| (1, 1) 6 | Eistedd i lawr, Dora. |
| (1, 1) 9 | Wnes i ddim ond ateb eich cwestiwn chi, Dora. |
| (1, 1) 10 | Beth arall fedrwn i 'i ddweud? |
| (1, 1) 12 | Amheus? |
| (1, 1) 13 | Dydw' i ddim yn deall. |
| (1, 1) 17 | Ond Dora fach, oes yna rywbeth allan o'i le mewn munud o seibiant, a bwrw golwg dros y papur newydd yma? |
| (1, 1) 19 | Wel ia, ond 'does yna ddim diben— |
| (1, 1) 24 | Ond Dora— |
| (1, 1) 28 | Diaist i, os 'rydych chi'n gaethwas, be' ydw' i? |
| (1, 1) 32 | Be—smocio fel corn simdde? |
| (1, 1) 36 | Dim ond pob pnawn, Dora, pan ddaw Mrs. Vaughan Davies yma. |
| (1, 1) 41 | Dim o gwbwl. |
| (1, 1) 42 | Mi gewch straeona am ddwy awr o'm rhan i! |
| (1, 1) 47 | Chi oedd yn siarad tra 'roeddwn i'n darllen, Dora. |
| (1, 1) 53 | Welsoch chi fy rasal i, Dora? |
| (1, 1) 56 | Dim ond meddwl y buaswn i'n shafio dipyn o gwsberis tra y bydda' i wrthi—! |
| (1, 1) 59 | Cysidro be'? |
| (1, 1) 61 | Wel ia, erbyn i chi ddweud. |
| (1, 1) 62 | Be sy'n bod—ydach chi'n mynd i gyn'ebrwng rhywun? |
| (1, 1) 65 | Mae'n ddrwg gen' i os gwnes i gamgymeriad. |
| (1, 1) 66 | Ond yn naturiol dyna'r syniad cynta' ddaeth i 'meddwl i. |
| (1, 1) 67 | Fedra' i feddwl am ddim arall—os nad dillad du ydy'r ffasiwn newydd. |
| (1, 1) 74 | Ia—mae hi'n reit braf arno fo! |
| (1, 1) 76 | Wel, wyddoch chi, allan o stormydd bywyd. |
| (1, 1) 77 | Tu hwnt i boen a helbulon y byd. |
| (1, 1) 78 | Cyrraedd hafan ar ôl y ddrycin, mewn ffordd o siarad. |
| (1, 1) 86 | Oes yma ddigon o nionod at ginio heddiw, Dora? |
| (1, 1) 90 | Fedra i feddwl am 'run creadur mwy rhamantus na honno! |
| (1, 1) 91 | Ond peidiwch â 'nghamddeall i, Dora. |
| (1, 1) 92 | Trio'ch helpu chi 'roeddwn i wrth son am ginio. |
| (1, 1) 93 | Hynny ydy—'does gennych chi fawr o awydd gweithio heddiw, mae'n debyg, yng nghanol eich hiraeth— |
| (1, 1) 98 | Dim trafferth o gwbwl, Dora. |
| (1, 1) 99 | Pleser o'r mwya'. |
| (1, 1) 106 | Sut dempar heddiw, machgan i? |
| (1, 1) 108 | Mi ydw i'n ddigon pryderus ynghylch yr hogyn yma. |
| (1, 1) 109 | Mae o'n cael anhawster mawr i setlo i lawr ar ôl dwad o'r fyddin. |
| (1, 1) 113 | O mi fedra' i'ch sicrhau chi o hynny, Dora. |
| (1, 1) 114 | 'Rydach chi wedi gwneud cartre' da iddo fo, chwara' teg i chi. |
| (1, 1) 115 | A dweud y gwir, 'does yna ddim ond un peth sydd wedi amharu ar ein hapusrwydd ni. |
| (1, 1) 117 | William. |
| (1, 1) 122 | Dora. |
| (1, 1) 124 | Wyddoch chi be fydda'i i'n feddwl weithia? |
| (1, 1) 126 | Peidiwch â chwerthin am fy mhen i, ond 'tae ni'n dau wedi cael plentyn, mi fuase' ni agosach o lawer at ein gilydd heddiw. |
| (1, 1) 140 | Ydy', Benja. |
| (1, 1) 141 | Tyrd i mewn. |
| (1, 1) 147 | Newydd fynd allan ar negas. |
