| (1, 0) 119 | Ah! Ma'r tan wedi'i gynneu, 'rwy'n gweld! |
| (1, 0) 120 | Nos da, chi'ch dau, |
| (1, 0) 122 | O, 'rwyt ti yma, wyt ti? |
| (1, 0) 126 | Pwy all feddwl am beth bach dibwys felna, a'i ben yn llawn o'r gwaith sydd o'i flaen? |
| (1, 0) 127 | Symudwch y blowar 'ma! |
| (1, 0) 134 | Byddwn yma hyd ddiwedd y practis. |
| (1, 0) 139 | Ble ma'r lleill? |
| (1, 0) 141 | Yn gynnar? |
| (1, 0) 143 | Mae bron a bod yn hanner awr ar ol amser. |
| (1, 0) 144 | Os na yn 'dyn nhw'n dod mewn pum munud... |
| (1, 0) 146 | A. |
| (1, 0) 147 | Dyma nhw. |
| (1, 0) 149 | 'Rarswyd! |
| (1, 0) 150 | Na! |
| (1, 0) 151 | Gwastraff amser — dim ond clebran a-a-a-a chlebran! |
| (1, 0) 152 | Na, y llwyfan amdani! |
| (1, 0) 161 | Na, na! |
| (1, 0) 162 | Does 'na ddim eistedd o flaen y tân i fod heno. |
| (1, 0) 166 | Fe ddylset fod wedi brysio i'r practis, 'machgen i. |
| (1, 0) 167 | Fe gei di dy wres yn ol 'nawr, wrth actio. |
| (1, 0) 169 | Na, dim munud. |
| (1, 0) 170 | Ma' 'na dros hanner awr wedi mynd yn barod. |
| (1, 0) 171 | Os y'ch chi am eistedd wrth y tan — dewch yn gynnar, |
| (1, 0) 184 | Nawr, 'nawr, gwrandewch... |
| (1, 0) 203 | Fôt? |
| (1, 0) 204 | Beth gynllw'n sy' 'ma heno — lecsiwn?... |
| (1, 0) 206 | 'Falle y ca' i — fel yr awdur a'r producer — ddweud gair? |
| (1, 0) 209 | Yr arswyd fawr! |
| (1, 0) 214 | Yn-yn-yn wrong? |
| (1, 0) 218 | Taw, fachgen — |
| (1, 0) 219 | T-t-taw. |
| (1, 0) 221 | 'Rwyt ti'n potsiach ar y piano 'na byth a beunydd. |
| (1, 0) 222 | Rho dy feddwl ar y ddrama, wnei di? |
| (1, 0) 225 | Dechre? |
| (1, 0) 226 | Fydd 'na ddim shâp ar ddechre' tra byddi di'n pwnio'r perfedd allan o'r offeryn 'na. |
| (1, 0) 228 | O, wyt ti'n meddwl chware emynau drwy y ddwy act gynta?... |
| (1, 0) 229 | Ca'r piano 'nal! |
| (1, 0) 231 | Wel, 'nawr te, falle y cawn ni ddechre'. |
| (1, 0) 232 | Fe ddechreuwn gyda Act I. |
| (1, 0) 234 | Dyna ddigon o dy glebran di! |
| (1, 0) 236 | Un gair arall, a-a-a mi ddechreuaf gydag Act II! |
| (1, 0) 238 | Ydy' pawb yma? |
| (1, 0) 239 | Atebwch eich enwau. |
| (1, 0) 240 | John Roberts!... |
| (1, 0) 242 | Ti yw John Roberts, onid e'? |
| (1, 0) 246 | Nage, nage. |
| (1, 0) 247 | Nid Dic Huws wyt ti 'nawr. |
| (1, 0) 248 | Anghofia dy enw iawn. |
| (1, 0) 249 | Cofia mai John Roberts wyt ti. |
| (1, 0) 250 | 'Rwyf am iti fyw y part — drwy'r dydd a phob dydd. |
| (1, 0) 251 | Yn y gwaith, yn y ty — cymer ef i'r gwely gyda thi. |
| (1, 0) 255 | Tawelwch!... |
