| (1, 0) 190 | Digon symol, Tobias, digon symol. |
| (1, 0) 193 | Ia, ymhlith petha' eraill—cerrig yn y bustl; diffyg treuliad; pendro—mae pob aflwydd wedi disgyn arna' i'n ddiweddar yma. |
| (1, 0) 195 | Do, 'rawn i haws. |
| (1, 0) 196 | Deiliach, gelod, a dŵr calch—yr un hen driniaeth. |
| (1, 0) 197 | A 'dydw' i 'run gronyn gwell. |
| (1, 0) 199 | 'Wn i ddim fachgen. |
| (1, 0) 200 | 'R ydw i'n mynd i oed, wyddost ti. |
| (1, 0) 201 | 'Ddaw henaint ddim ei hunan. |
| (1, 0) 202 | A pheth arall, 'dyw cyflwr y wlad yma fawr o help i godi calon creadur o ddyn. |
| (1, 0) 204 | Mynd o ddrwg i waeth bob dydd. |
| (1, 0) 205 | 'Wn i ddim beth fydd ein diwedd ni. |
| (1, 0) 210 | Ond 'run pryd, mae'r Syriaid felltith yna'n tyrru fel locustiaid i fyny yn y gogledd. |
| (1, 0) 211 | Lladd ac anrheithio a rhaib a welwn ni eto cyn bo hir. |
| (1, 0) 212 | 'R ydym yn byw dan gwmwl du: fe'n bygythir beunydd gan dân ysol. |
| (1, 0) 215 | Dal yn gadarn, ia, ond pa obaith sydd o hynny? |
| (1, 0) 216 | Mae'r genedl wedi mynd â'i phen iddi. |
| (1, 0) 217 | Edrych ar y bobol yma wedi meddwi efo gwag bleserau a gaudduwiaeth. |
| (1, 0) 218 | A 'd oes yna 'run llais wedi'i godi yn eu herbyn. |
| (1, 0) 220 | Rhaid i ni wynebu ffeithia', Tobias. |
| (1, 0) 221 | Mae Proffwydoliaeth wedi distewi yn ein tir. |
| (1, 0) 222 | A ninnau'n cefnu ar gewri'r dyddiau gynt. |
| (1, 0) 223 | Mae hi'n ddigon digalon ar y Bod Mawr efo rhai o'r hogia' yma sydd ganddo Fo heddiw. |
| (1, 0) 228 | Pwy, ddywedaist ti? |
| (1, 0) 230 | Felly wir. |
| (1, 0) 231 | 'D wy' i ddim wedi ei weld o ers tro byd. |
| (1, 0) 235 | 'Ddaw o byth i 'sgidia'i dad. |