| (1, 1) 470 | Wel, y mae hyn yn aflwydd gerwin, |
| (1, 1) 471 | Ni alla'i ddangos fy wyneb na fo i mi wenwyn; |
| (1, 1) 472 | Rhyw garpiach fawiach yn gwaeddi ar f'ol, |
| (1, 1) 473 | A'm galw i Rondol Roundun. |
| (1, 1) 474 | ~ |
| (1, 1) 475 | Ond mi ddweda' i'r hanes fel 'rwy' heno |
| (1, 1) 476 | Yn Rondol Roundun, os gwnewch chwi wrando; |
| (1, 1) 477 | Chwi glywsoch am y Roundied fu ar hynt, |
| (1, 1) 478 | Presbyterians oedd gynt yn 'styrio. |
| (1, 1) 479 | ~ |
| (1, 1) 480 | Ac wrth y rhai'n o'r dechre |
| (1, 1) 481 | Fe lynodd fy mhobline, |
| (1, 1) 482 | A'u dilyn hwy'n glir mewn tref a gwlad |
| (1, 1) 483 | Y bydde 'nhad a 'nheidie. |
| (1, 1) 484 | ~ |
| (1, 1) 485 | Ni fynent hwy o hyd eu hamser |
| (1, 1) 486 | Ddim son am grefydd Eglwys Loegr; |
| (1, 1) 487 | Ond y Presbyterians yn mhob rhyw, |
| (1, 1) 488 | 'Rwyf fine'n byw 'run faner. |
| (1, 1) 489 | ~ |
| (1, 1) 490 | Mi briodes wraig dda iawn ei theimlad, |
| (1, 1) 491 | Ni fu 'rioed un dostach am y Methodistied, |
| (1, 1) 492 | Ac yn wir mae hi am y byd gerbron, |
| (1, 1) 493 | Ac yn ddigon calon galed. |
| (1, 1) 494 | ~ |
| (1, 1) 495 | Mae hi'n wraig arafedd, addfwyn, rywiog, |
| (1, 1) 496 | Ac yn edrych yn llonydd, ond hi gogiff y llwynog; |
| (1, 1) 497 | Os caiff hi ymgais ar fantais fwyn, |
| (1, 1) 498 | Hi a ddirwyn yn gynddeiriog. |
| (1, 1) 499 | ~ |
| (1, 1) 500 | 'Rydwy' i'n lew erwin am hel arian, |
| (1, 1) 501 | Ond mae hi'n well o'r haner am dynu ati'i hunan; |
| (1, 1) 502 | O rhyfedd mor gyfrwys y bydd hi'n gwneud gwên, |
| (1, 1) 503 | Wrth fachu rhyw fargen fechan. |
| (1, 1) 504 | ~ |
| (1, 1) 505 | Hi ddywed cyn deced, os bydd un ffordd a dycia, |
| (1, 1) 506 | Ac a ddeniff i'w gwinedd y cryf fel y gwana'; |
| (1, 1) 507 | O, mor wyliadwrus y bydd hi o hyd, |
| (1, 1) 508 | A'i gofal am y byd yn gyfa'. |
| (1, 1) 509 | ~ |
| (1, 1) 510 | Hi a hidla wybedyn, mae'n rhy onest i beidio, |
| (1, 1) 511 | Ac a lynca gamel 'run pryd dan ymgomio; |
| (1, 1) 512 | Ni choelie neb wrth weled ei ffull, |
| (1, 1) 513 | Ei bod hi gystal ei dull am dwyllo. |
| (1, 1) 514 | ~ |
| (1, 1) 515 | Hi aeth heddyw i'r capel i wrando rhyw berson, |
| (1, 1) 516 | 'Rwy'n disgwyl y bydd hi yma'n union; |
| (1, 1) 517 | Dyma hi'n dwad, os ydw' i'n fyw, |
| (1, 1) 518 | Caf yn addas ryw newyddion. |
| (1, 1) 521 | Ie, Sian druan, na chym'rwch gyffro; |
| (1, 1) 522 | Rhowch glun i lawr am dipyn bach, |
| (1, 1) 523 | Mae pobpeth yn iach, gobeithio. |
| (1, 1) 528 | Mae hyn yn helynt erwin, |
| (1, 1) 529 | Ni wnes ond troi 'nghefn oddiwrthyn', |
| (1, 1) 530 | I fyn'd i'r llofft i roi pwys o wlan |
| (1, 1) 531 | I'r fwdach gan Sian Ddolfadun. |
| (1, 1) 534 | Haro, do, doedd fawr yn fy mryd |
| (1, 1) 535 | Goelio un mynud mo'ni. |
| (1, 1) 536 | Ond a wyddoch chwi pwy fu'n ceisio |
| (1, 1) 537 | Phioled o yd, a'i choelio? |
| (1, 1) 540 | Ni wrandewes i mo'r pethe, |
| (1, 1) 541 | Ni cha'dd hi damed, na gwerth dime; |
| (1, 1) 542 | Mi a'i pecles i'w ffordd, ni bu'm i dro, |
| (1, 1) 543 | 'Rhen garen, dan grio'i gore. |
| (1, 1) 545 | Gwraig eich Mr. Hughes, o'r Hendre Lydan. |
| (1, 1) 548 | Wel, beth a wnewch i ddiawlied meddalion, |
| (1, 1) 549 | Oni all'sent hwy edrych yn well at eu moddion? |
| (1, 1) 550 | 'Does fater fod rhaid i rai fyw'n fain, |
| (1, 1) 551 | Mae gofid i'r rhai'n yn gyfion. |
| (1, 1) 556 | Mi weles i lawer o ffermwyr cryfion, |
| (1, 1) 557 | Wrth fyw'n uchel ac yn wychion, |
| (1, 1) 558 | Wedi myn'd trwy'r cwbl drwbl dro, |
| (1, 1) 559 | Heb ddim golud yn bur ddigalon. |
| (1, 1) 562 | 'Rwy'n amhe'n wir fod y gwalch yn wan, |
| (1, 1) 563 | Mi greda fy hunan hyny. |
| (1, 1) 564 | ~ |
| (1, 1) 565 | O ran fe fu'n ceisio prynu dau eidion |
| (1, 1) 566 | Geny' am ddegpunt onid coron; |
| (1, 1) 567 | Ac yn crefu arna'i yn nghysgod perth, |
| (1, 1) 568 | Am ei goelio fe nerth ei galon. |
| (1, 1) 573 | Y porthmyn, mae'r diawl yn rhei'ny, |
| (1, 1) 574 | Ni byddant hwy dro'n gwneud mil gwerth eu crogi; |
| (1, 1) 575 | Wrth goelio'u celwydd hwy a'u brad, |
| (1, 1) 576 | O! faint ga'dd y wlad ei thlodi. |
| (1, 1) 577 | ~ |
| (1, 1) 578 | 'Fe dora chwilgi o borthmon diffeth |