| (1, 0) 256 | Paid a chellwair, 'machgen i! |
| (1, 0) 257 | Dyma'r unig ffordd i roi portread teilwng o gymeriad. |
| (1, 0) 258 | Byw y part! |
| (1, 0) 259 | Cofia mai John Roberts wyt ti. |
| (1, 0) 260 | Dyn pwysica'r dre' — dyn yn berchen miloedd o bunnau... |
| (1, 0) 262 | Rhaid iti ddychmygu'r peth. |
| (1, 0) 264 | A bydda i yma i dy helpu di. |
| (1, 0) 268 | Tawelwch! |
| (1, 0) 269 | 'Rarswyd fawr, ydi golygfa' fel yma yn destun chwerthin? |
| (1, 0) 270 | Gwel'd bachgen mor hurt nes methu deall peth syml fel... |
| (1, 0) 272 | Wyt ti yn deall, 'ta? |
| (1, 0) 274 | Pam wyt ti'n ymddwyn fel hyn 'te? |
| (1, 0) 275 | Does gyda ni ddim mumud i'w gwastraffu, a... |
| (1, 0) 277 | Ie? |
| (1, 0) 279 | Wel, cadw e'. |
| (1, 0) 283 | Fy helpu i?... |
| (1, 0) 284 | 'Dwy i ddim am help neb! |
| (1, 0) 285 | Nid dyma'r ddrama gynta' i mi drefnu. |
| (1, 0) 286 | 'Rwy'n gyfarwydd a'r gwaith o A i Z. |
| (1, 0) 287 | 'Rown i wedi sgrifennu drama cyn i dy eni di! |
| (1, 0) 289 | Hon? Diain i!... |
| (1, 0) 293 | Pwy yma all fy helpu? |
| (1, 0) 294 | Y fi 'sgrifennddd y ddrama, a myfi, yn unig, sy'n i deall hi, |
| (1, 0) 296 | Beth wyt ti'n feddwl? |
| (1, 0) 300 | Ydw. |
| (1, 0) 303 | O! |
| (1, 0) 305 | Y... nagoes. |
| (1, 0) 307 | Y... ie, dyna fe. |
| (1, 0) 308 | Ma 'na lawer gormod o siarad 'ma. |
| (1, 0) 309 | Act I i ddechre! |
| (1, 0) 311 | 'Nawr 'te, y ford yn y canol. |
| (1, 0) 312 | 'B'le ma'r ford? |
| (1, 0) 313 | Dewch a hi mlaen. |
| (1, 0) 314 | Dyna fe! |
| (1, 0) 315 | Cadair fan yma — cadair fan yna — drws ar y dde —- drws ar y chwith — i ddechre. |
| (1, 0) 316 | Ble ma' Marged? |
| (1, 0) 319 | Yn eistedd wrth y ford. |
| (1, 0) 321 | Nage, nage, — nid y fenyw drws nesa' sy' 'ma. |
| (1, 0) 322 | Ond y chi, — perchen y ty a'r cyfan sydd ynddo. |
| (1, 0) 323 | Eisteddwch ar y sêt i gyd — nid ar ei hymyl. |
| (1, 0) 324 | John y Gwas! |
| (1, 0) 325 | Wyt ti'n barod? |
| (1, 0) 328 | Wyt ti wedi dysgu dy bart? |
| (1, 0) 331 | Yn od? |
| (1, 0) 332 | Beth wyt ti'n feddwl? |
| (1, 0) 334 | O! |
| (1, 0) 335 | Er pryd wyt tì yn gritig ar ddrama? |
| (1, 0) 337 | Gad di'r meddwl i fi, machgen i. |
| (1, 0) 338 | Wyt ti wedi dysgu dy bart? |
| (1, 0) 340 | Ymlaen a thi, 'te. |
| (1, 0) 342 | 'Nawr te, pawb yn barod? |
| (1, 0) 343 | Marged yn eistedd wrth y ford! |
| (1, 0) 348 | Be-be-be' ddwedaist di? |
| (1, 0) 351 | Be' ddwedaist ti? |
| (1, 0) 355 | Y nefoedd fawr! |
| (1, 0) 357 | Beth sy' yn dy gopi-bwc di? |
