| (0, 1) 3 | Chwychwi rasusol gwmpeini, yr achos o'm dyfodiad yma |
| (0, 1) 4 | ydyw i ddangos prudd-der mab brenin Troea, |
| (0, 1) 5 | y modd y dygodd hirnych cariad a thrymder, |
| (0, 1) 6 | a'r modd y trôdd hyn i lawenydd, a'i lawenydd i brudd-der. |
| (0, 1) 7 | ~ |
| (0, 1) 8 | Helpia, Tisiffone, myfi sy'n traethu hyn drosto: |
| (0, 1) 9 | buchedd hwn a wnaeth i lawer glanddyn wylo; |
| (0, 1) 10 | Tydi, uffernol dduwies, arnat mae fy ngoglyd; |
| (0, 1) 11 | tydi ffurie greulon yn pruddhau mewn penyd. |
| (0, 1) 12 | Helpia myfi sy'r owran dosturus achlysur |
| (0, 1) 13 | i helpu cariad-ddynion trwy gwyno'u poen a'u dolur. |
| (0, 1) 14 | ~ |
| (0, 1) 15 | Myfi nid wyf ond gwas i wasnaethwyr cariad; |
| (0, 1) 16 | caru fy hyn nis gallaf oherwydd y digwyddiad. |
| (0, 1) 17 | ~ |
| (0, 1) 18 | Chwychwi gariadau sy'n ymdrochi mewn llawenydd, |
| (0, 1) 19 | os oes deigryn ynddoch o'r trugarog ddeunydd, |
| (0, 1) 20 | meddyliwch am eich blinder cyn dechreuad cytundeb, |
| (0, 1) 21 | a meddyliwch am drymder rhai eraill a'u gwrthwyneb, |
| (0, 1) 22 | a byddwch mewn cywirdeb bob amser yn cyd-dynnu |
| (0, 1) 23 | ac na feddyliwch nas gall cariad beri i chwi sorri. |
| (0, 1) 24 | A gweddiwch dros y neb sydd yn y cyffelyb gaethiwed |
| (0, 1) 25 | ag y bu Troelus am Gresyd - y modd a'r sut cewch glywed. |
| (0, 1) 27 | I lawer mae'n hysbys fel y daeth y Groegwyr yn llidiog |
| (0, 1) 28 | â mil o longau rhyngddynt yn llawn o wŷr arfog |
| (0, 1) 29 | i ddinistrio Troea a'r Troeaid oedd eu bwriad, |
| (0, 1) 30 | a'r rhyfel a barhaodd ddeng mlynedd yn wastad. |
| (0, 1) 31 | Yr achos - am ddwyn o Baris y frenhines Helena |
| (0, 1) 32 | o drais oddiar ei gŵr i dref Troea. |
| (0, 1) 33 | Yn y dref hon yr oedd arglwydd o enedigaeth, |
| (0, 1) 34 | hwn a elwid Calcas, â llawer o wybodaeth. |
| (0, 1) 35 | ~ |
| (0, 1) 36 | Gwrandewch yn ddyfal fy annwyl garedigion, |
| (0, 1) 37 | bellach mi a draethaf i chwi chwaneg o'r achosion, |
| (0, 1) 38 | ac o'r trymder o ddug Troelus yn caru Cresyda, |
| (0, 1) 39 | ac fel y gwrthododd Cresyd Troelus yn y diwetha. |
| (0, 1) 41 | Tri pheth sy yn hyn i'w ddeall ar unwaith, |
| (0, 1) 42 | cariad ffyddlon, cariad gwnieithus, a chymdeithas perffaith. |
| (0, 1) 43 | Tri dyn sy'n arwyddo y tri gair hygar, |
| (0, 1) 44 | y rhain ydy Troelus, Cresyd, a Pandar. |
| (0, 1) 45 | ~ |
| (0, 1) 46 | Ac nis gellir, medd arglwyddes y gwirionedd, |
| (0, 1) 47 | ddeall neb yn eglur ond wrth ei ddiwedd: |
