| (1, 0) 23 | Sori... fe slipes. |
| (1, 0) 24 | Daio'r dressing gown yma... dyna'r ail waith heno. |
| (1, 0) 75 | Beth gaf i wneud â'r rhaglenni? |
| (1, 0) 76 | Mae lot o rai sbâr heb 'u gwerthu. |
| (1, 0) 89 | Mae'r boi 'na am wybod shwd gyrten ŷch chi'n mo'yn, Mr. James. |
| (1, 0) 143 | 'Dŷm ni damed gwell o goethan nawr. |
| (1, 0) 144 | Mae'r peth wedi digwydd, a fe all ddigwydd eto. |
| (1, 0) 145 | Petawn i yn y'ch lle chi, Mr. James, fe newidiwn y lighter 'na am focs o fatshus... fe ellwch ddibynnu ar y rheini. |
| (1, 0) 178 | Wel, os ŷch chi'n meddwl parhau gyda'n cwmni ni, Mr. James, 'rwy'n credu y byddai'n llawer gwell i chi ysgrifennu Comedi─mae deunydd Comedi reit dda ynom ni. |
| (1, 0) 195 | Beth am y rhaglenni, Mr. James?─mae Miss Puw yn aros. |
| (1, 0) 199 | Fe garwn i gael mynd mâs o'r pethach fflimsi hyn ta p'un. |
| (1, 0) 200 | Brr... 'rwy bron â sythu. |
| (1, 0) 201 | Mae'r lle 'ma fel sgubor. |
| (1, 0) 217 | Pam oedd eisiau iti son am Gwilym, nawr o bob amser? |
| (1, 0) 218 | Dyna ti wedi 'i chwpla hi am y nos. |
| (1, 0) 227 | A Siân yn eilo. |
| (1, 0) 234 | Fe wnaf fy ngorau, Marged, ond cofia, mae gen' ti dipyn o gystadleuaeth rhwng Neli a Gwen... a Siân. |
| (1, 0) 272 | Fan hyn ŷch chi o hyd, y tacle? |
| (1, 0) 274 | 'Dwy' ddim yn rhy siŵr o 'mhart. |
| (1, 0) 276 | 'Dwy'ddim yn mynd i ollwng gafael ar hwn nawr ta' p'un. |
| (1, 0) 278 | Cer iddi nôl 'e dy hunan. |
| (1, 0) 282 | Fe fyddai'n llawer mwy gweddus i ti fynd i ofalu am rywbeth bach fel 'na dy hunan yn lle taflu'r gwaith i gyd ar ysgwyddau'r hen foi. |
| (1, 0) 283 | 'Dwyt ti, Gwen, ddim wedi newid dy wisg? |
| (1, 0) 285 | O wel, ddweda'i ddim rhagor. |
| (1, 0) 286 | Oes un ohonoch chi'n gwybod ble mae'r copi oedd gan Neli? |
| (1, 0) 307 | 'Wela'i ddim byd o'i le yn hynny, ag mae'n rhaid cael rhywun i lanw'r bwlch. |
| (1, 0) 325 | Mae dy lond di o wenwyn, Siân. |
| (1, 0) 331 | Dyma fe fan hyn, Mr. Price. |
| (1, 0) 332 | Y Parchedig Artemus Price—mae am gael gair â chi, Mr. James. |
| (1, 0) 400 | Hm... y tu hwnt i'r llenni y mae'r ddrama i fod, Neli. |
| (1, 0) 402 | Ble yn y byd wyt ti wedi bod? |
| (1, 0) 404 | Mae pris pert ar dy groen di 'merch i. |
| (1, 0) 405 | Paid gadael iddo dy weld di nes bo'r act nesa wedi dechrau. |
| (1, 0) 406 | Diflannwch i rywle. |
| (1, 0) 413 | Llongyfarchiadau, Gwen—fe genaist yn ardderchog. |
| (1, 0) 423 | Ble mae bocs y "make up," Mr. James? |
| (1, 0) 425 | Gelwch chi 'e beth fynnoch chi. |
| (1, 0) 428 | Fe ddaeth rhywun o'r cefn a dweud bod angen tipyn bach o ddu dan fy llygaid i. |
| (1, 0) 434 | 'Does gen' i ddim amser nawr. |
| (1, 0) 435 | Gofyn i John. |
| (1, 0) 439 | Wyt ti'n gwybod pwy fu yma gynneu, Sian? |
| (1, 0) 441 | Fe gei di dri chynnig. |
| (1, 0) 443 | 'Roedd e'n holi amdanat ti, ond fe ddaeth Neli o rywle a'i ddwyn e' bant. |
| (1, 0) 444 | Roedd 'i llygaid hi'n disglerio fel dwy seren fach. |
| (1, 0) 584 | Beth sy'n dy gorddi di? |
| (1, 0) 587 | Pam? |
| (1, 0) 588 | Dim ond tipyn bach o ddu iddi dangos nhw lan. |
| (1, 0) 744 | O daro'r blwmin dressing gown 'ma. |
| (1, 0) 746 | O nghoes fach i, 'rwy wedi 'i thorri hi, ydw reit i wala, a finne fodi fynd mewn nawr hefyd! |