| (1, 0) 360 | Dy bart di? |
| (1, 0) 361 | Ond y-y-y beth alla' i dy alw di? |
| (1, 0) 362 | Nid dy bart di yw hwnna. |
| (1, 0) 365 | Siarad gynta... |
| (1, 0) 366 | Ond y — |
| (1, 0) 367 | O'r arswyd! beth alla'i dy alw di? |
| (1, 0) 368 | Nid part yw hwnna! |
| (1, 0) 371 | Stage directions! Stage directions! |
| (1, 0) 375 | Ie, a'r olaf. |
| (1, 0) 376 | Cer tua thre a phaid â... |
| (1, 0) 377 | Na, aros. |
| (1, 0) 378 | 'Rwy wedi cael digon o drafferth yn barod i gasglu'r chwech ohonoch chi. |
| (1, 0) 379 | Cer i dy le, a chofia, dwed dy bart, ac actia'r "stage directions". |
| (1, 0) 381 | Ti oedd yn od, y ff... ff... |
| (1, 0) 382 | Ond brysia, neu fe fyddwn yma drwy'r nos. |
| (1, 0) 383 | Wyt ti'n deall nawr? |
| (1, 0) 385 | Wel, ymlaen a thi, a thyrd i mewn eto. |
| (1, 0) 388 | A Marged, eisteddwch yn gartrefol, da chi! |
| (1, 0) 390 | Gwneud rhywbeth? |
| (1, 0) 391 | Beth y'ch chi'n feddwl? |
| (1, 0) 393 | Gwneud beth? |
| (1, 0) 395 | O, ma' pawb yn gwau mewn drama Gymraeg. |
| (1, 0) 396 | Fe fydd yn ychydig o newid i weld menyw yn eistedd yn llonydd, John! |
| (1, 0) 398 | John!! |
| (1, 0) 400 | Be' gynllw'n wyt ti wneud? |
| (1, 0) 402 | Ond nid gwas Dic Huws wyt ti. |
| (1, 0) 404 | A myn brain i, rwy innau bron a gorffen hefyd! |
| (1, 0) 405 | Os nad wyt ti'n dod, 'rwy i'n mynd. |
| (1, 0) 407 | Ydw, mor wired a mod i'n sefyll fan yma. |
| (1, 0) 408 | Rwyf wedi cael digon ar y ffolineb 'ma, a... |
| (1, 0) 411 | Ca' dy geg, a cher nol i dy le! |
| (1, 0) 412 | Rwy o ddifrif. |
| (1, 0) 413 | Nid chwarae drama sy' 'ma, ond chware plant bach. |
| (1, 0) 416 | O, wyt ti? Wel, ti elli aros i mi 'nawr. |
| (1, 0) 418 | Ai dyma'r ffordd i wneud cyfiawnder a'r ddrama 'ma? |
| (1, 0) 419 | Mae chware drama yn golygu gwaith, a gwaith caled, ac os nad i chi yn barod i weithio mi a i oddi yme i rywle lle y caiff y ddrama chware teg! |
| (1, 0) 421 | Fi sy'n siarad nawr. |
| (1, 0) 422 | Dyma rybudd i chi: os na 'dych chi'n gwella, rwy'n mynd. |
| (1, 0) 423 | Fe wn am gwmni fydd yn falch ohonof! |
| (1, 0) 425 | Rwy'n dweud y gwir. |
| (1, 0) 427 | Fy musnes i yw hynny, ond dyn nhw ddim can milltir oddi yma, a ma' 'na groese cynnes yn fy aros. |
| (1, 0) 429 | Pwy sy'n siarad am fynd? |
| (1, 0) 430 | Rhoi rhybudd wnes i. |
| (1, 0) 431 | 'Nawr te, ydych chi'n addo gwella? |
| (1, 0) 433 | Wel? |
| (1, 0) 436 | O'r gore. |
| (1, 0) 437 | Ymlaen a ni, ond cofiwch, dim rhialtwch! |
| (1, 0) 438 | John, i dy le, a dechre' eto. |
