593 | yn llawn rhywiogrwydd, afiaith a rhinweddol weithred, |
| (0, 8) 1594 | modd y bydd pawb mor ufudd, i'ch bodloni yn chwennych, |
| (0, 8) 1595 | fel nas gwyddoch pwy adawoch na phwy a ddewisych. |
| (0, 8) 1596 | Nid oes mewn Troelus ryglyddiad |
| (0, 8) 1597 | i fod munud yn eich cariad, |
| (0, 8) 1598 | ond ei fod yn rhy ffyddlon |
| (0, 8) 1599 | ac yn eich caru chwi yn ei galon. |
| (0, 8) 1635 | Derbyn, Cresyd, gan Troelus yr arwyddion yma - |
| (0, 8) 1636 | tlws a modrwy i ti a rodda', |
| (0, 8) 1637 | y tlws i dy atgoffa i ddyfod eilwaith, |
| (0, 8) 1638 | a'r fodrwy hon i feddwl am gydymaith. |
| (0, 8) 1639 | Gwisg yr rhain bob amser |
| (0, 8) 1640 | lle bo dy olwg yn ymarfer. |
| (0, 8) 1641 | Ffarwel, Cresyd, ganwaith |
| (0, 8) 1642 | hyd oni ddelych eilwaith. |
| (0, 9) 1668 | Paham nas gwnaf i dlawd a chyfoethog o'r unwaith |
| (0, 9) 1669 | gael digon i wneuthud cyn mynediad Cresyd ymaith? |
| (0, 9) 1670 | Paham nas dysgaf Droea i ryfel disymwth? |
| (0, 9) 1671 | Paham nas laddaf Diomedes cyn ei fygwth? |
| (0, 9) 1672 | A paham nas dygaf |
| (0, 9) 1673 | hon ymaith ar ei gwaethaf, |
| (0, 9) 1674 | a pha aros yr wyf innau |
| (0, 9) 1675 | cyd, heb helpu fy noluriau? |
| (0, 9) 1694 | Ble mae yr owran, fy arglwyddes am anwylyd? |
| (0, 9) 1695 | Ble mae ei phryd a'i gwedd? Ble mae Cresyd? |
| (0, 9) 1696 | Ble mae ei deufraych a'i golwg eglur sirian |
| (0, 9) 1697 | ydoedd gynt yn dy lawenychu Troelus, truan? |
| (0, 9) 1698 | Wylo yn hawdd a elli |
| (0, 9) 1699 | yr heilltion ddagrau amdani; |
| (0, 9) 1700 | nid oes yma ddim i'w weled |
| (0, 9) 1701 | ond y llawr y nen ar pared. |
| (0, 9) 1719 | Pwy sydd yr owran i'th weled, fy ngwir, gywir arglwyddes? |
| (0, 9) 1720 | Pwy sy'n eiste yn dy ymyl, a phwy sy'n dy alw'n fesitres? |
| (0, 9) 1721 | Pwy sydd a lawenycha dy galon drom hiraethus? |
| (0, 9) 1722 | Mae Troelus heb fod yna; pwy sydd it gynghorus? |
| (0, 9) 1723 | Wrth bwy y gelli ddoedyd |
| (0, 9) 1724 | ydiw Troelus yn y byd? |
| (0, 9) 1725 | Mae Pandar yn ochneidio |
| (0, 9) 1726 | a Throelus truan yn wylo. |
| (0, 10) 1762 | Pa fodd y gallaf aros deng niwrnod modd yma, |
| (0, 10) 1763 | pan ydyw cyn anhawsed i'm gydfod y diwrnod cyntaf? |
| (0, 10) 1764 | ~ |
| (0, 10) 1765 | Pandar, gan yr hiraethus drymder sydd arnaf, |
| (0, 10) 1766 | parhau yn hir yn wir mi a wn nis gallaf, |
| (0, 10) 1767 | odid im gaffael fy einioes hyd yfor. |
| (0, 10) 1768 | Oherwydd hyn yma, atolwg i ti ddychmygu |
| (0, 10) 1769 | pa fodd y gwneir fy medd, |
