| (1, 1) 794 | Chwenycha' i'n 'nawr, a mawr yw 'mwriad, |
| (1, 1) 795 | Gael deall cyneddf dull eich caniad. |
| (1, 1) 797 | Rheswm natur maent yn fy ngalw. |
| (1, 1) 798 | ~ |
| (1, 1) 799 | Dyn wyf a gafodd a dawn gyfan |
| (1, 1) 800 | Fy nwyn i fynu'n ol fy anian, |
| (1, 1) 801 | Yn mhob iaith a dysg oruchel, |
| (1, 1) 802 | Fel hwnw gynt wrth draed Gamaliel. |
| (1, 1) 803 | ~ |
| (1, 1) 804 | Ac er hyn, 'rwy'n ffaelu'n lanweth |
| (1, 1) 805 | Ddeall goleuni o ddull Rhaglunieth; |
| (1, 1) 806 | Mae'r droell hono'n chwyldroi'n brysur, |
| (1, 1) 807 | Ddamweinie croes i Reswm Natur. |
| (1, 1) 817 | Mae hyn 'rwy'n gweled galed gwlwm, |
| (1, 1) 818 | Tu hwnt i ddeall cnawdol Reswm, |
| (1, 1) 819 | Peth dirgel iawn yn gweithio'n groes, |
| (1, 1) 820 | Yw rhagluniaethe yn mhob oes. |
| (1, 1) 845 | Rhyfedd! rhyfedd yw rheoleth, |
| (1, 1) 846 | A llwyr ganlyniad llaw Rhaglunieth; |
| (1, 1) 847 | Rhai'n cael pleser ac esmwythfyd, |
| (1, 1) 848 | A'r lleill yn gyfan dan wall gofid. |
| (1, 1) 849 | ~ |
| (1, 1) 850 | Gofid natur sydd yn greulon, |
| (1, 1) 851 | Yn gwasgu beunydd yn mhob dybenion, |
| (1, 1) 852 | Mae genyf ganiad oernad arno, |
| (1, 1) 853 | Gan mor aflonydd mae'n ymflino, |
| (1, 1) 917 | Fi, Rheswm Natur, sy' mewn caethder, |
| (1, 1) 918 | A gormod gofid ar ei gyfer. |
| (1, 1) 938 | Ofni yr ydwy' fod rhyw fagl, |
| (1, 1) 939 | Yn moddlondeb cnawd a thymer ddiofal; |
| (1, 1) 940 | Rhai'n cael eu byd heb groes na blinder, |
| (1, 1) 941 | Yn chwyddo i fynu gan eu balchder. |
| (1, 1) 946 | Mae dynion eraill anfoddlongar, |
| (1, 1) 947 | Rhai segur, diog, an'wyllysgar, |
| (1, 1) 948 | Cenfigenus ac aflawen, |
| (1, 1) 949 | Yn tynu croese i'w pene eu hunen. |
| (1, 1) 950 | ~ |
| (1, 1) 951 | Dyna rai gydd yn ymrwystro, |
| (1, 1) 952 | O eisie cael pob peth i'w plesio; |
| (1, 1) 953 | Balchder ac anesmwythder meddwl, |
| (1, 1) 954 | Sy'n tynu llawer un i drwbwl. |
| (1, 1) 955 | ~ |
| (1, 1) 956 | 'Rwy'n canfod hyn yn nhrefn gwladwrieth, |
| (1, 1) 957 | Fod llawer iawn o anllywodreth; |
| (1, 1) 958 | Esgeulus anghymedrol fywyd, |
| (1, 1) 959 | Sy'n penu gafel poen a gofid. |
| (1, 1) 969 | Mae tlâwd a dall mewn newyn a noethni, |
| (1, 1) 970 | Yn gyflwr annymunol ini; |
| (1, 1) 971 | Er hyny'r doeth sydd foddlon dano, |
| (1, 1) 972 | Da ydyw ei ddilyn, doed a ddelo. |
| (1, 1) 992 | Ffarwel, Boddlondeb, addfwyn galon, |
| (1, 1) 993 | A diolch i chwi am eich cynghorion; |
| (1, 1) 994 | Adroddwch ragor yma eto, |
| (1, 1) 995 | I rai'n gywreindog sydd yn gwrando. |