| (1, 0) 439 | Marged, barod? |
| (1, 0) 442 | Nawr te. |
| (1, 0) 449 | O, llythyr? |
| (1, 0) 450 | Yn enw popeth, Marged, sawl gwaith y dydd byddwch chi'n cael llythyr? |
| (1, 0) 452 | Rhowch groeso i'r llythyr, ferch. |
| (1, 0) 453 | Nid bil yw e. |
| (1, 0) 454 | O! llythyr! |
| (1, 0) 455 | Unwaith eto. |
| (1, 0) 457 | Nid y ti — nid y ti — y — y. |
| (1, 0) 458 | O! beth alla i dy alw di? |
| (1, 0) 459 | Beth yw'r llythyr i ti? |
| (1, 0) 460 | I Marged ma'r llythyr. |
| (1, 0) 462 | Ie, yn dawel. |
| (1, 0) 463 | Bydd yn olreit. |
| (1, 0) 464 | Cofia mai gwas wyt ti. |
| (1, 0) 465 | Yn gweiddi felna. |
| (1, 0) 466 | Nid 'i —'i gwr hi wyt ti. |
| (1, 0) 471 | Dyna welliant, |
| (1, 0) 474 | Pwy? |
| (1, 0) 477 | Yr arswyd fawr! |
| (1, 0) 478 | Cer ymlaen a'r ddrama. |
| (1, 0) 480 | Edrych yma. |
| (1, 0) 481 | Dyma'r tro cynta i ti fod mewn drama. |
| (1, 0) 483 | Gwna'n fawr o'r cyfle yma. |
| (1, 0) 485 | Fe gei di weld paml |
| (1, 0) 487 | Y nefoedd fawr! |
| (1, 0) 488 | Glywsoch chi'r fath beth erioed. |
| (1, 0) 489 | Pob tro rwy'n agor fy ngheg, ma' — ma' — ma' hwn yn gosod i droed ynddo! |
| (1, 0) 490 | Cer 'nol i dy le, a dechre eto! |
| (1, 0) 499 | Beth ddwedais di? |
| (1, 0) 501 | Ydi hwnna yn dy gopi-bwc di? |
| (1, 0) 503 | O! joc, iefe? |
| (1, 0) 504 | Be' sy' gan y ddrama i wneud a jokes? |
| (1, 0) 505 | Dyna pam y mae'r ddrama Gymraeg mor wael ei safle heddiw; meddwl mai dim ond jokes sydd eisie! |
| (1, 0) 506 | I'r cythraul a'r jokes! |
| (1, 0) 507 | Beth sy' yn dy lyfr di? |
| (1, 0) 509 | Dwed e, te. |
| (1, 0) 511 | Nawr te, Marged. |
| (1, 0) 513 | O'r "Wel, wel". |
| (1, 0) 514 | Rho'r llythyr iddi, John, |
| (1, 0) 517 | Robert Bifan, wyt ti'n barod? |
| (1, 0) 520 | Nawr, Marged, |
| (1, 0) 533 | Yn enw pob synnwyr, pam y chwerthin 'ma? |
| (1, 0) 537 | Ond-ond pa joc? |
| (1, 0) 538 | Wela i ddim joc. |
| (1, 0) 541 | Fe ddwedodd, "Oes, mae'n debyg" — dyna i gyd. |
| (1, 0) 542 | Mae'n glir i bawb, mi obeithiaf, fod gan Marged rywbeth i'w ddweud, ac mae John yn dweud, "Oes, mae'n debyg":! |
| (1, 0) 543 | Os ydi hwnna'n joc... |
| (1, 0) 545 | Diolch yn fawr. |
| (1, 0) 546 | Nawr, ymlaen, a chofiwch hyn: fydd na ddim jokes yn y ddrama hon. |
| (1, 0) 549 | Unwaith eto, Marged. |
| (1, 0) 550 | Bydd yn barod, Robert Bifan. |
| (1, 0) 557 | Wel done, Robert! |
| (1, 0) 558 | Unwaith eto. |
| (1, 0) 560 | Ardderchog! |
| (1, 0) 561 | Glyw di, John. |
| (1, 0) 562 | Dyna'r ffordd i siarad! |
