| (1, 0) 105 | O, dyma hi! |
| (1, 0) 110 | Meddyliais i na chawn i ddim dod o gwbl gyda'r creadur bach gwirion 'na. |
| (1, 0) 123 | Cewch, wir. |
| (1, 0) 125 | Wel, sut y'ch chi Mary ers llawer dydd? |
| (1, 0) 128 | 'Dwy byth yn caru achwyn, fel y gwyddoch. |
| (1, 0) 130 | Dewch ymlaen, Dilys fach. |
| (1, 0) 131 | Rych chi'n bertach nag erioed, beth bynnag. |
| (1, 0) 132 | Dod i'ch gweld chi wnes i'n bennaf. |
| (1, 0) 135 | Dydd Mercher, a chlywais eich bod chi wedi gorffen yn y Coleg, ac 'rwy'n cofio bod eich penblwydd yfory, {yn chwareus} ac 'rwyf am (LETITIA'n codi oddi wrth ei gwaith, i wrando'n ben-agored} 'rwyf am roi cyngor neu ddau i chi ar ddechrau'ch gyrfa. |
| (1, 0) 142 | Gwyddoch mai chi, Dilys, yw fy ffafret i erioed. |
| (1, 0) 143 | Yr ydych mor debyg i fi. |
| (1, 0) 146 | O ran golwg, 'rwy'n feddwl. |
| (1, 0) 148 | Ac os yw Dilys yn un am wario, pwysica'n y byd iddi ofalu cychwyn ar y ffordd iawn i gael digon o fodd, ynte? |
| (1, 0) 155 | O, yr Athro, ai e? |
| (1, 0) 156 | Mae e'n dal yn ffyddlon o hyd, ydi e'? |
| (1, 0) 157 | Mae'n dda 'na phrynais i ffrwythau i chi, Mary fach. |
| (1, 0) 158 | Bum bron â phrynu sypyn mawr o grapes hyfryd i chi, ond, dyna fe, aent yn ofer, os yw'r Athro'n dod â rhai, hefyd. |
| (1, 0) 162 | Fe gewch chithau ddigon ond i chi roi'ch meddwl ar hynny. |
| (1, 0) 163 | Doedd eich tad—ond 'roech chi'n rhy ifanc i'w gofio—'doedd e'n meddwl dim am arian. |
| (1, 0) 164 | Gweithio'n galed ac ennill dim fynnai ef. |
| (1, 0) 167 | Byddai yn ddyn gwell pe bae wedi darparu ar gyfer ei deulu, goelia i, yn lle eu gadael heb ddim. |
| (1, 0) 169 | Gallsai help yn iawn—mynnu gadael ei swydd a mynd i bregethu! |
| (1, 0) 170 | Heblaw hynny, faint weithiodd e am ddim, gyda'r hen bapur hynny o dan ei olygiaeth? |
| (1, 0) 172 | Twt! |
| (1, 0) 175 | Wel, oedd dim disgwyl i mi... |
| (1, 0) 179 | Rhaid i chi beidio sylwi ar eich mam â'i "gofal Rhagluniaeth." |
| (1, 0) 180 | Gofalwch chi amdanoch eich hunan. |
| (1, 0) 181 | Dyna fydd saffa i chi. |
| (1, 0) 184 | Gofalwch wneud hynny, 'te. |
| (1, 0) 188 | Helo, Jane, sut y'ch chi? |
| (1, 0) 190 | Siarad 'rown i nawr gyda Dilys, ynghylch priodi'n gyfoethog. |
| (1, 0) 191 | Rhaid iddi beidio â bod yn hen ferch fel chi a minnau. |
| (1, 0) 203 | 'Does dim o'r ddawn at weithio gan bawb, Jane. |
| (1, 0) 204 | Mae'n hawdd gweld wrth eich golwg chi, mai i waith y'ch galwyd chi. |
| (1, 0) 206 | Ie, a mawr les a wnaeth ei holl sgrifennu i chi! |
| (1, 0) 207 | 'Chafodd e' ddim dimai goch erioed. |
| (1, 0) 210 | Twt! |
| (1, 0) 221 | Letitia yw enw'r forwyn ofnadwy yna, ai e? |
| (1, 0) 222 | Pam 'rych chi'n cadw rhyw greadur fel yna, Jane? |
| (1, 0) 223 | Rwy'n deall nad yw Dilys na'ch mam am ei chadw. |
| (1, 0) 227 | O'n wir! |
| (1, 0) 241 | A finnau hefyd. |
| (1, 0) 242 | 'Rych chi, Jane, yn gwneud te blasus bob amser. |
| (1, 0) 243 | Bum yn meddwl prynu rhai o'r teisennod hyfryd o siop y Castell, ond 'rown i'n ofni'ch insyltio chi. |
| (1, 0) 244 | Mae gennych chi rywbeth gwell, 'rwy'n siwr. |
| (1, 0) 252 | Fydd dim rhaid chwilio'n galed goelia 'i, gyda'ch wyncb chi, Dilys. |
| (1, 0) 255 | O yn wir! |
| (1, 0) 256 | A phwy yw Oswald? |
| (1, 0) 261 | Tewch, Mary! |
| (1, 0) 262 | Gobeithio na fydd Dilys byth fyw fel hynny. |
| (1, 0) 263 | Beth am yr Athro, Dilys? |
| (1, 0) 264 | Mae e'n graig o arian. |
