| (0, 3) 136 | Fama da chi'n cuddio! | 
| (0, 3) 138 | Lawr a ti ta! | 
| (0, 3) 141 | Anne ddim yn dy boeni di gobeithio! | 
| (0, 3) 144 | Mond y'ch bod chi gyd yn ffrindiau! | 
| (0, 3) 147 | Siwr sa well gen ti fod yng nghanol hogia run oed a ti. | 
| (0, 3) 149 | Chditha'n hogyn ifanc sy…bron yn ddyn. | 
| (0, 3) 151 | Na ti! | 
| (0, 3) 153 | Braf cael llonydd weithia dydi! | 
| (0, 3) 155 | Ddigon ohonan ni yma cofia…i gadw cwmpeini. | 
| (0, 3) 157 | Yndan y ngwas i. | 
| (0, 3) 159 | Na…ma bob dim i weld yn ei le. | 
| (0, 4) 211 | Mi o'n i'n y'ch clywed chi, bob gair! | 
| (0, 4) 212 | Rhag dy gywilydd di Anne! | 
| (0, 4) 213 | Rho'r llyfr na yn ei ol ar dy union. | 
| (0, 4) 215 | Mi fysa na ffasiwn sterics tasa Margot druan yn meiddio sbio ar un o dy lyfra di! | 
| (0, 4) 217 | Cwyd o, munud ma! | 
| (0, 4) 219 | Tyd yn ol yma! | 
| (0, 7) 332 | Sh! | 
| (0, 7) 333 | Glywsoch chi o? | 
| (0, 7) 335 | Gwranda eto! | 
| (0, 7) 336 | Glywis i wbath! | 
| (0, 7) 337 | Stedda Anne! | 
| (0, 7) 339 | Sh! | 
| (0, 7) 340 | Na fo eto! | 
| (0, 7) 342 | Bendith Tad i ti, stedda'n llonydd! | 
| (0, 7) 344 | Wyt ti isio i rywun dy weld di? | 
| (0, 7) 349 | Sh! | 
| (0, 7) 351 | Ma na rywun yma eto. | 
| (0, 7) 353 | Ma hi'n rhy hwyr i hynny! | 
| (0, 7) 354 | Ista lawr Anne! | 
| (0, 7) 356 | Symud bob dau funud! | 
| (0, 7) 357 | Sgin ti gynron? | 
| (0, 7) 358 | Neu trio ngwylltio fi wyt ti? | 
| (0, 7) 359 | Cwyno byth a beunydd! | 
| (0, 7) 361 | Gneud ati o hyd! | 
| (0, 7) 362 | Trio ngwylltio i! | 
| (0, 7) 363 | Isio cal y gora arna i… | 
| (0, 7) 364 | Isio ngweld i'n torri… isio mi… isio'n lladd i! | 
| (0, 7) 365 | Ond ne'i di ddim! | 
| (0, 7) 366 | O na! | 
| (0, 7) 367 | Mi na'i dy ymladd di i'r pen! | 
| (0, 7) 368 | Bob un ohona chi! | 
| (0, 7) 369 | Da chi'n y ngweld i? | 
| (0, 7) 372 | Dyma fi… | 
| (0, 7) 373 | Dyma fi! | 
| (0, 7) 377 | Ma ddrwg gynna i… | 
| (0, 7) 378 | Ddrwg gynna i Anne! | 
| (0, 7) 379 | Ti'n dallt dwyt? | 
| (0, 7) 380 | Ti di'n hogan fach i sdi. | 
| (0, 7) 381 | Geith neb dy frifo di… byth, y nghariad i. | 
| (0, 7) 382 | Nghalon aur i! | 
| (0, 7) 383 | Cariad Dad wyt ti bob tamad. | 
| (0, 8) 389 | Barod am dy wely? | 
| (0, 8) 390 | Ma hi di bod yn ddiwrnod hir. | 
| (0, 8) 392 | Mi yda ni gyd di tawelu rwan. | 
| (0, 8) 394 | Gwres ma'n deud arna ni gyd. | 
| (0, 8) 396 | Peter? | 
| (0, 8) 399 | Ma isio bod yn ofalus a ninna'n byw ar ben y'n gilydd fel hyn. | 
| (0, 8) 401 | Nagwyt siwr. | 
| (0, 8) 402 | Ond ma isio bod yn ddisgybledig. | 
| (0, 8) 404 | Dwi'n dallt sud ma hi ar y ddau ohono chi ond ma raid i ti fod yn bendant hefo fo. | 
| (0, 8) 405 | Peidio gneud mwy na sy raid. | 
| (0, 8) 407 | Ti'n gweld ma hogia ifanc yn licio mentro a ma isio i'r hogan ddangos yn glir be di be. | 
| (0, 8) 408 | Ddau ohona chi yng nghwmni'ch gilydd o hyd a ma beryg i betha fynd yn fler. | 
| (0, 8) 409 | Mae isio ti fod yn ofalus Anne. | 
| (0, 8) 410 | Sa well ti gadw dy bellter. | 