| (1, 0) 564 | Do, do, rwy'n gwybod, ond... |
| (1, 0) 566 | O, ca' dy geg! |
| (1, 0) 567 | Mae'n bleser cael gafael ar fachgen fel Robert 'na, a'i holl galon yn y gwaith, ac yn gwybod pob gair o'i bart. |
| (1, 0) 568 | Cer 'mlaen, Robert, machgen i — o'r dechre eto. |
| (1, 0) 572 | Distawrwydd, os gwelwch yn dda! |
| (1, 0) 574 | Wrth gwrs, wrth gwrs, does na ddim syndod dy fod ti wedi anghofio — yr holl ffys a rhialtwch sy' ma. |
| (1, 0) 575 | Dyma'r geiriau: "Ha. John, beth wyt ti..." |
| (1, 0) 578 | O, favourite, ife? |
| (1, 0) 579 | Wel, gwrando: fyddi di ddim yn favourite gan neb, hyd yn oed gan dy fam. |
| (1, 0) 580 | Robert ymlaen! |
| (1, 0) 584 | Beth ddwedaist di? |
| (1, 0) 587 | O! rwyt ti'n dechre pwti, wyt ti? |
| (1, 0) 589 | Yn dweud: Ond —- Mr. Bifan, felna. |
| (1, 0) 590 | Rho ystyr i'r peth! |
| (1, 0) 593 | Dyna well. |
| (1, 0) 595 | Yr "Ond" na. |
| (1, 0) 597 | Be' gynllw'n wyt ti yn ddweud, te? |
| (1, 0) 599 | Cer ymlaen a dy bart, a phaid â... |
| (1, 0) 602 | Dyna fe. |
| (1, 0) 605 | Ardderchog. |
| (1, 0) 609 | Ti? |
| (1, 0) 611 | Ond rwy'n gwrando amnat ti — rwy'n gorfod gwrando? |
| (1, 0) 612 | Dwed cy bart a gad dy... |
| (1, 0) 615 | Dyna fe — fe wnaiff y tro; ond cer ymlaen, does na neb yma yn drwm 'i glyw... |
| (1, 0) 616 | Robert! |
| (1, 0) 619 | Ma 'na air cyn y "dim" 'na, |
| (1, 0) 621 | Oes. |
| (1, 0) 623 | Pwy sgrifennodd y ddrama 'ma, fi neu ti? Ble mae dy gopi-bwc di? |
| (1, 0) 629 | Edrych eto. |
| (1, 0) 633 | Beth am y bracet 'na? |
| (1, 0) 636 | Ie — ar ol y gair "John". |
| (1, 0) 638 | Beth mae'n ddweud? |
| (1, 0) 641 | Eitha reit. |
| (1, 0) 642 | Ond rhaid iti actio 'fe. |
| (1, 0) 645 | Defnyddia dy wyneb. |
| (1, 0) 646 | Dangos y peth: facial expression — dyna be' sydd eisie! |
| (1, 0) 649 | Rhywbeth fel hyn, nawr? |
| (1, 0) 650 | Gwel. |
| (1, 0) 652 | Nage, nade, nage! |
| (1, 0) 653 | Fe all y wyneb ddangos y cyfan. |
| (1, 0) 654 | Edrych ar yr expression nawr... |
| (1, 0) 655 | Weldi e? |
| (1, 0) 656 | Dyma fe eto iti... |
| (1, 0) 657 | Ges di e? |
| (1, 0) 658 | Beth oedd hwnna'n ddangos? |
| (1, 0) 661 | Edrych eto... |
| (1, 0) 663 | Beth yw e? |
| (1, 0) 665 | Ardderchog! |
| (1, 0) 666 | Rwyt ti'n gwella! |
| (1, 0) 669 | O, cer 'mlaen a dy bart. |
| (1, 0) 670 | Gad dy wyneb fel y mae e. |
| (1, 0) 671 | Unwaith eto, Robert. |
| (1, 0) 678 | Hei! |
| (1, 0) 679 | Chwerthin sy'n eisieu fan 'na — nid asthma. |
| (1, 0) 681 | Wel, chwerthin, te! |
