| (0, 3) 158 | Fy meibion, fy arglwyddi |
| (0, 3) 159 | a'm hyderus gwmpeini, |
| (0, 3) 160 | yn eich cyngor a'ch gweithred |
| (0, 3) 161 | mae fy holl ymddiried. |
| (0, 3) 162 | Y mae trigain brenin |
| (0, 3) 163 | yn barod yn ein herbyn, |
| (0, 3) 164 | bob awr yn disgwyl llosgi |
| (0, 3) 165 | ein holl wledydd a'n trefi, |
| (0, 3) 166 | a difetha o'r diwedd |
| (0, 3) 167 | nyni, ein plant a'n gwragedd. |
| (0, 3) 168 | A'r achos oll am ddewis |
| (0, 3) 169 | o Helen chwychwi Paris. |
| (0, 3) 170 | ~ |
| (0, 3) 171 | Eich cyngor, pa un orau, |
| (0, 3) 172 | ai rhoddi Helen adre |
| (0, 3) 173 | ac ymadael â thristwch |
| (0, 3) 174 | a byw mewn diofalwch, |
| (0, 3) 175 | ai trwy drawster ei dala |
| (0, 3) 176 | a gofyn byth y gwaetha, |
| (0, 3) 177 | a byw fel y gellir |
| (0, 3) 178 | er bygythion y Groegwyr? |
| (0, 3) 179 | Atolwg i chwi ddwedyd |
| (0, 3) 180 | beth a fynnwch chwi ei wneuthyd. |
| (0, 3) 181 | ~ |
| (0, 3) 182 | Yn gyntaf doedwch, Hector; |
| (0, 3) 183 | beth yw eich meddwl a'ch cyngor? |
| (0, 3) 184 | Ai rhyfel ai heddwch? |
| (0, 3) 260 | Fy ymddiffynwyr o'm blinder, |
| (0, 3) 261 | trwy eich synnwyr a'ch gwychder, |
| (0, 3) 262 | i'm henaint llawenydd |
| (0, 3) 263 | trwy eich moliant tragywydd, |
| (0, 3) 264 | fy nghytsain cywiriad |
| (0, 3) 265 | a'm hyderus ymddiriaid, |
| (0, 3) 266 | eich geiriau cytson |
| (0, 3) 267 | a ddefrôdd fy nghalon |
| (0, 3) 268 | trwy adrodd fy modlondeb |
| (0, 3) 269 | i ufuddhau i'ch cytundeb. |
| (0, 3) 270 | A chymerwch feddyliau |
| (0, 3) 271 | Antenor i'r gorau. |
| (0, 3) 272 | ~ |
| (0, 3) 273 | Efo yn siwr a aned |
| (0, 3) 274 | tan rhyw fanach blaned |
| (0, 3) 275 | fel nad yw cyn gryfed |
| (0, 3) 276 | yn ei feddwl a'i weithred |
| (0, 3) 277 | ag ydyw Hector a Troelus. |
| (0, 3) 278 | Am y cam a wnaethon |
| (0, 3) 279 | â'm chwaer Hesion, |
| (0, 3) 280 | Helen a gadwa' |
| (0, 3) 281 | o fewn caerau Troea. |
| (0, 3) 295 | Dos ymaith yn brysur; |
| (0, 3) 296 | cyrch ferch y traetur |
| (0, 3) 297 | i gael cosbedigaeth |
| (0, 3) 298 | am gelu traeturiaeth. |
| (0, 3) 300 | Oni edrychir, fy meibion, |
| (0, 3) 301 | i'r pethau hyn yn greulon, |
| (0, 3) 302 | a'r tân parod a enynnodd |
| (0, 3) 303 | mewn amser i'w ddiffodd, |
| (0, 3) 304 | onide fe geir gweled |
| (0, 3) 305 | ormod traeturiaid. |
| (0, 3) 306 | Rhaid gwneuthur yn helaeth |
| (0, 3) 307 | am hyn gosbedigaeth, |
| (0, 3) 308 | onide rwyf yn ofni |
| (0, 3) 309 | y bydd gormod drygioni. |
| (0, 3) 310 | a Antenor a welir |
| (0, 3) 311 | yn dywedyd y caswir. |
| (0, 3) 317 | Ati ti yw unferch Calchas, |
| (0, 3) 318 | yr hen siwrl anghyweithas, |
| (0, 3) 319 | a werthai ei holl fraint |
| (0, 3) 320 | yn niwedd ei henaint |
| (0, 3) 321 | er bod yn dwyllodrus |
| (0, 3) 322 | i'w wlad anrhydeddus |
| (0, 3) 323 | a mynd mewn caethiwed |
| (0, 3) 324 | ym mysg dieithriaid? |
| (0, 3) 325 | ~ |
| (0, 3) 326 | Dy gydwybod a'th arfer |
| (0, 3) 327 | sy'n cyhuddo dy ffalster |
| (0, 3) 328 | ac euog wyt ti |
| (0, 3) 329 | o'i gwbwl ddrygioni. |
| (0, 3) 330 | ~ |
| (0, 3) 331 | Am ei fawrddrwg a'i draha |
| (0, 3) 332 | ei genedl a ddistrywia. |
| (0, 3) 333 | Arnat ti yn gyntaf, |
| (0, 3) 334 | Cresyd y dechreuaf. |
| (0, 3) 335 | Dy waed, dy einioes, |
| (0, 3) 336 | dy benyd, dy fawrloes, |
| (0, 3) 337 | a'th farwolaeth greulon |
| (0, 3) 338 | a esmwytha fy nghalon. |
| (0, 3) 339 | Beth a ddywedwch, fy arglwyddi; |
| (0, 3) 340 | pa farwolaeth a rown arni? |
| (0, 3) 417 | Eich dymuniad ni gwrthneba' |
| (0, 3) 418 | dros golli tir yr Asia. |
| (0, 3) 419 | Cewch, Cresyd, yn wirion |
| (0, 3) 420 | a diolchwch i'm meibion. |
| (0, 3) 421 | Awn i mewn i fyfyr |
| (0, 3) 422 | beth sydd chwaneg i'w wneuthur. |
| (0, 7) 1278 | Ni a glywson, Diomedes, ddeisyfiad Agamemnon; |
| (0, 7) 1279 | i gyflawni hyn o'i ewyllys yr ydym yn fodlon, |
| (0, 7) 1280 | a thrwy rym y Senedd hon a'i chyngor |
| (0, 7) 1281 | yn cyfnewidio â chwi Cresyd am Antenor. |
| (0, 7) 1282 | A phan ddygoch yma |
| (0, 7) 1283 | Antenor i Droea, |
| (0, 7) 1284 | chwithau gewch Cresyd: |
| (0, 7) 1285 | hyn yw ein addewid. |
| (0, 9) 1659 | Diomedes: mae i chwi groeso oddi wrth frenin Agamemnon: |
| (0, 9) 1660 | sefyll ydd ydym ni yn y cytundeb addawson, |
| (0, 9) 1661 | derbyn y carcharwr Antenor i'w ryddid |
| (0, 9) 1662 | a rhoddi i chwi amdano y forwyn yma, Cresyd. |
| (0, 9) 1663 | Ymsicrhewch Agamemnon |
| (0, 9) 1664 | nas torrwn ni ar a addawson; |
| (0, 9) 1665 | brenin Troea nis torrodd |
| (0, 9) 1666 | ar ddim erioed addawodd. |