| (1, 0) 112 | Odi'r bad wedi mynd? |
| (1, 0) 115 | Odi'n wir, ond mae "'Nhad wrth y llyw." |
| (1, 0) 116 | Roedd Gwenno yn meddwl 'mod i yn mynd i aros yn y gwely, ond dim o'r fath beth. |
| (1, 0) 117 | Ni aeth y bad mâs erioed o'r blaen heb 'mod i yma. |
| (1, 0) 118 | Y fi oedd yma gynta' ar y noson ofnadwy honno bymtheng mlynedd yn ol pan aeth William ni yn y bad, ond ddaeth e', na llawer un arall, byth yn ol. |
| (1, 0) 119 | Ni fydd fy amser i yn faith eto, fe groesa i 'r afon cyn bo hir. |
| (1, 0) 339 | Dyna 'r ffordd. |
| (1, 0) 340 | Eto! |
| (1, 0) 341 | Eto! |
| (1, 0) 342 | O, diolch i'r nefoedd! |
| (1, 0) 345 | Fe dynnaf i â'r anadl ola i gael y merched 'nol, gwnaf yn wir! |
| (1, 0) 386 | Dere, Shan, cer â fi lawr at y dŵr. |
| (1, 0) 387 | Fe fydd eisieu shawls ar y merched wedi bod yn y dŵr. |
| (1, 0) 426 | Mae'n |shawl| i gyda Bess. |
| (1, 0) 444 | Mae yna galonnau trwm mewn llawer man heno─faint oedd yn y llong, tybed? |
| (1, 0) 445 | Mae yma destun diolch fod ein gweddïau ni wedi eu hateb, a'r bechgyn wedi eu harbed i gyd. |
| (1, 0) 448 | Ie, fyddwn ni ddim yma yn hir eto. |
| (1, 0) 449 | Mae stormydd bywyd bron â dod i ben, ac er bod y cwch bach yma wedi taro yn aml yn erbyn y graig, mae'r Bywyd-fad gerllaw i fynd â fi i'r Hafan Dawel. |
| (1, 0) 450 | Fe ddaw y bad, heb fod yn hir─a fe fydd y Pen-Capten wrth y llyw─ar ryw noson, yn sŵn y storm, i'm mofyn i adre, ond 'rwy'n falch Ei fod wedi'm gadael yma hyd heno, i mi gael gweld dewrder Bess a Mari; a phan gwrdda i â'u tad a'u mam ar y lan draw, dyna stori fydd gen i i ddweyd wrthynt am eu plant. |
| (1, 0) 451 | Bendigedig! |