| (1, 1) 579 | Am dair neu beder mil ar unweth; |
| (1, 1) 580 | 'Nol hyny'n pwnio am wneud compound, |
| (1, 1) 581 | A dyna i chwi |sound| farsiandieth. |
| (1, 1) 582 | ~ |
| (1, 1) 583 | Os can' hwy'r |plate| arian, ni wiw cadw twrw, |
| (1, 1) 584 | Hwy fyddant yn |fancrups| digon hoyw; |
| (1, 1) 585 | A da os cyrhaeddant goron y bunt, |
| (1, 1) 586 | 'Nol tori, mae'n helynt arw. |
| (1, 1) 591 | Oes, mae yn Lloegr laweroedd o ddryge, |
| (1, 1) 592 | Ond ni fydde ddim cyment pe 'rosent hwy gartre'; |
| (1, 1) 593 | Na chyment chware |lottery| noeth, |
| (1, 1) 594 | Na phuteinied mor uchel eu pene. |
| (1, 1) 595 | ~ |
| (1, 1) 596 | Mae porthmyn Cymru pan elont yno |
| (1, 1) 597 | 'Run fath a phethe wedi gwylltio; |
| (1, 1) 598 | O! fel y gwelir hwy yn eu gwanc |
| (1, 1) 599 | Tua'r |Irish Bank| yn 'sboncio. |
| (1, 1) 600 | ~ |
| (1, 1) 601 | Ac hyd y ffyrdd ynte mor gomfforddus, |
| (1, 1) 602 | Maent hwy'n ddialedig am eu |Ladies|; |
| (1, 1) 603 | Yn puteinio, ac yn meddwi, ac yn colli eu co', |
| (1, 1) 604 | A rhei'ny yn eu robio'n rheibus. |
| (1, 1) 605 | ~ |
| (1, 1) 606 | Ni bydd na |play|, na |show|, na |lottery|, |
| (1, 1) 607 | Na byddant hwy ynddi wedi meddwi; |
| (1, 1) 608 | Oes ryfedd wedi, mewn cyfri' cas, |
| (1, 1) 609 | I'r fath rai diras dori? |
| (1, 1) 614 | Byw maent hwy yn y tafarne |
| (1, 1) 615 | Yn ddyddan, a'r wlad geiff ddyodde'; |
| (1, 1) 616 | Ni cheiff llawer un ond chwerthin am ei ben, |
| (1, 1) 617 | Heb gael ar ddamwen ddime. |
| (1, 1) 622 | Dyna ddysgu rai i goelio rogsiach digywilydd, |
| (1, 1) 623 | Pac o wag ladron yn twyllo'r gwledydd; |
| (1, 1) 624 | Ni feddant hwy ddim at fyn'd yn borthmyn, |
| (1, 1) 625 | Ond rhywfaint o Saesneg a thipyn am danyn'. |
| (1, 1) 626 | Os ceir botas a 'spardune, a cheffyl dano, |
| (1, 1) 627 | A chôb, a het, a bwcwl, dyna'r porthmon yn picio; |
| (1, 1) 628 | Ac yn cletsian ei chwip i fynu ac i lawr, |
| (1, 1) 629 | Fe wneiff ystwr mawr nes toro. |
| (1, 1) 639 | Wrth gofio, Sian, ni feddylies unweth |
| (1, 1) 640 | Ofyn i chwi yn mh'le 'roedd |text| y bregeth. |
| (1, 1) 643 | 'Rwy'n leicio'r fan yn eglur, |
| (1, 1) 644 | Mae'n peri i ni garu'r brodyr; |
| (1, 1) 645 | Ond caru pob siabas, diflas dôn, |
| (1, 1) 646 | Annethe yw son am wneuthur. |
| (1, 1) 647 | ~ |
| (1, 1) 648 | Ni charwn i yn fy nghalon |
| (1, 1) 649 | Yn fy myw mo'r bobl dlodion, |
| (1, 1) 650 | Nac un o'r rhai gwanllyd, haerllug hil, |
| (1, 1) 651 | Annghynil sydd mewn anghenion. |
| (1, 1) 666 | A ddarfu i chwi farcio, Sian, nos Wener, |
| (1, 1) 667 | Y bwcle mawr oedd gan Sion y Sadler? |
| (1, 1) 668 | Ac y mae rhai cyment gan |swags| y dre' |
| (1, 1) 669 | Ag aerwyon lloie llawer. |
| (1, 1) 674 | Fe blygi rhagor eto, |
| (1, 1) 675 | Mewn gofid bydd amryw'n gwyfo; |
| (1, 1) 676 | A phan ddel yr amser i'w dwyn o'r byd, |
| (1, 1) 677 | Aiff Gofid a nhwy gydag efo. |
| (1, 1) 686 | Gâd ollwng y wêdd sy'n aredig yr âr, |
| (1, 1) 687 | Mae hi eto'n rhy gynar geny'. |
| (1, 1) 688 | ~ |
| (1, 1) 689 | Wel, ni welodd neb â'i lyged, |
| (1, 1) 690 | Fath wraig a Sian ar les ei hened; |
| (1, 1) 691 | Hi ddeil i ddarllen ac i ganu, |
| (1, 1) 692 | Oni bydda' i'n cael gwaith a pheidio a chysgu. |
| (1, 1) 693 | ~ |
| (1, 1) 694 | Ac yr ydwy' i'n gweled yn rhyfeddol |
| (1, 1) 695 | Y darllen a'r canu bydd rhai pobol; |
| (1, 1) 696 | 'Rwy'n leicio crefydd fy hun yn odieth, |
| (1, 1) 697 | Ond nid da genyf gym'ryd dim llawer o drafïerth. |
| (1, 1) 698 | ~ |
| (1, 1) 699 | Peth da ydyw peidio tyngu a rhegi, |
| (1, 1) 700 | A pheth pur anfuddiol y gwela'i feddwi; |
| (1, 1) 701 | Bod yn sad a lled onest, a siarad yn dyner, |
| (1, 1) 702 | Fe geiff dyn ei goelio'n well o lawer. |
| (1, 1) 703 | ~ |
| (1, 1) 704 | Mae rhyw enw o grefydd yn sefyll yn gryfach, |
| (1, 1) 705 | Tra fo'r wlad yma'n ole, ac yn llawer manylach; |
| (1, 1) 706 | Arferyd dweyd "|Dear|," "O! 'ranwyl," ac "Felly," |
| (1, 1) 707 | Pe baid heb ddim crefydd yn y byd ond hyny. |
| (1, 1) 708 | ~ |
| (1, 1) 709 | Mi a glywn ar fy nghalon ganu 'rwan, |
| (1, 1) 710 | Mae'n gerdd hynod o'm crefydd fy hunan, |