| (1, 1) 148 | Ddaw hi ddim yn ei hôl am dipyn, paid â phoeni. |
| (1, 1) 149 | Tyrd, eistedd i lawr. |
| (1, 1) 151 | Ia, reit siwr. |
| (1, 1) 153 | Ia, du fel y frân. |
| (1, 1) 155 | Ydy'. |
| (1, 1) 156 | Ei gŵr. |
| (1, 1) 160 | Ydw', cystal â'r disgwyliad. |
| (1, 1) 161 | Pam? |
| (1, 1) 163 | Cam-ddeall be? |
| (1, 1) 166 | Wnest ti ddim camgymeriad o gwbwl. |
| (1, 1) 167 | Dyna'n hollol a dd'wedais i. |
| (1, 1) 169 | Nid am danaf fy hun 'roeddwn i'n son, y twpyn. |
| (1, 1) 170 | Am ei gŵr cynta' hi—yr anfarwol William! |
| (1, 1) 173 | Mi ddeallit ti hynny, Benja, 'taet ti'n byw yn y tŷ yma. |
| (1, 1) 174 | 'Dydw i'n clywed dim ond William peth yma, a William peth arall, o un pen i'r flwyddyn i'r llall. |
| (1, 1) 175 | Mae o wedi mynd yn stwmp ar fy stumog i. |
| (1, 1) 177 | A mae hi'n waeth nag arfer heddiw, wrth gwrs. |
| (1, 1) 179 | Diwrnod pen-blwydd, wyt ti'n gweld. |
| (1, 1) 181 | Ia—pen-blwydd ei farwolaeth o, ddeng mlynedd yn ôl. |
| (1, 1) 182 | Ond mae o mor fyw ag erioed yn y tŷ yma os wyt ti'n gofyn i mi. |
| (1, 1) 183 | Mi fydda' i'n teimlo weithia nad ydw' i'n ddim ond lojwr yma. |
| (1, 1) 184 | Son am y marw'n lladd y byw—dyna sy'n digwydd i mi. |
| (1, 1) 185 | Mae William fel wal rhwng Dora a minna' ers dydd ein priodas, Benja. |
| (1, 1) 186 | A'r canlyniad ydy' ei bod hi'n flin fel cacwn, a finna'n prysur fynd o dan ei bawd hi. |
| (1, 1) 187 | Aros am funud, mae yna amser am gêm bach os byddwn ni'n handi. |
| (1, 1) 192 | Oes, reit siwr. |
| (1, 1) 193 | Mi fydda i'n teimlo'n reit eiddigus i ti weithia'. |
| (1, 1) 194 | Er, cofia di, mae Dora'n ddynas dda mewn llawer ystyr. |
| (1, 1) 195 | Rhaid bod yn deg. |
| (1, 1) 196 | Yn un peth, mae hi wedi bod yn od o ffeind efo Lewis, yr hogyn yma. |
| (1, 1) 199 | Digon ansefydlog, fachgan. |
| (1, 1) 200 | 'Dydy' o ddim 'run un rhywsut, ar ôl dwad allan o'r fyddin. |
| (1, 1) 201 | Mi gafodd o amser go ddrwg allan yn Affrica, wyddost ti. |
| (1, 1) 204 | O mi ddaw o—dim cwestiwn o hynny. |
| (1, 1) 205 | A hwyrach y medar Ann helpu i sadio dipyn arno fo. |
| (1, 1) 207 | Ia, ia—wyddost ti, y ferch ifanc sy'n aros yma. |
| (1, 1) 208 | Mae hi'n gweithio efo Jones y Twrna'. |
| (1, 1) 211 | Wel ydy', rhyw gybodlian fel y byddwn ni'n dweud... |
| (1, 1) 212 | Reit, pwy sy'n mynd i symud gynta? |
| (1, 1) 213 | Mi ydw'i am roi andros o gweir i ti heddiw, Benja. |
| (1, 1) 221 | Mi fydda' i wedi gwerthu rhain i gyd cyn diwedd yr wythnos. |
| (1, 1) 222 | Dyna fantais fawr cadw gwesty, wyddost ti. |
| (1, 1) 223 | Digon o gwsmeriaid yn mynd a dwad o hyd. |
| (1, 1) 224 | A rheiny'n barod i goelio pob stori bron. |