| (1, 0) 688 | Be' sy'n bod arnyn' nhw? |
| (1, 0) 692 | Beth wyt ti'n rhoi iddyn nhw? |
| (1, 0) 694 | Tipyn o bopeth? |
| (1, 0) 695 | Gwarchod pawb. |
| (1, 0) 696 | Be' wyt ti'n ddisgwyl ond trwbwl os wyt ti'n... |
| (1, 0) 698 | Nagwyt. |
| (1, 0) 699 | Ma' hanner ffowls y wlad 'ma yn codi'u hunain. |
| (1, 0) 700 | Oedd 'na deisen ar ol ddydd Sul? |
| (1, 0) 702 | A dyna be' roes di iddyn' nhw? |
| (1, 0) 704 | Rown i'n meddwl. |
| (1, 0) 705 | Gormod o lard. |
| (1, 0) 706 | Gormod o siwgr. |
| (1, 0) 708 | Gwrando. |
| (1, 0) 709 | Heno, rho lonydd iddyn nhw. |
| (1, 0) 711 | Fory, gwna'r un peth. |
| (1, 0) 712 | Mewn diwrnod fe fydd popeth yn iawn, |
| (1, 0) 714 | Credu? |
| (1, 0) 715 | Rwy'n gwybod, 'machgen i. |
| (1, 0) 716 | Cer ymlaen a dy bart. |
| (1, 0) 719 | Y chwerthin. |
| (1, 0) 723 | Beth gynllw'n sy'n bod nawr? |
| (1, 0) 725 | Paid a dweud, |
| (1, 0) 730 | O, wrth gwrs — ma popeth yn fwy pwysig na'r ddrama. |
| (1, 0) 732 | Ymlaen a ni. |
| (1, 0) 733 | Fe fydd e'n siwr o flino cyn bo hir. |
| (1, 0) 735 | Does fawr o siap arno nawr. |
| (1, 0) 737 | Rarswyd fawr! |
| (1, 0) 738 | Pwy sy' 'na? |
| (1, 0) 740 | Ie, rwy'n gwybod. |
| (1, 0) 741 | Ond pwy y'ch chi? |
| (1, 0) 753 | Aros di fan 'na. |
| (1, 0) 755 | Fe all rhywun arall fynd. |
| (1, 0) 757 | Ewch, — un o chi tu ol 'na. |
| (1, 0) 772 | Wel, ar fy ngeir! |
| (1, 0) 773 | Yr holl ffys hyn am allwedd drws! |
| (1, 0) 787 | O... |
| (1, 0) 788 | Felly?... |
| (1, 0) 789 | Dyna'ch syniad am waith y ddrama, ife? |
| (1, 0) 792 | Richard Hughes, — aros ble'r wyt ti! |
| (1, 0) 796 | Ar y llwyfan yna, fi yw y... y... fi yw cadben y llong!... |
| (1, 0) 797 | Rho'r allwedd i mi... |
| (1, 0) 798 | Diolch! |
| (1, 0) 799 | Dyma hi, Mrs, Huws, a nawr, nos da! |
| (1, 0) 806 | Nawr, nawr, Mrs. Huws... |
| (1, 0) 813 | Cauwch y drws yn dynn! |
| (1, 0) 816 | Nawr, dewch ymlaen, heb oedi! |
| (1, 0) 817 | Ma'r amser yn mynd! |
| (1, 0) 820 | Dyna ddigon — dyna ddigon. |
| (1, 0) 821 | O'r dechre eto. |
| (1, 0) 825 | Ie, o'r dechre eto. |
| (1, 0) 826 | Pam? |
| (1, 0) 829 | Beth sy gan Mrs. Huws i wneud a'r practis yma? |
| (1, 0) 830 | Dewch! |
| (1, 0) 832 | Fe gaiff Richard Huws noson o gwsg gan i os bydd 'i wraig e' wedi... |
| (1, 0) 835 | Wel, wel! |
| (1, 0) 836 | Dyna'r drws 'na eto. |
| (1, 0) 837 | Ma'r lle 'ma'n fwy tebyg i farchnad na festri! |
| (1, 0) 839 | Beth? |
| (1, 0) 840 | Mrs. Huws? |
| (1, 0) 841 | Ewch — un o chi — agorwch y drws! |