| (1, 1) 711 | A chystal a salm yn ddigon siwr, |
| (1, 1) 712 | At gyflwr gwr ag arian. |
| (1, 1) 755 | Mi a dawaf a chrychnadu, |
| (1, 1) 756 | Bellach, mae fy llais yn pallu, |
| (1, 1) 757 | Ond mi wn i mi ddweyd y gwir yn ddilai, |
| (1, 1) 758 | Heddyw, mae rhai yn ei haeddu, |
| (1, 1) 1081 | Ol! syn imi f'areth, Sian a fu farw, |
| (1, 1) 1082 | Wel, bychan y gwyddwn yr awn yn wr gweddw: |
| (1, 1) 1083 | Bhoi gwraig lysti, iachus mewn bedd, |
| (1, 1) 1084 | Mae gan ange ryw gyredd garw. |
| (1, 1) 1085 | ~ |
| (1, 1) 1086 | O! mi f'aswn foddlonach yn fy nghalon, |
| (1, 1) 1087 | Glywed claddu holl wragedd y cym'dogion; |
| (1, 1) 1088 | Na chladdu Sian oedd lan ddilys, |
| (1, 1) 1089 | Wraig drefnus, hyderus dirion. |
| (1, 1) 1090 | ~ |
| (1, 1) 1091 | O! mor ddaionus oedd hi, newydd ei hened, |
| (1, 1) 1092 | Yn gweithio ac yu hwylio pawb gan gyniled;; |
| (1, 1) 1093 | Ac yn trefnu ei theulu heb gelu'n gall, |
| (1, 1) 1094 | Nis gwn i, mewn gwall mo'm colled. |
| (1, 1) 1095 | ~ |
| (1, 1) 1096 | Hi fydde'n gwneud mewn blwyddyn, |
| (1, 1) 1097 | Er cysur, lawer cosyn: |
| (1, 1) 1098 | Ni fydde'n dyfod fyth i dre', |
| (1, 1) 1099 | O unlle cystal enllyn. |
| (1, 1) 1100 | ~ |
| (1, 1) 1101 | Ond am un llestr 'menyn, hi ga'dd gan enw, |
| (1, 1) 1102 | A dim ond darn penog oedd yn y twb hwnw, |
| (1, 1) 1103 | Ac o achos hyn bu gwragedd sir Fflint, |
| (1, 1) 1104 | Yn taeru mewn helynt arw. |
| (1, 1) 1105 | ~ |
| (1, 1) 1106 | Nid oedd yn y byd, 'rwy'n coelio, |
| (1, 1) 1107 | Ei gonestach hi am drin ysto; |
| (1, 1) 1108 | Ond ambell farsiant cyfrwys iawn, |
| (1, 1) 1109 | Fydde'n tynu penau mawn o tano. |
| (1, 1) 1110 | ~ |
| (1, 1) 1111 | Ond ne' gole i'w hened, pe gwelwn i haner, |
| (1, 1) 1112 | Oedd ynddi hi o fendith a chyfiawnder; |
| (1, 1) 1113 | Pe bae cyn onested bawb trwy'r wlad, |
| (1, 1) 1114 | Ni fydde ddim lliwiad llawer. |
| (1, 1) 1118 | O taw, taw gwell genyf i ti, |
| (1, 1) 1119 | Ar fyrder dewi a'th fyrdwn. |
| (1, 1) 1122 | O! ni ddichon un dyn sydd mewn croen, |
| (1, 1) 1123 | Ddirnad y fath boen sydd arna'. |
| (1, 1) 1124 | ~ |
| (1, 1) 1125 | Mi gladdes wraig lan hawddgar, |
| (1, 1) 1126 | Brydferthaf ar wyneb daear; |
| (1, 1) 1127 | Nid oes i neb na dydd na nos, |
| (1, 1) 1128 | A goelia 'r fath achos galar, |
| (1, 1) 1133 | Peth mawr ydyw cariad, ni waeth iti dewi, |
| (1, 1) 1134 | Mi gefes i golled syn am dani. |
| (1, 1) 1142 | Pe cawn wraig bob dydd, fydda'i byth mor ddedwyddol, |
| (1, 1) 1143 | A chael un mor lân a Sian Ddefosionol. |
| (1, 1) 1151 | Marwnad i Sian, wel iechyd i'th 'sene, |
| (1, 1) 1152 | Braidd na 'wyllysiwn i glywed y geirie; |
| (1, 1) 1153 | Ond ni roi fyth fath glod ar frys, |
| (1, 1) 1154 | Yn gyhoeddus ag a haedde. |
| (1, 1) 1157 | 'Rwy'n ofni bydda' i'n wylo'n swrth, |
| (1, 1) 1158 | Wag lewyg, wrth ei glywed. |
| (1, 1) 1203 | Wel, dyma 'ran cariad, i ti haner coron, |
| (1, 1) 1207 | Pe cawn un gywaethog i ofalu a gweithio, |
| (1, 1) 1208 | 'Rydwy'n ame y priodwn unweth eto, |
| (1, 1) 1217 | Wel, dos di yno heddyw, |
| (1, 1) 1218 | Yn gywren i dori'r garw; |
| (1, 1) 1219 | Os gwnei di droswyf fargen dda, |
| (1, 1) 1220 | Mi dala' gynta' delwy'. |
| (1, 1) 1221 | ~ |
| (1, 1) 1222 | Ond a glywch yma hyn mewn difri', |
| (1, 1) 1223 | Mentro mawr ydyw ail briodi; |
| (1, 1) 1224 | A chwedl garw cadw, onide, |
| (1, 1) 1225 | Weinidogion i chware a diogi. |
| (1, 1) 1226 | ~ |
| (1, 1) 1227 | Tra b'wyf yn eu golwg hwy wnan' ga'lyn, |
| (1, 1) 1228 | Pan drothwy nghefn ni wnant fymryn; |
| (1, 1) 1229 | Nis gwn i pa beth ar unrhyw dro, |
| (1, 1) 1230 | Feddylia'i heno o honyn'. |
| (1, 1) 1231 | ~ |
| (1, 1) 1232 | Mi fyddwn weithie yn credu mor ethol, |
| (1, 1) 1233 | Y gallwn ymddiried i'r forwyn sy'n hen ac arferol; |
| (1, 1) 1234 | Ond ni waeth imi goelio'r diawl ei hun, |
| (1, 1) 1235 | Na hyderu ar ddyn daearol. |
| (1, 1) 1236 | ~ |
| (1, 1) 1237 | Ac os prioda'i siopwraig, |
| (1, 1) 1238 | Fe alle gwna'i ddrwg ychwaneg; |
| (1, 1) 1239 | Taflu'r cyfan at din y cwd |
| (1, 1) 1240 | I dalu hen rwd ar redeg. |
| (1, 1) 1241 | ~ |
| (1, 1) 1242 | Ond mae rhai siopwyr yn byw yn siapus, |
