| (1, 0) 34 | Yr awyrenna'. |
| (1, 0) 35 | Maen nhw'n... |
| (1, 0) 38 | Steddwch. |
| (1, 0) 42 | Y peth lleia' medra dyn ei wneud ar ôl cymaint o flynyddoedd. |
| (1, 0) 48 | Diferyn bach? |
| (1, 0) 53 | Dŵr? |
| (1, 0) 67 | Rhyfedd, taro ar ein gilydd ar ôl yr holl flynyddoedd. |
| (1, 0) 72 | Bob amser yn mynd am ryw dro bach ar ôl swper, bydda', Emily? |
| (1, 0) 75 | Rhywun yn cysgu'n well. |
| (1, 0) 77 | Awyr môr, ynte Emily? |
| (1, 0) 79 | Dim gormod o ddŵr, gobeithio? |
| (1, 0) 82 | O Ben Llŷn, ynte? |
| (1, 0) 84 | Eifionydd. |
| (1, 0) 85 | Wrth gwrs. |
| (1, 0) 86 | Wrth gwrs. |
| (1, 0) 88 | Fan 'ma. |
| (1, 0) 89 | Môn. |
| (1, 0) 92 | Yr Annibynwyr. |
| (1, 0) 95 | Ugain mlynedd yn ôl. |
| (1, 0) 98 | Oedd, oedd. |
| (1, 0) 100 | Epistol cyntaf Pedr. |
| (1, 0) 104 | Mi wel'is i gopi ohono fo mewn siop lyfra' ail law ym Mangor ryw fis neu ddau yn ôl. |
| (1, 0) 106 | Deg ceiniog oedden nhw eisiau amdano fo. |
| (1, 0) 108 | O, do. |
| (1, 0) 110 | Hollol. |
| (1, 0) 112 | Punt. |
| (1, 0) 114 | Nid 'mod i angen copi. |
| (1, 0) 116 | Ma' gen i dri. |
| (1, 0) 118 | Ma' gen i ddwsina ohonyn nhw. |
| (1, 0) 119 | Llond stafell i fyny 'na. |
| (1, 0) 120 | Sawl un sy wedi bod yma, Emily? |
| (1, 0) 121 | Pedwar? |
| (1, 0) 122 | Pump? |
| (1, 0) 123 | Ia. |
| (1, 0) 124 | Pump. |
| (1, 0) 125 | Pump wedi bod yma yn cynnig eu prynu nhw. |
| (1, 0) 126 | Pobol glên iawn, cofiwch, a diwylliedig. |
| (1, 0) 129 | Hollol. |
| (1, 0) 130 | Dyma be ddeud'is i, ynte, Emily? |
| (1, 0) 133 | Damwain car. |
| (1, 0) 135 | Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. |
| (1, 0) 137 | Wrth Pentrafoelas. |
| (1, 0) 138 | Methu'r tro. |
| (1, 0) 139 | Mi gafodd ei bwrw o'r car. |
| (1, 0) 140 | Doeddwn i ddim gwaeth. |
| (1, 0) 143 | Hollol. |
| (1, 0) 145 | Ydi. |
| (1, 0) 149 | Mm? |
| (1, 0) 158 | Bisgedan? |
| (1, 0) 166 | Ia. |
| (1, 0) 167 | Digestive. |
| (1, 0) 171 | Oes, mae. |
| (1, 0) 173 | Meddwl llawer amdanoch chi. |
| (1, 0) 175 | Mi gawsoch yrfa brysur? |
| (1, 0) 176 | Ffrwythlon? |
| (1, 0) 178 | Y Cyd-Bwyllgor Addysg, ynte? |
| (1, 0) 180 | Wrth gwrs. |
| (1, 0) 181 | Wrth gwrs. |
| (1, 0) 182 | Yr hen go' yn pallu. |
| (1, 0) 184 | Ddim yn hollol. |
| (1, 0) 186 | Mwy tua'r gororau. |
| (1, 0) 189 | Am gyfnod. |
| (1, 0) 191 | Sgwennu. |
| (1, 0) 194 | Un arall? |
| (1, 0) 197 | Digestive. |
| (1, 0) 199 | Y ddau ohonan ni yn mynd drwy baced bob dydd, tydan Emily? |
| (1, 0) 203 | Bob amser. |
| (1, 0) 206 | Cenedl fechan. |
| (1, 0) 210 | Siwr o fod. |
| (1, 0) 218 | Na. |
| (1, 0) 220 | Na. |
| (1, 0) 222 | Eich hun oeddech chi? |
| (1, 0) 223 | Fy hun fyddwn i'n arfer mynd i'r Steddfod. |
| (1, 0) 224 | Emily... |
| (1, 0) 228 | Un arall? |
| (1, 0) 232 | Dŵr? |
| (1, 0) 249 | 'Aberhenfelen'. |
| (1, 0) 251 | Ia. |
| (1, 0) 257 | Do, do. |
| (1, 0) 260 | Pryd o fwyd, ddeudsoch chi? |
| (1, 0) 263 | Yng Nghaerdydd? |
| (1, 0) 265 | Y ddau ohonan ni. |
| (1, 0) 267 | Gwâr. |
| (1, 0) 272 | Yr awyrennau jet... |
| (1, 0) 273 | Maen nhw'n... |
| (1, 0) 277 | Hwyr glas ichi fynd am y drol 'nghariad i. |
| (1, 0) 278 | Mae hi wedi troi naw. |
| (1, 0) 279 | Mi fydd y doctor yn deud y drefn. |