| (1, 1) 225 | Dyna i ti ddoe, er engrhaifft, roedd yma glamp o Sais o Lerpwl—trafaeliwr am wn i. |
| (1, 1) 226 | "Look here," medda' fi wrtho fo, "Wooden spoon belonging to the grandmother of Owen Glyndwr." |
| (1, 1) 229 | Pric-pwdin Dora. |
| (1, 1) 231 | Do—a phrynu'r lwy bren! |
| (1, 1) 232 | Mi gês i bymtheg swllt am dani. |
| (1, 1) 233 | Mae'r cadw-mi-gei yn llenwi, Benja. |
| (1, 1) 234 | Wyddost ti faint sydd ynddo fo rwan? |
| (1, 1) 236 | Can punt, 'rhen fach. |
| (1, 1) 237 | Can punt ond chwe' cheiniog. |
| (1, 1) 239 | Ffaith iti. |
| (1, 1) 240 | Roeddwn i'n eu cyfri' nhw gynna'. |
| (1, 1) 242 | I gyd ar yr achos da, Benja. |
| (1, 1) 243 | Mi gawn ni Gaban i'r Hynafgwyr er gwaetha' Cyngor crintachlyd y dre' yma. |
| (1, 1) 244 | "O fedrwn ni byth fforddio'r gost rwan," medda'r la-di-da Mrs. Vaughan-Davies yna. |
| (1, 1) 245 | "Mae'r trethi'n rhy drwm fel y mae hi." |
| (1, 1) 246 | Yr hen gwdihŵ gebyst! |
| (1, 1) 250 | Dim arall i' ddisgwyl—dyna'u hanes nhw erioed wyddost ti... |
| (1, 1) 251 | Ta waeth, tyrd, ti sydd i symud. |
| (1, 1) 258 | Be! |
| (1, 1) 259 | Diod feddwol? |
| (1, 1) 260 | Dim o'r fath beth. |
| (1, 1) 261 | Yn hollol groes i f'egwyddorion i. |
| (1, 1) 264 | Mae o'n iawn fel ffisig, Benja. |
| (1, 1) 265 | Does gen' i ddim gwrthwynebiad iddo fo mewn gwaeledd. |
| (1, 1) 266 | Ond am lymeitian mewn gwaed oer—na, 'dydy' o ddim yn iawn rhywsut. |
| (1, 1) 269 | Na, mi ydw' i'n disgwyl wrthyt ti. |
| (1, 1) 270 | Tyrd yn dy flaen. |
| (1, 1) 275 | Gwna dy feddwl i fyny, da ti! |
| (1, 1) 276 | 'Rwyt ti 'run fath â hen iâr yn methu dodwy. |
| (1, 1) 285 | Na, na, mi fydda' i'n iawn mewn munud. |
| (1, 1) 287 | Be? |
| (1, 1) 288 | Wel nag oes. |
| (1, 1) 289 | Ffisig mewn ffordd o siarad. |
| (1, 1) 290 | Reit, Benja, gan dy fod ti'n pwyso arna' i. |
| (1, 1) 291 | Aros am funud. {Cymryd cwpan oddiar y bwrdd.} Mi gymera' i ryw ddiferyn bach, bach, lleia' 'rioed. |
| (1, 1) 294 | Reit, Benja—iechyd da. |
| (1, 1) 295 | A phob llwyddiant i Gaban yr Hynafgwyr! |
| (1, 1) 298 | Diaist i, 'roeddit ti'n iawn, Benja! |
| (1, 1) 299 | Mae hwn yn llacio'r hen fegin. |
| (1, 1) 300 | Ac iro'r frest fel mêl... |
| (1, 1) 301 | Mi ydw' i'n teimlo'n well yn barod... |
| (1, 1) 302 | Reit, gad i mi weld... |
| (1, 1) 303 | Yli, mi ydw' i am neidio dau i ti. |
| (1, 1) 309 | Diaist i, 'rwyt ti'n gwella yn dy chware, fachgan. |
| (1, 1) 310 | Mi ddoi di, gyda gofal a bwyd llwy. |
| (1, 1) 316 | Be'ddwedaist ti! |
| (1, 1) 317 | Gamblo? |
| (1, 1) 318 | Paid byth a sôn am y fath beth wrtha' i! |
| (1, 1) 321 | Arian anonest, halogedig? |
| (1, 1) 322 | Dim o gwbwl. |
| (1, 1) 323 | Gwell heb Gaban na'i godi ar sylfaeni anfoesol. |
