| (1, 1) 520 | Wel, yma'r ydych chwi'n ymrodio? |
| (1, 1) 524 | 'Roedd y gwydde'n pori'n ddyfal, |
| (1, 1) 525 | Yn y |cwitie|, yn mhorfa'r catal; |
| (1, 1) 526 | A'r gwas yn y ty, yn eiste' wrth y tân, |
| (1, 1) 527 | Efo Susan acw'n sisial. |
| (1, 1) 532 | Ar ol i chwi ei bwyso fe iddi, |
| (1, 1) 533 | A gawsoch chwi arian ganddi? |
| (1, 1) 538 | Pwy bynag oedd hi, 'roeddych yn ffol |
| (1, 1) 539 | Os darfu i chwi, Rondol, wrando. |
| (1, 1) 544 | Wel, pwy oedd y |Lady|, nis gwn i amcan? |
| (1, 1) 546 | Go chwith i hono fyn'd hyd y byd, |
| (1, 1) 547 | I ymorol yd heb arian. |
| (1, 1) 552 | Os awn ni i ranu'n pethe, |
| (1, 1) 553 | Fe ddaw gofid arnom nine; |
| (1, 1) 554 | 'Ran bod yn rhy hael sy'n peri o hyd |
| (1, 1) 555 | Rai'n isel eu byd mewn eisie. |
| (1, 1) 560 | Roedd rhywun wrthyf heddyw'n traethu, |
| (1, 1) 561 | Fod eich ffrynd o Gaerfawnog yn mron tori i fynu. |
| (1, 1) 569 | Ie, eu coelio'n nhw'n siwr 'rwy'n gweled, |
| (1, 1) 570 | Nid oes i fawr ymddiried; |
| (1, 1) 571 | Mae'r ffermwyr a'r porthmyn yr un peth, |
| (1, 1) 572 | Yn ddidoreth am gastie diried. |
| (1, 1) 587 | Wel, dywedwch i mi eto, Rondol, |
| (1, 1) 588 | Pa fodd mae'n nhw'n tori mor annaturiol; |
| (1, 1) 589 | Ac yn colli cyment mewn cyn lleied amser? |
| (1, 1) 590 | A glywch chwi, mae rhyw ddrwg yn Lloegr. |
| (1, 1) 610 | Wel, mae'n gofyn i borthmyn, 'rydwy'n coelio |
| (1, 1) 611 | Fod yn ofalus wrth drafaelio; |
| (1, 1) 612 | Nid puteinio, a meddwi, a rhyw lol fel hyn, |
| (1, 1) 613 | 8y'n addas gyda chyment eiddo. |
| (1, 1) 618 | Dyna'r gofid mwyaf a all un ddisgwyl. |
| (1, 1) 619 | Ar ol magu lloie yn gu ac yn anwyl; |
| (1, 1) 620 | Eu gollwng hwy i ffordd dan ddwylaw porthmyn, |
| (1, 1) 621 | Heb gael dim daioni fyth am danyn'. |
| (1, 1) 630 | Wel, 'rydwy'n gweled y porthmyn creulon, |
| (1, 1) 631 | A'r |jockeys| ceffyle yn gwneud yn ffolion, |
| (1, 1) 632 | Yn trin eu |trics| a'u |frolics| ffraeth |
| (1, 1) 633 | Twyllodrus yn waeth na lladron. |
| (1, 1) 634 | ~ |
| (1, 1) 635 | Ond pe clywsech y dyn oedd acw'n llefaru, |
| (1, 1) 636 | Fe fuase'ch calon yn rhyfeddu, |
| (1, 1) 637 | Gyment o dwyll sydd yn nghalon dyn, |
| (1, 1) 638 | Gwenwyn a phob drygioni. |
| (1, 1) 641 | 'Roedd e' yn y fan mae son yn ffri |
| (1, 1) 642 | Am gariad yn ddiragorieth. |
| (1, 1) 652 | 'Does ryfedd fod cyment mewn angen a phrinder, |
| (1, 1) 653 | Gan mor gyffredin ydyw balchder; |
| (1, 1) 654 | Mae ffasiwne newydd trwy'r wlad hon, |
| (1, 1) 655 | Yn anafu dynion ofer. |
| (1, 1) 656 | ~ |
| (1, 1) 657 | O! pan fu'm i yn y dref ddiwetha, |
| (1, 1) 658 | Ni weles i erioed y fath ffieidd-dra, |
| (1, 1) 659 | Rhwng tîne a phene merched ffol, |
| (1, 1) 660 | Rhyfeddol ddigywilydd-dra. |
| (1, 1) 661 | ~ |
| (1, 1) 662 | 'Roedd eu pene nhw'n ddigon melldigedig, |
| (1, 1) 663 | Y capie |wire|, a'r torche cythreulig; |
| (1, 1) 664 | Ac mae 'rwan glustoge fel 'strodur car |
| (1, 1) 665 | Gwmpas tîne'r war buteinig. |
| (1, 1) 670 | Does ryfedd fod cyment erlid, |
| (1, 1) 671 | Yn mhob gafel oherwydd Gofid; |
| (1, 1) 672 | Balchder ac oferedd ydyw'r brad, |
| (1, 1) 673 | Fe blygodd y wlad o'i blegyd. |
| (1, 1) 678 | Diolchwn i ni'n hunen |
| (1, 1) 679 | Fod genym ni eiddo i'n perchen; |
| (1, 1) 680 | Ni gadwn i ffwrdd bob Gofid ffol, |
| (1, 1) 681 | Ac ymd'rawed y bobl druen. |
| (1, 1) 682 | ~ |
| (1, 1) 683 | Brysiwch bellach adre heb oedi, |
| (1, 1) 684 | Fe ddylid, chwi wyddoch, fyn'd bawb i weddi. |