| (1, 0) 280 | Dowch rwan. |
| (1, 0) 282 | F'asech chi mor garedig â...? |
| (1, 0) 284 | Y drws? |
| (1, 0) 290 | Abertawe. |
| (1, 0) 292 | Aberhenfelen. |
| (1, 0) 298 | Dal ati? |
| (1, 0) 300 | Do, do...do. |
| (1, 0) 304 | Nofel. |
| (1, 0) 311 | Yn fuan. |
| (1, 0) 313 | Anfodlon iawn ar rai rhannau. |
| (1, 0) 315 | Ambell gystrawen ddim yn taro deuddeg. |
| (1, 0) 317 | Ond cystrawen ydi iaith. |
| (1, 0) 319 | A be' am gywirdeb gramadegol? |
| (1, 0) 321 | Dyna chi Gymraeg y to ifanc 'ma. |
| (1, 0) 323 | Treiglada gwallus. |
| (1, 0) 325 | A be' am y Modd Dibynnol? |
| (1, 0) 327 | Ac y mae'n rhaid wrtho fo. |
| (1, 0) 328 | Sut gallwn ni fel cenedl gyfleu'n dyheadau hebddo fo. |
| (1, 0) 329 | Sut? |
| (1, 0) 331 | Mae'u dyheadau gwleidyddol nhw i'w canmol. |
| (1, 0) 333 | Asgwrn cefn? |
| (1, 0) 335 | Plant ein hoes. |
| (1, 0) 337 | Roeddech chi yn y rhyfel? |
| (1, 0) 339 | Cydwybod? |
| (1, 0) 341 | Llawer mwy anodd mynd yn groes i'r llif yr adeg honno, cofio'n iawn. |
| (1, 0) 343 | Choll'soch chi ddim. |
| (1, 0) 344 | Dim. |
| (1, 0) 361 | Dw i'n oer. |
| (1, 0) 362 | Ydach chi? |
| (1, 0) 366 | Fyddwn ni byth yn gwneud tân. |
| (1, 0) 367 | Gormod o faeddol. |
| (1, 0) 368 | Gweld rhain yn llawer mwy cyfleus. |
| (1, 0) 370 | O lawer. |
| (1, 0) 372 | 'Poppy'? |
| (1, 0) 374 | O. |
| (1, 0) 378 | Buddug, ynte? |
| (1, 0) 380 | Ych gwraig. |
| (1, 0) 382 | Merch o Abertawe. |
| (1, 0) 384 | Wrth gwrs... |
| (1, 0) 385 | Mae hi efo chi. |
| (1, 0) 387 | Gartra? |
| (1, 0) 389 | Mae'n ddrwg gen i. |
| (1, 0) 390 | Yn ddiweddar? |
| (1, 0) 392 | Wel, wel... |
| (1, 0) 396 | Teulu. |
| (1, 0) 397 | Hardd on'd oedd? |
| (1, 0) 399 | Gwenllian. |
| (1, 0) 402 | Gwallt du. |
| (1, 0) 403 | Gwisgo ffrog goch neu wyrdd bob amser. |
| (1, 0) 405 | Bydda. |
| (1, 0) 407 | Soprano wefreiddiol. |
| (1, 0) 408 | 'I chofio hi'n canu yn y 'Meseia' rhyw Ddolig yn neuadd PJ. |
| (1, 0) 409 | Tynnu'r lle i lawr. |
| (1, 0) 411 | Wnaeth hi... ddioddef? |
| (1, 0) 412 | Gafodd hi gystudd? |
| (1, 0) 413 | Be oedd o? |
| (1, 0) 414 | Yr hen elyn? |
| (1, 0) 416 | Oedd hi ei hun yn gwybod. |
| (1, 0) 418 | Fyddai hi'n sôn am y peth? |
| (1, 0) 420 | Byth? |
| (1, 0) 422 | Be fyddech chi yn ei drafod? |
| (1, 0) 424 | Pan fyddech chi'n galw i'w gweld hi. |
| (1, 0) 425 | Yn y sbyty oedd hi, ia? |
| (1, 0) 427 | Be fyddech chi yn ei drafod? |
| (1, 0) 433 | Y coleg? |
| (1, 0) 435 | Fydda hi'n sôn am y coleg? |
| (1, 0) 436 | Sôn am yr hen ddyddia. |
| (1, 0) 437 | Sôn am yr hen griw? |
| (1, 0) 439 | Be fydda' hi'n 'i ddweud? |
| (1, 0) 442 | Diolch amdanyn nhw. |
| (1, 0) 448 | Emlyn? |
| (1, 0) 453 | Emlyn?... |
| (1, 0) 454 | Emlyn?... |
| (1, 0) 455 | Emlyn? |
| (1, 0) 457 | Dic Roberts. |
| (1, 0) 459 | Arthur Huws, Tregarth. |
| (1, 0) 461 | Gwilym bach, Glyn. |
| (1, 0) 462 | Trefor Stiniog. |
| (1, 0) 464 | Na. |
| (1, 0) 465 | Cymaint o amser yn ôl. |
| (1, 0) 466 | Blynyddoedd. |
| (1, 0) 467 | Oes. |
| (1, 0) 468 | Eto, mae'r enw yn canu cloch. |
| (1, 0) 471 | Oedd hi'n crybwyll ei enw fo efo... tynerwch? |
| (1, 0) 475 | Hynny'n gysur. |
| (1, 0) 476 | Dim byd gwaeth nag edrych yn ôl ar eich bywyd efo... |
| (1, 0) 478 | Dirmyg. |