| (1, 1) 1243 | Dyna Sion Bentre Foelas, wrth fod yn ofalus; |
| (1, 1) 1244 | A ambell rai eraill mewn tref a llan |
| (1, 1) 1245 | 'N gwneud eiddo anrhydeddus. |
| (1, 1) 1246 | ~ |
| (1, 1) 1247 | A phe gwyddwn ine'n enwog, |
| (1, 1) 1248 | Fod hon yn bur gywaethog, |
| (1, 1) 1249 | Mi werthwn fy |stock| a'm holl da byd, |
| (1, 1) 1250 | Ac awn yn siopwr clyd fy sipog. |
| (1, 1) 1251 | ~ |
| (1, 1) 1252 | Ond gwyn ei fyd a wydde, |
| (1, 1) 1253 | I ymddiried pa beth sydd ore; |
| (1, 1) 1254 | 'Rwyf bron syfrdanu a gyru ar goll, |
| (1, 1) 1255 | Yn erwin fy holl synhwyre. |
| (1, 1) 1256 | ~ |
| (1, 1) 1257 | Mi fyddwn yn cadw gofid o'r neilldu, |
| (1, 1) 1258 | Mae fo'n awr mor ddig'wilydd yn do'd gyda mi'r gwely, |
| (1, 1) 1259 | Ac yn fy nilyn i'r ty a'r dw'r |
| (1, 1) 1260 | Yn bwrdwr ac i'r beudy. |
| (1, 1) 1261 | ~ |
| (1, 1) 1262 | Ond os ca'i wraig a chanddi arian, |
| (1, 1) 1263 | Mi fyddaf eto'n ddyn i mi fy hunan, |
| (1, 1) 1264 | Ac a wnaf i Ofid a phob drwg hyll, |
| (1, 1) 1265 | Wall hyllig sefyll allan. |
| (1, 1) 1268 | Fydde fwy genyf na phiso roi |kick| i'ch ffasiwn. |
| (1, 1) 1271 | Mae kicio begers o'r gore debyga'i, |
| (1, 1) 1272 | 'Ran llawer arian sy'n myn'd i rywrai. |
| (1, 1) 1280 | Pa beth a gawswn i, faeden gynddeiriog! |
| (1, 1) 1281 | Sal, Hwy fuasent yn eich |witchio| chwi'n ysgyfarnog. |
| (1, 1) 1282 | Wel, mi glywn ar fy nghalon dori rhes |
| (1, 1) 1283 | O'ch danedd chwi g'nawes donog. |
| (1, 1) 1288 | Un o b'le ydych, nis gwn i amcan! |
| (1, 1) 1295 | O mi weles ryw |sipsiwns| hyd y byd, |
| (1, 1) 1296 | Yn dygyd yn lled eger. |
| (1, 1) 1297 | ~ |
| (1, 1) 1298 | Ac fe ddarfu'r gêr gythreulig, |
| (1, 1) 1299 | Yn y Trallwm wneud tro hyllig; |
| (1, 1) 1300 | Ddychrynu'r sessiwn i ffordd o'r |hall|, |
| (1, 1) 1301 | Trwy'u castie uffernol ffyrnig. |
| (1, 1) 1304 | Wel, un o'r |breed| mewn |onor| braf, |
| (1, 1) 1305 | Yn eich eithaf, ydych chwithe. |
| (1, 1) 1307 | Nis gwn i fath ffortun ellwch ei draethu, |
| (1, 1) 1308 | A fedrwch chwi ddweud y gwir yn siwr |
| (1, 1) 1309 | Fath |fatch| geiff gwr fo' am garu! |
| (1, 1) 1312 | 'Rych chwi fel cyfreithwyr, ni ro'wch ddim traul |
| (1, 1) 1313 | Ar eich gwefle, heb gael eich cyflog. |
| (1, 1) 1316 | Wel, faint a gym'rwch geny'n gu, |
| (1, 1) 1317 | A'ch talu chwi yn eich dwylo? |
| (1, 1) 1322 | Wel, bacwn, beth ydyw hyny fy 'neidie? |
| (1, 1) 1324 | Wel, chwi a gewch hyny, ond i mi fy hun |
| (1, 1) 1325 | Ei dori, wyr dyn, yn dene. |
| (1, 1) 1326 | Ond safio |nonsense| gwirion |
| (1, 1) 1327 | Yn hel rhyw ryddredd roddion, |
| (1, 1) 1328 | Gwell genyf nag ymdroi'n rhy hir, |
| (1, 1) 1329 | Os dywedwch y gwir, roi coron. |
| (1, 1) 1331 | Hai, o ran |onor|, mi rho hi'n union. |
| (1, 1) 1334 | Nis gwn i pwy lyfre fyddwch yn eu dilyn. |
| (1, 1) 1338 | Wel, gadewch gael gwybod rhywbeth bellaoh. |
| (1, 1) 1345 | Wel, pe gwyddwn eich bod yn dweyd y gwir, |
| (1, 1) 1346 | Ni byddwn ddim yn hir yn herian. |
| (1, 1) 1356 | Hw, am y tyddyn nid ydwy'n hidio, |
| (1, 1) 1357 | Mi werthraf ryw ddiwrnod y cwbl oddiarno. |
| (1, 1) 1360 | Wel, os dewch chwi eto fyth ffordd yma, |
| (1, 1) 1361 | 'Rwy'n erchi i chwi'n dyner ddwad i edrych am dana', |
| (1, 1) 1362 | Mae'n fawr genyf roi i chwi dafod drwg |
| (1, 1) 1363 | Pan ddaethoch i'r golwg gynta'. |
| (1, 1) 1367 | |Good bye, Madam, I wish you well|; |
| (1, 1) 1368 | O mae hi'n un ffel ddeallus. |
| (1, 1) 1369 | ~ |
| (1, 1) 1370 | Son a wnawn ni am ryw ofer setlach, |
| (1, 1) 1371 | Sian a Sioned, a Rebela o Ddinbych, |
| (1, 1) 1372 | |They're not fit to open their mouths|, |
| (1, 1) 1373 | Nid y'nt wrth rai'r |South| ond sothach. |
| (1, 1) 1374 | ~ |
| (1, 1) 1375 | Er fod hon yn gas ar olwg, |
| (1, 1) 1376 | O! mae hi'n dweyd |fortune| yn bur amlwg; |
| (1, 1) 1377 | Gobeithio daw'r cwbl yn eu lle |
| (1, 1) 1378 | I mine i'r gole heb gilwg. |
| (1, 1) 1379 | ~ |
| (1, 1) 1380 | A rhyfedd y darfu hi ddweyd mor hynod, |
| (1, 1) 1381 | 'Mod i am garu'r-siopwraig hono'n barod, |
| (1, 1) 1382 | Wel, 'rydwy'n barnu gwybodeth fel hyn, |
| (1, 1) 1383 | Huw fadde i mi, yn gryn rhyfeddod. |