| (1, 0) 843 | Brysiwch, brysiwch. |
| (1, 0) 844 | Olreit, Mrs. Huws, — ma nhw'n dod. |
| (1, 0) 848 | Pwy sy' 'na? |
| (1, 0) 852 | O! |
| (1, 0) 855 | Jacob? |
| (1, 0) 856 | Be' gynllw'n sy' eisie ar y creadur yna nawr? |
| (1, 0) 857 | Pwy yw'r llall? |
| (1, 0) 863 | Pam? |
| (1, 0) 864 | Beth y'ch chi am wneud? |
| (1, 0) 868 | Gwneud beth? |
| (1, 0) 871 | T... t... tiwnio'r.... piano! |
| (1, 0) 873 | Ond y dyn ofnadwy. |
| (1, 0) 874 | Ma' hyn yn warthus! |
| (1, 0) 877 | Ydi e'n fyddar? |
| (1, 0) 882 | Ond, Jacob, rym ni'n cael practis drama. |
| (1, 0) 888 | Ond beth amdanom ni? |
| (1, 0) 890 | Rym ni'n cael practis drama. |
| (1, 0) 892 | Oedd yn rhaid i chi ddod a hwn yma heno? |
| (1, 0) 896 | Ydi hi'n bosibl cynnal practis fan yma tra bydd e'n pwno un nodyn tragwyddol ar yr offeryn 'na? |
| (1, 0) 903 | Cord! Ambell gord! |
| (1, 0) 905 | Clywch arno. |
| (1, 0) 906 | Rarswyd fawr. |
| (1, 0) 907 | Ma' hyn yn annioddefol. |
| (1, 0) 908 | Rwy'n mynd. |
| (1, 0) 911 | Ydw! |
| (1, 0) 912 | Rwy'n mynd. |
| (1, 0) 913 | Rwy wedì cael digon ar y lle 'ma. |
| (1, 0) 914 | Doedd na ddim shap ar y practis o'r dechre; ond ma'r tiwnio ma wedi gosod y cap arni. |
| (1, 0) 915 | Y'ch chi'n credu fy mod i'n mynd i aros yma a gweld fy nrama i — plentyn fy nychymyg — yn cael ei diystyru fel yma? |
| (1, 0) 916 | Na wnaf! |
| (1, 0) 917 | Tra bo gennyf nerth i gerdded allan. |
| (1, 0) 918 | Does 'na ddim parch i ddrama yn y lle hwn. |
| (1, 0) 919 | Ma' popeth yn fwy pwysig na'r ddrama. |
| (1, 0) 920 | Ond fe wn i am le fydd yn falch o'r cyfle i chware fy nrama i — lle y ceir pobl a wyr ystyr y gair talent. |
| (1, 0) 922 | Ac os bydd rhaid tiwnio'r piano, ma' ganddynt ddigon o sens i wneud e' pan fydd na neb yno i'w glywed. |
| (1, 0) 925 | Mynd? |
| (1, 0) 926 | Rwy'n mynd i Gaersalem. |
| (1, 0) 927 | Nos dal! |
| (1, 0) 992 | 'Rwyf wedi dod nol! |
| (1, 0) 995 | Wyddoch chi pwy sy' tuallan? |
| (1, 0) 996 | Samuel Morgan, Arweinydd y Gan! |
| (1, 0) 997 | Yn cerdded yn ol ac ymlaen. |
| (1, 0) 998 | Ac i beth ddwedwch chi — i beth? |
| (1, 0) 999 | Mae'n aros i ngweld i'n cerdded allan. |
| (1, 0) 1000 | Welwch chi'r gem? |
| (1, 0) 1001 | Welwch chi'r tric? |
| (1, 0) 1002 | Ond fe all gerdded nol a mlaen drwy'r nos — 'rwy'n aros! |
| (1, 0) 1006 | Gall, gall. Fe all chware oratorio os y mynn e'! |
| (1, 0) 1008 | O'r dechre eto! |
| (1, 0) 1009 | Marged yn eistedd wrth y ford! |
| (1, 0) 1016 | Yr arswyd fawr! |