| (1, 0) 9 | Fel eich hen aelod, rwy'n diolch i chwi eto am ethol un o blant y Werin sydd hefyd yn gynnyrch diwylliant goreu'n gwlad, a phwy a ŵyr nad oes gennym yn Mr. Harri Meredith Owain Glyndŵr arall, ond Glyndŵr heb loyw arf ond ei gariad at ei wlad a'i athrylith i weini arni? |
| (1, 0) 10 | Am y tro diweddaf, |three cheers| iddo ac hir oes i wasnaethu 'i genedl. |
| (1, 0) 17 | Harri!─ |
| (1, 0) 19 | .} |
| (1, 0) 20 | Mi faddeuwch i mi 'ch dau, ond Harri fydda i'n ei alw er yn hogyn. |
| (1, 0) 24 | Harri, bu Mr. a Mrs. Jones-Roberts yn gefn i mi ac i'r blaid drwy'r blynyddoedd, a syn i mi {fel cadno cyfrwys} na fasa enw Mr. Jones-Roberts ar yr |Honours-list| ers llawer dydd. |
| (1, 0) 31 | Dyna adnod i glensio'r ddadl. |
| (1, 0) 39 | |Veteran|! mewn dysg a profiad efallai, ond rydych yn edrych yn iengach heddiw─ |
| (1, 0) 47 | Pwy ond y gŵr all siarad am wraig ei fynwes? |
| (1, 0) 53 | Os dwedodd Harri unwaith y tair wsnos diweddaf mi ddwedodd ganwaith am yr help fuoch chwi'ch dau iddo. |
| (1, 0) 54 | "Mae tact Mrs. Jones-Roberts," medde fo ddoe, "yn amhrisiadwy". |
| (1, 0) 58 | Harri, tasa gen i ddarn o gortyn yn spâr mi faswn yn gofyn iti fel ffafr bersonol i grogi dy hun rhag blaen. |
| (1, 0) 60 | Myrddin mi glywsoch chi─ |
| (1, 0) 77 | Prifysgol Cymru. |
| (1, 0) 90 | Ie, prifysgol i blant y werin─ |
| (1, 0) 93 | Na, na wrth gwrs─mae'u fôts nhw─ |
| (1, 0) 99 | Peth o'r |atmosphere|. |
| (1, 0) 102 | Sydd wedi'u cerfio ar ein calon. |
| (1, 0) 105 | Ie, oes y byd i'r iaith Gymraeg! |
| (1, 0) 112 | |Atmosphere|─|atmosphere|. |
| (1, 0) 114 | Rhaid cael gwared o'r ddau |atmosphere| yna. |
| (1, 0) 117 | Fasa waeth gen i gysgu ar lwyn o gelyn, ond myn brain! 'does dim |tact| yn Harri. |
| (1, 0) 120 | Hogyn braf ydyw er hynny─thyfith o byth yn ddyn call fel ni'n tri. |
| (1, 0) 124 | Roeddwn yn gobeithio dy fod wedi crogi dy hun. |
| (1, 0) 130 | Sebon, Harri, rhaid cael sebon ymhob cylch. |
| (1, 0) 132 | Nid bod o ddifri sy'n bwysig ond rhoi'r argraff dy fod o ddifri. |
| (1, 0) 133 | Rwyf fi, er enghraifft, wedi palu celwyddau am chwarter canrif, ond rwy'n ddiolchgar na ches i rioed mo 'nal. |
| (1, 0) 139 | A'ch celwyddau. |
| (1, 0) 140 | Do, efallai; ond mi lwyddais i gamarwain y mwyafrif─drwy help Myrddin a'r Wasg, a diolch am y Wasg!─hen sefydliad bendigedig yw'r Wasg i amddiffyn celwydd bach gwan amddifad. |
| (1, 0) 142 | A dyweded yr holl newyddiadurwyr "Amen." |
| (1, 0) 148 | Harri, Harri, does dim shâp politisian ar eiriau fel yna. |
| (1, 0) 149 | Cymer gyngor gan wŷr o brofiad fel ni. |
| (1, 0) 150 | Rhyw fath o lastig yw gwirionedd mewn politics─mi elli ei stretsio, wyddost. |
| (1, 0) 154 | Mi fydd yn drêt i'r hen dre fach hyll yma weld dwy mor hardd. |
| (1, 0) 156 | |Steady on|! dwy wraig i ddau |M.P.|─chaiff |M.P.| ddim ond un wraig ar unwaith, er gofid i rai o'r cnafon. |
| (1, 0) 158 | |Wrong| eto, chymerais i'r un, roedd digon i'w cael. |
| (1, 0) 173 | Yn syml dyna yw compromeisio─titotal sy'n cashau |ginger-beer| ond â blys cwrw arno yn torri'r ddadl drwy gymysgu'r ddau a gwneud yr hyn elwir yn shandigaff, a shandigaff o gelwydd a gwir yn gymysg yw busnes a pholitics y byd a'r oesoedd, a dyna fydd hi byth.' |
| (1, 0) 182 | Ryda ni i gyd yn Gristnogion, ond y drwg ydi fod Harri o ddifri gyda hi. |
| (1, 0) 184 | Dim o gwbl, ond myn einioes Pharo, mae'n drêt gweld rhywun yn ddigon o ffŵl i wneud y cynnig pan mae pawb ar ôl y torthau a'r pysgod ac yn barod i werthu eu nain am daid rhywun arall. |
| (1, 0) 187 | Na, na, Cristion o deip yr ugeinfed ganrif wyf fi, achos mae rhaff go hir i rai felly. |
| (1, 0) 188 | Wir ddyn byw, fe all paganiaid fel ni'n tri fod yn Gristnogion heddiw drwy drugaredd, ond fod rhyw hurtyn o ddyn fel Harri yn anesmwytho tipyn ar ddaliadau cyfforddus dynion diwiol fel ni. |