| (1, 1) 1384 | ~ |
| (1, 1) 1385 | Ond nid a' i bellach ddim yn ffermwr, |
| (1, 1) 1386 | Mi gym'ra' 'myd mwy segur wrth bwyso siwgwr; |
| (1, 1) 1387 | Bydd pobl y wlad yn dwad atai'n dwp |
| (1, 1) 1388 | Pan elwy'n swp o siopwr. |
| (1, 1) 1389 | ~ |
| (1, 1) 1390 | A gwyn ei fyd yn gryno |
| (1, 1) 1391 | Na b'a'wn wedi 'mhriodi unweth eto; |
| (1, 1) 1392 | Rhyfedd genyf yn dda fy hun |
| (1, 1) 1393 | Na ddar'fase'r dyn fyn'd yno. |
| (1, 1) 1397 | Peth rhyfedd iawn, debygaf fi |
| (1, 1) 1398 | Yw lwc a pharti |fortune|. |
| (1, 1) 1399 | Ac 'rwyt yn meddwl y daw hi o ddifri'. |
| (1, 1) 1403 | Wel, rhy hwyr imi wneyd y gore o'm hamser, |
| (1, 1) 1404 | Y fi pia hi, onide, Pleser? |
| (1, 1) 1407 | Wel, i ffordd yn y munyd dyma fi'n myned. |
| (1, 1) 1408 | |Early to-morrow I shall be married|. |
| (1, 1) 1547 | Holo, |boys| fy 'neidie, ni fu erioed ffasiwn adeg, |
| (1, 1) 1548 | A'r lwc oedd i mi briodi'r siopwraig: |
| (1, 1) 1549 | Rwy'n meddwl nad oes o Ben-y-graig |
| (1, 1) 1550 | I Lunden wraig mor landeg. |
| (1, 1) 1551 | ~ |
| (1, 1) 1552 | A dweyd y gwir, 'roedd Sian o'r gore, |
| (1, 1) 1553 | Ond mae hon yn amgenach fil cant o weithie; |
| (1, 1) 1554 | Bydde rhyfedd gan galon llawer un |
| (1, 1) 1555 | Mor hoffusawl mae'n hi'n trin ei phwyse. |
| (1, 1) 1556 | ~ |
| (1, 1) 1557 | Mae ganddi mewn ffwndwr, ni all neb ei ffeindio, |
| (1, 1) 1558 | Rhyw smic yn ei bysedd, hi wneiff i beth bwyso; |
| (1, 1) 1559 | Ac ryw sut gyda'i bawd yn rho'i mesur bach, |
| (1, 1) 1560 | Ni fu erioed un â delach dwylo. |
| (1, 1) 1561 | ~ |
| (1, 1) 1562 | Hi wneiff i rai'i choelio yn mhob goruchwylieth, |
| (1, 1) 1563 | 'Ran mae hi'n |gwaceres|, ac yn bur |gwick| ei hareth |
| (1, 1) 1564 | Ni ddywed hi'n amser uwch ben ei ffair, |
| (1, 1) 1565 | Am dani hi air ond unweth. |
| (1, 1) 1566 | ~ |
| (1, 1) 1567 | Peth ffiedd yw |fflatro|, bydd ffylied pen sitrach, |
| (1, 1) 1568 | Gwneyd gormod o siarad, 'does dim sydd oerach; |
| (1, 1) 1569 | 'Rwy'n barnu dynion dystaw |sad|, |
| (1, 1) 1570 | O grefydd yn gwneud marchnad gryfach. |
| (1, 1) 1571 | ~ |
| (1, 1) 1572 | Dyma hwy'r Methodistied yn rhai pur dostion |
| (1, 1) 1573 | Yn nghylch yn un stori ag oeddym ni'r |Presbyterion|, |
| (1, 1) 1574 | Ond Mae'r |Cwaceriaid| yn fwy fest, |
| (1, 1) 1575 | A gonest mewn bargenion. |
| (1, 1) 1576 | ~ |
| (1, 1) 1577 | Er fod y |Dissenters| i mi'n grwgnach, |
| (1, 1) 1578 | Mi af fi'n |Gwacers| pe b'ai hwy goegach; |
| (1, 1) 1579 | O ran mae gwr a gwraig a'u ffydd, |
| (1, 1) 1580 | Un grefydd yn ddigrifach. |
| (1, 1) 1581 | ~ |
| (1, 1) 1582 | Yr ydwy'n credu mewn cu ryddid, |
| (1, 1) 1583 | Mai'r |Cwacers| a'i pia hi yn mhob bywyd, |
| (1, 1) 1584 | Can's mae hwy'n gyfoethogion, ac yn helpu'n dda |
| (1, 1) 1585 | Eu gilydd gyda'u golud. |
| (1, 1) 1589 | Na alw'n Roundiad mo'nai'n hwy, |
| (1, 1) 1590 | 'Rwy'n caru'n fwy'r |Cwaceriaid|. |
| (1, 1) 1595 | Ni waeth i ti dewi â'th ofer siarad, |
| (1, 1) 1596 | Mae'r wraig yn |Gwaceres|, ac yn haeddu cariad. |
| (1, 1) 1599 | 'Rwy'n coelio fod o ddifri' |
| (1, 1) 1600 | Rai'n dda o bob |sect| a |party|. |
| (1, 1) 1608 | Oni werthai'n nhrysore, |
| (1, 1) 1609 | A'm cyweth, a'm ty, a'm caee;. |
| (1, 1) 1610 | A mi a'i |hadferteisiaf|, fel ag y b'o tyst, |
| (1, 1) 1611 | I'w gweled hyd y pyst a'r gwalie. |
| (1, 1) 1614 | Nid wrth ranu na phrynu'n ffri |
| (1, 1) 1615 | Y medde i fy moddion. |
| (1, 1) 1616 | Ac nid oes dim achos, yr ydwy'n ame, |
| (1, 1) 1617 | Fod neb yn dlodion mwy na mine. |
| (1, 1) 1620 | Wel, dyweded fel y myno ni choelia'i fyth mo'ni, |
| (1, 1) 1621 | 'Ran mi wn i'r hanes lawer o rieni, |
| (1, 1) 1622 | Ac mae diogi ac oferedd, neu ddrwg ryw fodd, |
| (1, 1) 1623 | A'i dylydodd hwy i dylodi. |
| (1, 1) 1628 | Ond ydwy'n amheuthun i mi werthu mhethe? |
| (1, 1) 1629 | I gael bod yn siopwr ag arian sypie. |
| (1, 1) 1632 | Mae ffair Gaer yn nesu bydd y wraig mewn eisio |
| (1, 1) 1633 | Cael arian hynod erbyn hòno. |
| (1, 1) 1636 | Fe fydd genyf arian yroedd, |
| (1, 1) 1637 | Mi allaf |gountio| llawer o gantoedd. |
| (1, 1) 1640 | Wel rhy hwyr i mi fyn'd adre'n union, |