| (0, 10) 1770 | os rhaid i mi yno orwedd, |
| (0, 10) 1771 | ac am bethau anghenrheidiol |
| (0, 10) 1772 | i roddi lle y'u bo gweddol. |
| (0, 10) 1773 | ~ |
| (0, 10) 1774 | Fy nghlon, pan fyddo wedi llosgi hyd yn ulw, |
| (0, 10) 1775 | hel hwn yn yr unlle a bydd sicr o'i gadw, |
| (0, 10) 1776 | a dod mewn llestr o aur wedi ei wneuthur i hynny |
| (0, 10) 1777 | a hebrwng i'r arglwyddes a fum gynt yn ei gwasanaethu. |
| (0, 10) 1778 | A dangos mai o'i chariad |
| (0, 10) 1779 | y digwyddodd y digwyddiad: |
| (0, 10) 1780 | am gadw hwn dymunaf |
| (0, 10) 1781 | er mwyn dwyn cof amdanaf. |
| (0, 10) 1790 | Myfi a wn wrth y modd y cymrodd fy nolur myfi a'm prudd-der |
| (0, 10) 1791 | ac wrth fy mreuddwydion i, rhaid im farw ar fryder. |
| (0, 10) 1792 | Hefyd y dylluan hon a elwir Aschaffilo |
| (0, 10) 1793 | sydd y ddwy nos diwetha uwch fy mhen yn cregleisio. |
| (0, 10) 1794 | Tithe, y duw Mercwri, |
| (0, 10) 1795 | pan rhyglydd bodd i ti, |
| (0, 10) 1796 | gyrchi yr ysbryd poenedig |
| (0, 10) 1797 | allan o'r corff aniddig. |
| (0, 13) 1936 | Bellach mae yn canlyn y goleubryd siriol Fenws |
| (0, 13) 1937 | rhyd y cynefin lwybr y disgynes ar i wared Phebws; |
| (0, 13) 1938 | bellach, mae Citherea ai chyfle i gwagen yn tynny |
| (0, 13) 1939 | ac yn troi allan o'r llew hyd y mae ei gallu. |
| (0, 13) 1940 | Mae signiffer yn gole |
| (0, 13) 1941 | y ddaear a'i chanwylle; |
| (0, 13) 1942 | bellach, mai rhyfeddod |
| (0, 13) 1943 | am Cresyd yma yn dywod! |
| (0, 13) 1944 | ~ |
| (0, 13) 1945 | O arglwydd Ciwpid, mawr fi i mi dy anrugaredd, |
| (0, 13) 1946 | pan atgoffaf fy hun o'm holl ddrwstan fuchedd, |
| (0, 13) 1947 | ac fel y blinaist bob dydd yn waeth na'i gilydd: |
| (0, 13) 1948 | fy muchedd i yn ystori i'r byd i gyd a ddigwydd. |
| (0, 13) 1949 | Pa oruchafiaeth sydd i ti |
| (0, 13) 1950 | bob amser fy ngorchfygu? |
| (0, 13) 1951 | Mi a ymrois i ti yn ffyddlon, |
| (0, 13) 1952 | er dy gael yn arglwydd creulon. |
| (0, 13) 1953 | ~ |
| (0, 13) 1954 | Planna yng nghalon Cresyd y fath ewyllys ddyfod cyn gynted fel y rhoddaist i mi hiraeth a chwant am ei gweled. |
| (0, 13) 1955 | ~ |
| (0, 13) 1956 | Y diwrnodiau a'r nosweithiau a fu'n hwy o lawer |
| (0, 13) 1957 | nag y byddai y rhain arferol o fod bob amser; |
| (0, 13) 1958 | yr haul a gerddes ei gwmpas ar gam yn bellach, |
| (0, 13) 1959 | neu mae'n myned i'w siwrnai yn annibennach. |
| (0, 13) 1960 | Y degfed ddydd aeth heibio, |
| (0, 13) 1961 | Y ddegfed nos yw heno; |