| (0, 1) 48 | "Nes gweld ei ddiwedd nis gwyddai pwy oedd hapus". |
| (0, 1) 49 | ~ |
| (0, 1) 50 | Cesglwch gyda'r wenynen y mêl o'r llysieuyn |
| (0, 1) 51 | a gollyngwch trwy'ch clustiau y gwenwyn i'r prycopyn. |
| (0, 4) 635 | Wrth rwyfo ar hyd y tonnau môr peryglus, |
| (0, 4) 636 | O gwynt! Mae'r tymyr yn esmwythau'n dynerus; |
| (0, 4) 637 | y llong o'm cyfarwyddyd sydd boenus yn nofio, |
| (0, 4) 638 | wrth hwylbren anobaith rwy'n deall ei bod yn ysmudo. |
| (0, 4) 639 | Fel y mae'r calendr yn nechreuad y llyfrau, |
| (0, 4) 640 | felly mae gobaith calandr i Troelus ar ddechrau. |
| (0, 4) 641 | O arglwyddes Clio, dy brysur help yr owran, |
| (0, 4) 642 | i'm tafod dod rwydd-deb i orffen hyn allan. |
| (0, 4) 643 | Myfi fy hun a'm esgusodaf wrth gariad-ddyn aniddig |
| (0, 4) 644 | nad fy nyfais i mo hyn ond gwaith gŵr dysgedig, |
| (0, 4) 645 | a minnau, er mwyn yr ewyllys da i chi a ddygais, |
| (0, 4) 646 | a'i trois i'r iaith Gymraeg yn orau ag y medrais. |
| (0, 4) 647 | Am hyn nid wyf yn disgwyl na diolch nac anfodd, |
| (0, 4) 648 | ond eich ewyllys da, a hynny o'ch wirfodd. |
| (0, 4) 649 | Na fernwch arnaf os wyf ddiffygiol o eiriau, |
| (0, 4) 650 | canlyn nesaf y gallwyf y dysgedig rwyf innau. |
| (0, 4) 651 | Ac ar fy amcan yr ydwyf o gariad yn traethu; |
| (0, 4) 652 | mae'n anodd i ŵr dall o liwiau allu barnu. |
| (0, 4) 653 | Os oes gennych rhyfeddod wrth glywed hyn o hanes, |
| (0, 4) 654 | pa fodd i ennillodd Troelus gariad ei arglwyddes, |
| (0, 4) 655 | neu gymryd rhyfeddod wrth eu foddion yn caru, |
| (0, 4) 656 | nid oes gennyf ddim rhyfeddod wrtho am hynny. |
| (0, 4) 657 | Odid cael tri o fewn y byd o'r un deunydd, |
| (0, 4) 658 | yn gwneuthud ac yn dywedyd un ffunud â'i gilydd; |
| (0, 4) 659 | rhai mewn prennau a gerfia, eraill mewn cerrig, |
| (0, 4) 660 | y gwirionedd a ganlynaf i. Atolwg, byddwch ddiddig. |
| (0, 5) 1005 | Yn yr amser yma y digwyddodd y Groegwyr wrth fod yn wastadol wrth ymladd tan walie Troea, yn garcharur, Antenor, un o uchelwyr Troea. |
| (0, 5) 1006 | Yn hyn, fo godes hiraethmawr ar Galchas am ei ferch Cresyd ac ofn rhag dyfod tramgwydd i'r dref Troea mewn amser disymwth, ac yn hyn colli ei ferch, y fo a syrthies ar ei linie ger bron Agamemnon un o frenhinoedd Groeg i ddeisyf cael Antenor i'w roddi yn gyfnewid am Gresyd. |
| (0, 6) 1069 | Cyffelyb i'r melys yr owran yn felysach ddywad, |
| (0, 6) 1070 | oherwydd hir chwerwder a barhaodd yn wastad, |
| (0, 6) 1071 | o brudd-der i lawenydd mawr a syrthiodd - |