| (1, 1) 1641 | Mi gaf eto helynt arw yn setlo fy materion; |
| (1, 1) 1642 | Rhaid i mi edrych arnaf fy hun yn glên, |
| (1, 1) 1643 | Neu dygyd a wneiff yr hen wein'dogion. |
| (1, 1) 1759 | Dyma fine'ch ewythr Rondol, chwith i chwi wrando! |
| (1, 1) 1760 | Mi gefes o'r diwedd fy llwyr andwyo; |
| (1, 1) 1761 | Ni wel'soch chwi ddyn yn unlle ar droed, |
| (1, 1) 1762 | Mwy trwstan erioed, 'rwy'n tystion. |
| (1, 1) 1763 | ~ |
| (1, 1) 1764 | O'r felldith fawr oedd i mi, |
| (1, 1) 1765 | Wneyd â'r siopwraig hòno air siapri, |
| (1, 1) 1766 | A gwae fy nghalon wneud tro mor ffol. |
| (1, 1) 1767 | Afreidiol a phriodi, |
| (1, 1) 1768 | ~ |
| (1, 1) 1769 | Hi a'm twyllodd i werthu'r cyfan, |
| (1, 1) 1770 | Gynta' gellid o'm ty ac allan; |
| (1, 1) 1771 | Ac felly darfu i mi'n ddifeth, |
| (1, 1) 1772 | Bynorio pob peth yn arian. |
| (1, 1) 1773 | ~ |
| (1, 1) 1774 | Ond oeddwn yn fy meddwl fy hun yn |glyfar|, |
| (1, 1) 1775 | Y byddia arian i'w llogi, yr awn yn wr lliwgar, |
| (1, 1) 1776 | Gan ddisgwyl fod ganddi hithe'n 'stor, |
| (1, 1) 1777 | Rai cantoedd yn nror y |counter|. |
| (1, 1) 1778 | ~ |
| (1, 1) 1779 | Ond hithe ni feddai fawr o foddion, |
| (1, 1) 1780 | Na dim |guineas|, nac arian gwynion, |
| (1, 1) 1781 | Ond bocsiad llawn, na wnai nhwy ddim lles, |
| (1, 1) 1782 | Ysbariodd hi o bres byrion. |
| (1, 1) 1783 | ~ |
| (1, 1) 1784 | A dechre hel llyfre wedi'r holl afrad, |
| (1, 1) 1785 | A rhuo bod arian beth didoriad; |
| (1, 1) 1786 | Wedi iddi goelio'r wlad ar led, |
| (1, 1) 1787 | A rhoi gormod o gred i grwydried. |
| (1, 1) 1788 | ~ |
| (1, 1) 1789 | Beth a wnes ine, pan glywes hyny, |
| (1, 1) 1790 | Ond rhoi beili a chyfreithiwr i safnrythu; |
| (1, 1) 1791 | Ac ni chaed fawr fantes yn odid fan, |
| (1, 1) 1792 | Ond rhai diles rhy wan i dalu. |
| (1, 1) 1793 | ~ |
| (1, 1) 1794 | Ac wedi'r cwbl hi a'm perswadie |
| (1, 1) 1795 | I ddod i ffair Gaer, y doi pobpeth o'r gore: |
| (1, 1) 1796 | Ac felly ni aethom yno'n llawn, |
| (1, 1) 1797 | A chadarn iawn ein code. |
| (1, 1) 1798 | ~ |
| (1, 1) 1799 | Ac ar ol myned yno, 'roedd hi'n denu |
| (1, 1) 1800 | At y |dealers| lle'r oedd lleia i dalu, |
| (1, 1) 1801 | I gael i mi feddwl yn dda fy nghred |
| (1, 1) 1802 | Nad oedd fawr ddyled ar y ladi. |
| (1, 1) 1803 | ~ |
| (1, 1) 1804 | Dyna lle'r oedd y |dealers| hyny mor dalog |
| (1, 1) 1805 | Yn ysgwyd dwylo, a chusanu'r hen fyswynog; |
| (1, 1) 1806 | A dwad gyda ni i'r dafarn yn gadarn o'u co', |
| (1, 1) 1807 | A rhoi i mi groeso gwresog. |
| (1, 1) 1808 | ~ |
| (1, 1) 1809 | Y nosweth hono, ni fu erioed fath wynfyd, |
| (1, 1) 1810 | Gwyr Lerpwl, Manchester, a Chaer hefyd, |
| (1, 1) 1811 | Yn rhoi i mi |bunch|, a |negus|, a |liquors| yn ffri, |
| (1, 1) 1812 | Ac yn dodi, ni fedra'i ddim d'wedyd. |
| (1, 1) 1813 | ~ |
| (1, 1) 1814 | Dweyd wrtha'i, "|Good health and success to the business|," |
| (1, 1) 1815 | A mine heb fawr o Saesneg, ond tipyn o rodres; |
| (1, 1) 1816 | Ond codes i ddweyd |Thank ye|, yn bur dwt, |
| (1, 1) 1817 | Ac a syrthiais pwt i'w potes. |
| (1, 1) 1818 | ~ |
| (1, 1) 1819 | Fe aeth y bwrdd a'r \inkhorns| hwnw lawr mor ronco, |
| (1, 1) 1820 | A'r holl lestri trwstan, on'd oedd y ty'n crynu drosto; |
| (1, 1) 1821 | A gwaeth na thori'r celfi a cholli'r cawl, |
| (1, 1) 1822 | Fe aeth y |glasie| diawl i'm dwylo. |
| (1, 1) 1823 | ~ |
| (1, 1) 1824 | Ond rhyw sut yn y funud fe'm codwyd i fynu, |
| (1, 1) 1825 | Gan ymroi gyda'u gilydd i'm llusgo i'r gwely; |
| (1, 1) 1826 | Ffitiach fuase, a dweyd y gwir, |
| (1, 1) 1827 | Fod mewn rhyw fudr feudy. |
| (1, 1) 1828 | ~ |
| (1, 1) 1829 | 'Doedd ben yn y byd i mi fel y dylase, |
| (1, 1) 1830 | Ond gwaed ac aflwydd o'm dwylo a'm gwefle; |
| (1, 1) 1831 | Ar ol i mi feddwi a cholli ngho', |
| (1, 1) 1832 | 'Roedd gwaith repario'r bore. |
| (1, 1) 1833 | ~ |
| (1, 1) 1834 | A'r bore 'doedd hanes am neb ond fy hunan, |
| (1, 1) 1835 | Mi a ddechreues fyfyrio yn mh'le rhois fy arian; |
| (1, 1) 1836 | Ond y wraig a wnaeth â mi gnot ysdits, |
| (1, 1) 1837 | Fe gadwodd y |witch| y godan. |
| (1, 1) 1838 | ~ |
| (1, 1) 1839 | Ni adawodd hi geiniog i mi'n deg hynod, |
