| (1, 0) 67 | Mae min yr awel yn torri fel rasal heno: roedd hi'n oer erwinol yn yr ardd 'na rwan, |
| (1, 0) 70 | Mae'r crwydriaid, fel rheol, yn derbyn 'u haeddiant: y nhw, mi wranta, sy'n gyfrifol am 'u cyflwr. |
| (1, 0) 71 | Jane, 'dwyt ti ddim bron dwyn y smwddio na i ben? |
| (1, 0) 72 | Does dim ond rhyw awr ne ddwy rhyngom ni a bore Saboth, wyddost. |
| (1, 0) 75 | Does dim fel darfod gwaith y tŷ yn brydlon nos Sadwrn i fod yn barod i'r Sul. |
| (1, 0) 77 | Ie. |
| (1, 0) 79 | Ezra Davis, Llanllios. |
| (1, 0) 82 | Jane, 'dalla i d'aros di yn siarad yn fychanus am ddynion da. |
| (1, 0) 84 | Be sy o'i le arno? |
| (1, 0) 87 | Paid a beio dyn am rhyw fân betha fel yna. |
| (1, 0) 89 | Fe ddarllena chydig adnodau, ac wedyn mi awn i orffwys. |
| (1, 0) 90 | Leiciech chi ddarllen heno, Elin? |
| (1, 0) 92 | Pam? |
| (1, 0) 93 | Ydych chi ddim yn dda heno? |
| (1, 0) 95 | Oes rhyw ran y leiciech chi i mi ei darllen? |
| (1, 0) 97 | O'r gore. |
| (1, 0) 98 | Jane, ddaru ti folltio'r drws? |
| (1, 0) 102 | Pam? |
| (1, 0) 104 | Bolltia fo fel arfar. |
| (1, 0) 108 | "Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab, a'r ieuengaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da, ac efe a rannodd iddynt ei fywyd." |
| (1, 0) 110 | "Ac ar ol ychydig o ddyddiau y mab ieuengaf a gasglodd y cwbl ynghyd ac a gymerth ei daith i wlad bell, ac yno efe a wasgarodd ei dda gan fyw yn afradlon." |
| (1, 0) 113 | Ddylai dim gael torri ar y darllen. |
| (1, 0) 116 | Jane, gwell agor y drws efallai: hwyrach fod y pregethwr wedi dwad heno yn lle bore fory. |
| (1, 0) 128 | Elin, steddwch i lawr, a pheidiwch a chyffroi'ch hunan. |
| (1, 0) 132 | Wraig! rhag cwilydd i chi adrodd geiria mor gysegredig uwchben creadur fel acw {gan gyfeirio ei fys ato}, sy wedi dwyn gwarth ardal gyfa arno ni; 'nacw sy'n gyfrifol am ddwyn y bedd flynyddoedd yn nês atoch chi, ei fam, ac ataf innau ei dad. |
| (1, 0) 133 | Ai mab yw'r un a gurodd hoelion i eirch ei rieni? |
| (1, 0) 138 | Na wna. |
| (1, 0) 141 | Na, dydi o ddim yn fab i mi bellach: mi fu 'y mab i farw chwe blynedd yn ol pan y gadawodd i gartref mewn gwarth. |
| (1, 0) 142 | Jane, mae'n bryd i ti fynd i dy wely. |
| (1, 0) 157 | Na, 'dei di'r un cam o'r tŷ 'ma tan fore Llun: rwyt ti wedi torri digon ar y Saboth y blynyddoedd dwaetha; thorri di mono fory o'r tŷ yma: os dyna dy fwriad, gwell i ti fynd oddiyma heno nesa. |
| (1, 0) 158 | Cofia, un o'r ddau beth─aros yma tan fore Llun, neu fynd heno. |
| (1, 0) 159 | Rwan, Elin, mi'ch helpiaf chi tua'r llofft. |