| (0, 6) 1072 | ers pan fy aned y fath lawenydd nis digwyddodd. |
| (0, 6) 1073 | ~ |
| (0, 6) 1074 | Gwelais ar ôl boregwaith pruddaidd, niwlog, |
| (0, 6) 1075 | yn canlyn brynhwawngwaith eglur, gwresog, |
| (0, 6) 1076 | ac ar ôl byrddydd gaeaf blin, gwlybyrog, |
| (0, 6) 1077 | yn dyfod hirddydd Galanmai yn desog. |
| (0, 6) 1078 | Ar ôl prudd-der a thristwch, |
| (0, 6) 1079 | y daw'r holl ddifyrwch, |
| (0, 6) 1080 | ac ar ôl cawodau helaeth |
| (0, 6) 1081 | yn siwr y daw gorchafiaeth. |
| (0, 6) 1082 | ~ |
| (0, 6) 1083 | Amhosibl i'm tafod allu'n iawn draethu |
| (0, 6) 1084 | y difyrwch a lawenydd y sydd o bobtu. |
| (0, 6) 1086 | O noswaith ddifyr, hir y bued i'th ymofyn, |
| (0, 6) 1087 | llwyr y dygaist ddifyrwdd mawr i'th ganlyn. |
| (0, 6) 1088 | Os mawr y byd a'i gwmpas, |
| (0, 6) 1089 | dau cymaint yw dy urddas. |
| (0, 6) 1090 | Os mawr iawn yw'r mynydd, |
| (0, 6) 1091 | dau cymaint yw'r llawenydd. |
| (0, 6) 1092 | ~ |
| (0, 6) 1093 | O f'arglwydd, allai i ddrewiant chwannog cenfigennus |
| (0, 6) 1094 | a fai'n goganu cariad, ac o gariad yn ddibris |
| (0, 6) 1095 | gael noswaith ddigwyddiad o lawenydd perffaith hyfryd |
| (0, 6) 1096 | fel yr owran y digwyddodd i Troelus a Cresyd? |
| (0, 6) 1097 | ~ |
| (0, 6) 1098 | Chwi a glywsoch o'r noswaith ddifyr ddigwyddiad; |
| (0, 6) 1099 | rhaid i chwi glywed peth o'r trwm ymadawiad. |
| (0, 6) 1100 | Medd doeth, "ni all yr un peth barhau'n wastad: |
| (0, 6) 1101 | pob peth sydd â dechrau, rhaid iddo gael diweddiad. |
| (0, 6) 1102 | Y noswaith a blygeiniodd |
| (0, 6) 1103 | a'r plygain yn ddydd ymrithiodd, |
| (0, 6) 1104 | a'r pethau yn hyn a ddigwyddodd, |
| (0, 6) 1105 | dealled y sawl a garodd. |
| (0, 6) 1106 | ~ |
| (0, 6) 1107 | Pan ddaeth y ceiliog, astrologer y cyffredin, |
| (0, 6) 1108 | dan guro ei esgyll â rhybudd fod y nos ar derfyn, |
| (0, 6) 1109 | a'r seren Luwsiffer, cennad y gloywddydd, yn codi |
| (0, 6) 1110 | yn y deau, a'i phelydr dros yr hollfryd yn llewyrchu - |
| (0, 6) 1111 | Yno y dywedai Cresyd |
| (0, 6) 1112 | wrth Troelus ei hanwylyd: |
| (0, 6) 1126 | Troelus, tostur eiriau Cresyd, pan glywodd, |
| (0, 6) 1127 | heilltion ddagrau ar hyd ei ruddiau a ollyngodd, |
| (0, 6) 1128 | megis yn rhyfeddu o'r fath lawenydd a difyrwch |
| (0, 6) 1129 | mor ddisymwth yn dywed y cyfriw drymder a thristwch. |
| (0, 6) 1130 | Ochenaid trwm, a rodde |
| (0, 6) 1131 | ar geiriau hyn a ddoede: |
| (0, 7) 1242 | Tydi loywbryd arglwyddes, unferch Diana y'th farned, |