| (1, 1) 1840 | Ond rhyw faint o bres yn mhoced fy ngwasgod, |
| (1, 1) 1841 | Mi ddechreues waeddi a myn'd o'm co', |
| (1, 1) 1842 | Fe ddarfu i mi wylltio hylldod. |
| (1, 1) 1843 | ~ |
| (1, 1) 1844 | Mi redes hyd y grisie, on'd oedd pawb yn ymgroesi, |
| (1, 1) 1845 | "|For God's sake,|" medde'r bobl, "|what ails the old booby|?"' |
| (1, 1) 1846 | 'Roeddwn fel pe buase gacwn yn codi o'm pen, |
| (1, 1) 1847 | Ni fu erioed beth mor ddreng a myfi. |
| (1, 1) 1848 | ~ |
| (1, 1) 1849 | Mi redes hyd y |rowses| o nerth fy nghalon, |
| (1, 1) 1850 | Ac i |Manchester Warehouse| yn mron myn'd yn wirion, |
| (1, 1) 1851 | Ac i ffordd o hyd i'r |New Linen Hall|, |
| (1, 1) 1852 | Ag ymddygiad gerwinol ddigon. |
| (1, 1) 1853 | ~ |
| (1, 1) 1854 | Mi droisym i siop rhyw |siapard| o Wyddel, |
| (1, 1) 1855 | Fe ddechreuodd hwnw scwandro a chware "|What d'ye want scoundrel|? " |
| (1, 1) 1856 | A dweyd, "|Go about your business, you son of a whore|," |
| (1, 1) 1857 | Mi redes yn siwr am fy hoedel. |
| (1, 1) 1858 | ~ |
| (1, 1) 1859 | Ac yn mlaen a myfi gan ymofyn am dani, |
| (1, 1) 1860 | Mi a gyfarfum â rhyw glamp o dorglwyd lusti, |
| (1, 1) 1861 | Ac a dynes fy het, ac a dd'wedes yn fwyn, |
| (1, 1) 1862 | "A welsoch chwi, 'r gwr mwyn, mo Anni?" |
| (1, 1) 1863 | ~ |
| (1, 1) 1864 | "|G—d d—mn you blockhead|," ebe hwnw, |
| (1, 1) 1865 | A phwy oedd ond y Maer yn haner meddw; |
| (1, 1) 1866 | Fe'm hordrodd i'r |madhouse| at Stephen Hyde, |
| (1, 1) 1867 | A pheri rhoi |guide| i'm cadw. |
| (1, 1) 1868 | ~ |
| (1, 1) 1869 | Dyma rhyw |rogues| yn codi, ac ynw'i'n cydio, |
| (1, 1) 1870 | Rhai'n gwthio'n ewyllysgar, a'r lleill yn llusgo; |
| (1, 1) 1871 | A mine'n gwaeddi ar bob discwrs, |
| (1, 1) 1872 | Am y wraig, y pwrs a'r eiddo. |
| (1, 1) 1873 | ~ |
| (1, 1) 1874 | Ond fe ddaeth rhyw Gymro ac a darawodd i'r cwmni, |
| (1, 1) 1875 | Ac fe ddeallodd fy helynt wrth hir ymholi, |
| (1, 1) 1876 | Nhw'm gollyng'son i'n rhydd gan fynu mewn rhoch |
| (1, 1) 1877 | Bob ceiniog goch oedd geny'. |
| (1, 1) 1878 | ~ |
| (1, 1) 1879 | A mi ddaethum i'm |lodging| tan |low the latsio|, |
| (1, 1) 1880 | A garw fu'r dwned imi ar ol d'od yno; |
| (1, 1) 1881 | 'Roedd rhyw leidr o feili yn ei ledieth, |
| (1, 1) 1882 | Wedi myn'd â'm ceffyle i yn eu corffoleth. |
| (1, 1) 1883 | ~ |
| (1, 1) 1884 | Ni feddwn i feddwl cychwyn adre, |
| (1, 1) 1885 | Na gwraig, nac arian, na cheffyle; |
| (1, 1) 1886 | Mi glywawn ar fy nghalon fyn'd tros ganllaw'r bont, |
| (1, 1) 1887 | Oherwydd mor front fu'r siwrne. |
| (1, 1) 1888 | ~ |
| (1, 1) 1889 | A chwedi i mi rywsut gyrhedd adre, |
| (1, 1) 1890 | 'Roedd beilied Rhuthyn ar y trothe, |
| (1, 1) 1891 | Wedi chwalu'r ty o'r gwaelod i'r top, |
| (1, 1) 1892 | A gwerthu'r holl siop yn sypie. |
| (1, 1) 1893 | ~ |
| (1, 1) 1894 | Dyna gefes, fel mae mwya' gofid, |
| (1, 1) 1895 | Am goello fy ffortun a phob celwydd dybryd; |
| (1, 1) 1896 | 'Rwy'n hen a thylawd mewn annoeth lun, |
| (1, 1) 1897 | Fy ngelyn aeth a'n ngolud. |
| (1, 1) 1900 | Ow, mae 'nghalon yn curo fel Pandy Glynceiriog. |
| (1, 1) 1901 | Dyma yspryd Sian, 'rydwy'n ofni'n siwr, |
| (1, 1) 1902 | Oes na gwraig na gwr trugarog? |
| (1, 1) 1903 | ~ |
| (1, 1) 1904 | Hai! wchw! mwrdwr? er mwyn Go'r Maerdy, |
| (1, 1) 1905 | Rhoed rhywun loches imi lechu. |
| (1, 1) 1908 | Nid alla'i ddim sefyll oni cha'i fy safio, |
| (1, 1) 1909 | Mae rhyw euogrwydd yn fy rhwygo. |
| (1, 1) 1912 | Ow, Mrs. anwyl, na wnewch ddim camsynied, |
| (1, 1) 1913 | Ni wnes i gam â neb a'r aned, |
| (1, 1) 1914 | Ond fe wnaeth fy ail wraig â fi gam o'i go', |
| (1, 1) 1915 | Dwyn fy arian mewn tro cyn fyred. |
| (1, 1) 1917 | Fe aeth fy arian i heibio 'run fath a mwg. |
| (1, 1) 1919 | A garw ydyw'r gofid sydd gydag efo. |
| (1, 1) 1921 | Ni wn i fwy am ened mwy na phen mawnen. |
| (1, 1) 1923 | Dim garwach nag eraill pan elo hi'n gwarel. |
| (1, 1) 1928 | Pe gwyddwn yn iawn y cawn ddigonedd, |
| (1, 1) 1929 | A dyblu 'nghyfoeth fel Job yn y diwedd, |
| (1, 1) 1930 | Cael ychen ran pleser ddeg cant yn gyplyse, |
| (1, 1) 1931 | Pe bai'r diawl yn fy nguro mi ddaliwn fy ngore. |
| (1, 1) 1950 | Ond y wraig a'u gwariodd hwy, ffolog wirion. |