| (1, 1) 324 | Rwy'n synnu atat ti'n awgrymu'r fath beth! |
| (1, 1) 328 | Fynna'i i ddim baeddu fy nwylo efo aur llygredig, Benja. |
| (1, 1) 329 | Wedyn, dyna ddiwedd arni. {TOMOS yn cymryd dracht arall o'i gwpan.} |
| (1, 1) 330 | Rhaid i mi gofio golchi hon cyn i Dora ddwad yn ei hôl, ne mi fydd yma andros o le! |
| (1, 1) 332 | Pwy oedd yn sôn am wragedd blin? |
| (1, 1) 335 | O? |
| (1, 1) 338 | Felly wir? |
| (1, 1) 340 | Fe wnaeth beth call iawn! |
| (1, 1) 341 | P'le ddarllenaist ti am hyn, dwed? |
| (1, 1) 344 | Na wn i, be? |
| (1, 1) 347 | Aros di rwan—Doctor Ffawstws—meddyg esgyrn oedd o dwed? |
| (1, 1) 351 | Bobol annwyl! |
| (1, 1) 352 | I beth oedd o eisio gwneud peth felly d'wed? |
| (1, 1) 353 | Gwraig flin oedd ganddo ynta' hefyd? |
| (1, 1) 355 | Mae o'n swnio'n llyfr diddorol dros ben, fachgan. |
| (1, 1) 356 | Ydy' o'n dweud yn hollol sut i godi'r Gŵr Drwg? |
| (1, 1) 359 | Leiciwn. |
| (1, 1) 360 | Tyrd â fo efo ti pan fydd hi'n gyfleus. |
| (1, 1) 361 | Ond cymer ofal rhag i Dora 'i weld o, wyt ti'n deall? |
| (1, 1) 365 | O, helo Ann. |
| (1, 1) 366 | 'Rydach chi'n gynnar iawn o'r offis heddiw. |
| (1, 1) 370 | Na, mae o yma yn rhywle. |
| (1, 1) 371 | Rhoswch, mi alwa' i arno fo. |
| (1, 1) 374 | Dim gwahaniaeth. |
| (1, 1) 375 | Dydy' o'n gwneud dim lles iddo fo bendympian ar ei ben ei hun o hyd. |
| (1, 1) 376 | Wn i ddim ydach chi'n nabod eich gilydd? |
| (1, 1) 377 | Miss Ann Thomas—Benja. |
| (1, 1) 381 | Wrthi'n rhoi cweir iddo fo ar y bwrdd drafft yma 'roeddwn i, Ann. |
| (1, 1) 384 | O dim ond bod Ann yma, dyna'r cwbwl, Lewis. |
| (1, 1) 412 | Ara' deg rwan, Lewis, ara' deg. |
| (1, 1) 413 | 'Doedd hynna ddim yn beth caredig iawn i' ddweud wrth Ann. |
| (1, 1) 414 | Wedi'r cwbwl, 'dydy' hi ddim ond yn trio dy helpu di. |
| (1, 1) 423 | 'Rwyt ti'n gwneud camgymeriad mawr, 'machgen i. |
| (1, 1) 424 | Gobeithio y gweli di hynny cyn iddi fynd yn rhy hwyr. |
| (1, 1) 425 | Ond dyna fo, fedra' i ddim dylanwadu arnat ti'n amlwg. |
| (1, 1) 426 | Mi ydw' i wedi trio 'ngora. |
| (1, 1) 437 | Wel, 'rwyt ti wedi cael blwyddyn, wyddost ti. |
| (1, 1) 474 | Tatws Dora eisio'u plicio. |
| (1, 1) 475 | Llond dwy bwced ohonyn' nhw! |
| (1, 1) 478 | Arswyd y byd! {Rhedeg yn ei ol, gafael yn y bocs a rhuthro allan.} |
| (1, 1) 484 | Ia, Dora! |
| (1, 1) 486 | Bocs? |
| (1, 1) 487 | O, dim byd neilltuol, Dora. |
| (1, 1) 488 | Wyddoch chi—wel bocs mewn ffordd o siarad— |
| (1, 1) 490 | Beth sydd ynddo fo?... y... be' ydach chi'n 'i alw... y... pryfaid genwair. |
| (1, 1) 495 | Wel—i ddal pysgod. |
| (1, 1) 497 | Na, na—ei cadw nhw i Benja 'rydw' i, Dora. |
| (1, 1) 498 | Mae o wedi addo brithyll i mi am danyn' nhw. |
| (1, 1) 501 | Oes siwr. |