| (0, 13) 1962 | yn llawen bellach y'm gwelir |
| (0, 13) 1963 | os yw'r byd i gyd yn gywir. |
| (0, 15) 2004 | Am fi'n cysgu, noswaith, yn syrn flin, Cassandra, |
| (0, 15) 2005 | mi a freuddwydiais yn y modd i chwi y ddoeda: |
| (0, 15) 2006 | mi am gwelwn mewn forest yn rhodio ac wylo y byddwn |
| (0, 15) 2007 | o gariad ar ryw ferch ryw amser a adwaewn. |
| (0, 15) 2008 | Gwelwn, wrth rodio am gylchion, |
| (0, 15) 2009 | ryw faedd ac yscithredd creulon; |
| (0, 15) 2010 | a'r baedd ydoedd yn cysgu |
| (0, 15) 2011 | a'r haul arno yn llewyrchu. |
| (0, 15) 2012 | ~ |
| (0, 15) 2013 | Yn cusanu y baedd yma, mi a welwn Cresyd, |
| (0, 15) 2014 | ac ai deufraych yn bleth amdano y gwelwn hefyd. |
| (0, 15) 2015 | Trwy chwithder a dychryn ei gweled yn y fath fodd |
| (0, 15) 2016 | ac felly yr ofn yma o'n cyntyn a'm deffrodd. |
| (0, 15) 2017 | Er pan welais y breuddwyd, |
| (0, 15) 2018 | yr wyf mewn gofal ac arswyd, |
| (0, 15) 2019 | yr wyf fi yn erfyn ac yn damuno |
| (0, 15) 2020 | i chwi roddi deallt arno. |
| (0, 15) 2056 | Celwydd, gyfarwyddes, yw dy drafferthus eirie gweigion, |
| (0, 15) 2057 | a'th holl anuwiol broffodoliaethu ffeilsion! |
| (0, 15) 2058 | Di a fynni fod dy fuchedd a'th chwedle di'n dduwiol |
| (0, 15) 2059 | a thithe'n codi chwedlau ar arglwyddesau rhinweddol. |
| (0, 15) 2060 | Duw a drefno i ti brudder — |
| (0, 15) 2061 | ffwrdd o'm golwg mewn amser; |
| (0, 15) 2062 | yn wir, nid hwyrach y byddi |
| (0, 15) 2063 | yn gelwyddog, cyn yfory. |
| (0, 15) 2064 | ~ |
| (0, 15) 2065 | Cyn hawsed y gelli ddoedyd y celwydd yma |
| (0, 15) 2066 | ar rinweddol Alceste, ei ddoedyd ar Gresyda; |
| (0, 15) 2067 | gwr hon, pan oedd mewn perygl mawr amdano, |
| (0, 15) 2068 | naill ai gorfod marw ei hunan a'i rhoi un i farw drosto, |
| (0, 15) 2069 | Hon a ddewisodd gydfod |
| (0, 15) 2070 | a marfolaeth droes ei phriod. |
| (0, 15) 2071 | Gwn mae felly y gwnai Cresyd |
| (0, 15) 2072 | cyn colli Troelus ei fywyd. |
| (0, 16) 2083 | O Cresyd, f'anwylyd, o f'arglwyddes eurbleth, |
| (0, 16) 2084 | ble mae'r owran eich addewid, na phle mae'r crediniaeth? |
| (0, 16) 2085 | Ble mae'r cariad? Ble mae'r gwirionedd, Cresyd? |
| (0, 16) 2086 | Diomedes sydd yr owran yn cael arnoch chwi ei wynfyd. |
| (0, 16) 2087 | Hyn yma a ddygaswn, |
| (0, 16) 2088 | a hyn drosot a dyngaswn, |
| (0, 16) 2089 | er dywedyd ohonot anwir |
| (0, 16) 2090 | na buesit byth anghywir. |
| (0, 16) 2091 | ~ |
| (0, 16) 2092 | Pwy o hyn allan i'th lyfau di, Cresyd, a goelia? |
| (0, 16) 2093 | Gwae fi, tyngaswn nas gwneuthit byth hyn yma. |