| (1, 1) 1960 | Mae'n arw os rhaid i mi ateb eto, |
| (1, 1) 1961 | Am bethe ddarfu'r wraig ddistrywio; |
| (1, 1) 1962 | Ond pe gwelwn y genawes ddrwg ei bri, |
| (1, 1) 1963 | Mi atebwn iddi hi, 'rwy'n tybio. |
| (1, 1) 1964 | ~ |
| (1, 1) 1965 | Yr aflwydd i'w chanlyn, ni fedra'i lai na choelio, |
| (1, 1) 1966 | Nad yn y Deheudir y mae hi'n rhodio; |
| (1, 1) 1967 | Ran yno mae'r lladron egron wg |
| (1, 1) 1968 | A'r siopwyr drwg yn sypio. |
| (1, 1) 1969 | ~ |
| (1, 1) 1970 | A'r holl rai cerdded, sy a'r diawl yn eu corddi, |
| (1, 1) 1971 | Yn newid eu gwragedd ac yn ymgrogi; |
| (1, 1) 1972 | Maent hwy o sir Benfro i Gastell Nedd, |
| (1, 1) 1973 | Yn Morganwg, rhyfedd geny'. |
| (1, 1) 1983 | A glywch chwi, medda'i, 'r gynulleidfa, |
| (1, 1) 1984 | Fe aeth hon i gregethu, gwnaed pawb eu gwaetha'; |
| (1, 1) 1985 | Mae rhyw beth o grefydd, 'run fath ag ymgrafu, |
| (1, 1) 1986 | Ni cha'i lonydd nosweth heb ryw fan yn ysu. |
| (1, 1) 1987 | ~ |
| (1, 1) 1988 | Mi briodes wraig o'r Methodistied, |
| (1, 1) 1989 | 'Roedd hono'n erwinol yn rhuo am yr ened; |
| (1, 1) 1990 | Fe fu agos un waith, gan faint oedd hi'n swnio, |
| (1, 1) 1991 | Y troisym ryw fesur, ond fe ddarfu i mi fisio. |
| (1, 1) 1992 | ~ |
| (1, 1) 1993 | Ond priodi'r Gwaceres, hen siopwraig oeredd, |
| (1, 1) 1994 | Hono a'm handwyodd i yn y diwedd; |
| (1, 1) 1995 | Pe doi hi i'm golwg, neu un o'r |colors|, |
| (1, 1) 1996 | Ni choelia'i na chiciwn i hi efo'i Chwacers. |
| (1, 1) 1999 | Os achubiff ef hi, fe haedde fawl, |
| (1, 1) 2000 | Ei gadel i ddiawl a ddylid. |
| (1, 1) 2003 | Wel, mater mawr i mine mod, |
| (1, 1) 2004 | Wedi colli 'nghod a'm harian, |
| (1, 1) 2025 | O! wyneb fy holl drueni, |
| (1, 1) 2026 | Sy'n dechre ymddangos imi; |
| (1, 1) 2027 | Mae diawlied uffern yn un byw, |
| (1, 1) 2028 | A digllonedd Duw'n fy llenwi. |
| (1, 1) 2029 | ~ |
| (1, 1) 2030 | 'Rwy'n gwel'd fy mod, heb gelu, |
| (1, 1) 2031 | Fel Cain a Suddas wedi cwbl droseddu; |
| (1, 1) 2032 | Fe aeth fy edifeirwch i'n rhy hwyr, |
| (1, 1) 2033 | Mae anobeth yn fy llwyr wynebu. |
| (1, 1) 2034 | ~ |
| (1, 1) 2035 | Fe'm carcharwyd yn rhwymyn chwerwedd, |
| (1, 1) 2036 | A bustl pob anwiredd; |
| (1, 1) 2037 | Fe seriwyd fy nghydwybod â haiarn poeth, |
| (1, 1) 2038 | 'Rwy'n ddelw noeth o ddialedd. |
| (1, 1) 2039 | ~ |
| (1, 1) 2040 | Os bwriwyd Fransis Spira, |
| (1, 1) 2041 | I anobeth a chreulondra; |
| (1, 1) 2042 | Os gwnaeth Judas am dano'i hun, |
| (1, 1) 2043 | 'Rwyf fine yn 'run cyfyngdra. |
| (1, 1) 2044 | ~ |
| (1, 1) 2045 | Mac uffern yn berwi'n barod, |
| (1, 1) 2046 | 'N gwneud ebwch trwy 'nghydwybod; |
| (1, 1) 2047 | O! 'r euogrwydd arna'i sydd, |
| (1, 1) 2048 | 'Rwy'n beichio oherwydd pechod. |
| (1, 1) 2049 | ~ |
| (1, 1) 2050 | Mi wawdies bob math ar grefydd, |
| (1, 1) 2051 | Fy mhleser o'm calon oedd adrodd eu c'wilydd; |
| (1, 1) 2052 | 'Run fath a chi yn llyfu briw, |
| (1, 1) 2053 | Mi neidiwn i'w cernwydydd. |
| (1, 1) 2054 | ~ |
| (1, 1) 2055 | O! mor 'wyllysgar y cablwn y rhai llesga, |
| (1, 1) 2056 | Ac mor hoff y dyrchafwn rai drwg mewn cybydd-dra, |
| (1, 1) 2057 | O! yr esgus rhagrithiol oedd genyf fi, |
| (1, 1) 2058 | I guddio fy nigywilydd-dra. |
| (1, 1) 2059 | ~ |
| (1, 1) 2060 | O! cym'rwch fi'n rhybudd, y cwmni enwog, |
| (1, 1) 2061 | Nid oes dim cellwer âg arfe miniog; |
| (1, 1) 2062 | O eisie dilyn cydwybod rydd, |
| (1, 1) 2063 | Fy niwedd sydd yn euog. |
| (1, 1) 2064 | ~ |
| (1, 1) 2065 | Nid yw hyn ond megys gwatwor agwedd |
| (1, 1) 2066 | Cyflwr truenus dyn drwg ei fuchedd; |
| (1, 1) 2067 | Ond cofiwch bawb tra f'om ni byw, |
| (1, 1) 2068 | Na watworir Duw yn y diwedd. |
| (1, 1) 2069 | ~ |
| (1, 1) 2070 | O! chwi'r rhai sy'n gwrando'r geirie, |
| (1, 1) 2071 | Ac yn edrych ar hyn fel chware; |
| (1, 1) 2072 | Gwyliwn y daw'n edifeirwch prudd |
| (1, 1) 2073 | Annedwydd i'n heneidie. |
| (1, 1) 2074 | ~ |
| (1, 1) 2075 | Daw'r amser y pregethir ar bene'r teie, |
| (1, 1) 2076 | 'Rhyn a wnaed mewn anialwch a thywyll gornele; |
| (1, 1) 2077 | Heddyw yw'r dydd i sefydlu'r daith, |
| (1, 1) 2078 | Gwybyddwch nad oes gwaith mewn bedde. |