| (0, 8) 412 | Ge'i di ddigon o gyfla ar ol i ni adael fama i gyfarfod hynny lici di o hogia. | 
| (0, 8) 413 | Hynny ydi, o fewn rheswm! | 
| (0, 8) 414 | Ti'n gweld, dydi Peter ddim yn gymeriad mor gry a ti. | 
| (0, 8) 415 | Ma hi'n hawdd iawn dylanwadu arno fo a dydi o'm o'r hogyn mwya siarp! | 
| (0, 8) 417 | Ddim o gwbwl! | 
| (0, 8) 418 | Isio'r gora i ti dwi. | 
| (0, 8) 422 | Cysga'n dawel y nghariad i. | 
| (0, 8) 423 | Os ddaw na unrhyw… | 
| (0, 8) 425 | Gad mi orffen. | 
| (0, 8) 426 | Os lwydda nhw i'n ffeindio ni dydan ni… | 
| (0, 8) 428 | Ma'n bwysig y'n bod ni'n barod am beth bynnag ddaw. | 
| (0, 8) 430 | Peidio enwi neb. | 
| (0, 8) 432 | Ddim amdana ti dwi'n boeni. | 
| (0, 8) 433 | Ma hi'n gallu bod mor fyrbwyll a gwirion. | 
| (0, 8) 435 | Margot! | 
| (0, 8) 436 | Sensitif di dy fam! | 
| (0, 8) 437 | Does gynni'm help! | 
| (0, 8) 439 | Ma raid ti wastad gadw llygad ar y ddwy achos ga'i ddim aros efo chi. | 
| (0, 8) 440 | Dyna sy'n cael ei ddeud. | 
| (0, 8) 441 | Ma nhw'n gwahanu'r dynion a'r merched. | 
| (0, 8) 442 | Ond fyddwch chi'ch tair yn gry efo'ch gilydd. | 
| (0, 8) 443 | A ma'n bwysig y'ch bod chi'n cadw'ch ysbryd. | 
| (0, 8) 444 | Bach o dynnu coes bob hyn a hyn! | 
| (0, 8) 446 | Peidio tynnu sylw neb a dangos dim. | 
| (0, 8) 447 | Ag os oes raid ti ddeud rw gelwydd gola i gael Anne i neud i gwaith wel… | 
| (0, 8) 450 | Mi wyt ti mor … | 
| (0, 8) 452 | Na mi ydw i isio… | 
| (0, 8) 454 | Oes. | 
| (0, 8) 456 | Dwi wastad di bod mor falch ohona ti. | 
| (0, 8) 457 | Wastad. | 
| (0, 8) 458 | Paid ag anghofio hynny. | 
| (0, 8) 460 | Straeon ydyn nhw Margot. | 
| (0, 8) 462 | I be sa nhw isio lladd a nhwtha'n gallu defnyddio pobol i weithio! | 
| (0, 8) 463 | Ma hynny'n sefyll i rewsm siwr. | 
| (0, 8) 465 | Pan fyddwn ni'n rhydd a nol efo'n gilydd yn un teulu hapus mi gawn ni… | 
| (0, 8) 467 | Dyna ma dy fam yn neud yli! | 
| (0, 8) 468 | Practisio at hynny! | 
| (0, 8) 470 | Da'r Hogan. | 
| (0, 9) 479 | Meddyliwch amdano fo'n gorwedd yn sbyty yn diawlio'i Swyddogion. | 
| (0, 9) 480 | 'Heil Hitler! | 
| (0, 9) 481 | Mistec bach oedd o chi Fuhrer! | 
| (0, 9) 482 | Doedd y bwled ddim i fod i'ch hitio chi!' | 
| (0, 9) 484 | Y Fuhrer i hun! | 
| (0, 9) 488 | Mi oeddan nhw siwr o weld trwy i gelwydda fo'n diwedd! | 
| (0, 9) 495 | Dwn i'm am hynny Margot! | 
| (0, 9) 499 | Agor y drws a mynd allan i'r awyr iach! | 
| (0, 9) 502 | Gawn ni barti i ddiolch i bawb am eu help! | 
| (0, 10) 513 | Lle mae ngwraig i? | 
| (0, 10) 517 | Ydi'n iawn? | 
| (0, 10) 521 | Bron i ddwy flynedd. | 
| (0, 10) 527 | Mi oedd na un dyn arall. | 
| (0, 10) 529 | Ym… | 
| (0, 10) 533 | Dussel. | 
| (0, 10) 535 | Albert. | 
| (0, 10) 537 | Neb arall. | 
| (0, 10) 546 | Neb. | 
| (0, 10) 548 | Mi fuon ni'n byw ar fwyd sych. | 
| (0, 10) 554 | Doedd na neb yn ein helpu ni! | 
| (0, 10) 556 | Mi oeddan ni wedi bod yn hel y bwyd ers dros flwyddyn. | 
| (0, 10) 566 | Mi ga'i weld pwy ydw i'n nabod yma. | 
| (0, 10) 570 | Ma raid i ni fod yn gry! | 
| (0, 10) 571 | Da chi'n dallt? |