| (0, 17) 2229 | Am dy annuwiol siarad yn erbyn dy rasusol dduwiau, |
| (0, 17) 2230 | am dy annheilwng fuchedd a'th anniolchgar rinweddau, |
| (0, 17) 2231 | am dy fod mor wrthwynebus i'r drugarog Fenws, |
| (0, 17) 2232 | am dy fod mor anghywir i gywir farchog Troelus, |
| (0, 17) 2233 | dy bryd, dy wedd, dy lendid, |
| (0, 17) 2234 | dy rinwedd a'th holl olud |
| (0, 17) 2235 | o'r awr hon allan, Cresyd, |
| (0, 17) 2236 | yr wyf i'w ddwyn i gyd oddi wrthyd. |
| (0, 17) 2237 | ~ |
| (0, 17) 2238 | Yr wyf yn cyfnewid dy lawenydd i felancoli bob amser, |
| (0, 17) 2239 | hon sydd fam i bob tristwch trwm a phrudd-der; |
| (0, 17) 2240 | dy wres, dy wlybwr i oerfel a sychdwr poenus, |
| (0, 17) 2241 | dy nwyf, dy chwarae i glefydau annioddefus, |
| (0, 17) 2242 | dy holl wychder trafferthus |
| (0, 17) 2243 | i eisiau mawr, anghenus, |
| (0, 17) 2244 | ac felly fyw yn ddiwres |
| (0, 17) 2245 | a marw yn fegeres. |