| (0, 16) 2094 | Pwy a feddyliai fod ynddot ti feddwl cyn anwadaled, |
| (0, 16) 2095 | na phwy a dybiai fod dy galon di cyn greuloned |
| (0, 16) 2096 | â lladd dyn truan diniwed |
| (0, 16) 2097 | trwy dwyll a thrwy ymddiried? |
| (0, 16) 2098 | Gwae fi erioed o ddigwyd |
| (0, 16) 2099 | i ti, Cresyd, anonestrwydd. |
| (0, 16) 2100 | ~ |
| (0, 16) 2101 | Oedd yr un arwydd gennyt ti i'w roddi |
| (0, 16) 2102 | i'th newydd gariad ond hwn i'w lawenychu? |
| (0, 16) 2103 | Ar hwn llawer heilltion ddagrau a wylais; |
| (0, 16) 2104 | i ti er mwyn dwyn cof amdanaf y rhoddais, |
| (0, 16) 2105 | a thithau er cas arnaf |
| (0, 16) 2106 | i Diomedes rhoist hwn yma. |
| (0, 16) 2107 | ~ |
| (0, 16) 2108 | Wrth hyn y gwn fy mod yn rhy drwstan, |
| (0, 16) 2109 | gan ddarfod i chwi fy mwrw o'ch meddwl allan. |
| (0, 16) 2110 | Er yr holl fyd eich bwrw chwi nis medraf, |
| (0, 16) 2111 | allan o'm meddwl un chwarter awr nis gallaf. |
| (0, 16) 2112 | Ar amser drwg y'm ganed, |
| (0, 16) 2113 | pawb a ŵyr hyn wrth glywed: |
| (0, 16) 2114 | chwychwi dwyllodrus i mi, |
| (0, 16) 2115 | a minnau er hyn i'ch caru. |
| (0, 16) 2116 | ~ |
| (0, 16) 2117 | Trefna im, Arglwydd, er dwyn mawr artaith, |
| (0, 16) 2118 | gyfarfod â Diomedes yma unwaith; |
| (0, 16) 2119 | trefna im nerth ac amser eilwaith; |
| (0, 16) 2120 | mi a wnaf i'w galon waedu am draeturiaeth. |
| (0, 16) 2121 | Atolwg ti, Arglwydd, edrych |
| (0, 16) 2122 | am y pethau hyn yn fynych: |
| (0, 16) 2123 | os gadewch chwi hyn heb dramgwydd, |
| (0, 16) 2124 | y cyffelyb a all ddigwydd. |
| (0, 16) 2125 | ~ |
| (0, 16) 2126 | O, Pandar, ti a erchaist im na choeliwn i freuddwydion; |
| (0, 16) 2127 | gwêl modd y digwyddod hyn yn rhy unuion; |
| (0, 16) 2128 | gwêl mor gywir yw dy annwyl nith Cresyd; |
| (0, 16) 2129 | meddi ti "er dim hi a gywirai dy addewid"! |
| (0, 16) 2130 | Mynych y mae'r duwiau |
| (0, 16) 2131 | yn dangos hyn o wyrthiau |
| (0, 16) 2132 | ac yn rhybydd o'n cyntun |
| (0, 16) 2133 | o'r pethau sydd i'n herbyn. |
| (0, 16) 2134 | ~ |
| (0, 16) 2135 | Ar y gwir wirionedd heb chwaneg o eiriau y dywedaf: |
| (0, 16) 2136 | o'r dydd hwn allan, cyn gynted ag y gallaf, |
| (0, 16) 2137 | fy marwolaeth greulon ar flaen yr arfau a gyrchaf, |
| (0, 16) 2138 | a'm trafferthus flinder ar unwaith a diweddaf. |
| (0, 16) 2139 | O hyn allan fe ddywedir |
| (0, 16) 2140 | dy fod, Cresyd, yn anghywir. |
| (0, 16) 2141 | Ni chaiff undyn byth ddywedyd |
| (0, 16) 2142 | fod Troelus yn ffals i Cresyd. |