| (1, 0) 21 | Nage─mae yn dal i fyny eto. |
| (1, 0) 22 | Wyt ti yn mynd, Dic? |
| (1, 0) 24 | O, 'machgen mawr i! |
| (1, 0) 36 | Dere 'nol, Nel, mae'n ofnadwy heibio i war y graig─mae eisieu dyn cryf i sefyll yn nannedd y gwynt. |
| (1, 0) 37 | Mae cysgod lled dda fan hyn. |
| (1, 0) 46 | Odi nhw'n barod? |
| (1, 0) 47 | Mae'r llong bron â mynd i lawr. |
| (1, 0) 48 | Na, mae'n dal i fyny eto. |
| (1, 0) 49 | Dyna |rocket| arall o'r llong. |
| (1, 0) 66 | Maent wedi mynd allan lawer tro o'r blaen, ac wedi gwneuthur gwaith da. |
| (1, 0) 67 | Y nef a'u bendithio! |
| (1, 0) 76 | Pa fad all fyw yn y fath storm? |
| (1, 0) 77 | Mae'r tonnau fel mynyddau! |
| (1, 0) 84 | Wn inna ddim beth sy'n bod, ond mae arna i ofn ofnadw' heno. |
| (1, 0) 106 | Nid wyf yn cofio i'r bad fynd mâs erioed o'r blaen heb fod Sali Wat gyda'r |boys| yn rhoi |push off| iddo. |
| (1, 0) 107 | Aros yn y gwely! |
| (1, 0) 108 | Na, allai hi ddim, er ei bod dros ei phedwar ugain a dwy oddiar Calan Mai. |
| (1, 0) 113 | Odi, mae e' draw, bron o'r golwg 'nawr. |
| (1, 0) 114 | Mae'r môr yn arw heno! |
| (1, 0) 125 | Druan o Shwan! |
| (1, 0) 126 | Fe af i siarad â hi. |
| (1, 0) 156 | Ie, bydd yn saith mlynedd wythnos i nos yfory, a noswaith arw iawn oedd hi, a ti oedd y babi glana' welais i erioed, er mod i wedi magu saith mor lân a neb yn y pentre, ond yr oeddet ti, Jenny fach, fel angel o'r nef. |
| (1, 0) 182 | Weli di b'le maent 'nawr, Nel? |
| (1, 0) 183 | B'le mae'r bad, a sut mae ar y llong druan? |
| (1, 0) 194 | Na, Nel fach, does yna neb yn canu, ond y gwynt ofnadwy─ti sy'n meddwl eu bod. |
| (1, 0) 222 | Welwch chi rywun yn y dŵr? |
| (1, 0) 237 | O! druan bach! |
| (1, 0) 272 | Na, Sal, cofia am dy blant bach. |
| (1, 0) 273 | Aros di yma. |
| (1, 0) 302 | Peidiwch mentro gormod, da chi, ferched! |
| (1, 0) 312 | Fe achubant y dyn─gwnant, 'rwy'n siwr─maent yn llaw Duw. |
| (1, 0) 317 | Na, foddant hwy ddim─dal dy afal yn y rhaff, Nel. |
| (1, 0) 318 | Fe arbeda Duw ddwy mor wrol a Mari a Bess. |
| (1, 0) 332 | O! diolch i'r nefoedd, maent wedi ei gael. |
| (1, 0) 333 | Mae'r rhaff yn cael ei thynnu! |
| (1, 0) 334 | Dyna'r arwydd ini dynnu i mewn! |
| (1, 0) 335 | Dewch, tynnwch ferched, tynnwch! |
| (1, 0) 354 | Tomi, dere yma. |
| (1, 0) 355 | Cer i 'mofyn Dr. Williams, a dere ag e' i dŷ Mari a Bess! |
| (1, 0) 360 | Ie, dyna fydd ore, Mary Jane. |
| (1, 0) 363 | O'r gore, cer di, Gwenno fach. |
| (1, 0) 389 | Cadw dy afael yn y rhaff, Sali, a fe awn ar ol y lleill. |
| (1, 0) 390 | Dyna nhw wedi dod i'r lan! |
| (1, 0) 391 | Glyw di y gwaeddi! |
| (1, 0) 407 | Ie'n wir. |
| (1, 0) 413 | Cer tua thre, Mari, a thithau, Bess, i newid eich dillad a chael rhywbeth twym. |
| (1, 0) 414 | Cerwch chwaff, nawr! |
| (1, 0) 427 | Yr oedd yn rhaid i dy fam gael rhoi ei |shawl| i Mari─ni wnai |shawl| neb arall y tro. |
| (1, 0) 432 | Sut mae eich dynion chi? |
| (1, 0) 433 | Yr ydym i gyd wedi anghofio am bawb, ond am Bess a Mari. |
| (1, 0) 443 | I feddwl mai eu hunig frawd a achubwyd ganddynt! |
| (1, 0) 446 | Dere adre, Sali. |
| (1, 0) 447 | Bydd cof am heno mewn oesau i ddod, a bydd merched Cymru mewn canrifoedd yn darllen am ferched y Mwmbwls, fel oeddent yn barod pan ddaeth yr alwad i wneud gorchest fawr. |
| (1, 0) 452 | Ie'n wir. |
| (1, 0) 453 | Dere, mae pawb wedi mynd. |
| (1, 0) 454 | Isht! |
| (1, 0) 455 | Dyna ganu! |
| (1, 0) 456 | Mae Capten Jones a'r bechgyn i gyd o flaen y tŷ yn canu. |
| (1, 0) 457 | Clyw! |
| (1, 0) 458 | Dere i ni fynd lan yna. |