| (0, 17) 2247 | Yn lle iechyd corfforol cymer dragwyddol ddoluriau; |
| (0, 17) 2248 | ni all meddyg na physgwr byth help i'th gleddyfau. |
| (0, 17) 2249 | Bob dydd bwygilydd ychwanega dy brudd-der, |
| (0, 17) 2250 | dy galon o'r diwedd a dyrr wrth hir drymder. |
| (0, 17) 2251 | A phob dyn drwg ei dafod |
| (0, 17) 2252 | â'th enw a fynn gydnabod. |
| (0, 17) 2253 | Fe a'th drewir di ar ddannedd |
| (0, 17) 2254 | pob merch am dy anwiredd. |
| (0, 17) 2255 | ~ |
| (0, 17) 2256 | Dy risial olwg a fydd yn waedlyd gymysgiad; |
| (0, 17) 2257 | dy eglur lais melys a droir yn oerddrygnad; |
| (0, 17) 2258 | 'rhyd dy ddeurudd wastad y tardd byrchau duon diffaith; |
| (0, 17) 2259 | i ble bynnag y delych pawb a ffy oddi yno ymaith. |
| (0, 17) 2260 | Dy fywyd fydd hyn yma |
| (0, 17) 2261 | o dŷ i dŷ cardota |
| (0, 17) 2262 | â'th gwpan di a'th glaper |
| (0, 17) 2263 | o hyn allan fydd dy arfer. |