| (1, 0) 191 | Sut yr oedd yr hen chware gynt? |
| (1, 0) 192 | "Fedri di fynd i'r ffair i werthu wya heb ddweyd ïe?"" |
| (1, 0) 193 | "Medra." |
| (1, 0) 194 | "Dros y bont neu drwy'r caea," ac ymlaen fel yna, a'r gamp oedd peidio dweyd ïe, ond dweyd ïe yr oeddym bob cynnig mewn ffordd rownd-abowt. |
| (1, 0) 196 | Chwarter canrif yn ôl euthum i'r Senedd yn benderfynol o beidio dweyd ïe wrth gelwydd a thwyll, ond cyn hir gwelais fod yn rhaid í mi ddweyd celwydd diplomatig, a chan mai brawd tagu yw mygu mi euthum ymlaen o'r celwydd diplomatig at y celwydd noeth─does dim trwch papur sidan rhyngddynt. |
| (1, 0) 203 | Be wyddo ni, dri dyn diwiol, nad oes gan Harri ryw syniad mai mynd i fyny yw dod i lawr? |
| (1, 0) 213 | Ffrind! |
| (1, 0) 214 | Do. |
| (1, 0) 215 | Rargian fawr, fasa f'enw i ddim yn perarogli fel y mae drwy Gymru onibae i chi drwsio f'areithiau a rhoi ambell baragraff bach diwiol fel hyn drwy Wasg Cymru: |
| (1, 0) 216 | "Y Saboth diweddaf yr oedd Syr Tomos Owen yn bresennol ddwywaith yng nghapel Llwynyblawd. |
| (1, 0) 217 | Mor ddymunol yw gweld ein Seneddwyr yn cadw at yr hen ddefodau sy wedi gwneud Cymru y wlad fwyaf crefyddol dan haul." |
| (1, 0) 219 | Dim gair, cofiwch, am y gêm o golff y Sul diweddaf neu chawn ni byth eto fynd i brif wyliau'r Ymneilltuwyr. |
| (1, 0) 221 | Ffarwel i chwi'ch dau─Latimer a Ridley Cymru, mi losgwch fel dwy gannwyll wêr. |
| (1, 0) 225 | Ryda ni'n tri wedi dod i'r casgliad fod yn rhaid agor dy lygaid cyn mynd i'r Senedd. |
| (1, 0) 227 | Y gwir plaen, rhyw hogyn mawr o freuddwydiwr wyt ti─byrbwyll, penstiff; a fi yw spesialist Ysbryd yr Oes i agor dy lygaid. |
| (1, 0) 231 | Ti a dy bobol gyffredin─nhw sydd wedi lladd pob un fu'n ddigon hurt i geisio gweini arnynt─mi lladdan' dithau at y |rest|─nhw yw'r set fwya anniolchgar tan haul. |
| (1, 0) 232 | Mae awyr y balconi yna'n well na lol fel hyn. |
| (1, 0) 255 | Rwy'n pesychu, Mabli, i ti wybod mod i yma. |
| (1, 0) 257 | Brenin ar bwy? |
| (1, 0) 259 | Beth yw ei deitl? |
| (1, 0) 261 | Beth yw ei nymbar─Harri'r Nawfed? |
| (1, 0) 263 | Rwyt ti'n smart o d'oed: beth yw d'oed? |
| (1, 0) 265 | Pymtheg─ers plwc bellach. |
| (1, 0) 268 | Yr un faint ag sy rhwng afal coch ar y pren ganol haf ac hen afal melyn yng ngwaelod y sach ddiwedd y flwyddyn. |
| (1, 0) 269 | Rwy'n gweld o'r balconi dy fam a dy nain yn dod. |
| (1, 0) 273 | Harri, fe anghofiais y rhan bwysicaf o f'araith gynneu wrth ganu ffarwel am byth i fy hen etholwyr: wnei di wrando arni? |
| (1, 0) 277 | Annwyl gyd-wladwyr, dyma'r hen Gyrnol yn cadw noswyl, ond ar f'engoch i, nid cyn gwneud diwrnod go lew o waith. |
| (1, 0) 278 | Buoch yn godro fy manc-book am chwarter canrif nes mae bron yn sych gorn; agorais basars a |sales-of-work| a |jumble-sales| wrth yr ugeiniau; mae f'enw, er cynddrwg ydwyf, ar gerrig sylfaen y pedwar enwad; cefais |jobs| i gannoedd o'ch perthnasau; tanysgrifiais at bob tysteb o fewn y deuddeg sir; nid unwaith na dwy y buoch ar fy ngofyn am bres i brynu dannedd gosod a throliau a mulod i etholwyr tlawd. |
| (1, 0) 279 | A dyma'r corn bwyd olaf wedi canu ar yr hen Gyrnol, a'r tipyn enaid oedd ganddo chwarter canrif yn ôl wedi diflannu wrth weini arnoch. |
| (1, 0) 287 | Fachgen, fachgen! |
| (1, 0) 288 | Y Prifweinidog yn dy longyfarch! |
| (1, 0) 295 | Wel di, Harri, mae hwn {yn dal y teligram} naill ai'n em yn dy goron neu'n hoelen yn dy arch. |
| (1, 0) 300 | Yn ddistaw bach, mae o'n tynnu ar ôl ei fam mewn rhai pethau─mae o dipyn yn feistrolgar fel petai. |
| (1, 0) 306 | Mae o'n gwisgo sgidiau cryfach na fi─size mwy a lledar gwahanol. |
| (1, 0) 308 | Efallai; ond mae cyrn tyner iawn ar draed yr oes yma. |