| (0, 7) 1243 | dy un mab dall asgellog, Syr Cipwid gwrandawed, |
| (0, 7) 1244 | chwithau'r Chwiorydd naw sy'n aros yn Helicon |
| (0, 7) 1245 | yn Mynydd Parnasus, clywch chwithau f'achwynion. |
| (0, 7) 1246 | Fe ddarfu i chwi hyd yma fy nghyfarwyddo cyn belled - |
| (0, 7) 1247 | onis cyfarwyddwch fi'r owran, yn bellach nis medraf fyned, |
| (0, 7) 1248 | i ddangos a ddigwyddodd i Troelus o'i wasanaeth, |
| (0, 7) 1249 | sydd bellach o hyn allan yn myned waethwaeth. |
| (0, 7) 1250 | Tithau Mars, rhyfelwr creulon a thad Quireinus, |
| (0, 7) 1251 | moes dy help i orffen o Cresyd a Troelus. |
| (0, 7) 1252 | ~ |
| (0, 7) 1253 | Diomedes, ar hyn yn fyned wrth y Troeaid - at Priaf yn eistedd wrth ei senedd - ac yn doedyd fel hyn: |
| (0, 9) 1644 | Bellach mae'n dyfod nesnes y dynged |
| (0, 9) 1645 | hon y mae Iau o'i ddirgelwch yn ymwared, |
| (0, 9) 1646 | ac i chwithau, Parcas ddicllon, dair chwiorydd, |
| (0, 9) 1647 | mae'n gorchymyn i chwi ar hyn wneuthur diwedd. |
| (0, 9) 1648 | Mae Diomedes yn dyfod ac Antenor i Droea. |
| (0, 9) 1649 | Mae Cresyd yn mynd ymaith at y Groegwyr |
| (0, 9) 1650 | a Troelus yn dwyn penyd nes darfod i Lachesys nyddu edau ei fywyd. |
| (0, 17) 2174 | Mae Cresyd ar hyn yn llesmeirio a Ciwpid yn tincio cloch arian ac yn galw y duwiau i'r un lle. |
| (0, 17) 2219 | Fe ddarfu y Duwiau ddewis Mercuriws i siarad trostynt yn y cymanfa a'r senedd hon. |
| (0, 19) 2401 | I Troelus pan ddywedwyd o drwm farwolaeth Cresyd, |
| (0, 19) 2402 | gwallt ei ben a dynnodd fel dyn ynfyd. |
| (0, 19) 2403 | O'i gwendid, o'i thlodi, o'i nychod pan glywodd, |
| (0, 19) 2404 | o dosturi a thrymder mewn llesmair er syrthiodd. |
| (0, 19) 2405 | Tra fu fyw, yn ochneidio bob dydd amdani. |
| (0, 19) 2406 | Fel arglwyddes y mynnodd i'r ddaear ei diwarthu, |
| (0, 19) 2407 | o gerrig marbl y parodd wneuthur bedd iddi. |
| (0, 19) 2408 | Ar ei bedd yr ysgrifennes i bawb yno a ddelai |
| (0, 19) 2409 | y rheswm hwn sy'n canlyn, mewn euraidd lythrennau, |
| (0, 19) 2410 | "Gwelwch, arglwyddesau, lle mae Cresyd o Droea'n gorwedd, |
| (0, 19) 2411 | ryw amser yn flodeuyn ar holl ferched a gwragedd". |
| (0, 19) 2412 | ~ |
| (0, 19) 2413 | O'r diwrnod hwn allan rhoes ddiofryd nas peidiau |
| (0, 19) 2414 | ag ymladd mewn rhyfel nes marw o waith cleddau. |
| (0, 19) 2415 | Yn y diwethaf hyn i gyd a gywires, |
| (0, 19) 2416 | ei einioes a gollodd ar law creulon Achiles. |
| (0, 19) 2417 | Pandar o drymder a dorrodd ei galon; |
| (0, 19) 2418 | hyn ydyw diwedd hyn i gyd o achosion. |