| (1, 0) 265 | Ydi e'n gwneud cymaint ohonoch ag oedd e'? |
| (1, 0) 268 | Dyna'r dyn i chi, 'te, Dilys. |
| (1, 0) 270 | Hen, wir, mae e' ddeng mlynedd yn iau na mi, a ddwedai neb 'mod i'n hen. |
| (1, 0) 274 | Ha! 'nawr yw eich amser chi, Dilys. |
| (1, 0) 275 | Does dim fel bod yn ifanc. |
| (1, 0) 277 | Jane, wir! |
| (1, 0) 278 | Beth yw ei busnes hi? |
| (1, 0) 281 | Mae Jane yn afresymol. |
| (1, 0) 288 | 'Run fath â minnau! |
| (1, 0) 291 | Dyna i chi, wir! |
| (1, 0) 292 | Chwaraewch eich cardiau'n iawn, heno, ac yna fydd dim eisiau i chi ddioddef tafod Jane yn hir. |
| (1, 0) 298 | Fe welais i ffrog berta fyddai'n eich taro chi i'r dim, pan own i ffwrdd—un sidan binc a rhubanau felfed. |
| (1, 0) 299 | Dim ond tair gini oedd ei phris. |
| (1, 0) 300 | Bum yn meddwl ei phrynu i chi. |
| (1, 0) 302 | Do, 'merch i; ond meddyliais wedyn bod digon i'w cael gennych chi, efallai, a mae dillad yn mynd mor hen-ffasiwn. |
| (1, 0) 307 | 'Trueni na fyddai ganddi ffrog newydd, hefyd. |
| (1, 0) 311 | Aroswch funud, nes daw Dilys lawr â'r ffrog sydd ganddi ar gyfer y Ginio, heno. |
| (1, 0) 312 | Mae i fod yn amgylchiad neilltuol heno, 'rwy'n meddwl. |
| (1, 0) 316 | 'Dyw Dilys ddim yr un fath â chi, Jane. |
| (1, 0) 317 | Mae hi'n ifanc, ac yn bert, ac yn mwynbau ciniawau, a dawnsiau a phethau o'r fath. |
| (1, 0) 318 | Dyw hi ddim yn golygu bod yn hen ferch. |
| (1, 0) 320 | 'Nawr yw ei hamser hi, a rhaid i chi ei chefnogi i fanteisio ar ei chyfle. |
| (1, 0) 337 | A 'does dim chwant arnoch chi i fynd o gwbl, Jane. |
| (1, 0) 338 | Nawr y dywedsoch hynny'ch hunan. |
| (1, 0) 343 | Mi ddweda i wrthych chi, Jane. |
| (1, 0) 344 | Mae gennym ni le i feddwl fod rhywun bach yn mynd i ofyn am law Dilys, heno. |
| (1, 0) 347 | Jane fach, mae Dilys a minnau yn deall yr arwyddion. |
| (1, 0) 348 | Os wyf yn ddi-briod, rhaid i chi beidio â meddwl na ches i ddigon o gynhigion i ddeall yr arwyddion. |
| (1, 0) 349 | Ha ha! |
| (1, 0) 353 | Beth, John Gray y nofelydd? |
| (1, 0) 358 | Peidiwch bod fel yna, Jane. |
| (1, 0) 359 | Bydd yn dipyn o glod i Dilys i ddod i gyffyrddiad â dyn mawr fel John Gray. |
| (1, 0) 363 | Rhag cywilydd i chi, Jane, dyn sydd â'i enw ar wefusau pawb. |
| (1, 0) 364 | Mae e'n ddibriod hefyd, 'rwy'n deall. |
| (1, 0) 367 | Ydych chi'n jealous, Jane? |
| (1, 0) 368 | Efallai eich bod am fynd i'w weld eich hunan! |
| (1, 0) 371 | 'Does dim eisiau tymer ddrwg, Jane. |
| (1, 0) 378 | Dyna rywbeth 'nawr, Jane. |
| (1, 0) 379 | Dewch Mary. |
| (1, 0) 380 | Pwyswch arnaf i. |
| (1, 0) 475 | Be sy'n bod? |
| (1, 0) 476 | Be sy'n bod, Dilys fach? |
| (1, 0) 477 | Dyna fe, eisteddwch, Mary. |
| (1, 0) 478 | Be sy'n bod Dilys? |
| (1, 0) 479 | 'Dallwn i ddim aros i orffen ein bwyd. |
| (1, 0) 480 | Be mae Letitia'n wneud i chi? |
| (1, 0) 489 | Yr hen sgampen fach! |
| (1, 0) 502 | Celwydd golau! |
| (1, 0) 503 | Fe ddywed ei bod yn mynd gyda John Gray nesaf! |
| (1, 0) 506 | Bobol fach! |
| (1, 0) 507 | Nid celwydd ond colled! |
| (1, 0) 508 | Mae colled wyllt arni. |
| (1, 0) 516 | Mae colled wyllt ar Letitia. |
| (1, 0) 518 | Ond mae hi |yn| mynd, Dilys fach, i briodi'r Athro. |
| (1, 0) 531 | Beth, chi... yn priodi... yr Athro? |
| (1, 0) 533 | Ysgrifennydd i'r Athro? |
| (1, 0) 538 | Hawyr bach! |
| (1, 0) 539 | Ydi'r ddwy wedi drysu? |
| (1, 0) 549 | Pwy feddyliai! |
| (1, 0) 550 | Jane, o bawb! |
| (1, 0) 553 | Oes dim eisiau gofyn wir! |